Eich Diwrnod Arbennig ym Mro Morgannwg
Your Special Day in the Vale of Glamorgan
2
Eich Diwrnod Arbennig ym Mro Morgannwg
Dywedasoch ‘GWNAF’ Felly beth nesaf?
Ble? Porwch ein lleoliadau i ddod o hyd i’ch lleoliad perffaith
Tudalennau 4-8
Pryd? Nodwch eich dyddiad a dewiswch eich seremoni
Tudalen 10
Sut? Archebwch eich diwrnod mawr gyda’ch lleoliad a’ch cofrestrydd
Tudalen 12
Unrhyw beth arall? Rhowch rhybudd cyfreithiol gyda’ch gwasanaeth cofrestru lleol
Tudalen 14
Ac wedyn…? Porwch ein cyflenwyr dibynadwy am ysbrydoliaeth a mwynhewch eich cynllunio!
Tudalen 16
Bobbie Lee Photography
“ Cawsom gofrestryddion gwych yn ein priodas ac ni allwn ddiolch digon iddyn nhw am y gwasanaeth y gwnaethon nhw ei ddarparu. ”
3
Your Special Day in the Vale of Glamorgan
You said ‘ YES ’ So what next?
Where? Browse our venues to find your perfect location
Pages 5-9
When? Set your date & choose your ceremony
Page 11
How? Book your big day with your venue and registrar
Page 13
Anything else? Give legal notice with your local registration service
Page 15
And then…? Browse our suppliers for inspiration and enjoy your planning!
Pages 17
Oliver Jones Photography
“ We had wonderful registrars at our wedding and cannot thank them enough for the service they provided. ”
4
Ble? Porwch ein lleoliadau i ddod o hyd i’ch lleoliad perffaith
Mae’r ystafelloedd hyn yn elwa o: • System seinydd Bluetooth • Maes parcio • Mynediad gwastad • Addurn llachar, modern • Opsiynau personoli e.e. llwncdestun cyntaf di-alcohol, conffeti bioddiraddadwy
Swyddfeydd Dinesig yn Y Barri - Dewiswch o seremoni sylfaenol yn ein Swyddfa Gofrestru (2 westai ynghyd â thystion) neu Ystafell Southerndown (hyd at 20 o westeion). Neu dewiswch seremoni uwch yn Yystafell Southerndown (hyd at 20 o westeion) neu Ystafell Dunraven (hyd at 75 o westeion). Yn caniatáu nifer o opsiynau personoli.
Southerndown Room
Dunraven Room
5
Where? Browse our venues to find your perfect location
These rooms benefit from: • Bluetooth speaker system
Civic Offices in Barry - Choose from a basic ceremony in our Register Office (2 guests plus 2 witnesses) or the Southerndown Room (up to 20 guests). Or opt for an enhanced ceremony in our Southerndown Room (up to 20 guests) or Dunraven Room (up to 75 guests).
• Car parking • Level access • Bright, modern décor • Personalised options e.g. non-alcoholic first toast, biodegradable confetti
Southerndown Room
Dunraven Room
Dunraven Room
6
Lleoliadau Bro Morgannwg
Cytiau Traeth – Ynys y Barri, Bae Whitmore.
unigryw i’r Pier ei hun hefyd ar gael. Trwyddedig i gynnal seremonïau sifil; Priodasau a phartneriaethau sifil rhwng 10 a 110 o westeion.
Mae’r cytiau traeth yn Ynys y Barri yn lleoliad unigryw ar gyfer eich seremoni. Gyda golygfeydd di-dor o’r môr, gwnewch eich addunedau y tu mewn i gwt neu yn un o’n hardaloedd awyr agored hardd. Parhewch â’ch diwrnod gyda ffair glan môr draddodiadol yn un o’r bwytai lleol gwych neu cadwch hi’n glasurol gyda phicnic ar y traeth.
Parc Gwledig Porthceri – Porthceri, Y Barri.
Cynhaliwch eich seremoni yn y porthdy pren hardd neu yn yr ardd gyfagos lle cewch olygfa o’r draphont ysblennydd. Bydd y parc, sy’n cynnwys 220 erw o goedwigoedd a gweirgloddiau mewn dyffryn cysgodol sy’n arwain at draeth cerrig mân a chlogwyni ysblennydd, yn gefndir i’ch ffotograffiaeth syfrdanol.
Pafiliwn y Pier – Penarth.
Pafiliwn Pier Penarth yw’r lleoliad mwyaf eiconig gyda golygfeydd môr ysblennydd ar draws Môr Hafren. Y tu mewn, mae gan y Pafiliwn sawl man rhamantus i chi a’ch gwesteion eu mwynhau, ac yn y nos, mae mynediad
Beach Huts
Beach Huts
Berren Rees Photography
Pier Pavilion
Berren Rees Photography
7
Vale of Glamorgan Venues
Beach Huts – Barry Island, Whitmore Bay.
evening, exclusive access to the Pier itself is also available. Licensed to host civil ceremonies; weddings and civil partnerships from 10 to 110 guests.
The beach huts at Barry Island provide a unique venue for your ceremony. With uninterrupted sea views, make your vows inside a hut or in one of our beautiful outdoor areas. Continue your day with traditional seaside fayre at one of the fantastic local eateries or keep it classic with a picnic on the beach.
Porthkerry Country Park – Porthkerry, Barry.
Hold your ceremony in the beautiful wooden lodge or in the adjoining garden where you’ll have a view of the spectacular viaduct . The park, comprising of 220 acres of woods and meadowland in a sheltered valley leading to a pebble beach and spectacular cliffs, will supply the backdrop to your stunning photographs.
Pier Pavilion – Penarth.
