PWLS
Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd
GWEMINARAU Cychwyn Arni DARLITHOEDD RHAGFLAS A SESIYNAU GWYBODAETH Dysgwch fwy am sut beth yw bod yn fyfyriwr yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gyda phopeth o’r awgrymiadau gorau ar baratoi eich cais i ganllawiau myfyrwyr sy’n benodol i’r pwnc.
SYLW AR
Ddysgu Cyfunol Ar ôl y pandemig, mae’r drefn draddodiadol 9-5 yn ymddangos fel rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn uchel ar restr blaenoriaethau pawb. Rydym yn cydnabod bod gweithio ystwyth a dysgu cyfunol yn allweddol i gyflawni hyn. Nid yn unig y mae hyblygrwydd yn arwain at well brofiadau dysgu ac addysgu i fyfyrwyr ac athrawon, mae ganddo hefyd amrywiaeth o fanteision eraill, megis arbedion ariannol a gwell effaith amgylcheddol. Felly sut mae dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith? Dyma ein hawgrymiadau euraidd:
Deall y disgwyliadau Mae addysgu ar y campws yn hanfodol ar gyfer dysgu ymarferol a dysgu sy’n seiliedig ar sgiliau, ond beth am ddarlithoedd, adolygu a gwaith grwp? Dewch i wybod beth sy’n ^
Paratowch
DARLLENWCH FWY NEU COFRESTRWCH:
Mae paratoi â’r offer, y feddalwedd a’r gofod gwaith cywir yn hanfodol er mwyn cael y gorau o’ch astudiaethau Does dim byd gwaeth na gorfod clirio eich nodiadau ganol y sesiwn er mwyn i chi allu defnyddio’r bwrdd i gael cinio. Bydd buddsoddi (amser ac ymdrech - nid yn ariannol yn unig) wrth baratoi gweithfan sy’n addas i’r diben yn rhoi’r lle dynodedig sydd ei angen arnoch i fynd i mewn i ‘ddull astudio’ - a lle rhydd ar gyfer eich amser rhydd.
TENNESSEE RANDALL Myfyriwr PhD
Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yma i’ch helpu i feithrin eich sgiliau astudio academaidd a chyflawni eich nodau. Rydym ni’n gallu eich helpu i bontio’r bwlch rhwng lle rydych chi nawr a lle mae angen i chi fod:
“Pan wnes i raddio gyda fy ngradd israddedig, doedd gen i ddim syniad beth oedd y dyfodol i mi yn academaidd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac rwyf wedi cwblhau fy ngradd Meistr ac wedi derbyn cynnig i astudio PhD ym Mhrifysgol Abertawe o dan ysgoloriaeth ymchwil. Dyfarnodd yr ESRC yng Nghymru ddim ond dau fyfyriwr seicoleg, ac yr oeddwn yn ddigon ffodus i fod yn un ohonynt. Rwy’n llawn cyffro i barhau â’m pennod addysgol nesaf lle rwyf ar y llwybr i ddod yn Dr Randall.”
ddisgwyliedig gennych fel y gallwch gynllunio sut rydych chi am ddefnyddio gweddill eich amser. Mae codio lliw y mathau gwahanol o weithgareddau yn eich calendr nid yn unig yn sicrhau eich bod yn gwybod ble rydych chi i fod a phryd, mae hefyd yn helpu i ddelweddu eich amser rhydd.
• Gwella eich ysgrifennu • Diweddaru eich sgiliau mathemateg • Adeiladu eich gwybodaeth am ystadegau • Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol
Cymerwch ran Beth bynnag fo fformat eich profiad dysgu - gwnewch y gorau ohono!
• Rheoli eich amser yn well • Gwella eich sgiliau digidol • Hogi eich sgiliau cyfathrebu • Dysgu sut i osgoi llên-ladrad
P’un a ydych chi’n eistedd gartref yn gwrando ar ddarlith neu’n gweithio ochr yn ochr â’ch cyfoedion mewn labordy neu ystafell efelychu, byddwch yn bresennol. Mae gan ein staff addysgu gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rannu â chi - gofyn ac ateb cwestiynau yw un o’r ffyrdd gorau o gyfuno dysgu ac ehangu eich sylfaen wybodaeth.
abertawe.ac.uk/llwyddiant-academaidd
8
Made with FlippingBook flipbook maker