Momentum Magazine Autumn 2020 CYM

Momentwm Newyddion ymchwil o Brifysgol Abertawe Rhifyn 35 Hydref 2020

Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe Rhifyn 35 | Hydref 2020

MOMENTWM

DyddiaduronCorona: byw yn ystod pandemig Effaith y cyfyngiadau symud ar weithgarwch corfforol a lles Rhoi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd

MYND I’R AFAEL Â HERIAU’R BYD GO IAWN

AR Y CLAWR

YN Y RHIFYN HWN

Un o atyniadau Prifysgol Abertawe i mi oedd ei hymrwymiad i wneud gwaith ymchwil sy’n effeithio ar y byd go iawn. Wrth ymuno â’r Brifysgol eleni, yng nghanol y pandemig, rwyf wedi gweld gwir ysbryd arloesol ein staff a’n myfyrwyr a’u cefnogaeth i’r gymuned leol a’r gymuned ehangach, sydd wedi dangos sut mae ein sgiliau a’n harbenigedd ymchwil ar y cyd â’n tosturi yn gwneud Abertawe’n unigryw. Mae uchelgais y Brifysgol yn cyd-fynd â llwyddiannau amlwg y gellir eu mesur mewn llawer o ffyrdd, gan gynnwys y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf. Mae’r fframwaith yn asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU bob saith mlynedd. Yn 2014, cawsom ein cynnwys ymysg y 30 uchaf ar y rhestr o brifysgolion sy’n rhoi pwyslais ar ymchwil. O ganlyniad i Covid-19, gohiriwyd amserlen Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 am bedwar mis yn gynharach eleni. Roedd yn seibiant mawr ei angen gan fod llawer o’n gweithwyr wedi gorfod cyd-bwyso cyfrifoldebau gofalu a gweithio. Roedd gweithwyr eraill mewn swyddi clinigol yn ymateb i’r sefyllfa drwy fynd i’r rheng flaen. Mae llawer o’n hymchwilwyr wedi ceisio ateb cwestiynau ymchwil sylweddol a gwirioneddol sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod y pandemig. Mae’n bosib y gellir cynnwys peth o’r gwaith ymchwil hwn yn ein hastudiaethau o effaith a bydd yr amser ychwanegol yn rhoi mwy o gyfle i ni ddilyn effaith ein hymchwil. Rwy’n hynod ddiolchgar i’r cydweithwyr niferus sydd wedi parhau i weithio’n galed ar bob agwedd ar y cyflwyniad dan y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn wyneb adfyd eithafol eleni, mae swm y cyllid ymchwil sydd wedi deillio o gyrff cyllido mawr yn parhau i fod yn gadarnhaol – rhywbeth y dylem ymfalchïo ynddo. Yn 2020 (blwyddyn academaidd 2019/20), dyrannwyd £68m o gyllid ymchwil i Brifysgol Abertawe, sy’n fwy na’r £62m a ddyrannwyd yn 2018/19. Mae’r swm hwn

yn cynnwys cyllid ar gyfer gweithgarwch ar y cyd â sefydliadau cyhoeddus a phreifat a rhai yn y trydydd sector a fydd yn ysgogi arloesedd a thwf. Oherwydd y llwyddiant hwn, gwnaethom sicrhau’r cyllid mwyaf gan UKRI o blith prifysgolion y tu allan i aelodau Grŵp Russell yn 2019/20 (yn ôl Times Higher Education), sy’n deyrnged i’n rhagoriaeth ymchwil ac ymdrechion cydweithredol diflino ein holl gymuned ymchwil, ynghyd â chefnogaeth gref a pharhaus ein rhanddeiliaid allweddol. Mae’r cyfryngau wedi datgan ers misoedd lawer mai cyllid yw’r her fwyaf sy’n wynebu prifysgolion yn y DU, o ganlyniad i effeithiau disgwyliedig Covid-19 ar recriwtio myfyrwyr rhyngwladol. Mewn gwirionedd, pe bai rhywun wedi gofyn i mi nodi’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg uwch ar ddechrau’r flwyddyn, byddwn wedi rhoi’r un ateb – ond am resymau gwahanol. Rydym wedi treulio’r degawdau diwethaf yn meithrin perthnasoedd dwfn ac effeithiol â phartneriaid yn Ewrop. Er ei bod yn gynyddol annhebygol y byddwn yn gallu sicrhau’r un cyllid drwy Ewrop, rydym wedi manteisio ar gyllid gan yr UE wrth iddo barhau i fod ar gael, gan sicrhau cyllid gwerth £17m, o’i gymharu ag £8m yn 2018/19, ac ers 2014 rydym wedi arwain 22 o brosiectau a ariennir gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd a chefnogi 19 o brosiectau eraill, gyda grantiau gwerth £133m. Mae’r llywodraeth yn addo ffrydiau cyllido newydd er mwyn sicrhau y gallwn fod yn gryfach ac mewn sefyllfa well i fynd i’r afael â heriau’r byd ar ôl Covid-19 a’r cyfnod pontio cyn gadael yr UE. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi hwb sylweddol o ran cyllid ymchwilio a datblygu i sefydliadau yng Nghymru, gan dalu 75% o gostau prosiectau Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth i wella perfformiad a chynhyrchiant diwydiant drwy gydweithredu â phrifysgolion y DU. Byddwn yn parhau i edrych tua’r dyfodol a bod yn barod i ymateb i alwadau am y cyllid hwn – rydym eisoes wedi sicrhau

