Yn fwy diweddar, mae'n ymddangos bod Technoleg y Gyfraith wedi cymryd ystyr ehangach, o bosibl am y rhesymau a grybwyllwyd uchod. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn diffinio Technoleg y Gyfraith fel: Technoleg y Gyfraith/LawTech yw’r term a ddefnyddiwn i ddisgrifio technolegau sy’n ceisio cefnogi, ategu neu ddisodli dulliau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol, neu sy’n gwella’r ffordd y mae’r system gyfiawnder yn gweithredu.
Mae Technoleg y Gyfraith yn cwmpasu ystod eang o offer a phrosesau, megis:
awtomeiddio dogfennau
•
• sgwrsfotiaid uwch ac offer rheoli ymarfer • deallusrwydd artiffisial rhagfynegol • contractau cyfreithiol clyfar • systemau rheoli gwybodaeth ac ymchwil
Mae’r diffiniad hwn yn cwmpasu’r defnydd o dechnoleg i wella’r ffyrdd presennol o ddarparu gwasanaethau cyfreithiol ac i greu gwasanaethau cyfreithiol newydd ac aflonyddgar. Felly, mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn ffafrio'r term Technoleg y Gyfraith/LawTech ac nid yw'n defnyddio 123 Technoleg Gyfreithiol/LegalTech yn gyffredinol. Mae diffiniad Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi'i fabwysiadu mewn ymchwil gan Brifysgol Rhydychen a gomisiynwyd gan yr SRA 124 , ac mewn tendrau swyddogol Llywodraeth y Deyrnas Unedig. 125 Technoleg y Gyfraith/LawTec h hefyd yw’r term a ddefnyddir ar gyfer hwb technoleg gyfreithiol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, LawTech UK. Fodd bynnag, mae'r term Technoleg Gyfreithiol hefyd wedi parhau'n boblogaidd ac fe'i defnyddir yn aml mewn ymchwil gyfreithiol, yn ogystal ag ar gyfer cynadleddau 126 , rhwydweithiau canghennau lleol Cymdeithas y Cyfreithwyr 127 , a 123 Er bod y term Technoleg Gyfreithiol yn ymddangos weithiau mewn postiadau blog a gynhelir gan Gymdeithas y Gyfraith ac mewn erthyglau a gyhoeddir gan Gymdeithas y Gyfraith ei hun. Gweler, er enghraifft, Alex Heshmaty, “Legaltech in 2021: an evolving landscape” (23 Mehefin 2021), ar gael yn https://www.lawsociety.org.uk/topics/blogs/legaltech-in-2021-an-evolving-landscape; a Chymdeithas y Cyfreithwyr, “How legaltech can help you compete against larger firms” (31 Ionawr 2019), ar gael yn https://www.lawsociety.org.uk/campaigns/lawtech/features/how-legaltech-can-help-you-compete. 124 Sako a Parnham (n 67), 14. 125 Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, “Invitation to application: Grant Lawtech MoJ” (19 Hydref 2022), ar gael ynhttps://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/1112341/lawtec h-grant-invitation-to-application.pdf. Fodd bynnag, roedd cyfres wahanol o enghreifftiau yn cyd-fynd â ’r diffiniad: “Examples include firms moving from paper to digital contracts or using technology to create court bundles automatically, or artificial intelligence tools which help consumers to understand and take action on legal issues online”. 126 Er enghraifft, gweler Ysgol Fusnes Prifysgol Leeds, LegalTech in Leeds 2023 Conference” (26 Ebrill 2023), ar gael yn https://business.leeds.ac.uk/faculty/events/event/903/legaltech-in-leeds-2023-conference . 127 Gweler Bristol Law Society, “Legal Tech” ar gael yn https://www.bristollawsociety.com/our-work/legaltech/.
23
Made with FlippingBook HTML5