ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

BYDWREIGIAETH (The Guardian University Guide 2022) YN Y DU 9 FED

BYDWREIGIAETH CAMPWS PARC SINGLETON

Bydd ein gradd mewn Bydwreigiaeth yn dy helpu i ddatblygu'r arbenigedd clinigol a rhyngbersonol er mwyn sicrhau lles corfforol ac emosiynol merch yn ystod ei beichiogrwydd, genedigaeth y plentyn ac ar ôl iddi ddod yn rhiant newydd. Mae'n cyfuno gwaith academaidd â lleoliadau ymarferol ledled De-orllewin Cymru, lle y bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwragedd ac unedau mamolaeth mewn ysbytai.

DIM FFIOEDD DYSGU: Myfyrwyr yDU** Gwna gais am becyn cymorth ychwanegol drwy gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru. (**amodau yn berthnasol) abertawe.ac.uk/benthyciadau-a- grantiau/cwrs-a-ariennir-gan-y-gig Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael

Fel myfyriwr bydwreigiaeth, byddi di’n treulio tua hanner dy gwrs ar leoliadau gwaith clinigol, a fydd yn darparu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnat i ddechrau dy yrfa fel bydwraig. Mae llawer o'n staff academaidd yn fydwragedd cofrestredig sy'n weithgar mewn ymarfer ac ymchwil, gan ddarparu dealltwriaeth broffesiynol ac arbenigedd ymarferol. Mae ein cyfleusterau ardderchog yn cynnwys ystafell glinigol realistig sy'n dy alluogi i roi dy wybodaeth ddamcaniaethol ar waith. Hefyd, bydd cyfleoedd unigryw i ti fagu profiad mewn addysg cynenedigol, ôl-enedigol a chymorth bwydo ar y fron drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a gynigir drwy ein Hacademi Iechyd a Llesiant ar y campws. Pan wyt yn gwneud cais ar gyfer hwn, dylet ddangos dy ddealltwriaeth o rôl y fydwraig a dangos dy ymwybyddiaeth o rai o faterion yn yr arfer bydwreigiaeth cyfredol. Dylai dy gais esbonio pam dy fod ti'n meddwl y byddi di’n fydwraig dda ac yn dangos dy ymrwymiad i fydwreigiaeth fel dy yrfa yn y dyfodol. FEL ARFER MAE'R MODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1

• Beichiogrwydd a'r Fydwraig Broffesiynol • Y Tu Hwnt i Geni: Trosglwyddo i fod yn Rhiant • Y Daith i Geni Blwyddyn 2 • D atblygu Bydwreigiaeth Ymarferol • G ofal Ychwanegol i Fenywod ag Anghenion Cymhleth • R hianta a Gofal Newyddenedigol Cefnogi Anghenion Ychwanegol Blwyddyn 3 • B od yn Fydwraig - Y Gwthiad Olaf • C ydgrynhoi fy Ymarfer Bydwreigiaeth • Y Trydydd Cam: Rheoli Cymhlethdodau Clinigol a Bod yn Gydweithiwr ac Ysgolhaig

Cynigion Cyd-destunol ar gael

Ysgoloriaethau/Bwrsariaethau Cymraeg ar gael

CYNNIG NODWEDDIADOL: BBB

Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BMid Anrhydedd Sengl ▲ Bydwreigiaeth ▲ 3 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: Cyflog cychwynnol y GIG ar gyfer Bydwragedd yw £25,654 (Band 5). Yn ystod gyrfa, gall y cyflog godi i £45,838.

Darllen ein canllaw pwnc yma:

Mae achrediadau'n cynnwys:

• A deiladu Sylfeini ar gyfer Fy Ymarfer Bydwreigiaeth

79

Made with FlippingBook Annual report maker