Croeso i rifyn hydref 2020 Momentwm .

Mae’r rhifyn hwn yn tynnu sylw arbennig at gyfraniad y Brifysgol yn ystod pandemig Covid-19. Roedd angen y syniadau mwyaf arloesol drwy gydol yr argyfwng ac rydym wedi ymdrechu i wneud yr hyn rydym wedi’i wneud erioed: sef defnyddio ymchwil i ymateb i anghenion y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Rydym wedi gallu defnyddio ein gwybodaeth mewn ffyrdd penodol iawn. Er enghraifft, gan wybod y gallai eu harbenigedd helpu’r GIG, dechreuodd staff a myfyrwyr Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe ymchwilio i ddyluniadau a manylebau ar gyfer defnyddio argraffyddion 3D i gynhyrchu feisorau i amddiffyn yr wyneb; gwnaeth un o’n labordai technoleg solar newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos mewn ymateb i’r prinder affwysol ledled y wlad; ac o ganlyniad i’r brys ychwanegol i chwilio am frechlynnau, a ffyrdd newydd o’u cyflwyno, mae dull newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei brofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 o’r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn archwilio goblygiadau seicolegol a chorfforol y feirws, gan ymchwilio i effeithiau cadw pellter cymdeithasol ac ynysu ar iechyd meddwl a lles emosiynol pobl, a chyfranogi mewn astudiaeth newydd i ystyried effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol y boblogaeth. Os yw Covid-19 wedi atgyfnerthu’r ymdeimlad ein bod yn gymuned fyd-eang, mae hefyd wedi atgyfnerthu ein hymdeimlad o gymuned fel Prifysgol, gan ddangos, mewn ffyrdd gwirioneddol, pam mae ymchwil wrth wraidd popeth a wnawn.

Sarah Aldridge yw enillydd cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2019 Prifysgol Abertawe. Ariannwyd y cais gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd ac fe’i gwnaed mewn cydweithrediad â Dr Graziella Iossa, Darlithydd mewn Swoleg ym Mhrifysgol Lincoln. Mae’r ddelwedd hon yn dangos arwyneb aur, hynod batrymog wy sy’n perthyn i anifail ag adenydd. Esboniodd Sarah: “Yn ôl yr olwg, gallai fod yn wy i ddraig, ond mae diamedr y ddelwedd yn llai na milimetr. Dyma ficrograff o wy teigr y coed, sy’n dangos harddwch patrymau fel hyn, yn ogystal â’u hymarferoldeb. “Credir bod y patrwm cymesur yn gweithredu fel twmffat, gan sianelu sberm tuag at y mandyllau sydd yng nghanol y rhosglwm a dylanwadu ar gyfraddau ffrwythloni.” Ar hyn o bryd, mae Sarah yn gwneud ymchwil ôl-raddedig yn allanol yn Ysgol Gwyddorau Bywyd Prifysgol Lincoln.

