ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

UCHAF YN Y DU RHAGOLYGON GYRFA (Guardian University Guide 2022) 20

RHEOLI BUSNES CAMPWS Y BAE & CAMPWS PARC SINGLETON

Wyt ti’n gweld dy hun yn cyflawni rôl allweddol mewn cwmni llwyddiannus? Bydd y radd hon yn dy helpu i sefyll allan drwy feddu ar y sgiliau arloesol sydd eu hangen i reoli busnes byd-eang, genedlaethol neu leol. Mae’n enwog am greu rheolwyr busnes hynod fedrus sy’n meddwl yn fasnachol, gyda chysylltiadau cryf i arbenigwyr diwydiannol, byddwn yn darparu amgylchedd cyfoethog o ddysgu, ac yn darparu cyfleoedd gyrfa.

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae’r radd yn hyblyg gyda detholiad eang o fodiwlau dewisol yn dy alluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at dy nodau gyrfa penodol. Mae'r ystod o fodiwlau dewisol sydd ar gael yn ymdrin â gwahanol feysydd, gan gynnwys menter ac arloesi, dadansoddeg busnes a chyllid ar gyfer busnes. Ymhlith y llwybrau gradd arbenigol sydd ar gael mae Cyllid, Dadansoddeg Busnes, e-Fusnes, Marchnata, Menter ac Arloesi, Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi, Rheoli Adnoddau Dynol, Twristiaeth ac Ymgynghoriaeth Reoli. Gallwn dy helpu i ddechrau dy fusnes dy hun, gyda'n hamrywiaeth o wasanaethau cymorth sy'n cynnwys gwasanaeth mentora busnes ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol sydd â chyfoeth o brofiad mewn diwydiant. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhoi'r cyfle perffaith i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.

Wyt ti eisiau blwyddyn fythgofiadwy yn ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd yn gyfle sydd ar gael i ti. FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Cyd-destun Byd-eang y Sefydliad • Cyfrifeg ar gyfer Rheolwyr • Marchnata • Rheoli Gweithrediadau • Rheoli Pobl • Rheoli yn yr Oes Digidol Blwyddyn 2 • Cyllid Corfforaethol • Dadansoddi Strategol

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Rheoli Busnes

Llwybrau gradd BSc Rheoli Busnes ▲ ♦ Cyllid ▲ ♦ Dadansoddeg Busnes ▲ ♦ E-Fusnes ▲ ♦ Marchnata ▲ ♦ Menter ac Arloesi ▲ ♦ Rheoli Adnoddau Dynol ▲ ♦ Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi ▲ ♦ Twristiaeth ▲ ♦ Ymgynghoriaeth Reoli ♦  Gellir ymestyn ein holl gyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i'w cynnwys: (Blwyddyn Sylfaen) neu (Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor)

• Economeg ar gyfer Busnes • Llywodraethu a Moeseg Corfforaethol • Marchnata Digidol Blwyddyn 3 • Cloddio Data • Gweithredu Strategol • Prosiect Blwyddyn Olaf

▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

• Rheoli Arloesol • Rheoli Prosiect

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Dadansoddwr neu Ymchwilydd • Entrepreneur • Partner Busnes Adnoddau Dynol

Mae achrediadau'n cynnwys: (yn amodol ar ddewis modiwl)

• Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Ariannol • Ymgynghorydd Rheoli

154

Made with FlippingBook Annual report maker