Penarth Pier Pavilion is the most wonderfully iconic venue with spectacular sea views across the Bristol Channel. Inside, the Pavilion has several romantic spaces for you and your guests to enjoy, and in the
Porthkerry Country Park
Porthkerry Country Park
Pier Pavilion
8
Adeiladau Cymeradwy
Beach Huts https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/ enjoying/Coast-and-Countryside/Barry- Island-Beach-Huts.aspx Bear Hotel https://townandcountrycollective.co.uk/ the-bear-home/ Cobbles Kitchen & Deli https://cobbleskitchen.co.uk/ Coed Hills Rural Artspace https://www.coedweddings.co.uk/ Cosmeston Lakes https://www.valeofglamorgan.gov.uk/ en/enjoying/Coast-and-Countryside/ Weddings-at-Country-Parks.aspx Cottrell Park Golf Resort https://cottrellpark.com/weddings/ Cowbridge Town Hall https://www.cowbridge-tc.gov.uk/about- the-council/news-updates/town-hall-as-a- wedding-venue/ Duke of Wellington https://www.dukeofwellingtoncowbridge. co.uk/ Duffryn Mawr Farm https://thesecretgardenatduffrynmawr. co.uk/
Dyffryn Springs http://www.dyffrynsprings.co.uk/ Gileston Manor https://gilestonmanor.co.uk/ Glyndwr Vineyard https://www.glyndwrvineyard.co.uk/ Goodsheds https://www.goodshedsbarry.co.uk/ weddings-events/ Hensol Castle http://www.hensolcastle.com Heritage Coast Campsite https://heritagecoast.uk/ Holm House https://www.holmhousehotel.com/ weddings/ Llandough Castle Gardens https://www.llandoughcastle.co.uk/ Llanerch Vineyard https://llanerch.co.uk/weddings Ogmore by Sea Village Hall http://www.ogmorebyseavillagehall.cymru Paget Rooms http://www.penarthtowncouncil.gov.uk
9
Approved Premises
Penarth Masonic Hall https://www.penarthmasonichall.co.uk/ Penarth Pier Pavilion http://www.penarthpierpavilion.com Porthkerry Park https://www.valeofglamorgan.gov.uk/en/ enjoying/Coast-and-Countryside Rosedew Farm http://www.rosedewfarm.co.uk St Donats Castle https://www.uwcatlanticexperience. com/experiences/wedding-private-hire/ weddings/ Sully Sports & Social Club http://www.sullysportsclub.com/ Sutton Mawr Farm www.facebook.com/suttonmawrfarm Th e Deck https://thedeckpenarth.co.uk/ The Gallery https://www.thegallery.wales/weddings The Mount Rooms http://www.themountrooms.co.uk The Old School https://llantwitmajortowncouncil.gov.uk/ hiring-wedding-packages/
The Turner House https://turnerhouse.wales/ The West House
https://townandcountrycollective.co.uk/ the-west-house-home/the-west-house- weddings/ Vale Resort & Hensol Castle https://www.valeresort.com/weddings/ Wenvoe Castle Golf Club https://wenvoecastlegolfclub.co.uk/ West Farm Southerndown https://www.westfarmsoutherndown.com/ weddings West House Penarth Town Council https://www.penarthtowncouncil.gov.uk/ our-services/hire-a-venue/west-house-the- community-hub/
10
Pryd? Nodwch eich dyddiad a dewiswch eich seremoni
Dewiswch eich dyddiad – mae’n well cael rhai opsiynau mewn golwg os gallwch, rhag ofn bod eich lleoliad dewisol yn brysur.
ben-blwydd arbennig, ac mae’n esgus gwych am barti! Efallai fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ers eich seremoni gyntaf, a’ch bod eisiau ail-fyw’r diwrnod. Neu efallai ei bod yn fwy diweddar gyda llai o westeion nag y byddech wedi’i ddymuno. Beth bynnag yw’r rheswm - nodwch ddyddiad, archebwch Gofrestrydd, dewch â’ch anwyliaid at ei gilydd a byddwn yn sicrhau ei fod yn ddiwrnod i’w gofio! Enwi neu Ddathlu Teulu – Dathlwch ddyfodiad babi neu blentyn newydd, drwy enedigaeth, mabwysiadu neu uno teuluoedd – gyda seremoni enwi neu ddathlu teulu hyfryd. Mae’n gyfle gwych i ddod â’ch teulu a’ch ffrindiau i gwrdd ag aelodau(au) mwyaf newydd eich teulu. Dewis iaith – Gallwn gynnal eich seremoni yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog. Beth bynnag sydd orau gennych, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn archebu.
Dewiswch eich seremoni -
Priodas – Yn llawn traddodiad ond yn ddigon hyblyg i’ch galluogi i wneud eich peth eich hun. Bydd ein cynllunydd seremoni ar-lein yn eich galluogi i deilwra cynnwys eich seremoni tra’n sicrhau bod yr holl elfennau cyfreithiol yn cael eu cynnwys. Partneriaeth Sifil – Dewis modern gyda hyd yn oed mwy o hyblygrwydd; nid oes angen seremoni i ffurfio partneriaeth sifil. Mae hyn yn golygu y gallwch chi a’ch tystion lofnodi eich dogfen a mynd. Ond, os ydych eisiau cyfnewid addewidion mewn seremoni, gyda pharti i ddilyn, mae hynny’n iawn hefyd. Chi sy’n dewis y cyfan! Defnyddiwch ein cynllunydd seremoni i’w wneud yn bersonol i chi. Adnewyddu Addewidion neu Ddathlu Priodas – Mae hyn yn ffordd hyfryd o nodi dathliad nodedig neu
Bobbie Lee Photography
11
When? Set your date & choose your ceremony
Pick your date – it’s best to keep a few options in mind, in case your chosen venue is busy.
birthday, and it’s a great excuse for a party! Perhaps many years have passed since your first ceremony, and you’d like to relive the day. Or maybe it was more recent with fewer guests than you’d have liked. Whatever the reason – set a date, book a Celebrant, get your loved ones together and we’ll make sure it’s a day to remember! Naming or Celebration of Family – Celebrate the arrival of a new baby or child, by birth, adoption or joining of families – with a beautiful naming or celebration of family ceremony. It’s an amazing opportunity to bring your family and friends together to meet the newest member(s) of your family. Language choice – We can conduct your ceremony in English, Welsh or bilingually. Whatever you prefer, just let us know when you book.
Choose your ceremony –
Marriage – Steeped in tradition but flexible enough to allow you to do your own thing, Our online ceremony planner will enable you to tailor your ceremony content while ensuring that all the legal elements are covered. Civil Partnership – A modern option with even greater flexibility; there’s no need for a ceremony to form a civil partnership. This means that you and your witnesses can sign your document and go. But, if you want to exchange promises in a ceremony, and follow it with a party, that’s fine too. It really is all up to you! Use our ceremony planner to make it yours. Vow Renewal or Celebration of Marriage – This is a lovely way to mark a landmark anniversary or special
Bobbie Lee Photography
Bobbie Lee Photography
12
Sut? Archebwch eich diwrnod mawr gyda’ch lleoliad a’ch cofrestrydd
Ar ôl i chi ddewis lleoliad ac archebu eich dyddiad dewisol, mae’n bryd archebu’ch cofrestrydd. Dyma sut i gysylltu â ni: • Defnyddiwch ein ffurflen Ymholiad ar ein gwefan, • E-bostiwch ni yn registrationService@
Gwybodaeth bwysig:
Amser: Amseroedd ein seremonïau yw: 10am, 12 canol dydd, 1.30pm, 3pm a 5pm. Felly, bydd angen i chi benderfynu faint o’r gloch yr hoffech fod yn cerdded i lawr yr eil. Os hoffech gael seremoni gyda’r nos, cysylltwch am fwy o wybodaeth. Cost: Rydym yn diweddaru ein gwefan gyda ffioedd am hyd at 3 blynedd i’r dyfodol. Ewch i www. yourvaleceremony.co.uk i weld y dudalen we ar gyfer eich seremoni ddewisol.
valeofglamorgan.gov.uk neu • Ffoniwch ni ar 01446700111.