cyllid gwerth £20.8m gan Lywodraeth y DU yn 2019/20, o’i gymharu â £7.7m yn 2018/19, sy’n gynnydd calonogol a sylweddol o ffynhonnell y byddwn yn fwy dibynnol arni o bosib wrth i’r cyfnod pontio cyn gadael yr UE ddirwyn i ben. Dros y pum mlynedd nesaf, rwy’n rhagweld y byddwn yn datblygu ein cymuned ymchwil academaidd ymhellach, gan recriwtio pobl dalentog i weithio yn ein hamgylchedd ymchwil ardderchog, a’u datblygu a’u cadw. Bydd cysylltiad unigryw rhwng ein hymchwilwyr a’r bobl a fydd yn defnyddio ein hymchwil yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac y bydd eu bywydau’n gwella o ganlyniad i’n gwaith. Bydd ein syniadau, ein harbenigedd a’n pobl yn fwy adnabyddus a byddant yn llywio ein byd. Mae ymuno â’r Brifysgol ar yr adeg eithriadol hon wedi dangos i mi y gallwn oroesi’r cyfnodau anoddaf a dal i gyflawni pethau mawr. Mae hyn yn dangos ein gallu i arloesi’n gyflym dan bwysau, a gwydnwch a dyfeisgarwch pob un ohonom. Rwy’n hynod falch o fod yn rhan o Brifysgol Abertawe ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o’n cymuned wrth i ni ddechrau ein canrif nesaf. Yr Athro Helen Griffiths Dirprwy Is-ganghellor, Ymchwil ac Arloesi

Cyhoeddir Momentwm gan yr Adran Cyfathrebu Strategol. Ceir rhagor o wybodaeth drwy ffonio Mari Hooson ar +44 (0)1792 513455 neu drwy e-bostio m.hooson@abertawe.ac.uk ©Prifysgol Abertawe 2020 Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig (Rhif 1138342). Am ragor o wybodaeth am ymchwil Prifysgol Abertawe:

03

04

07

MYND I’R AFAEL Â HERIAU’R BYD GO IAWN

CRYNODEB O’R NEWYDDION

EFFAITH Y CYFYNGIADAU SYMUD AR WEITHGARWCH CORFFOROL A LLES

EICONAU YMCHWIL I gyfleu portffolio ymchwil eang Prifysgol Abertawe, rydym wedi creu cyfres o eiconau - cynrychioliadau graffig o’n meysydd ymchwil y byddwch chi’n eu gweld ar frig tudalennau’r cylchgrawn canmlwyddiant hwn. Ar hyn o bryd, mae gennym saith maes gwahanol o ymchwil gydag un eicon i bob un fel a ganlyn:

08

11

14

DYFODOL CYNALIADWY, YNNI A’R AMGYLCHEDD

DYFODOL DIGIDOL

CYFIAWNDER A CHYDRADDOLDEB

ARLOESEDD DUR

ARBENIGEDD YMCHWIL YN HELPU GWEITHWYR Y GIG

£6 MILIWN AR GYFER TECHNOLEG SOLAR Y GENHEDLAETH NESAF

BYGYTHIAD RHETHREG FILITARAIDD WRTH DRAFOD COVID-19

DIWYLLIANT, CYFATHREBU A THREFTADAETH

GWEITHGYNHYRCHU CLYFAR

ARLOESI YM MAES IECHYD

Am ragor o wybodaeth am ein hymchwil ewch i www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/

2 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

C R Y N O D E B O ’ R N E W Y D D I O N

C R Y N O D E B O ’ R N E W Y D D I O N

DEALL ANGHENION IECHYD MEDDWL A LLES AR ÔL COVID-19 Mae’r ymchwilwyr sy’n gyfrifol am astudiaeth newydd fawr sy’n nodi sut mae pobl Cymru wedi ymdopi â’r argyfwng coronafeirws yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau. Mae’r astudiaeth, a arweinir gan yr Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, yn archwilio effaith coronafeirws ar iechyd meddwl a lles emosiynol poblogaeth Cymru. Mae pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru’n cydweithio ar y prosiect, sef Wales Wellbeing. Meddai’r Athro Gray: “Mae hwn yn faes ymchwil pwysig iawn a fydd yn helpu’r GIG i olrhain anghenion lles y boblogaeth ar adegau gwahanol y pandemig. Rhoddir ein casgliadau o’r arolwg hwn, a’r rhai dilynol, i bob bwrdd iechyd pan fyddant ar gael. Yna gallant ddefnyddio’r casgliadau hyn – a’r data craidd sy’n sail iddynt – i weld ble y mae angen cymorth fwyaf a pha fath o gymorth y mae ei angen ar gyfer pa rannau o’r boblogaeth.” Mae’r grŵp ymchwil a arweinir gan yr Athro Gray, o Goleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol, hefyd yn cynnwys yr Athro Robert Snowden, o Brifysgol Caerdydd, a Dr Chris O’Connor, Cyfarwyddwr Adrannol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Dywedodd yr Athro Gray fod y grŵp yn ddiolchgar am gymorth y darparwr arolygon electronig ar-lein Qualtrics, a’r cymorth mawr a roddwyd gan Stuart Williams a thri myfyriwr PhD o Brifysgol Abertawe. Ychwanegodd: “Bu’n galonogol gweld y ffordd y mae pawb yn cydweithio er mwyn ceisio helpu’r GIG i gefnogi pobl Cymru gyda’u hanghenion iechyd meddwl a lles yn ystod y pandemig hwn. Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod yn Gymraes ar hyn o bryd ac o fod yn rhan o’r gymuned gref ym Mhrifysgol Abertawe.”

