Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

Darganfyddwch pam mae ein Hysgol Reolaeth yn lle perffaith i astudio ac archwilio ein cyrsiau, cyfleusterau, cymorth gyrfaoedd a phrofiadau myfyrwyr.

ACADEMI IECHYD A GOFAL SY’N SEILIEDIG AR WERTH

30 Y DU AM FODDHAD ADDYSGU (GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2023)

O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL GRADDIO SY’N ARWAIN Y BYD 100%

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg argraffu. Fodd bynnag, gall newidiadau ddigwydd i raglenni, lleoliadau astudio, cyfleusterau neu ffioedd. Ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/academi-igsw i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

RYDYM YN CYNNIG:

Croeso i’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe.

Rhaglenni Addysgol o’r Radd Flaenaf Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a digwyddiadau i helpu paratoi pobl â’r wybodaeth, y sgiliau a’r agwedd i wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth gyflwyno Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ar draws y byd. Ymchwil Arloesol Mae ein tîm ymchwil yn meddu ar gyfoeth o wybodaeth a phrofiad, gan ddarparu’r dystiolaeth ddiweddaraf i lywio gweithredu, arloesi a datblygu polisi. Gwasanaeth Ymgynghori Pwrpasol Mae gan ein hymgynghorwyr ddealltwriaeth gynhwysfawr o systemau iechyd a gofal, a phrofiad o weithio gyda sefydliadau gofal iechyd a’r diwydiant gwyddorau bywyd i nodi a mynd i’r afael â heriau. Rydym yn cyd-greu ein cyngor a’n cymorth pwrpasol gyda sefydliadau wrth iddynt weithredu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Rydym yn ddarparu Addysg, Ymchwil ac Ymgynghori ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, rydym yn un o grwp dethol iawn o brifysgolion o gwmpas y byd sy’n cynorthwyo â deall a gweithredu’r ymagwedd newydd a chyffrous hon ar gyfer systemau gofal iechyd er mwyn cyflwyno deilliannau gwell a bod yn gynaliadwy yn ariannol. Mae gennym raglenni addysgol ar bob lefel, o’r sylfaen i’r doethurol, gyda’r ymchwil ddiweddaraf yn sail iddynt, a’r rhaglenni wedi’u dylunio ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, diwydiannau gwyddorau bywyd, y Llywodraeth a llunio polisi. Rydym yn darparu gwasanaethau ymgynghori i rai o’r cwmnïau gwyddorau bywyd mwyaf yn y byd a gallwn alw ar arbenigwyr cydnabyddedig yn rhyngwladol yng Nghymru ac ar draws y byd ar gyfer ein holl weithgareddau. 

Edrychwn ymlaen at glywed gennych ac at eich helpu ar eich taith Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Yr Athro Hamish Laing Cyfarwyddwr yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

2

RHAGLENNI ADDYSGOL Lluniwyd ein cyrsiau addysgol i baratoi gweithwyr proffesiynol â’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i wneud gwahaniaeth go iawn wrth ddarparu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, ble bynnag y maent yn gweithio. A hwythau wedi’u hanelu at arweinwyr ac uwch reolwyr sy’n gweithio mewn iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector neu ddiwydiannau gwyddorau bywyd, mae rhywbeth i bawb sydd am ddeall mwy am Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth.

Addysg Weithredol: Egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

Cwrs dwys, byr, sy’n cwmpasu holl elfennau allweddol Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth. O theori i weithredu, a’r sgiliau a’r wybodaeth graidd y mae eu hangen i arwain y gwaith o greu systemau Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth effeithiol.

MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)

Gradd meistr gyda llwybr Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth arbenigol yn ganolog iddi, gan alluogi unigolion i ymdrochi’n llwyr mewn Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth a’i gymhwyso.

Doethuriaeth Gweinyddu Busnes, DBA

Rhaglen a addysgir, lle y gall myfyrwyr gymryd rhan mewn ymchwil gymwysedig yn benodol ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth i ehangu’r sylfaen wybodaeth sydd wrth wraidd mabwysiadu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn fyd eang.

e-ddysgu: Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

Rhaglenni sylfaen ar-lein hunangyfeiriedig, a gwblheir yn ôl cyflymder y myfyriwr, i bobl sy’n newydd i Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, gydag ymarferwyr arbenigol i lywio’u dysgu. Paratoad defnyddiol hefyd ar gyfer ein cyrsiau uwch.

