Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

PWLS

CREU EFFAITH...

YN Y

HERIAU BYD-EANG: Lles WRTH I NI DDECHRAU AR Y FFORDD HIR O ADFER AR ÔL PANDEMIG CORONAFEIRWS BYD-EANG, MAE PWYSIGRWYDD LLES A’I RÔL YM MAES IECHYD POBL YN CAEL EI DDWYN I FLAEN Y GAD O RAN YMCHWIL.

Croeso O BOB HER DAW CYFLE. YMA YM MHRIFYSGOL ABERTAWE RYDYM WEDI YMATEB I BOB HER Y MAE COVID-19 WEDI’I THAFLU ATOM. CROESO I DRYDYDD RHIFYN CYLCHGRAWN PWLS.

newyddion ABERTAWE WEDI’I HENWI YN Y 10 UCHAF YN Y DU AM BERFFORMIAD AMGYLCHEDDOL Mae Prifysgol Abertawe yn un o’r deg prifysgol orau yn y DU am faterion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd a luniwyd gan People and Planet, a gyhoeddwyd gan The Guardian. Cynghrair Prifysgolion People & Planet yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU. GOLAU GWYRDD I BROSIECT CAMPYSAU BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE GWERTH £132 MILIWN Cefnogir Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan gyllid gan Lywodraethau’r DU a Chymru fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sectorau Technoleg Feddygol a Chwaraeon sy’n ehangu ac yn arwain at ddatblygu cynhyrchion fel Smart Garments. Rhagwelir y bydd y prosiect, sy’n bwriadu creu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe, yn werth dros £150 miliwn i’r economi ranbarthol erbyn 2033 PRIFYSGOL ABERTAWE YN Y 26AIN SAFLE YM MYNEGAI CYDRADDOLDEB YN Y GWEITHLE STONEWALL Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol. Mae rhestr Stonewall o’r 100 Cyflogwr Gorau wedi’i llunio o’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – prif ddull meincnodi’r DU ar gyfer cynhwysiant LGBTQ+ yn y gweithle.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn lansio ei ap cyntaf i gefnogi cynhwysiant digidol pobl hyn. ^

Mae GENIAL Science yn brosiect ymchwil cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe, sy’n cynnwys academyddion, clinigwyr, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSc. Wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r prosiect wedi ymrwymo i hyrwyddo damcaniaeth ac ymarfer lles ac mae’r tîm y tu ôl iddo wedi datblygu fframwaith i helpu i ddeall a gwella ‘iechyd cyfan’. Fel yr esbonia’r cyd-sylfaenydd, yr Athro Andrew Kemp o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: Mae ein cymdeithas yn wynebu sawl her gysylltiedig fawr a fydd yn cael effaith gynyddol sylweddol ar iechyd byd-eang ac mae’n ddyletswydd arnom yn y sector prifysgolion ac ymchwil i weithio tuag at oresgyn heriau o’r fath er mwyn hyrwyddo iechyd a lles unigolion, cymunedau a’r blaned. Drwy’r prosiect GENIAL Science, rydym wedi nodi pwysigrwydd hyrwyddo lles wrth geisio gwella iechyd, yn enwedig mewn perthynas â phobl sy’n byw gyda chyflyrau

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i rifyn diweddaraf ein Cylchgrawn Pwls. Unwaith eto, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at newid ac ansicrwydd na welwyd eu tebyg o’r blaen. Ond wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydym wedi ymfalchïo’n fawr mewn edrych yn ôl ar lwyddiannau ein staff a llwyddiannau ein myfyrwyr - ar lefelau academaidd a phersonol. Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, rydym wedi gweld lles ac iechyd meddwl yn dod i’r amlwg yn llygad y cyhoedd ac, yma yn Abertawe, mae’r rhain yn feysydd o ddiddordeb ymchwil hirsefydlog. Ar ôl y pandemig, rydym wedi gweld cynnydd - a diddordeb - mawr yn ein hymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc yn benodol, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar bolisïau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol ar lefel genedlaethol.

Rwy’n falch o gyflawniadau staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; maent wedi dangos dewrder a gwydnwch mawr drwy oresgyn adfyd yn uniongyrchol, wrth barhau i gefnogi ein cymuned leol, ei gilydd a’r GIG. Bydd y rhifyn hwn o Pwls yn rhoi cipolwg i chi o rywfaint o’r gwaith anhygoel, a gynhaliwyd eleni ac rwy’n mawr obeithio y gallwch weld eich hun fel rhan o’n cymuned wych yn y dyfodol. Mae ar y byd angen pobl ddisglair, ofalgar a phenderfynol yn fwy nag erioed, pobl fel chi! Edrychaf ymlaen at eich croesawu a’ch gweld chi yn Abertawe yn fuan iawn.

“Mae ein damcaniaeth wedi’i chymhwyso i wella ‘iechyd cyfan’ mewn gwahanol boblogaethau” Yr Athro Kemp

cronig y mae’n rhaid eu rheoli, ac nad yw’n bosib iddynt gael eu hiacháu yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer model gwyddonol trawsddisgyblaethol i ymdrin â lles sy’n cynnig potensial nas gwireddwyd eto i hyrwyddo ‘iechyd cyfan’ unigolion, cymunedau a natur, yng nghyd-destun llawer

o’r heriau sylweddol sydd bellach yn wynebu’r ddynolryw, gan gynnwys trychineb yr hinsawdd. Mae’r ymchwil hon wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Global Advances in Health and Medicine

ac arweiniodd at wobr fawreddog Hyrwyddo Gofal Iechyd am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil.

Yr Athro Keith Lloyd Dirprwy Is-ganghellor, Deon Gweithredol

DARLLENWCH FWY...

Diddordeb mewn astudio cwrs a fydd yn eich arwain at ymchwil? Trowch i Dudalen 34

4

5

Made with FlippingBook flipbook maker