CYLLID Y CANMLWYDDIANT I YMLADD YN ERBYN COVID-19 A CHEFNOGI MYFYRWYR Bydd Prifysgol Abertawe, sy’n nodi ei chanmlwyddiant eleni, yn defnyddio cyllid a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer digwyddiadau dathlu er mwyn ymladd yn erbyn Covid-19 a hyrwyddo arloesedd. Rhoddodd yr Is-ganghellor, yr Athro Paul Boyle, wybod i aelodau o staff a myfyrwyr fod pandemig Covid-19 wedi arwain at ohirio’r holl ddigwyddiadau canmlwyddiant corfforol er mwyn cadw cymuned y Brifysgol yn ddiogel. Yn eu lle, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau rhithwir i nodi’r achlysur hanesyddol. Mae’r Brifysgol hefyd wedi ailgyfeirio cyllid gwerth £200,000 a neilltuwyd ar gyfer dathliadau’r canmlwyddiant, ynghyd â rhoddion, er mwyn cefnogi myfyrwyr, aelodau o staff ac academyddion talentog drwy ddarparu grantiau i ymchwilio i Covid-19 a rhoi hwb i’r gronfa galedi myfyrwyr i helpu myfyrwyr y mae’r pandemig wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol. Meddai’r Athro Boyle: “Ers agor ein drysau 100 mlynedd yn ôl rydym wedi arloesi, cydweithredu a datblygu i fod yn sefydliad campws deuol o safon ryngwladol, sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer o bobl. Mae ein gorchestion wedi cael effaith ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y garreg filltir arwyddocaol hon yn ein hanes cyfoethog. “Er ein bod yn siomedig i beidio â dathlu wyneb yn wyneb â’n staff, ein partneriaid, ein cyn-fyfyrwyr, ein myfyrwyr a’n ffrindiau, rhaid i ni sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i nifer ymhlith teulu Abertawe. “Byddwn hefyd yn dechrau gweithio ar raglen newydd o ddigwyddiadau a gynhelir unwaith y gallwn ymgynnull yn ddiogel yn y dyfodol. “Er gwaethaf yr heriau sy’n wynebu’r sector Addysg Uwch ar hyn o bryd, mae hwn yn gam pwysig sy’n tanlinellu ein hymrwymiad i ymchwil effeithiol a gofal dros ein myfyrwyr. Mae’r egwyddorion hyn wedi bod yn rhan o’n hanfod ers 100 mlynedd a bydd hynny’n parhau wrth i ni edrych ymlaen at ein canrif nesaf.” Yr Athro Paul Boyle

DEFNYDDIO NWY I LANHAU AMBIWLANSYS AR FRYS

Y tîm glanhau ambiwlansys

Mae tîm o ymchwilwyr o’r Coleg Peirianneg wedi ennill cyllid i brofi dull newydd o ddiheintio ambiwlansys sydd wedi cludo cleifion Covid-19 posib, a fyddai’n cwtogi’r amser glanhau ambiwlans o 45 munud i lai nag 20 munud. Dan arweiniad Canolfan Ragoriaeth y Fenter Ymchwil Busnesau Bach (SBRI) a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yr her oedd cwtogi’r amser roedd ei angen i lanhau cerbyd yn drylwyr a’i roi yn ôl ar waith. Roedd cais Prifysgol Abertawe ymysg y deuddeg gorau a sicrhaodd gyllid. Bydd y tîm yn profi dull newydd o ryddhau nwy yn sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr mewn llai nag ugain munud, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Darparwyd cymorth i’r her gan y cynllun Sbarduno Amddiffyn a Diogelwch (DASA) a gwyddonwyr y Llywodraeth yn Porton Down. Os bydd y profion yn llwyddiannus, gellid cyflwyno’r system i wasanaethau brys eraill, trafnidiaeth gyhoeddus a wardiau ysbyty. Meddai Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: “Mae’n prifysgolion a’n colegau wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. “Rwy’n falch bod prifysgol o Gymru wedi cyrraedd cam cyllido’r gystadleuaeth, gan ddangos sut gall ein prifysgolion roi eu harbenigedd academaidd ar waith wrth wynebu’r heriau mwyaf sydd o’n blaenau.”

