DY GYMUNED YMCHWIL
Mae Abertawe’n gartref i gymuned ymchwil ffyniannus sy’n cyfuno ymchwil o safon fyd-eang ag ethos croesawgar, cynhwysol a chydweithredol ynghyd â phwyslais ar ymchwil sy’n cynnig buddion go iawn i’n byd. Mae ein swyddfa ymchwil ôl-raddedig yn cydlynu gweithgareddau ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol a chymorth ar draws y Brifysgol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posib drwy ddarparu mynediad at gyfleoedd cyllid a datblygu, darparu hyfforddiant ac adnoddau i dy gefnogi i ddatblygu dy sgiliau proffesiynol a dy sgiliau ymchwil a thrwy gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr. DY GEFNOGI I DDATBLYGU Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan dy gefnogi i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhinweddau er mwyn ragori yn dy ymchwil a dy yrfa yn y dyfodol.
FFRAMWAITH HYFFORDDIANT Mae ein fframwaith hyfforddiant, sy’n cynnwys deg thema wahanol, wedi’i gynllunio i gefnogi dy ddatblygiad fel ymchwilydd a dy ddatblygiad proffesiynol ar bob cam yn ystod dy ymgeisyddiaeth.
Y DEG THEMA HYFFORDDIANT:
• Addysgu ac Arddangos • Arweinyddiaeth a Gweithio gydag Eraill • Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd • Cynllunio Gyrfa a Chynnydd • Diogelwch, Uniondeb a Moeseg
• Dulliau Ymchwil • Effaith a Masnacheiddio • Gwytnwch, Datrys
Problemau ac Effeithiolrwydd Personol • Rheoli Gwybodaeth a Data • Ysgrifennu Academaidd
Mae pob thema yn cynnwys gweithdai, adnoddau a chyfleoedd ar lefelau gwahanol, yn unol â cham dy ymgeisyddiaeth neu lefel dy brofiad: Ymgysylltu – Cyflwyno myfyrwyr sydd newydd ddechrau eu hymgeisyddiaeth i’r offer angenrheidiol i sicrhau bod eu taith ymchwil yn dechrau yn y ffordd orau bosib. Archwilio – Datblygu sgiliau i’r rhai sydd yng nghanol eu hymgeisyddiaeth, gan gyflwyno technegau ac offer ymchwil newydd, archwilio effaith ymchwil a’u cefnogi i ymgysylltu â’r gymuned ymchwil ehangach. Ehangu – Cefnogi myfyrwyr sy’n agos at ddiwedd
eu gradd ymchwil i gwblhau eu hymchwil a chynllunio am eu dyfodol, boed yn y byd academaidd neu ar lwybr arall.
14
Made with FlippingBook flipbook maker