3

Addysg Weithredol: Egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth

Mae cwricwlwm y cwrs addysg weithredol dwys hwn yn cwmpasu meysydd allweddol Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, y manylion ynghylch gweithredu a’r sgiliau a’r wybodaeth graidd y mae eu hangen i arwain y gwaith o greu systemau Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, ynghyd â phartneru er gwerth ar draws sectorau. Gan ddefnyddio dulliau dysgu gwahanol, gan gynnwys trafodaethau seiliedig ar achos, gweithio mewn grwpiau bach, cyflwyniadau panel ac efelychu, caiff dysgwyr gyfleoedd i drafod, gyda chymheiriaid o’u sectorau eu hunain a sectorau eraill, sut y gallent gymhwyso’r dysgu i’w hamgylcheddau gwaith eu hunain. ‘Cyflwynir y cwrs hwn drwy ddwy ffordd yn ystod y flwyddyn: mewn person ac ar-lein (yn rhithwir).

MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)

Mae’r radd meistr hon, sydd â llwybr Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth arbenigol ac a ddatblygwyd yn benodol i ddysgwyr proffesiynol, yn caniatáu i fyfyrwyr ymdrochi yn y paradeim Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth sy’n dod i’r amlwg, ei hanes, ei theori a’i weithredu yn ymarferol ar lefel poblogaeth ac ar lefel unigol. Bydd myfyrwyr yn datblygu strategaeth Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ar gyfer eu sefydliad eu hunain a chynllun gweithredu sy’n cynnwys mesuriadau deilliannau, defnyddio technolegau digidol, cymhwyso modelau prisio newydd, partneriaethau caffael arloesol, ynghyd ag ymagweddau arwain sy’n ofynnol ar gyfer llwyddiant. Bydd yr holl fyfyrwyr, sy’n astudio ar sail amser llawn am flwyddyn neu’n hyblyg yn rhan-amser am ddwy flynedd, yn ymgymryd â phrosiect wedi’i asesu, y gellir ei seilio yn y gweithle.

Doethuriaeth Gweinyddu Busnes, DBA

Mae DBA yr Ysgol Reolaeth yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a luniwyd ar gyfer uwch reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector: preifat, cyhoeddus ac nid er elw. Yn y rhaglen hon, gall dysgwyr gymryd rhan mewn ymchwil gymwysedig yn benodol ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, gan gymhwyso theori sefydledig a blaengar i’w problemau sefydliadol ymarferol. Bydd dysgwyr yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eu maes, ynghyd â chyfrannu at ein dealltwriaeth o’r sylfaen ddamcaniaethol ar gyfer y gwaith.

e-ddysgu

Mae ein platfform e-ddysgu rhithwir (Canvas Catalog™) yn ffordd rymus ac effeithiol o ennill gwybodaeth sylfaenol yn eich amser ac yn ôl eich pwys eich hun, heb fod angen ymrestru fel myfyriwr Prifysgol llawn. Gall dysgwyr ddewis o blith amrywiaeth o gyrsiau addysgol ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth o’r gwaith neu adref. Mae’r cyrsiau ar-lein yn llwyr ac yn cynnig cyfleustra, hyblygrwydd a hygyrchedd anhygoel. Mae Tystysgrifau Cwblhau ar gael gan y Brifysgol.

‘Am ragor o wybodaeth am ba gwrs fydd orau i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/academi-igsw

4

MODIWLAU’R MSC RHEOLI IECHYD A GOFAL UWCH (SEILIEDIG AR WERTH)

Mae athroniaeth ein rhaglen yn cyfuno theori feirniadol â gogwydd proffesiynol i’ch herio i fyfyrio’n feirniadol ar drefnu ar gyfer newidiadau byd eang mewn cyd-destunau lleol. Mae’r modiwlau a astudir yn amrywiaeth o fodiwlau gorfodol, cyn ymgymryd â phrosiect annibynnol terfynol, hynod arloesol, yn eich trydydd semester. Gall hwn fod wedi’i leoli yn y gweithle ac wedi’i lunio fel ei fod o fudd i chi ac i’ch sefydliad.