Meddai Dr Chedly Tizaoui o Brifysgol Abertawe, peiriannydd cemegol a phrif ymchwilydd y prosiect: “Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gael gweithio gyda chymorth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Ragoriaeth SBRI i ddarparu ateb cyflym posib ar gyfer glanhau ambiwlansys. Mae’n gyfle gwych i ni helpu gwasanaethau rheng flaen a’n cydweithwyr iechyd yn y frwydr yn erbyn Covid-19.” Bydd Dr Tizaoui yn gweithio ar y prosiect gyda’r Athro Dave Worsley a’r Athro Peter Holliman.

Ceir mwy o wybodaeth yn wales-wellbeing.Co.Uk/cy

Dr Karen Perkins, aelod o’r tîm glanhau ambiwlansys

4 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 5

E R T H Y G L

RHOI BRECHLYNNAU DRWY GLYTIAU MICRONODWYDD

Clwtyn trawsdermig gan Innoture. Credyd: Innoture

Mae ffordd newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei phrofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Gall nodwyddau hypodermig traddodiadol fod yn frawychus ac yn boenus. Gallai micronodwyddau wella ufudd-dod cleifion ac arwain at ganlyniadau iechyd gwell. Mae micronodwyddau’n fân nodwyddau, wedi’u mesur mewn miliynfedau metr (μm), a’u nod yw cyflwyno meddyginiaethau drwy’r croen. Maent yn debyg i’r clytiau trawsdermig a ddefnyddir i gyflwyno nicotin er mwyn helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu. Innoture, cwmni o’r DU sy’n arbenigo mewn rhoi meddyginiaethau drwy’r croen, sy’n arwain y gwaith ymchwil. Mae’r cwmni

wedi gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ers 2012. Mae adran Ymchwilio a Datblygu Innoture wedi’i lleoli yn Athrofa Gwyddor Bywyd y Brifysgol, lle cynhaliwyd gwaith ymchwil mewn cydweithrediad â’r Ganolfan NanoIechyd, sy’n meddu ar gyfleusterau ar gyfer cynhyrchu micronodwyddau a chynnal profion trawsdermig. Bydd yr ymchwil yn datblygu ac yn profi technoleg ar gyfer cyflwyno brechlynnau drwy’r croen. Bydd hefyd yn profi proses waredu syml a diogel, a fyddai’n caniatáu i’r clytiau gael eu gosod gartref. Meddai’r Athro Owen Guy, Pennaeth Cemeg a Chyfarwyddwr Canolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe: “Mae defnyddio clytiau micronodwydd i gyflwyno brechlyn yn ffordd gyffrous o ddatblygu technoleg clytiau trawsdermig Innoture.” Esboniodd Dr Michael Graz, Prif Swyddog Gwyddonol Innoture: “Mae’r clwtyn yn ddi-boen ac yn tarfu ar y claf cyn lleied â phosib wrth iddo ei osod ei hun. Ar adeg pan fo angen hunanynysu, gellir gosod y clwtyn yn hwylus gartref

dan gyfarwyddyd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan leihau’r angen i bobl fynd i glinig. Yn ogystal, o ran gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, mae’n byrhau ymgynghoriadau neu apwyntiadau a gallai gael gwared ar yr angen am storio ar dymheredd cyson.” Ychwanegodd Dr Sanjiv Sharma, Uwch- ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol: “Gallai’r prosiect hwn ddarparu dull chwyldroadol o gyflwyno brechlynnau yn y dyfodol. Fel partner hirdymor Innoture, rydym yn edrych ymlaen at gefnogi’r fenter gyffrous hon.”