Bobbie Lee Photography
13
How? Book your big day with your venue and registrar
Once you’ve made your venue choice and checked on available dates, it’s time to book your registrar. Here’s how to contact us: • Use our website Enquiry form, • Email us at registrationservice@valeofglamorgan. gov.uk or • Call us on 01446 700111.
Important information:
Time: Our ceremony times are: 10am, 12noon, 1.30pm, 3pm and 5pm. So, you’ll need to decide what time you’d like to be walking down the aisle. If you’d like an evening or bespoke ceremony, get in touch for more information. Cost: We keep our website updated with fees for up to 3 years in the future. Visit www.yourvaleceremony.co.uk to check the webpage for your chosen ceremony.
Sacha Miller
14
Unrhyw beth arall? Rhowch rhybudd cyfreithiol gyda’ch gwasanaeth cofrestru lleol
Bobbie Lee Photography
Os ydych yn bwriadu priodi neu ffurfio partneriaeth sifil, bydd angen i chi roi hysbysiad cyfreithiol yn eich swyddfa gofrestru leol. Gellir gwneud hyn hyd at 29 diwrnod cyn y diwrnod mawr ond gellir ei wneud unrhyw bryd yn y flwyddyn flaenorol. Gallwch ddod o hyd i’ch swyddfa gofrestru leol trwy chwilio ar Gov.uk. I gael y cyngor diweddaraf ar roi rhybudd, chwiliwch Gov. uk am ‘briodas’ a chliciwch ar ‘Rhoi rhybudd’ fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am y broses yno.
“ Roeddwn i’n hoffi’r ffaith doedd ein seremoni ddim yn rhy draddodiadol (rhywbeth doedden ni ddim wir ei eisiau) a’i bod yn teimlo’n bersonol iawn i ni. Roedd y geiriau’n ystyrlon iawn a dywedodd ein gwesteion ei bod yn wirioneddol hyfryd. Roedd ein cofrestryddion yn anhygoel ac yn arbennig wedi tawelu fy nerfau ymlaen llaw! ”
15
Anything else? Give legal notice with your local registration service
Bobbie Lee Photography
If you’re planning a marriage or civil partnership ceremony, you’ll need to give legal notice at your local register office. The latest this can be done is 29 days prior to the big day but we suggest notice is given earlier, say six to nine months before the ceremony. You can find your local register office by searching on Gov. uk. For the most up to date advice on giving notice, search Gov.uk for ‘marriage’ and click on ‘Give notice’ you’ll find everything you need to know about the process there.
“ I liked that our ceremony wasn’t too traditional (something we didn’t really want) and felt very personal to us. The words were very meaningful and our guests said it was really lovely. Our registrars were amazing and especially really calmed my nerves beforehand! ”
16
Ac wedyn…? Porwch ein tudalennau cyflenwyr am ysbrydoliaeth, defnyddiwch ein rhestr wirio ddefnyddiol i sicrhau bod popeth wedi ei gynnwys a mwynhewch y cynllunio!
“Mae gweinyddu mewn priodas yn fraint ac mae bob amser yn rhoi teimlad o foddhad aruthrol i mi yn fy ngwaith.” Dulyn - Cofrestrydd
Bobbie Lee Photography
17
And then…? Browse our supplier pages for inspiration, use our handy checklist to make sure everything is covered and enjoy your planning!
“Officiating at a wedding is a privilege and always gives me a feeling of immense satisfaction in my work” Dulyn – Registrar
Sacha Miller
18
Hensol Castle
Yn swatio o fewn 650 erw yng nghefn gwlad hardd Cymru mae’r lleoliad stori dylwyth teg o’r 17eg ganrif, Castell Hensol. Mae’r lleoliad priodas mawreddog hwn ym Mro Morgannwg, wedi cael ei adnewyddu mewn ffordd sympathetig ac mae’n cynnwys cymysgedd o addurniadau cyfoes a phensaernïaeth y cyfnod - ffenestri bwaog, paneli derw a grisiau trawiadol. Yn unigryw i chi am y diwrnod, mae’n rhaid gweld Castell Hensol i’w gredu! Mae’r Ystafell Dderw ysblennydd yn berffaith ar gyfer seremonïau a cheir golygfeydd gwefreiddiol o’r llyn 15 erw a’r pontwˆn sy’n creu cefndir trawiadol ar gyfer y lluniau hollbwysig hynny. Neu, gall cyplau nawr fod yn rhan o gefn gwlad trawiadol Cymru mewn seremoni awyr agored ramantus o dan y llwyfan bandiau hyfryd. Mae gan bob twll a chornel o’r lleoliad ysblennydd hwn gilfachau a mannau cudd ar gyfer lluniau priodas unigryw, neu hyd yn oed i fwynhau eiliad dawel a chael saib fel pâr priod newydd. Cynhelir derbyniadau yn Neuadd fodern y Cwrt, sydd wedi ei haddurno’n foethus gyda lle i 150 o ffrindiau ac anwyliaid ar gyfer y brecwast priodas a 200 ar gyfer y derbyniad gyda’r nos. Mae’r tîm yng
Nghastell Hensol yn credu y dylai’r prydau a weinir ym mhob brecwast priodas fod yn eithriadol, a dyna pam mae eu cogyddion yn ymrwymo i sicrhau bod bwydlen pob priodas mor flasus â’i gilydd. Mae pob plât yn berffaith. Yna, pan fyddant yn barod, gall y gwesteion symud i un o’r ystafelloedd gwely moethus a chwbl unigryw, bob un â nodweddion hardd a phwrpasol yn addas i deulu brenhinol; meddyliwch am faddonau dwfn a gwelyau pedwar postyn. Hefyd, os yw’r pâr pwysig yn hoffi jin, mae Castell Hensol yn cynnig poteli bach o’u jin Sych, Orennau Gwaed neu Mefus a Hibisgws o Gymru fel rhodd i westeion! Wedi ei wneud yn eu distyllfa ar y safle, mae’r rhoddion priodas hyn ar gael gyda labeli brand safonol neu bersonol gyda manylion y briodas i greu cofrodd berffaith o’r diwrnod. I holi am gael eich priodas tylwyth teg yng Nghastell Hensol ewch i www.hensolcastle.com neu cysylltwch â nhw ar 01443 665803 | sales@hensolcastle.com.
