Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2023

DOD O HYD I’R CARTREF PERFFAITH YN Y SECTOR PREIFAT Os byddai’n well gen ti fyw oddi ar y campws, byddi di’n falch o wybod bod cyflenwad da o dai a fflatiau o ansawdd i fyfyrwyr yn y sector preifat yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth prydlesu, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS), yn rheoli 130 eiddo yn ardaloedd poblogaidd Brynmill, Uplands a Sgeti sy’n gyffredinol o fewn dwy filltir i’r campws ac yn St. Thomas a Phort Tennant, sy’n agos at Gampws y Bae. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn agos at gyfleusterau lleol megis siopau, bariau a siopau tecawê. Mae ein cronfa ddata ar-lein, Studentpad , y gellir chwilio drwyddi yn amhrisiadwy. Mae’n dy alluogi i ddod o hyd i dai eraill sydd ar gael yn yr ardal ac yn ei gwneud hi’n haws chwilio am dŷ. saslettings.co.uk

Mae gennym rai ardaloedd tawel a rhai sy’n ddi-alcohol hefyd

Mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd

Gelli logi un o’n beiciau Santander. Gyda 100 o orsafoedd docio mewn chwe hyb ar hyd prif lwybr beicio’r ddinas, gelli fynd ar dy feic yn dy amser hamdden.

Am fwy o wybodaeth:

santandercycles.co.uk/swansea

abertawe.ac.uk/llety llety@abertawe.ac.uk +44 (0)1792 295101

38

Made with FlippingBook flipbook maker