Disgrifir y modiwlau nodweddiadol sy’n cael eu hastudio yn yr MSc mewn Rheolaeth Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth) isod. Gall strwythurau’r cwrs newid ac mae gwybodaeth lawn am amrywiadau amser llawn a rhan-amser i’w gweld ar ein gwefan: bit.ly/SeiliedigarWerthMSc

AMSER LLAWN

Archwilio Diben Sefydliadol Enw’r Modiwl MODIWLAU GORFODOL Llywio Arloesi a Newid Iechyd a Gofal Darbodus – Polisi ac Ymarfer Iechyd a Gofal sy’n seiliedig ar Werth: Datblygu Strategaeth Iechyd a Gofal sy’n seiliedig ar Werth: Gweithredu Strategaeth Ymchwil mewn Cyd-destun Iechyd a Gofal, gan gynnwys prosiect

Astudio yn ystod

Medi - Ion Medi - Ion

Ion - Meh

Ion - Meh

Ion - Meh

Meh – Medi

RHAN-AMSER

BLWYDDYN 2: MODIWLAU GORFODOL

Llywio Arloesedd a Newid: Hanfodion Enw’r Modiwl BLWYDDYN 1: MODIWLAU GORFODOL Archwilio Pwrpas Sefydliadol: Hanfodion Llywio Arloesi a Newid: Cymhwysol

Studied

Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth: Datblygu Strategaeth Enw’r Modiwl Gweithredu Strategaeth Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth: Dulliau a Gwerthuso Gweithredu Strategaeth Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth: Arweinyddiaeth a Phobl

Astudio yn ystod

Medi - Ion Medi - Ion Astudio yn ystod

Awst - Hyd

Medi - Ion

Ion - Meh

Ion - Meh

Archwilio Diben Sefydliadol: Ymatebion a Chymwysiadau Iechyd a Gofal Darbodus – Polisi ac Ymarfer Meh – Medi Ion - Meh

Ymchwil mewn Cyd-destun Iechyd a Gofal, gan gynnwys prosiect

Ion - Medi

5

ACHREDU

Mae dau gorff achredu annibynnol yn achredu ein rhaglen meistr.

6

RHAGLEN ACADEMI DYSGU DWYS

Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe wedi’i hariannu’n rhannol trwy Raglen yr Academïau Dysgu Dwys a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddi Cymru Iachach, y cynllun tymor hir ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae rhaglen yr Academïau Dysgu Dwys yn cefnogi gallu proffesiynol ac arweinyddiaeth systemau ledled Cymru gyfan i fod yn addas ar gyfer heriau systemau iechyd a gofal cymdeithasol heddiw ac yfory. Mae ein Hacademi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn gweithio’n agos gydag Academïau Dysgu Dwys eraill yng Nghymru: • Academi Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Prifysgol Abertawe) • Dysgu Cymwysedig ar gyfer Iechyd Ataliol: ALPHAcademy (Prifysgol Bangor) • Trawsnewidiad Digidol (Prifysgol De Cymru)

Ein lleoliad yng Nghymru, un o nifer bach o systemau iechyd a gofal i arwain ar fabwysiadu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn fyd eang. Mae hyn yn golygu bod yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn gallu galw ar gyfadran a chyrhaeddiad byd eang, sy’n cynnwys tystiolaeth a phrofiad rhyngwladol ac yn denu dysgwyr o lawer o ranbarthau a gwledydd gwahanol. ‘Rydym wrthi’n annog dysgwyr o amryw o ardaloedd wahanol ac o sectorau gwahanol ac o sectorau gwahanol i ddysgu gan ei gilydd a chyda’i gilydd, gan rannu profiad, safbwyntiau, heriau a llwyddiannau. Cyllid Ysgoloriaeth Academïau Dysgu Dwys yr Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth Mae cyllid grant gan Lywodraeth Cymru’n caniatáu i ni gynnig nifer gyfyngedig o ysgoloriaethau’r Academïau Dysgu Dwys i ddysgwyr proffesiynol ledled Cymru mewn sefydliadau Gofal Cymdeithasol, y GIG a’r Trydydd Sector ar gyfer ein holl raglenni addysgol. I ddysgu rhagor am ein hysgoloriaeth, gweler tudalen 17.