19
Hensol Castle
Nestled within 650 acres of beautiful Welsh countryside is the 17 th century fairytale venue, Hensol Castle. This grand wedding venue, based in the Vale of Glamorgan, has been sympathetically renovated and boasts a mixture of contemporary décor with period architecture - arched windows, oak panelling and sweeping staircases. Exclusively yours for the day, Hensol Castle really has to be seen to be believed! The resplendent Oak Room is perfect for ceremonies and boasts impressive views of the 15-acre lake and pontoon which makes a stunning backdrop for those all-important photographs. Alternatively, couples can now take in the breath-taking Welsh countryside in a romantic outdoor ceremony under the gorgeous bandstand. Each area of this spectacular venue has hidden nooks and spaces for unique wedding photos, or even to enjoy a quiet moment and take a breather as a newly married couple. Receptions are held in the modern Courtyard Hall, which has luxurious décor throughout and space for 150 friends and loved ones for the wedding breakfast and 200 for the evening reception. The
team at Hensol Castle believe that the meals served at every wedding breakfast should be something exceptional, which is why their chefs are dedicated to making sure each and every wedding menu is as delicious as the other. No plate is short of perfection. Then, when ready, guests can retire to one of the luxuriously appointed and completely unique bedrooms, each with beautiful and bespoke features fit for Royalty; think roll top baths and four poster beds. Plus, if the special couple are gin enthusiasts, Hensol Castle offer miniature bottles of their award-winning Welsh Dry, Blood Orange or Strawberry and Hibiscus flavoured gin as gifts for guests! Made in their very own onsite distillery, these ‘gin’spirational wedding favours are available with standard branded labels or personalised with the wedding details to make the perfect momento of the day. To enquire about having your fairytale wedding at Hensol Castle visit www.hensolcastle.com or contact them on 01443 665803 | sales@hensolcastle.com.
20
Penarth Masonic Hall
Croeso i Neuadd y Seiri Rhyddion Penarth – lle mae bwyd gwych, ffrindiau gwych, a lleoliad gwych yn dod at ei gilydd. Mae’r adeilad treftadaeth art deco cain hwn o 1927 wedi cael ei adnewyddu’n helaeth sy’n gwneud Neuadd y Seiri Rhyddion Penarth yn un o’r lleoliadau priodas gorau yn Ne Cymru. Gallant ddarparu ar gyfer partïon o hyd at 140 yn gyfforddus ar gyfer cinio a derbyniad gyda’r nos. Bydd eu cydlynydd priodasau yn teilwra pecyn pwrpasol wedi ei deilwra i’ch gofynion unigol a bydd ar gael bob cam o’r ffordd tan eich diwrnod arbennig. Mae’r gwasanaethau ategol yn cynnwys Derbyniad Carped Coch ar gyfer y Pâr Priod, Napcynau a goleuadau LED o’r un lliw, defnydd unigryw o’r cyfleusterau a llawer mwy i wneud eich diwrnod yn ddi-drafferth.
Byddwch chi a’ch gwesteion yn symud yn llyfn rhwng Bar Penarth, Lolfa’r Barbariaid, y Deml Fawr, ac Ystafell Ddawns Plymouth tra bod y staff y tu ôl i’r llenni yn darparu priodas eich breuddwydion. Bydd bwydydd a gwinoedd rhagorol, gyda gwasanaeth cyfeillgar yn creu diwrnod y byddwch chi a’ch partner yn ei gofio am byth. Priodasau yw eu harbenigedd. Cysylltwch i drafod eich diwrnod arbennig.
55 Stanwell Road, Penarth CF64 3LR Ffôn: 02920 709330 E-bost: query@penarthmasonichall.co.uk Gwefan:www.penarthmasonichall.co.uk FB: penarthmasonichall
21
Penarth Masonic Hall
Welcome to Penarth Masonic Hall – where great food, great friends, and a great venue come together. This splendid, elegant 1927 art deco heritage building has undergone an extensive refurbishment that makes Penarth Masonic Hall one of the finest wedding venues in South Wales. They can comfortably accommodate parties of up to 140 for dinner and for an evening reception. Their Wedding co-ordinator will tailor a bespoke package personalised to your individual requirements and will be available every step of the way until your special day. The complimentary services include a Red Carpet Reception for the Bride and Groom, Colour co-ordinated Napkins and LED lighting, exclusive use of the facilities and much more to make your day go without a hitch.
You and your guests move seamlessly between the Penarth Bar, the Barbarians’ Lounge, the Grand Temple, and the Plymouth Ballroom while their staff behind the scenes are making it what you dreamed of. Excellent food and wines, with friendly service will create a day you and your partner will remember forever. Weddings are their speciality. Get in touch to chat about your special day.
55 Stanwell Road, Penarth CF64 3LR Tel: 02920 709330 Email: query@penarthmasonichall.co.uk Web: www.penarthmasonichall.co.uk FB: penarthmasonichall
22
Penarth Pier Pavilion
Penarth Pier Pavilion
Penarth Pier Pavilion offers spectacular sea views and several romantic spaces for you and your guests to enjoy. Licensed for civil ceremonies; weddings and civil partnerships for 10 to 110 guests, the iconic Pavilion is the perfect location for your special day, with dedicated staff to ensure your wedding runs seamlessly. Their experienced team look forward to hearing from you – call today to arrange a viewing of this beautiful venue!
Pafiliwn Pier Penarth, y mwyaf rhamantus o leoliadau gyda golygfeydd ysblennydd o’r môr i chi a’ch gwesteion eu mwynhau. Wedi’i drwyddedu ar gyfer seremonïau sifil; priodasau a phartneriaethau sifil ar gyfer 10 i 110 o westeion, mae’r Pafiliwn eiconig yn lleoliad perffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig, gyda staff ymroddedig i sicrhau bod eich priodas yn rhedeg yn esmwyth. Mae eu tîm profiadol yn edrych ymlaen at glywed gennych – ffoniwch heddiw i drefnu ymweliad â’r lleoliad hyfryd hwn! Yr Esplanâd, Penarth, CF64 3AU Ffôn: 01446 725236 E-bost: pavilion@valeofglamorgan.gov.uk
The Esplanade, Penarth CF64 3AU Tel: 01446 725236 Email: pavilion@valeofglamorgan.gov.uk
Penarth Town Council
Penarth Town Council
With some of Penarth’s most individual venues, Penarth Town Council provides a unique occasion. Whether you’re considering the intimate setting of the Mayor’s Parlour in West House, the light, elegant space of The Turner House gallery or the art deco drama of the Paget Rooms, you’ll have chosen a magical venue for your ceremony. Working with local suppliers, supporting the local community, they can provide an accessible, flexible wedding day that’s as unique as every relationship.
