Amlygodd dri o'r cyfweleion 325 hefyd ba mor ddeniadol yw Cymru fel amgylchedd cychwyn busnes, sy’n cael ei weld fel amgylchedd cefnogol ac sy’n darparu cysylltiad haws i Lywodraeth na gwledydd eraill. Yn ôl Tim Barnett (Prif Swyddog Gweithredol, Credas), “Un o’r pethau hyfryd am fyw yn ne C ymru yw ei bod hi’n hawdd codi’r ffôn a chael cysylltu i’r llywodraeth.” Dywedodd Manoj Khetia (Prif Swyddog Gweithredol, Identitech) “Y peth am Gymru yw oherwydd ei bod yn ecosystem llai o faint, mae'n haws cyrraedd y buddsoddwyr, sy'n wych yn fy marn i. Mae’n amgylchedd agos atoch a dwi’n meddwl mai dyna pam ei fod yn gefnogol.” Cafodd cymorth Llywodraeth Cymru ei enwi’n benodol fel ffactor cadarnhaol a dylanwadol. Nododd Jason Wheatley (COO, Wyser) fod “Cymru yn lle gwych i fod oherwydd bod llawer o gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Gallwch gael swyddfeydd am bris gostyngol os gallwch brofi eich bod yn dod yma. Mae llawer o gymorth i fusnesau bach a chanolig eu maint”. Mae adroddiad Cychwyn Busnes Cymru 2023 yn ategu’r farn hon 326 , lle cafodd amryw o fusnesau newydd eu cyfweld gan y Coalition for a Digital Economy (COADEC), canfu’r adroddiad hefyd fod y rhan fwyaf o fusnesau newydd yn teimlo nad oedd gan y Llywodraeth gynllun ar gyfer cymorth hirdymor wedi’i dargedu 327 ”. Mae cymhellion i fynd i mewn i'r farchnad Technoleg Gyfreithiol yn deillio o ddau gyfle allweddol. Yn gyntaf, gwella effeithlonrwydd mewn gwasanaethau cyfreithiol: “Rôl technoleg yw darparu ateb i broblem a dylai’r ateb hwnnw gynnwys effeithlonrwydd ac os yw’n gwneud hynny, yna byddwch yn cae l eich gwobrwyo’n fasnachol” (Credas). Yn ail, mynd i’r afael â materion hirsefydlog, yn enwedig ar gyfer sefydlu cwsmeriaid a chydymffurfiaeth, sydd ymhlith y pump offer Technoleg Gyfreithiol a brynwyd amlaf gan gwmnïau yn y Deyrnas Unedig (gyda 44% yn defnyddio meddalwedd cydymffurfio LegalTech). 328 Ymhlith ein cyfweleion, mae Identitech, Credas a Validient yn gweithredu yn y diwydiant sefydlu cleientiaid (onboarding), gan gynnig gwiriadau KYC, dilysu hunaniaeth, ac atebion atal gwyngalchu arian. Mae Wyser, ar y llaw arall, yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i wella casglu data ac ymgysylltu â chwsmeriaid ar gyfer amrywiol ddiwydiannau (yn bennaf cyllid, bancio a risg credyd), gan addo mwy o effeithlonrwydd ac arbedion cost.
b) Nodweddion eu busnes
325 Ar ôl eu cyflwyno, rydym yn cyfeirio at y cyfweleion yn unig trwy eu cysylltiad. 326 Elis Thomas, Dom Hallas a Frances Lasok, “Startup Wales: The startup ecosystem, its challenges and oppo rtunities’” (COADEC, Mawrth 2023), 16, ar gael yn https://coadec.com/wp-content/uploads/2023/04/Wales- Report-March-2023-FOR-RELEASE.pdf. 327 Ibid, 16.
328 Thomson Reuters Institute, “State of the UK legal Market 2022”, ffigwr 7, ar gael yn https://www.thomsonreuters.com/en/reports/state-of-the-uk-legal-market-2022.html.
63
Made with FlippingBook HTML5