I gael mwy o wybodaeth, sganiwch y cod QR neu e-bostiwch: VBHCAcademy@abertawe.ac.uk

ABERTAWE

CAERDYDD

7

YMCHWIL

Er y deellir egwyddorion Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, mae angen dybryd am ymchwil i lywio esblygiad Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth a sut y gellir eu gweithredu mewn economïau gofal iechyd amrywiol. Dim ond trwy ymchwil a lledaenu gwybodaeth, y mae trylwyredd academaidd yn sylfaen iddi, y gallwn wybod y ffordd orau o ddiffinio a mesur y deilliannau sy’n bwysig i bobl fel rhan o’u gofal arferol; beth yw gwerth cymdeithasol, mewn gwirionedd; sut i greu gwerth cyffredin yn deg trwy bartneriaethau hirdymor â diwydiant; sut i esblygu model iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth i rychwantu iechyd a gofal cymdeithasol ac ar draws llwybrau gofal hydredol; sut mae iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth yn cynorthwyo â chyflwyno gofal iechyd darbodus a’i gyfwerth byd eang. Mae Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn gweithio gyda systemau iechyd a gofal a phartneriaid yn y diwydiant gwyddorau bywyd i ddarparu arweinyddiaeth meddwl ynghyd ag ymchwilio sut i oresgyn heriau mabwysiadu a gweithredu. Rydym yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill i gyflymu dealltwriaeth.

Themâu ein rhaglen ymchwil:

DYLUNIO A GWEITHREDU DADLEUON ARLOESOL SEILIEDIG AR DDEILLIANNAU AR GYFER MEDDYGINIAETHAU, TECHNOLEG AC ATMPS

CREU A MESUR GWERTH TRWY GYDOL Y LLWYBR IECHYD A GOFAL

DEALL A MESUR GWERTH CYMDEITHASOL

GWERTHUSO DULLIAU IECHYD A GOFAL SY’N SEILIEDIG AR WERTH A LLEDAENU GWYBODAETH

CYFLENWI SEILIEDIG AR WERTH

Os hoffech chi archwilio gyda ni sut y gallwn ni helpu eich anghenion ymchwil, gwerthuso neu gydweithio, cysylltwch â ni: vbhcacademy@abertawe.ac.uk

8

YMGYNGHORI

Rydym yn cydnabod bod gweithredu iechyd a gofal sy’n seiliedig ar werth yn newid sylfaenol i systemau iechyd a gofal ac i ddiwydiannau gwyddorau bywyd, ac y gall fod yn heriol yn ymarferol. Mae ein gwasanaethau ymgynghori yn darparu cymorth mwy parhaus, pwrpasol ac arweinyddiaeth meddwl i systemau gofal iechyd a phartneriaid mewn diwydiant, a gellir eu cyfuno ag ymchwil i ddeall anghenion gwaelodlin a rhaglenni addysgol mewnol er mwyn paratoi uwch arweinwyr a’u timau â’r wybodaeth a’r sgiliau gofynnol. Rydym yn treulio amser yn deall anghenion eich sefydliad neu’ch tîm ac yn cyd-greu’r cymorth a ddarparwn i chi. A ninnau’n sefydliad academaidd, gallwn drosi’r meddwl diweddaraf yn gynnyrch cyflawnadwy. Mae gennym nifer o arbenigwyr rhyngwladol o feysydd gofal iechyd, diwydiant gwyddorau bywyd ac academia sy’n cefnogi ein rhaglenni addysgol ac ymgynghori, a gallant fod yn rhan o’r tîm ymgynghori yn ôl yr arbenigedd y mae ei angen. Rydym yn gweithio gyda rhai o sefydliadau mwyaf y byd ond rydym yn mwynhau partneru â thimau bach a busnesau bach a chanolig (BBaCh) hefyd.

