ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

ADDYSG CAMPWS PARC SINGLETON

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

Mae addysg yn ddisgyblaeth flaengar, a arweinir gan ymchwil, sy’n ymwneud â pholisi ac arfer o safbwynt byd-eang. Mae'n faes astudio sy'n datblygu'n gyflym, sy'n seiliedig ar ddisgyblaethau seicoleg, athroniaeth, hanes a'r gwyddorau cymdeithasol gan ganolbwyntio ar ddeall sut y mae pobl yn dysgu ac sut y mae strwythurau addysg yn meithrin dysgu gydol oes a datblygiad personol.

Mae'r cwrs yn ymdrin ag addysg mewn llawer o leoliadau gwahanol gan gynnwys blynyddoedd cynnar, ysgolion, addysg bellach ac uwch, gwasanaethau cymdeithasol a systemau lleol a chenedlaethol. Mae cyflogadwyedd yn thema allweddol a chei gyfle i roi dy astudiaethau ar waith drwy leoliadau gwaith dewisol sy’n cynnwys ysgolion lleol. Fe fyddi di’n astudio'r theori sy'n gysylltiedig â dysgu, addysgu ac asesu ac yn ennill dealltwriaeth o ddylunio cwricwlwm. Bydd hefyd cyfle i astudio cysyniadau addysgu Saesneg fel iaith dramor sy'n canolbwyntio ar y sgiliau a all arwain at gyfleoedd i weithio yn unrhyw le yn y byd.

*

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Mae'r addysgu'n cael ei rannu rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BA Anrhydedd Sengl ▲ Addysg

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Addysg mewn Gwledydd Eraill • Cyflwyniad i Ddysgu ac Addysgu • Datblygiad Plentyn • Materion a Dadleuon Cyfoes mewn Addysg • Meddwl yn Greadigol a Beirniadol mewn Ysgolion Blwyddyn 2 • Anghenion Dysgu Ychwanegol • Anifeiliaid mewn Addysg: Cyflwyniad i Anthrozooleg Addysgol • Cwricwlwm ac Asesu • Diogelu ac Hyrwyddo Lles mewn Addysg • Dulliau Ymchwil mewn Addysg Blwyddyn 3 • Astudiaethau Cwricwlwm • Astudiaethau Plentyndod • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwahaniaeth mewn Addysg • Gwneud Penderfyniadau Cyflogadwyedd a Phrofiad Gwaith • Traethawd Hir

♦ Addysg (gyda Blwyddyn Dramor) ♦ Addysg (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA Prif Bwnc/Is-bwnc Anrhydedd ♦ Ieithoedd Modern gydag Addysg BA Cydanrhydedd ▲ Cymraeg ♦ Cymraeg (gyda Blwyddyn Dramor) ▲  Cymraeg (Llwybr Ail Iaith) ♦  Cymraeg gyda Blwyddyn Dramor (Llwybr Ail Iaith) BSc Cydanrhydedd ▲ Cyfrifiadura* ♦  Cyfrifiadura* (gyda Blwyddyn Dramor)

▲ Mathemateg* ♦  Mathemateg*

(gyda Blwyddyn Dramor) ▲ Seicoleg ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Addysgu’r Blynyddoedd Cynnar • Addysgu Ysgolion Cynradd • Addysgu Ysgolion Uwchradd (ar gyfer rhaglenni cydanrhydedd sy’n gysylltiedig i bynciau craidd)

• Cyhoeddi Addysgol • Datblygu Cymunedol • Gweinyddiaeth Addysg

66

Made with FlippingBook Annual report maker