Gyda rhai o leoliadau mwyaf unigryw Penarth, mae Cyngor Tref Penarth yn darparu achlysur unigryw. P’un ai eich bod yn ystyried lleoliad personol Parlwr y Maer yn West House, gofod golau, chwaethus oriel Turner House neu art deco dramatig y Paget Rooms, byddwch wedi dewis lleoliad hudolus ar gyfer eich seremoni. Gan weithio gyda chyflenwyr lleol, yn cefnogi’r gymuned leol, gallant ddarparu diwrnod priodas hygyrch, hyblyg sydd mor unigryw â phob perthynas. Ffôn: 02920 700721 E-bost: bookings@penarthtowncouncil.gov.uk Gwefan: www.penarthtowncouncil.gov.uk/gettingmarried/
Tel: 02920 700721 Email: bookings@penarthtowncouncil.gov.uk Web: www.penarthtowncouncil.gov.uk/gettingmarried/
23
Heritage Coast Campsite
Heritage Coast Campsite
Heritage Coast Campsite is a one off unique outdoor venue, situated within the famous Heritage Coast, which is ideal for couples who want the freedom to have something truly special for their wedding day. The venue gives you the opportunity to personalise your day, by adapting the site area to suit your needs; from a Magical Classic Wedding in beautiful surroundings, to a fun summer ‘Wedding Festival’, the space is made bespoke for you, but always with the backdrop of uninterrupted coastal and countryside views. The team are always on hand to give you ideas and help you to create your dream wedding. The Home Paddock provides guest camping accommodation and has a cafe and a bar while the Brook Paddock is perfect for setting up your wedding marquee. With fairy lights and subtle lighting this really is an enchanting venue. Y Felin Fach, Monknash, Vale of Glamorgan CF71 7QQ. Tel: 01656 890399 Email: info@heritagecoastcampsite.com Web: www.heritagecoast.uk
Mae Maes Gwersylla’r Arfordir Treftadaeth yn lleoliad awyr agored unigryw, wedi’i leoli o fewn yr Arfordir Treftadaeth enwog, sy’n ddelfrydol ar gyfer cyplau sydd eisiau’r rhyddid i gael rhywbeth gwirioneddol arbennig ar gyfer diwrnod eu priodas. Mae’r lleoliad yn rhoi’r cyfle i chi bersonoli eich diwrnod, trwy addasu ardal y safle i weddu i’ch anghenion; o Briodas Glasurol Hudolus mewn amgylchedd hardd, i ‘Wyl Briodas’ haf llawn hwyl, mae’r gofod wedi’i wneud yn bwrpasol ar eich cyfer chi, ond bob amser gyda golygfeydd arfordirol a chefn gwlad yn gefndir di-dor. Mae’r tîm bob amser wrth law i roi syniadau i chi a’ch helpu i greu eich priodas ddelfrydol. Mae The Home Paddock yn darparu llety gwersylla i westeion ac mae ganddo gaffi a bar tra bod Brook Paddock yn berffaith ar gyfer sefydlu eich pabell briodas. Gyda goleuadau tylwyth teg a goleuadau cynnil mae hwn yn lleoliad hudolus. Y Felin Fach, Monknash, Vale of Glamorgan CF71 7QQ. Ffôn: 01656 890399 E-bost: info@heritagecoastcampsite.com Gwefan: www.heritagecoast.uk
24
Dyffryn Springs
They do weddings your way. Dyffryn Springs
Maen nhw’n gwneud priodasau eich ffordd chi.
Dyffrin Springs new marquee in the heart of the Vale of Glamorgan comes complete with a state-of-the-art polished concrete floor, bespoke LED lighting and a starlight roof. An entire wall of glass looks out on to our lakes, so you can dine, celebrate and dance in front of panoramic views of nature. Think of the marquee as a blank canvas so you can create exactly what you want - from the table configuration through to the colour of the lights! Their experienced team will help you craft the perfect day from start to finish. With over 60 years in delivering perfect weddings, this wedding dream team will do everything they can to make your day totally unique. From global street food through to traditional silver service, the fantastic catering team can craft your menu to be as individual as you like!
Mae pabell fawr newydd Dyffryn Springs yng nghanol Bro Morgannwg yn cynnwys llawr concrid gloyw, goleuadau LED pwrpasol a tho golau’r sêr. Mae wal gyfan o wydr yn edrych dros ein llynnoedd, er mwyn i chi allu ciniawa, dathlu a dawnsio gyda golygfeydd panoramig o fyd natur. Meddyliwch am y babell fawr fel cynfas gwag i chi allu creu unrhyw beth - o drefn y byrddau i liw y goleuadau! Bydd eu tîm profiadol yn eich helpu i greu’r diwrnod perffaith o’r dechrau i’r diwedd. Gyda thros 60 mlynedd yn cynnal priodasau perffaith, bydd y tîm priodasau medrus yma yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud eich diwrnod yn gwbl unigryw. O fwyd stryd byd-eang i wasanaeth gweini traddodiadol, gall y tîm arlwyo rhagorol wneud eich bwydlen mor unigryw ag y dymunwch!
Home Farm, Dyffryn, Wenvoe, Cardiff CF5 6SU Ffôn: 029 2059 5929 E-bost: info@dyffrynsprings.co.uk Gwefan: www.dyffrynsprings.co.uk
Home Farm, Dyffryn, Wenvoe, Cardiff CF5 6SU Tel: 029 2059 5929 Email: info@dyffrynsprings.co.uk Web: www.dyffrynsprings.co.uk
Bobbie Lee Photography
25
The Gallery
The Gallery
The Gallery events in Barry is perfect for your romantic, intimate wedding. Celebrate with your closest friends and family as you share special moments saying I do, in a lovely close intimate ceremony. Weather permitting you can be married in the beautiful Italian Courtyard, with its amazing water features, pond, lights, and botanical trees. Or if you would prefer an indoor wedding, there is a romantic wedding room. They will work with you throughout the process from handpicking food menus to wow your guests to choosing colours and themes for their exceptional spaces. They can also offer bespoke floristry, in house cakes and a selection of handpicked decorations. The Gallery aim to make each moment exclusively yours, and tailor your perfect wedding your way. Look no further for a relaxed, personal, and intimate atmosphere for you and your guests. 2 Broad Street, Barry CF62 7AA. Tel: 07801 978676 Email: thegallery.wales@gmail.com Web: www.thegallery.wales FB: https://www.facebook.com/gallerycoffeehouseandevents IG: thegallerycoffeehouseandevents
Mae The Gallery yn y Barri yn berffaith ar gyfer priodas fach ramantus.