Emma Clifton-Brown, Pennaeth Iechyd a Gwerth, y DU, Pfizer

“Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn allweddol wrth dywys taith Pfizer i Ofal Iechyd Seiliedig ar Werth. Trwy raglen a ymrestrodd dros 90 o arweinwyr, mae Pfizer wedi gwreiddio ethos gwerth mewn iechyd yn llwyddiannus ar draws holl haenau’r sefydliad. Mae cael golwg mwy cyfannol ar ystyr gwerth i wahanol randdeiliaid ar draws y system iechyd wedi bod yn sylfaen i ffyrdd newydd o ymdrin â phartneriaethau, yng Nghymru yn fwyaf nodedig, ac mae wedi cryfhau ymagwedd Pfizer at fynd i’r afael â deilliannau sy’n bwysig. Mae’r meddylfryd hwn yn hollbwysig i’n helpu i sicrhau datblygiadau sy’n newid bywyd cleifion.”

James McHale, Rheolwr Partneriaethau Seiliedig ar Werth Byd Eang, Mölnlycke

“Mae’r Academi wir yn arweinwyr ym maes Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth ac yn allweddol o ran gyrru dysgu, creu a chymhwyso gan Mölnlycke ar y pwnc. A hwythau’n arbenigwyr ar system GIG y DU, gyda gwerthfawrogiad a rhwydwaith byd eang, maent yn bartner academaidd hynod gredadwy sy’n rhannu ein nodau cyffredin ynghylch datblygu a gweithredu partneriaethau strategol Seiliedig ar Werth. Gyda’u cymorth, rydym yn parhau i archwilio sut y gallwn yrru’r gwerth mwyaf i systemau gofal iechyd a chleifion.”

9

10

GWYBODAETH AM IECHYD A GOFAL SY’N SEILIEDIG AR WERTH

Mae systemau iechyd a gofal ledled y byd yn wynebu heriau cyfunol galw mwy cymhleth a galw cynyddol, newid demograffig a chyfyngiadau ar adnoddau.

Mae llywodraethau a thalwyr sy’n ymdrechu i sicrhau dyfodol cynaliadwy i’r gwasanaethau hanfodol hyn yn canolbwyntio fwyfwy ar Werth: gwella’r deilliannau sydd bwysicaf i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth am y gost isaf bosibl a gwella iechyd y boblogaeth o fewn yr adnoddau sydd ar gael, trwy ailneilltuo adnoddau o weithgareddau gwerth is i werth uwch. Mae gan Brifysgol Abertawe hanes hir o bartneru ag arweinwyr systemau iechyd a gofal a’r diwydiant gwyddorau bywyd. Nawr, mae dwyn arweinyddiaeth meddwl, cipolygon ac ymchwil drylwyr sy’n llywio datblygiad Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, a’i weithredu’n ymarferol, yn ein cyffroi. Bydd cyfranogwyr ein rhaglenni’n elwa o ddealltwriaeth gyfoethog o’r dull hwn sy’n dod i’r amlwg a dônt i gysylltiad ag arweinwyr, ymarferwyr ac ysgolheigion o amrywiaeth o leoliadau gofal ar draws y byd, systemau a sectorau. Byddant yn dysgu o achosion o’r byd go iawn a phrofiadau bywyd a safbwyntiau cyd-gyfranogwyr, ynghyd â dysgu o’r gyfadran arbenigol. Mae Cymru, a gydnabyddir gan Fforwm Economaidd y Byd, yr UE, y G20 a’r OECD am ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad i weithredu Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, yn cydnabod pwysigrwydd Gwerth ym mhob agwedd ar ddylunio ac arweinyddiaeth systemau: wrth ddyrannu adnoddau, ar draws llwybrau gofal cyfan ac wrth gaffael gwasanaethau a thechnolegau gofal iechyd. Gyda system iechyd a gofal gyffredin yn gwasanaethu ychydig dros 3 miliwn o ddinasyddion, mae Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fod yn fan prawf ar gyfer arloesi a modelau newydd o ddarparu gofal.

Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn darparu trylwyredd academaidd wrth addysgu egwyddorion gofal sy’n seiliedig ar Werth, gan weithio mewn partneriaeth â Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Hefyd, mae’n gyfrwng ar gyfer tyfu’r sylfaen ymchwil, gan hoelio enw da Cymru fel arweinydd yn y maes hwn a sicrhau bod staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru’n gallu cael at addysg Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, o safon aur, yn agos at adref.

DR SALLY LEWIS Cyfarwyddwr, Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru

11

CYFLEOEDD ADDYSG WEITHREDOL YCHWANEGOL

Yn yr Ysgol Reolaeth, rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni a luniwyd i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau rheoli. Lluniwyd ein cyrsiau i alluogi arweinwyr i adeiladu sefydliadau ac economïau cynaliadwy, uchel eu perfformiad.

Trwy weithio gydag arbenigwyr mewn diwydiant, mae ein hysgolheigion o’r radd flaenaf wedi llunio rhaglenni Addysg Weithredol hyblyg, sy’n arwain at newid cadarnhaol. Mae’r opsiwn gennych i gymryd rhan mewn cyrsiau byr, dwys, neu raglenni dysgu cynhwysfawr hwy sy’n seiliedig ar eich anghenion fel unigolyn neu fel aelod o sefydliad. Rydym yn cynnig cyrsiau Addysg Weithredol ar draws nifer o sectorau, yn ogystal â’n cwrs Addysg Weithredol ar Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth, gan gynnwys: • Lefelau 4 a 6 y Sefydliad Marchnata Siartredig

GRADDAU ÔL-RADDEDIG I WEITHWYR PROFFESIYNOL: • Gweinyddu Busnes, MBA • MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid) • MSc Rheoli Adnoddau Dynol • MSc Cyfrifeg Broffesiynol

Am ragor o wybodaeth am ein cynnig Addysg Weithredol, cysylltwch â’r tîm yn uniongyrchol ar: som-execed@abertawe.ac.uk

12

CYFLEUSTERAU

Gall dysgwyr proffesiynol yn yr Ysgol Reolaeth fanteisio ar amrywiaeth o gyfleusterau gyda’r gorau yn y sector, gan gynnwys:

CAMPWS Y BAE Mae Campws y Bae yn gartref i lawer o gyfleusterau sydd â’r nod o ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol. Mae hyn yn cynnwys mannau astudio ym mhob adeilad y cwmpas, llyfrgell o’r radd flaenaf, siopau coffi (gan gynnwys Costa Coffee), Tesco Express a Subway. YSTAFELL DYSGWYR PROFFESIYNOL Ystafell Dysgu Proffesiynol bwrpasol ar gyfer addysgu a gweithio ar y cyd, gyda gorsafoedd cyfrifiadurol ynghyd â mannau gweithio i grwpiau a luniwyd i feithrin meddwl creadigol a phrosiectau arloesol. YR YSGOL REOLAETH Mae adeilad pwrpasol yr Ysgol Reolaeth yn cynnwys derbynfa, ystafelloedd cyfweld â chleientiaid, mannau cydweithredu i fyfyrwyr a swyddfeydd staff. Hefyd, mae gofod mawr lle y gall ein partneriaid gydweithredu mewn amgylchedd creadigol, anffurfiol. LLYFRGELL Y BAE Mae Llyfrgell Campws y Bae yn llyfrgell fodern sy’n darparu gwasanaethau gwybodaeth o ansawdd uchel i’r holl fyfyrwyr a staff, yn ogystal ag i’r cyhoedd. Rydym yn datblygu’r gwasanaethau hyn yn gyson i gefnogi gweithgareddau dysgu, addysgu, ymchwil a chorfforaethol y Brifysgol.

