GWEMINARAU Cychwyn Arni
WYDDECH CHI... Rydym yn cynnig cymorth pwrpasol i’n myfyrwyr rhyngwladol gyda digwyddiadau ac ysgoloriaethau
PWLS
SYLW AR
Fyfyrwyr Rhyngwladol
wedi’u dylunio i’ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.
GWEMINARAU I FYFYRWYR RHYNGWLADOL
WRTH ASTUDIO YM MHRIFYSGOL ABERTAWE, BYDDWCH YN YMUNO Â SEFYDLIAD YMCHWIL O SAFON FYD-EANG SYDD AG UCHELGEISIAU MAWREDDOG. MAE EIN CAMPYSAU YN FYWIOG AC YN AMRYWIOL GYDA STAFF A MYFYRWYR O DROS 130 O WAHANOL WLEDYDD.
Dysgwch fwy am sut beth yw bod yn fyfyriwr rhyngwladol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gyda phopeth o’r awgrymiadau gorau ar baratoi eich cais i ganllawiau myfyrwyr o ystod eang o wledydd. DARLLENWCH FWY NEU COFRESTRWCH:
Ewch yn Fyd-eang
LOVELYN OBIAKOR MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd o Nigeria
“Gweld plant ifanc yn marw o dwymyn uchel a menywod yn marw yn ystod y cyfnod esgor oedd profiadau mwyaf trawmatig fy mhlentyndod. Roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth, ni waeth beth a gymerodd. “Gan fy mod wedi cael fy magu mewn cymuned lle nad oedd merched yn cael eu hanfon i’r ysgol yn gyffredinol, roedd yn rhaid i mi herio’r status quo i gredu y gallwn astudio fferylliaeth ac un diwrnod helpu fy nghymuned fy hun a chymunedau anghysbell eraill. Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni prosiectau a mentrau strategol hirdymor yn Nigeria sy’n hyrwyddo gofal iechyd ac addysg gynhwysol sydd o ansawdd da.” ENILLYDD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES 2021, A DDYFERNIR YN FLYNYDDOL I UN MYFYRIWR BENYWAIDD RHAGOROL SY’N FRODOR O WLAD GYMWYS SY’N DATBLYGU, SY’N BYW YNO AC SY’N DILYN RHAGLEN MEISTR ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR MEWN IECHYD NEU WYDDORAU BYWYD.
Nod Prifysgol Abertawe yw cynnig cyfle i’w holl fyfyrwyr israddedig astudio neu weithio dramor. Mae gennym bartneriaethau â mwy na 150 o brifysgolion ledled y byd, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i dreulio blwyddyn, semester neu haf dramor.
MAANASY NADARAJAH Graddedig AMS
Drwy astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, byddwch chi’n sicrhau eich bod yn sefyll pen ac ysgwyddau uwchben y dorf, yn meithrin sgiliau newydd a rhwydwaith rhyngwladol gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol ar ôl graddio.
“Cymerais ran mewn interniaeth chwe wythnos yn yr haf yng Ngholeg Meddygaeth Baylor yn Nhecsas. Roeddwn i wir yn disgwyl nôl paneidiau o goffi neu gysgodi pobl heb gyfranogi go iawn. Ond roedd y realiti’n hollol wahanol: Ces i fy nhrin yn gyfartal a’m hannog i fynegi barn am unrhyw syniadau oedd gen i. Mae’r profiad wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus wrth siarad ag eraill a chyflwyno fy syniadau.”
YUXI TAO BSc Seicoleg o Tseina
Mae cyflogwyr yn cydnabod bod treulio amser dramor yn: • Magu hyder, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd
#SwanseaUniGlobal • Datblygu safbwynt byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Hwyluso eich gallu i addasu i amgylcheddau a heriau newydd • Gwella sgiliau cyfathrebu ac iaith • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy i helpu eich gyrfa yn y dyfodol
“Mae seicoleg wedi newid fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth fwy dwys a manwl gywir i mi o’m pobl, pethau ac amgylcheddau. Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi amgylchedd dysgu amlddiwylliannol i mi, sy’n fy ngalluogi i astudio seicoleg o safbwynt diwylliannau eraill. “Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol
yn ystod eu hastudiaethau yn y DU. Er enghraifft, cymorth seicolegol, cymorth ariannol ar gyfer Covid-19, a llawer mwy. Mae’r ddinas yn hardd; mae’r bobl leol yn gyfeillgar; mae gan y brifysgol awyrgylch academaidd dwys ac mae’n cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Mae’n gyfeillgar iawn tuag at fyfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd yma ac rwy’n argymell i’m ffrindiau gartref i ymuno â’r brifysgol agored a chynhwysol hon.”
abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang
24
Made with FlippingBook flipbook maker