Dathlwch gyda’ch ffrindiau a’ch teulu agosaf wrth i chi rannu eiliadau arbennig yn dweud Gwnaf, mewn seremoni bersonol, glos. Os bydd y tywydd yn caniatáu, gallwch briodi yn y cwrt Eidalaidd hardd, gyda’i nodweddion dwˆr anhygoel, pwll, goleuadau, a choed botanegol. Neu os byddai’n well gennych briodas dan do, mae yna ystafell briodas ramantus. Byddant yn gweithio gyda chi drwy gydol y broses, o ddewis bwydlenni i greu argraff ar eich gwesteion i ddewis lliwiau a themâu ar gyfer eu gofod eithriadol. Gallant hefyd gynnig blodau pwrpasol, eu cacennau eu hunain a detholiad o addurniadau wedi eu dewis yn uniongyrchol. Nod The Gallery yw gwneud pob eiliad yn bersonol i chi, a theilwra eich priodas berffaith yn eich ffordd chi. Does dim angen edrych unrhyw le arall am awyrgylch hamddenol, personol a chlos i chi a’ch gwesteion. 2 Broad Street, Barry CF62 7AA. Ffôn: 07801 978676 E-bost: thegallery.wales@gmail.com Gwefan: www.thegallery.wales FB: https://www.facebook.com/gallerycoffeehouseandevents IG: thegallerycoffeehouseandevents
26
The Old School
The Old School
The Old School, in historic Llantwit Major, is steeped in history and dates back to 1450’s. It is a beautiful Grade II Listed Building set in the old part of the town and is the perfect venue for the more intimate wedding. Accommodating up to 50 guests. The Council chamber is an exposed stone room with a beautiful stone window and is a unique space you can make your own. Llantwit Major Town Council, Town Hall, Llantwit Major CF61 1SB Tel: 01446 793707
Mae’r Hen Ysgol, yn Llanilltud Fawr hanesyddol, wedi’i thrwytho mewn hanes ac yn dyddio’n ôl i’r 1450au. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II hardd wedi’i leoli yn hen ran y dref ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer priodas fwy personol. Lle i hyd at 50 o westeion. Mae siambr y Cyngor yn ystafell gwaith carreg gyda ffenestr gerrig hardd ac mae’n lle unigryw y gallwch ei addasu ar eich cyfer chi. Llantwit Major Town Council, Town Hall, Llantwit Major CF61 1SB Ffôn: 01446 793707
Email: info@llantwitmajortowncouncil.gov.uk Web: www.llantwitmajortowncouncil.gov.uk
E-bost: info@llantwitmajortowncouncil.gov.uk Gwefan: www.llantwitmajortowncouncil.gov.uk
“ Dyma’n union beth roedden ni ei eisiau! Gwnaeth y cofrestrydd i ni deimlo’n gwbl gartrefol ”
Sacha Miller
27
Cobbles Weddings & Events
Cobbles Weddings & Events
Cobbles pride themselves on being a flexible, laid back venue with a real boho vibe to their 16 th century barns. Perfectly situated on the fringe of the spectacular heritage coast in Ogmore village, they are surrounded by fields, woodland, rivers, castles and breathtaking coastline. There are options for both small intimate weddings of 20/40 using their bar and hayloft or you can opt for exclusive use of the full venue where you can host up to 90, with options to extend that up to 140 with use of the marquee. As a guide, a wedding with ceremony and exclusive use of 40 guests in the day, 80 in the evening with 2 meals and welcome drinks in peak season 2024 would be approx £8000. They also offer more intimate ‘twilight’ weddings where you can get married later in the day between 3-5pm, the cost of this for approx 50 guests would be £5250 in peak season.
Mae Cobbles yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn lleoliad hamddenol, hyblyg gyda naws boho go iawn i’w hysguboriau o’r 16eg ganrif. Mewn safle perffaith ar gyrion yr arfordir treftadaeth ysblennydd ym mhentref Aberogwr, maent wedi’u hamgylchynu gan gaeau, coetir, afonydd, cestyll ac arfordir trawiadol. Ceir opsiynau ar gyfer priodasau bach personol o 20/40 gan ddefnyddio eu bar a’u taflod neu gallwch ddewis defnyddio’r lleoliad llawn lle gallwch gael hyd at 90 o westeion, gydag opsiynau i ymestyn hynny hyd at 140 gyda defnydd o’r babell fawr. Fel canllaw, byddai priodas gyda seremoni a defnydd unigryw o 40 o westeion yn y dydd, 80 gyda’r nos gyda 2 bryd a diodydd croeso yn nhymor brig 2024 oddeutu £8000. Maent hefyd yn cynnig priodasau ‘cyfnos’ mwy personol lle gallwch briodi yn hwyrach yn y dydd rhwng 3-5pm, cost hyn i tua 50 o westeion fyddai £5250 yn ystod y tymor brig. Cobbles Kitchen and Deli, Tymaen Farm Buildings, Ogmore Road, Ogmore-by-Sea, Bridgend CF32 0QP Ffôn: 01656 646 361 E-bost: weddings@cobbleskitchen.co.uk Gwefan: www.cobbleskitchen.co.uk
Cobbles Kitchen and Deli Tymaen Farm Buildings, Ogmore Road Ogmore-by-Sea, Bridgend CF32 0QP Tel: 01656 646 361 Email: weddings@cobbleskitchen.co.uk Web: www.cobbleskitchen.co.uk
28
Bobbie Lee Photography
“ The VOG Registration Service really helped us to have a fantastic day. Their relaxed, friendly, and reassuring approach made the ceremony so much more enjoyable and the day unforgettable ”
Sacha Miller
29
Bobbie Lee Photography
Bobbie Lee Photography
Gwnewch i atgofion diwrnod eich priodas barhau am byth gyda Ffotograffiaeth Bobbie Lee. Yn hamddenol a naturiol ac yn angerddol am ddweud stori, mae’n cyfleu’r emosiynau a’r eiliadau didwyll sy’n diffinio’ch stori serch. O gyfnewidiadau personol i ddathliadau mawreddog, mae dull cynnil Bobbie yn sicrhau profiad esmwyth a di-straen. P’un a yw’n seremoni hudolus yn yr awyr agored neu’n ddigwyddiad chwaethus o dan do, bydd Bobbie’n creu lluniau i’w trysori am genedlaethau. Gyda mwy na 12 mlynedd o brofiad yn tynnu lluniau o gannoedd o briodasau, a phecynnau sy’n addas ar gyfer pob achlysur, bydd Bobbie’n helpu i droi eich diwrnod arbennig yn stori dragwyddol o serch a llawenydd.
