ANATOMEG A FFISIOLEG (Guardian University Guide 2022) UCHAF Y DU 3
GWYDDOR GOFAL IECHYD (FFISIOLEG ANADLU A CHYSGU) CAMPWS PARC SINGLETON
Bydd y radd hon yn rhoi'r hyfforddiant arbenigol sydd ei angen arnat i ddechrau gyrfa werth chweil i ddiagnosio a thrin pobl â chlefydau anadlol ac anhwylderau anadlu sy'n gysylltiedig â chwsg. Byddi di’n astudio strwythur a swyddogaethau'r system anadlu a'r technegau diagnostig a therapiwtig diweddaraf ac yn cyfuno gwaith academaidd manwl â sgiliau clinigol a thechnolegol ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd arbenigol.
DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael
Mae Ffisioleg Anadlu a Chysgu yn faes cyffrous sy'n gofyn am lefel uchel o gyfrifoldeb a chywirdeb a'r gallu i ddatrys problemau. Fel ffisiolegydd anadlu a chysgu, byddi di'n gweithio gyda chleifion o bob oed ac anabledd, yn cynnal amrywiaeth eang o brofion diagnostig ac yn datblygu cynlluniau triniaeth. Mae llawer o'n staff academaidd yn gweithio fel gwyddonwyr gofal iechyd hefyd, gan gynnig cyfuniad heb ei ail o drylwyredd gwyddonol ac arbenigedd proffesiynol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig a byddi di’n gallu manteisio ar leoliad cleifion go iawn yn ein Hacademi Iechyd a Llesiant lwyddiannus yn ogystal â lleoliadau gwaith mewn ysbytai ledled Cymru. Byddi di’n treulio hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol ledled Cymru, a fydd yn darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Anatomeg a Ffisioleg • Gwyddoniaeth Gardiofasgwlaidd • Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Mathemateg a Ffiseg ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd • Pathoffisioleg • Ymarfer Proffesiynol
Blwyddyn 2 • Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Offeryniaeth, Prosesu Signalau a Delweddu • Pathoffisioleg Cyflyrau Cardiofasgwlaidd ac Anadlu • Ymyriadau Diagnostig Blwyddyn 3 • Diagnostig a Therapi Cwsg • Pathoffisioleg, Diagnosis a Rheolaeth Glinigol Asthma a Methiant Anadlu • Prosiect Ymchwil
Cynigion Cyd-destunol ar gael
CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB (gan gynnwys Bioleg, Ffiseg neu Fathemateg)
Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Gwyddor Gofal Iechyd
Darllen ein canllaw pwnc yma:
(Ffisioleg Anadlu a Chysgu)
▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Gwyddonwyr Gofal Iechyd yw £25,654 (Band 5). Gall y cyflog godi i £45,838.
Mae achrediadau'n cynnwys:
111
Made with FlippingBook Annual report maker