ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

YSGOL FEDDYGAETH (Complete University Guide 2022) 1 YN Y DU AF

MEDDYGAETH I RADDEDIGION CAMPWS PARC SINGLETON

Cwrs gradd carlam, arloesol pedair blynedd sy’n agored i raddedigion mewn unrhyw ddisgyblaeth yw ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion (MBBCh). Gyda phwyslais mawr ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, mae ein cwrs cwricwlwm meddygol integredig wedi’i strwythuro i adlewyrchu’r ffordd y mae cleifion yn cysylltu â meddygon a sut mae meddygon yn ymgysylltu â’u symptomau. Ein cenhadaeth yw dy hyfforddi i fod yn glinigwr rhagorol, gofalgar a chynhwysol ar gyfer cymdeithas fyd-eang.

Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Byddi di'n astudio gwyddorau biofeddygol sylfaenol yng nghyd- destun meddygaeth glinigol, iechyd y cyhoedd, patholeg, therapiwteg, moeseg, materion seicogymdeithasol wrth reoli cleifion. Drwy gyfuniad o ddysgu yn y brifysgol a sesiynau ymarferol, byddi di’n mwynhau lefel uchel o gysylltiad clinigol drwy Gyfleoedd Dysgu yn y Lleoliad hunan-ddewisol (LOCS), ymluniadau arbenigol, isdarlithyddiaeth a dysgu yn y gymuned. Gelli di deilwra dy astudiaethau i ffocysu ar feddygaeth yn y gymuned, gyda lleoliadau clinigol mewn gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Ynghyd â chanolbwyntio’n gryf ar sgiliau clinigol a chyfathrebu, byddi'n datblygu rhinweddau academaidd, ymarferol a phersonol i allu ymarfer meddygaeth

hangen i fod yn feddyg, fel a bennir yn ‘Good Medical Practice’, a’r gallu i gyflawni’r canlyniadau yn ‘Outcomes for Graduates’. I grynhoi, rydyn yn chwilio am: • Brwdfrydedd at Feddygaeth/ Cydnerthedd i Lwyddo • Mewnwelediad ac Uniondeb Cymeriad • Sgiliau Cyfathrebu • Sgiliau Datrys Problemau • Y gallu i Ymdopi â Phwysau Meddygon i Gymru Mae gan yr Ysgol Feddygaeth becyn eang a pharhaus o fesurau ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau arwyddocaol sy’n wynebu’r gweithlu meddygon yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio a chadw meddygon. Mae'r mesurau hyn wedi'u cynllunio i gynyddu'r nifer o ymgeiswyr sy'n byw yng Nghymru sy'n cyfweld am feddygaeth a'r nifer o feddygon cymwys sy'n ymarfer yng Nghymru.

CYNNIG NODWEDDIADOL: 2:1 (gradd baglor mewn unrhyw bwnc)

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

♦ MBBCh Meddygaeth ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Mae lleoliadau clinigol wedi'u hymgorffori fel rhan o'r rhaglen hon

LLWYBR MEDDYGAETH I RADDEDIGION: Fel rhan o’n hymrwymiad i

ehangu mynediad i feddygaeth, gallwn dy warantu y cei gyfweliad ar gyfer ein cwrs MBBCh Meddygaeth i Raddedigion trwy ddilyn un o’n graddau llwybrau i feddygaeth. Am fwy o wybodaeth: abertawe.ac.uk/y-brifysgol/colegau/ ysgol-feddygaeth-prifysgol-abertawe/ llwybrau-i-feddygaeth-

mewn modd cymwys a hyderus. Gwneud cais am Feddygaeth

Llwybrau i Feddygaeth

Mae'n rhaid i ti eistedd GAMSAT cyn gwneud cais. Cynigir cyfweliadau i ymgeiswyr sy'n bodloni sgôr toriad cyffredinol yn y GAMSAT. Mae ein proses o gyfweld am le ar y cwrs yn un strwythuredig, gan ystyried y rhinweddau hyn sydd eu

Darganfydda fwy at: abertawe.ac.uk/meddygaeth/ meddygonigymru

Mae achrediadau'n cynnwys:

Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol o’r ffaith fod angen i bob myfyriwr meddygol lwyddo yn yr Asesiad Trwyddedu Meddygol MLA gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) er mwyn ennill cofrestriad i ymarfer o 2024 ymlaen, yn ogystal â phasio arholiadau terfynol y brifysgol a dangos eu haddasrwydd i ymarfer.

134

Made with FlippingBook Annual report maker