Make your wedding day memories last forever with Bobbie Lee Photography. With a relaxed and natural style and a passion for storytelling, she captures the genuine emotions and candid moments that define your love story. From intimate exchanges to grand celebrations, Bobbie’s unobtrusive approach ensures a seamless and stress-free experience. Whether it’s a dreamy outdoor ceremony or an elegant indoor affair, Bobbie will deliver breath-taking images that you’ll cherish for generations. With over 12 years experience capturing hundreds of weddings, and packages to suit every occasion, Bobbie will help transform your special day into an everlasting tale of love and joy.
Bobbie Lee Photography Tel: 07534 101493 Email: bobbie@bobbielee.co.uk Web: www.bobbielee.co.uk
Ffotograffiaeth Bobbie Lee Ffôn: 07534 101493 E-bost: bobbie@bobbielee.co.uk Gwefan: www.bobbielee.co.uk
Sacha Miller
Sacha Miller
Sacha’s natural approach to photographing a wedding is to ensure that the bride and groom actually get time to enjoy their wedding day. It is not often you get all your friends and family together, and wedding days move pretty fast so it is best to squeeze out as much fun and laughter as possible. To enable this, he works in an unobtrusive and discreet manner, avoiding intrusion to simply record what happens, to preserve genuine memories and communicate the joy experienced on the day you got married.
Dull naturiol Sacha o weithio fel ffotograffydd priodas yw sicrhau bod gan y priodfab a’r briodferch amser digonol i fwynhau eu diwrnod. Nid yn aml y cewch chi eich holl ffrindiau a theulu gyda’i gilydd, ac mae’r diwrnod priodas yn symud yn reit gyflym felly mae’n well ceisio cael cymaint o hwyl a chwerthin â phosibl. Er mwyn galluogi hyn, nid yw’n amharu ar neb nac yn tynnu sylw wrth weithio, gan osgoi ymyrryd er mwyn cofnodi’n syml yr hyn sydd yn digwydd, er mwyn rhoi ar gof a chadw atgofion gwirioneddol, a chyfathrebu’r llawenydd a gafwyd ar y diwrnod y priodoch chi.
Tel: 07770 792148 Email: info@sachamiller.co.uk Web: www.sachamiller.co.uk
Ffôn: 07770 792148 E-bost:info@sachamiller.co.uk Gwefan: www.sachamiller.co.uk
30
“ Fe wnaeth Gwasanaeth Cofrestru Bro Morgannwg ein helpu i gael diwrnod gwych. Gwnaeth eu dull hamddenol, cyfeillgar a chalonogol y seremoni gymaint yn fwy pleserus a’r diwrnod yn fythgofiadwy ”
Bobbie Lee Photography
31
Cinnamon Pig
Cinnamon Pig
At Cinnamon Pig, their passion is wedding and event planning and styling bringing the day you dreamed of to life. They create a truly bespoke service, working with their couples every step of the way making sure every detail is as unique as they are. Launched in 2019, their warm and friendly team has helped so many couples achieve their perfect wedding and are proud of the uniquely individual and thoughtful service they provide. Specialising in rustic, boho and vintage styling they can take you through from concept to creation. So whether you are starting from scratch or have a complete concept in mind, get in touch to see how they can help you every step of the way.
Yn Cinnamon Pig, maen nhw’n angerddol am gynllunio a steilio priodasau a digwyddiadau, gan wireddu diwrnod eich breuddwydion. Maen nhw’n creu gwasanaeth gwirioneddol bwrpasol, gan weithio gyda’u cyplau bob cam o’r ffordd i sicrhau bod pob manylyn mor unigryw ag y maen nhw. Wedi’u lansio yn 2019, mae eu tîm cynnes a chyfeillgar wedi helpu cymaint o gyplau i greu eu priodas berffaith ac maent yn falch o’r gwasanaeth personoledig a meddylgar unigryw y maent yn ei gynnig. Gan arbenigo mewn steilio gwladaidd, boho a chlasurol, gallant eich tywys drwy bob cam, o’r cysyniad i’r greadigaeth. Felly, p’un a oes gennych lechen lân neu gysyniad cyflawn, cysylltwch i weld sut y gallant eich helpu bob cam o’r ffordd. Ffôn: 07572 284565 E-bost: hellocinnamonpig@outlook.com Gwefan: www.cinnamonpig.com IG: @cinnamonpigstyling
Tel: 07572 284565 Email: hellocinnamonpig@outlook.com Web: www.cinnamonpig.com IG: @cinnamonpigstyling
32
THe Bay Tree
THe Bay Tree
The Bay Tree understands that weddings are a time for beautiful flowers as they bring life, scent and colour to your special day. Each and every wedding is a different story, and they would love to help you with yours.
Mae The Bay Tree yn deall bod priodasau yn amser am flodau hardd gan eu bod yn dod â bywyd, arogl a lliw i’ch diwrnod arbennig. Mae pob priodas yn stori wahanol, a byddent wrth eu bodd yn eich helpu gyda’ch un chi. Cysylltwch â ni i ddechrau eich taith gyffrous a chreadigol.
Get in touch to start your exciting, creative journey.
35 Stryd Fawr, Y Bont-faen, Bro Morgannwg CF71 7AE Ffôn: 01446 772271
35 High Street, Cowbridge, Vale of Glamorgan CF71 7AE Tel: 01446 772271
E-bost: bryan@thebaytreecowbridge.com Gwefan: www.thebaytreecowbridge.com
Email: bryan@thebaytreecowbridge.com Web: www.thebaytreecowbridge.com
Vale Cake Boutique
Vale Cake Boutique
Mae Zoe from the Vale Cake Boutique yn ddylunydd cacennau priodas arobryn sydd wrth ei bodd yn bod yn rhan o’r broses gynllunio gyda chyplau yn ystod y cyfnod cyffrous hwn wrth gynllunio eu priodas. Mae hi’n cynnig ymgynghoriad pan allwch chi sgwrsio trwy’ch syniadau a blasu cacennau gwych i sicrhau eich bod chi’n cael eich canolbwynt perffaith. Gan ddefnyddio dim ond y cynhwysion gorau a mwyaf ffres, mae’n sicrhau bod eich cacen yn blasu mor anhygoel ag y mae’n edrych.
