ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

GWNEUD

Y ffordd symlaf o wneud cais yw ar-lein ar:

ucas.com

Côd Prifysgol Abertawe yw S93. Gwiria ein rhestr o gyrsiau ar gyfer UCAS a chodau cwrs UCAS:

abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

BETH SYDD EI ANGEN ARNAT? Caiff ymgeiswyr eu hystyried ar sail eu rhinweddau eu hunain, a gall cynigion amrywio, fodd bynnag, rydyn yn gwarantu y byddi di’n derbyn cynnig amodol ar gyfer cwrs ym Mhrifysgol Abertawe*. Y cynnig nodweddiadol a nodir ar dudalennau meysydd pwnc yn y prosbectws hwn yw tri chymhwyster Safon Uwch. Serch hynny, rydyn yn fodlon derbyn amrywiaeth o gymwysterau eraill, felly gwiria dudalennau’r cyrsiau unigol ar ein gwefan am feini prawf mwy penodol pynciau unigol ar: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau Fel arfer, dylai ymgeiswyr fod wedi pasio TGAU Cymraeg neu Saesneg ar radd C (4) neu’n uwch (neu gyfwerth). Rydyn hefyd yn croesawu amrywiaeth eang o gymwysterau eraill, ac rydyn yn adolygu derbynioldeb cymwysterau newydd yn rheolaidd. Felly, os wyt yn sefyll arholiadau sydd heb eu rhestru, cysyllta â’r Swyddfa Dderbyn. Os yw myfyrwyr yn gallu ychwanegu at eu tair Safon Uwch drwy astudiaethau pellach, er enghraifft, pwnc neu bynciau ychwanegol ar Safon Uwch, cânt eu hannog i wneud hynny. Credwn y gall astudio ychwanegol, ar amrywiaeth o ffurfiau, dy helpu i baratoi ar gyfer galwadau’r brifysgol ond, gan fod gwahanol ysgolion a cholegau’n cynnig ystod a nifer o bynciau gwahanol, fyddi di ddim dan anfantais os nad oes modd i ti wneud hynny.

BAGLORIAETH CYMRU UWCH Rydyn yn croesawu’r cymhwyster Bagloriaeth Cymru Uwch wedi’i graddio a bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion ar sail tair Safon Uwch neu ddwy Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Mae detholiad o Gynigion Prosiect Unigol, sy’n ymwneud ag amrywiaeth o feysydd pwnc ym Mhrifysgol Abertawe, i’w weld ar wefan CBAC hefyd. EPQ* Rydyn yn cydnabod y Cymhwyster Prosiect Estynedig fel dangosydd llwyddiant gwych ar ein cynlluniau astudio. Bydd ymgeiswyr sydd â gradd a ragwelir o B neu uwch drwy EPQ yn derbyn cynnig gyda gostyngiad un radd, er enghraifft byddai cynnig AAB yn golygu ABB yn ogystal â B EPQ. Rydyn yn annog ymgeiswyr i ddisgrifio ymchwil EPQ o fewn datganiad personol UCAS, yn enwedig pan fo’n addas i’w cwrs/gyrfa o ddewis. Newidiadau i gymwysterau mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban: Rydyn yn cydnabod y newidiadau i gymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch yn Lloegr, ynghyd â fframweithiau cymwysterau gwahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

* Nid yw cynigion amodol gwarantedig a gostyngiadau i ymgeiswyr sy’n cynnig gradd B a ragwelir yn EPQ yn berthnasol i gyrsiau proffesiynol a bod gweithdrefnau dethol arferol yn berthnasol. Ar gael i ymgeiswyr Cartref yn unig. Am fanylion llawn o'n Polisi Cynnig Gwarantedig, gweler: abertawe.ac.uk/israddedig/gwneud-cais/cynigion-wedi-gwarantu/

54

Made with FlippingBook Annual report maker