IECHYD POBLOGAETHAU A GWYDDORAU MEDDYGOL CAMPWS PARC SINGLETON
AMGYLCHEDD YMCHWIL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014) 1 YN Y DU AF
Mae iechyd poblogaethau yn rhoi sylw i ffactorau eang iawn sy’n gallu pennu canlyniadau iechyd unigolion, grwpiau a phoblogaethau. Mae’r cwrs yn unigryw gan ei bod yn dwyn ynghyd bynciau amrywiol sy’n rhoi dealltwriaeth holistaidd i ti o’r ffactorau cymdeithasol, economaidd, meddygol a demograffig sy’n ffurfio iechyd poblogaethau; o atal a hybu i ddiogelu iechyd, diagnosis, triniaeth a gofal.
Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63
Cyfleoedd Byd-eang ar gael † Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael
Nod iechyd poblogaethau yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn drwy fynd ati i ddeall anghenion gofal iechyd yn well, gwella modelau gofal iechyd a darparu datrysiadau arloesol. Byddi di'n datblygu’r wybodaeth sydd eu hangen i bennu amrywiadau systemataidd mewn iechyd unigolion a phoblogaethau, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiadau i allu rhoi’r wybodaeth hon ar waith wrth greu datrysiadau ymarferol i wella iechyd, lles, ac o safbwynt darparu gwasanaethau iechyd. Byddi di’n elwa ar gael mynediad i gyfleusterau ymchwil a gwyddor data o’r radd flaenaf, gan gynnwys y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth. Yn ystod dy astudiaethau, fe fyddi di'n canolbwyntio ar un o dri llwybr cyflogadwyedd: Ymchwil Gwyddorau Meddygol, Y Gwyddorau Meddygol mewn Ymarfer (yn amodol ar gymhwysedd), neu Fenter ac Arloesi. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Iechyd Digidol • Meddygaeth Gymunedol • Seicoleg Feddygol • Systemau a Sefydliadau Iechyd Poblogaethau
Blwyddyn 2 • Epidemioleg Ymarferol • Imiwnoleg Ddynol • Rheoli Datrysiadau a Strategaethau Iechyd y Boblogaeth • Ymchwil Gwasanaethau Iechyd • Ystadegau Biolegol Blwyddyn 3 • Bioleg Ddynol a'r Amgylchedd • Epidemioleg Uwch • Iechyd Byd-eang
CYNNIG NODWEDDIADOL: AAB-BBB (gan gynnwys Bioleg) Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †
BSc Anrhydedd Sengl ▲ Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol
♦ Iechyd Poblogaethau a Gwyddorau Meddygol (gyda Blwyddyn Sylfaen)
• Llythrennedd Iechyd Meddwl • Prosiect Ymchwil Annibynol
▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs
Darllen ein canllaw pwnc yma:
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Dadansoddiad Iechyd Poblogaeth • Eiriolaeth Cleifion • Proffesiynau Iechyd (ar ôl astudiaeth bellach) e.e. Meddyg, Cyswllt Meddyg, Deintydd • Rheoli Gofal Iechyd (sectorau cyhoeddus a phreifat) • Teleiechyd a Thelefeddygaeth • Ymchwil Iechyd, Meddygol a Gwyddor Bywyd
LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION: Mae’r radd hon yn rhan o’r
rhaglen Llwybr Meddygaeth i Raddedigion. Cyn belled â dy fod yn bodloni’r gofynion mynediad, ac wedi dilyn y Llwybr Gwyddor Meddygaeth mewn Ymarfer, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion.
Mae cysylltiadau'n cynnwys:
126
Made with FlippingBook Annual report maker