MSc Rheoli Iechyd A Gofal Uwch - Blwyddlyfr 2023

REBECCA JELLEY

UWCH REOLWR PROSIECT BWRDD IECHYD PRIFYSGOL BAE ABERTAWE

BIO Yn ddiweddar, ymunais â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fel Uwch Reolwr Prosiect Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau electronig (ePMA) mewn Gofal Eilaidd. Dechreuodd fy ngyrfa yn y GIG dair blynedd yn ôl, pan ymunais â thîm profi Covid-19 Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Achubais ar y cyfle i gwblhau’r cwrs MSc i ddatblygu fy sgiliau rheoli, arferion ac ehangu fy ngwybodaeth am yr amgylchedd iechyd a gofal. Mae fy mhrofiad o’r cwrs wedi bod yn heriol ond yn werth chweil, rwyf wedi meithrin perthynas â chysylltiadau allweddol ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ac mae wedi arwain at amryw o gyfleoedd datblygu gyrfa llwyddiannus.

EFFAITH YMCHWIL Mae gwasanaethau iechyd a gofal digidol a darparu gofal iechyd yn amgylchedd cymhleth ac amlochrog. Daeth hyn yn fwyfwy amlwg yn ystod fy amser yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), fel Rheolwr Prosiect Cynorthwyol, yn gweithio ar y rhaglen Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau electronig (ePMA) Cenedlaethol. Yno, cefais fy amlygu i’r prosesau presennol o gynllunio, gweithredu a mabwysiadu systemau digidol mewn lleoliadau Gofal Eilaidd ar draws y GIG, sy’n heriol ac yn aml yn araf i’w datblygu. Mae fy ymchwil wedi arwain at sefydlu fframwaith newydd o’r enw model DAFFS (Fframwaith Mabwysiadu Digidol ar gyfer gwasanaethau gofal Eilaidd). Dyma’r model cyfannol cyntaf o’i fath ym maes iechyd a gofal y gellir ei gyffredinoli i wledydd, sectorau a gwasanaethau eraill. Defnyddir y model i nodi a deall y ffactorau galluogi ac atal sy’n dylanwadu ar weithrediad llwyddiannus a mabwysiadu system neu wasanaethau digidol newydd.

JULIA WILKINSON

RHEOLWR CSG GWASANAETHAU SYLFAENOL A CHYMUNEDOL

BIO Gwnaeth y cwrs wedi fy nghefnogi i gymryd rhan yn fy rôl mewn ffordd wahanol. Rwy’n rheoli gwasanaethau cymunedol sydd hefyd yn cynnwys ysbytai cymunedol lle mae’r ffocws ar wasanaethau sy’n Seiliedig ar Werth yn hollbwysig. Mae llawer o’r gwasanaethau rwy’n eu rheoli’n canolbwyntio ar fregusrwydd sy’n gofyn am ddull arloesol sy’n mynnu ffocws cyson ar ‘beth sy’n bwysig’ i’r claf.

EFFAITH YMCHWIL Er bod pwnc fy ymchwil yn eithaf arbenigol, daeth â mewnwelediad aruthrol nid yn unig i’r sefydliad yr wyf yn gweithio ynddo ond hefyd yr amcan cenedlaethol o ddarparu llwybrau integredig gofal cymunedol. Dewisais fodelu gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau integredig trwy drosiad a defnyddio’r delweddau hyn i roi cipolwg ar gyd-destun presennol integreiddio a chynlluniau ar gyfer y dyfodol. Yr hyn a ddatgelodd fy ymchwil oedd cysondeb disgrifiadau trosiadol ac yna defnyddiodd fframwaith o ddealltwriaeth sy’n dadansoddi nodweddion sefydliadol trwy wyth model trosiadol.

Made with FlippingBook HTML5