cyfreithiol, ac apiau a phyrth arbenigol ar gyfer meysydd ymarfer penodol. Mae arloesi safle (position innovation) hefyd yn bresennol, gyda nifer o gwmnïau cyfreithiol yn ceisio ail-frandio eu hunain fel cwmnïau technoleg-alluog, trwy ymwneud ag addysg gyfreithiol, cefnogaeth ar gyfer cydweithrediadau proffesiynol, a recriwtio staff TG, peirianwyr cyfreithiol a datblygwyr. Mae'n ymddangos bod arloesi prosesau ar ei hôl hi, o leiaf ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, ac nid ydym wedi canfod enghreifftiau o arloesi sylweddol (paradigm innovation). Unwaith eto, gwelwn arloesi wedi'i ganoli'n bennaf yn ne Cymru ac mewn cwmnïau cyfreithiol canolig a mawr. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi cynyddu eu harlwy Technoleg Gyfreithiol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dau gwrs ôl-raddedig, amrywiaeth o fodiwlau israddedig yn y rhan fwyaf o sefydliadau, a chanolfannau ymchwil modern sy’n cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithio rhwng academyddion ac eraill o'r diwydiant, o leiaf yn ne Cymru.
6.2 Arloesedd sylweddol ar lefel ddiwydiant: pwysigrwydd ecosystem Technoleg Gyfreithiol Gymreig gydlynol
Mae arloesi sylweddol (paradigm innovation), h.y. newid radical yn agwedd cwmni at broblem fusnes benodol, fel arfer yn digwydd o ganlyniad i gyfuniad o ffactorau: arbenigedd, buddsoddiad, risg, ac enillion. Gall yr arbenigedd a ddarperir gan arbenigwyr technoleg blaenllaw, mewn amgylchedd busnes sy'n barod i fuddsoddi'n drwm mewn ymchwil a datblygu ac i dderbyn risg sylweddol o fethiant gyda’r bwriad o gyflawni enillion eithriadol (newid sylwed dol sy’n tarfu ar ddeinameg marchnad sefydledig), ysgogi cwmni i gyflawni arloesedd sylweddol. O edrych ar nodweddion y sector cyfreithiol yng Nghymru, mae gwasgariad daearyddol ei gwmnïau cyfreithiol a’u maint cymharol fach, yn awgrymu bod arloesi sylwed dol y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf, ac eithrio’r cwmnïau cyfreithiol mwyaf a’r busnesau newydd (start -ups) neu’r busnesau sy'n tyfu (scale -ups). Credwn fod y casgliad hwn yn anghywir, gan fod gan ecosystem Technoleg Gyfreithiol Cymru, ynddo’i hun, bopet h sydd ei angen i gyflawni arloesedd sylweddol ar lefel diwydiant. Mae prifysgolion Cymru yn gynyddol yn hyfforddi cyfreithwyr ag ystod o gymwyseddau technolegol, sy’n ategu graddedigion mewn meysydd cyfagos, gan gynnwys cyfrifiadureg, gwyddor data a seibe rddiogelwch. Felly, mae’n ymddangos y bydd argaeledd arbenigwyr technoleg yng Nghymru, fel cam cyntaf tuag at arloesi sylweddol, yn gwella ac yn tyfu yn y blynyddoedd i ddod.
76
Made with FlippingBook HTML5