Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

Fel myfyriwr ôl-raddedig sy’n ymuno â chymuned Prifysgol Abertawe, hoffem dy helpu ti i ddod o hyd i rywle y gelli ei alw’n gartref. Darperir llety i ôl-raddedigion mewn pedair preswylfa: Campws y Bae, Campws Parc Singleton, Tŷ Beck yn ardal gyfagos Uplands, ac ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan. Yn gyffredinol, cynigir tenantiaethau ar sail sefydlog o 51 wythnos, ond gallwn hefyd gynnig rhai fflatiau penodol i ôl-raddedigion ar denantiaeth 40 wythnos ym Mhentref y Myfyrwyr ac ar Gampws y Bae. BYW AR Y CAMPWS Mae byw yn un o breswylfeydd Campws Parc Singleton neu Gampws y Bae yn golygu dy fod yng nghanol bwrlwm bywyd y brifysgol. Mae llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn ac en suite gyda chegin ac ardal fwyta wedi’u rhannu. BYW YM MHENTREF Y MYFYRWYR* Mae Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan wedi’i leoli tua dwy filltir o’r campws. Mae’r Pentref yn darparu llety hunanarlwyo a chyfleusterau a rennir mewn fflatiau ar gyfer 7. Os byddi di’n dewis byw yn y Pentref, bydd gen ti dy ystafell dy hun ar gyfradd fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety yn y sector preifat. DOES UNMAN YN DEBYG

Mae bywyd yn y Pentref yn gymdeithasol, yn gefnogol a bydd y canlynol ar gael: • Golchdy ar y safle • Mae parcio ar y safle ar gael i breswylwyr Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan a Thŷ Beck

• Tocyn bws First Group Unibus am ddim am gytundebau 13 wythnos

*Mae llety ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/2023 LLETYA Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydym wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill. Darperir llety en suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn. LLETY I DEULUOEDD YN NHŶ BECK Mae gennym nifer o fflatiau i fyfyrwyr sengl yn ogystal ag i deuluoedd yn ein preswylfa dawel ddynodedig, Tŷ Beck, tua milltir o’r campws yn ardal fyfyrwyr boblogaidd Uplands. Oherwydd y tenantiaethau 51 wythnos, mae’r llety hwn yn fwyaf addas i fyfyrwyr ôl-raddedig a myfyrwyr rhyngwladol.

PWYNTIAU ALLWEDDOL

• Rhyngrwyd diwifr am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, ResNet, sy’n byw yn y preswylfeydd ac sy’n dy gynrychioli o’u gwirfodd, sy’n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael y profiad gorau posibl • Mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ag eithrio fflatiau teuluol Tŷ Beck a nifer cyfyngedig o ystafelloedd â dau wely ar Gampws y Bae)

• Cyfleusterau golchi • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysyllta â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth • En suite ar gael

36

Made with FlippingBook flipbook maker