Zoe from the Vale Cake Boutique is an award winning wedding cake designer who loves being part of the planning process with couples during this exciting time in planning their wedding. She offers a consultation where you can chat through your ideas and sample some delicious cakes to ensure you get your perfect centrepiece. Using only the finest and freshest ingredients she ensures that your cake tastes as amazing as it looks.
8 High Street, Barry, South Wales CF62 7DZ Tel: 01446 741511 Email: zoe@thevalecakeboutique.com Web: www.thevalecakeboutique.com
8 Stryd Fawr, Y Barri, De Cymru CF62 7DZ Ffôn: 01446 741511 E-bost: zoe@thevalecakeboutique.com Gwefan: www.thevalecakeboutique.com
33
The Little Events Company Ltd
The Little Events Company Ltd
The Little Events Company Ltd is a family run events company based in South Wales. They have a range of products and services, that allow them to create some really unique packages for their clients and help turn dreams into reality. Every product they hire is something they love and makes them excited and they can’t wait to share them with you. A small company that focuses on giving a great customer service means you can relax knowing your special day is in good hands. Try your luck at the casino tables, taste a delicious ice cream from their ice cream trike or see your guests having fun with their amazing traditional games. 10% discount when mentioning the Vale of Glamorgan wedding guide.
Mae The Little Events Company Ltd yn gwmni digwyddiadau teuluol sydd wedi’i leoli yn ne Cymru. Maent yn cynnig ystod o gynhyrchion a gwasanaethau, sy’n eu galluogi i greu pecynnau unigryw iawn i’w cleientiaid a helpu i droi breuddwydion yn realiti. Mae pob cynnyrch y maent yn ei roi ar osod yn rhywbeth y maent yn dwlu arno ac yn eu gwneud yn llawn cyffro ac ni allant aros i’w rhannu gyda chi. Mae cwmni bach sy’n canolbwyntio ar roi gwasanaeth gwych i gwsmeriaid yn golygu y gallwch ymlacio gan wybod bod eich diwrnod arbennig mewn dwylo da. Mentrwch eich lwc wrth y byrddau casino, rhowch gynnig ar hufen iâ blasus o’u treic hufen iâ neu gwyliwch eich gwesteion yn cael hwyl gyda’u gemau traddodiadol anhygoel. Gostyngiad o 10% wrth sôn am ganllaw priodas Bro Morgannwg. Ffôn: 07506 579453 E-bost: info@thelittleeventscompany.co.uk Gwefan: www.thelittleeventscompany.co.uk
Tel: 07506 579453 Email: info@thelittleeventscompany.co.uk Web: www.thelittleeventscompany.co.uk
Whispher
Whisper
Whisper is a brand new luxury bridalwear boutique in Penarth, South Wales that advocate for individuality, inclusivity and sustainability. With a modern twist on traditional bridalwear, they offer a diverse range of bridal gowns and separates designed and made in Britain by 3 incredible designers. Whether it’s boho, minimalistic, floral or classic you’re looking for - they have it all! All their dresses are made with eating, dancing and partying in mind and they all maximise absolute comfort.
Mae Whisper yn bwtîc dillad priodasol moethus newydd sbon ym Mhenarth, de Cymru sy’n eiriol dros unigoliaeth, cynwysoldeb a chynaliadwyedd. Gyda thro modern ar ddillad priodasol traddodiadol, maent yn cynnig ystod amrywiol o ffrogiau a gwisgoedd ar wahân priodasol wedi’u dylunio a’u gwneud ym Mhrydain gan dri dylunydd anhygoel. P’un ai arddull boho, syml, blodeuol neu glasurol rydych chi’n chwilio amdano - mae ganddyn nhw bopeth! Mae eu holl ffrogiau yn cael eu gwneud gan ystyried gyda bwyta, dawnsio a chael hwyl ac maent i gyd mor gyffyrddus â phosibl.
2 Victoria Bridge, Penarth, Vale of Glamorgan, CF64 2AN Tel: 02920 702136
2 Victoria Bridge, Penarth, Vale of Glamorgan, CF64 2AN Ffôn: 02920 702136
Email: Jenny@whisperbridalboutique.co.uk Web: www.whisperbridalboutique.co.uk
E-bost: Jenny@whisperbridalboutique.co.uk Gwefan: www.whisperbridalboutique.co.uk
34
Rhestr Wirio:
❑ Lleoliad y seremoni
❑ Derbyniad
❑ Cofrestrydd
❑ Hysbysiad cyfreithiol
❑ Steilydd / Cynllunydd
Bobbie Lee Photography
❑ Ffotograffydd
❑ Dylunydd cacennau
❑ Arlwyo
❑ Siop flodau
Sophie Collins Photography
❑ Llogi siwtiau
❑ Ffrog
❑ Gwniadwraig / Teiliwr
❑ Harddwr
❑ Gemydd
Bobbie Lee Photography
❑ Cwmni Argraffu / Deunydd Ysgrifennu
❑ Llogi ceir / Trafnidiaeth
❑ Llety
❑ Adloniant
Bobbie Lee Photography
35
Checklist:
❑ Ceremony venue
We are doing our bit - the print company we use to produce this
❑ Reception
brochure is FSC® (Forest Stewardship Council) Certified and is a Carbon Balanced Publication Printer. All the inks are vegetable based and the paper used is FSC certified to help ensure our forests are alive for generations to come. Compiled, designed and printed by Pineneedle Design Ltd. First Edition. With thanks for additional photographs from Bobbie Lee Photography, Steve Gerard Photography, Sacha Miller, Sophie Collins Photography and Oliver Jones Photography
❑ Registrar
❑ Legal notice
❑ Stylist / Planner
Bobbie Lee Photography
❑ Photographer
❑ Cake
❑ Catering
❑ Florist
❑ Suit hire
Steve Gerard Photography
❑ Dress
❑ Seamstress / Tailor
❑ Beautician
❑ Jeweller
Bobbie Lee Photography
❑ Printers / Stationery
❑ Car hire / Transport
❑ Accommodation
❑ Entertainment
❑ Honeymoon
Sacha Miller
Sacha Miller
Cyngor Bro Morgannwg Swyddfeydd Dinesig Heol Holten Y Barri CF63 4RU
Vale of Glamorgan Register Oce Civic Oces Holton Road Barry CF63 4RU
01446 700111 registrationservice@valeofglamorgan.gov.uk www.yourvaleceremony.co.uk
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36Made with FlippingBook Digital Proposal Creator