13

14

CYMORTH I FYFYRWYR Mae gennym dîm pwrpasol Profiad a Gwybodaeth Myfyrwyr wrth law i gynnig arweiniad a chymorth proffesiynol i fyfyrwyr ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cefnogi myfyrwyr yn ystod yr Wythnos Groeso a Sefydlu

Trefnu gweithgareddau ymgysylltu a digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr

Eich cynorthwyo ag ymholiadau am yr amserlen

Arwain a phrosesu ceisiadau ynghylch newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: gohirio astudio, trosglwyddo rhaglen a rhoi’r gorau i raglen

Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cefnogi myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltiad y Brifysgol a mynd ar eu trywydd i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a phwrpasol, os yw myfyrwyr yn wynebu heriau

Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr yn bersonol neu ar-lein ynghylch problemau personol neu academaidd

Cefnogi myfyrwyr ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion yn y dosbarth, profion ar-lein, arholiadau ac ati

Cefnogi myfyrwyr ag anableddau, a’u cysylltu â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

Am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

15

PROFIAD MYFYRWYR

Mae’r Academi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn darparu’r unig radd lefel Meistr mewn Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth yn y DU. Er gwaethaf fy rôl feichus yn y GIG a byw yn Llundain, fe wnaeth y gweithdai ar-lein a phersonol cyfunol ganiatáu i mi gymryd rhan yn llawn. Mae’r addysgu wedi bod yn rhagorol, gan fy mharatoi ag arbenigedd academaidd a sgiliau ymarferol. Diolch i’r cwrs hwn, rwy’ wedi cael secondiad i rôl lle y gallaf gymhwyso fy nysgu a chyflwyno newid go iawn. Yn ogystal, rwy’ wedi gwneud cysylltiadau gwerthfawr â myfyrwyr eraill, aelodau’r gyfadran a siaradwyr gwadd.

SARA ROBERTS Arden & GEM NHS England, Uwch-reolwr – Cymorth Integredig Yn astudio MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)

Mae’r cwrs hwn wedi darparu archwiliad dwys ond buddiol o’r dull Seiliedig ar Werth wrth gyflawni deiliannau personol unigolyn a gweithredu gwasanaethau integredig. Roedd y darlithwyr yn gefnogol ac roedd cymhwyso’r wybodaeth a gafwyd yn ymarferol yn amhrisiadwy. Credaf y dylai mwy o arweinwyr gofal cymdeithasol gael cyfle i ddilyn y cwrs hwn er mwyn hyrwyddo ymagweddau integredig at gyflawni iechyd a llesiant a datblygu cymunedau gwydn.

SARAH VAUGHAN Sir Fynwy, Cymru, Arweinydd Therapi Gwasanaethau Integredig Gogledd Sir Fynwy Yn astudio MSc Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)

Gweminar rhan amser ar gael yn:

Gweminar amser-llawn ar gael yn:

16

YSGOLORIAETHAU’R ACADEMÏAU DYSGU DWYS Mae ein Hacademi Iechyd a Gofal sy’n Seiliedig ar Werth yn aelod o raglen Academïau Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru sy’n cynnig ysgoloriaethau i ddysgwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru mewn sefydliadau Gofal Cymdeithasol, y GIG a’r Trydydd Sector ar gyfer ein rhaglenni addysgol. Os ydych chi’n gweithio mewn sefydliad Iechyd, Gofal Cymdeithasol neu Drydydd Sector yng Nghymru, gallech fod yn gymwys i wneud cais am ysgoloriaeth yr Academïau Dysgu Dwys. Ewch i’n tudalen bwrpasol ar ysgoloriaethau i gael y diweddaraf am gyllid, dyddiadau cau a mwy o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: VBHCAcademy@abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU ÔL-RADDEDIG ERAILL Mae Prifysgol Abertawe yn deall mai cost eich astudiaethau yw un o’r ffactorau pwysicaf wrth benderfynu ar radd ôl-raddedig. Mae Abertawe’n cynnig nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig eraill i fyfyrwyr yng Nghymru a’r tu hwnt i’ch helpu i ariannu eich astudiaethau. Mae rhagor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd cyllido hyn ar gael trwy sganio’r cod QR. 17

DILYNWCH NI AR INSTAGRAM AM FWY O GYNNWYS @SOMABERTAWE

CYSYLLTWCH Â NI Academi VBHC Yr Ysgol Reolaeth Campws y Bae

Abertawe SA1 8EN Cymru Deyrnas Unedig

VBHCAcademy@abertawe.ac.uk

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ academi-igsw

DILYNWCH NI YMLAEN CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch am ‘SoM Abertawe’

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5