ISRADDEDIG 2023 PRIFYSGOL ABERTAWE

Blwyddyn Sylfaen ar gael – am fanylion llawn, gweler tudalennau 58-63 Cyfleoedd Byd-eang ar gael † C yfleoedd Lleoliad Gwaith neu Interniaeth ar gael RHAGOLYGON GRADDEDIGION (Complete University Guide 2022) YN Y DU 12 FED

CYFRIFEG A CHYLLID CAMPWS Y BAE & CAMPWS PARC SINGLETON

Wyt ti’n chwilio am radd mewn Cyfrifeg a Chyllid a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i ti? Os hoffet ddilyn gyrfa yn un o'r pedwar cwmni mawr (Deloitte, Ernst & Young, KPMG neu PwC), neu os wyt yn gweld dy hun yn gweithio fel cyfrifydd i un o gyrff y llywodraeth, sefydliad dielw, neu fusnes preifat, bydd y radd hon yn rhoi popeth sydd ei angen arnat i ti.

Rydyn yn cynnig gradd hyblyg gyda detholiad eang o fodiwlau dewisol yn ystod blynyddoedd diweddarach dy astudiaethau, gan dy alluogi i lywio'r cwrs gradd tuag at dy nodau gyrfa. Byddi di’n datblygu sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd megis cyfathrebu, datrys problemau a dadansoddi data, a byddi di’n rhwydweithio ag ymarferwyr proffesiynol ym mhob cam o dy astudiaethau. Caiff ein haddysgu ei lywio gan ymchwil arloesol a gwybodaeth am ddiwydiant, a bydd academyddion arbenigol yn dy helpu i feithrin y sgiliau sy'n hanfodol i dy berfformiad yn y sector cyfrifyddu a chyllid. Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhoi'r cyfle perffaith i ti ennill profiad diwydiant y byd go iawn, gan dy wneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Wyt ti eisiau blwyddyn fythgofiadwy yn ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn; yn broffesiynol ac yn bersonol ? Mae Blwyddyn Dramor hefyd yn gyfle sydd ar gael i ti.

FEL ARFERMAE'RMODIWLAU SY'N CAEL EU HASTUDIO'N CYNNWYS: Blwyddyn 1 • Economeg ar gyfer Cyfrifeg a Chyllid • Rheoli Pobl a Gweithredoedd • Sylfeini Cyllid • Sylfeini Cyfrifeg Ariannol • Sylfeini Cyfrifeg Rheoli Blwyddyn 2 • Buddsoddiadau: Asedion; Ecwitïau a Bondiau • Cyfrifeg Ariannol • Cyllid Corfforaethol • Marchnadoedd a Sefydliadau Ariannol Blwyddyn 3 • Bancio Buddsoddi • Cloddio Data • Cyfrifeg Fforensig • Gwasanaethau Ariannol • Rheolaeth Ariannol Ryngwladol

CYNNIG NODWEDDIADOL: ABB-BBB Rhestrir y manylion llawn am y gofyniad mynediad a nodweddion y cwrs yn y Grid Cyfeirnodi Cyrsiau (tudalen 167) †

BSc Anrhydedd Sengl ▲ ♦ Cyfrifeg ▲ ♦ Cyfrifeg a Chyllid ▲ ♦ Cyllid

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL: • Archwilydd • Brocer • Cyfrifydd • Dadansoddwr Cyllid • Gweithiwr Bancio Proffesiynol • Rheoli Cyfoeth neu Gynghorydd Buddsoddi • Y mgynghoriaeth Fusnes ♦  Gellir ymestyn ein holl gyrsiau 3 blynedd i 4 blynedd i'w cynnwys: (Blwyddyn Sylfaen) neu (Blwyddyn mewn Diwydiant/Dramor) ▲ 3 BLYNEDD ♦ 4 BLYNEDD Am y codau UCAS unigol, gweler tudalen we’r cwrs

Mae achrediadau'n cynnwys: (yn amodol ar ddewis modiwl)

82

Made with FlippingBook Annual report maker