Dyluniad microadeiledd o glwtyn croen Innoture. Credyd: Innoture

DYDDIADURONCORONA BYW YN YSTOD PANDEMIG

EFFAITH Y CYFYNGIADAU SYMUD AR WEITHGARWCH CORFFOROL A LLES

Mae byw yn ystod cyfnod o ynysu a chadw pellter cymdeithasol wedi ysbrydoli llawer o bobl i gofnodi eu profiadau, drwy ddyddiaduron ysgrifenedig, ffotograffau a chyhoeddiadau ar TikTok a chyfryngau cymdeithasol eraill. Mae Dr Michael Ward o Brifysgol Abertawe yn arwain yr astudiaeth gyntaf ym maes gwyddor gymdeithasol i’r argyfwng presennol, sy’n ceisio edrych ar y ffordd rydym yn cofnodi ein profiadau yn ystod y pandemig. Seiliwyd DyddiaduronCorona yn rhannol ar yr astudiaethau arsylwi torfol a gynhaliwyd cyn, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd pan fu gwirfoddolwyr yn cofnodi eu profiadau. Mae Dr Ward wrthi’n recriwtio gwirfoddolwyr o bob oed i gymryd rhan. Yn ogystal â chofnodion dyddiadur traddodiadol, mae’n cynnwys yr hyn sy’n cael ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol,

blogiau, fideos, gwaith celf ac unrhyw ddull a ddefnyddiwyd gan bobl i fynegi eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud. Meddai: “Wrth i wybodaeth feddygol ac epidemiolegol gael ei chyflwyno, mae hefyd angen brys i edrych ar yr ymateb i Covid-19 o safbwynt gwyddor gymdeithasol. Bydd y dyddiaduron hyn yn gofnod o’n hynt ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â ffordd o rannu poen a phrofiadau ag eraill.” Dywedodd Dr Ward, sy’n uwch-ddarlithydd Gwyddor Gymdeithasol, fod y cyfyngiadau symud wedi creu ffyrdd newydd o ymddwyn a bod gwahanol sefyllfaoedd cymdeithasol yn codi drwy’r amser – o gyfarfodydd gwaith Zoom i foreau coffi rhithwir drwy apiau parti. “Mae pobl yn ymateb mewn sawl ffordd. Mae diddordebau newydd a ffyrdd newydd o ryngweithio yn creu bywyd cymdeithasol gwahanol yn y byd go iawn a’r byd rhithwir.“

Mae’n gobeithio sicrhau cyllid i lunio archif ddigidol o’r cyfraniadau fel y gellir eu defnyddio i helpu i ddylanwadu ar yr ymateb i’r argyfwng coronafeirws ac unrhyw achosion o glefydau pandemig eraill yn y dyfodol. Bydd yr holl ddogfennau’n cael eu storio’n ddiogel, mewn ffeiliau a ddiogelir gan gyfrinair, a bydd dogfennau ysgrifenedig yn ddienw i warchod cyfranogwyr. Ceir mwy o wybodaeth drwy e-bostio Dr Ward, ffonio 07890 874188 neu drwy gysylltu ag ef ar Twitter @mrmwardphd.

Mae tîm o ymchwilwyr o sawl prifysgol yn y DU, gan gynnwys arbenigwyr gwyddor chwaraeon o Abertawe, wedi lansio astudiaeth newydd i archwilio effaith strategaeth cyfyngiadau symud Llywodraeth y DU ar lefelau gweithgarwch corfforol a lles y boblogaeth yn ystod pandemig Covid-19. Mae’r tîm wrthi’n recriwtio sampl fawr o oedolion sy’n byw yn y DU i gwblhau arolwg ar-lein ynghylch gweithgarwch corfforol. Mae’r arolwg yn gofyn am arferion cyn dyfodiad Covid-19, ac yn ystyried pa effaith y mae’r cyfyngiadau symud wedi’i chael ar lefelau a mathau o weithgarwch corfforol pobl ac, yn bwysig, ar eu lles meddyliol. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn helpu i baratoi ymchwilwyr yn well i gefnogi

pobl i sicrhau y byddai eu hiechyd a’u lles cystal ag y bo modd pe bai’r wlad yn wynebu cyfyngiadau symud tebyg yn y dyfodol. Bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar lefelau gweithgarwch corfforol presennol oedolion ledled y DU, gan ddarparu gwybodaeth hollbwysig ynghylch sut i hyrwyddo ffyrdd iach o fyw. Meddai Dr Kelly Mackintosh, arbenigwr gwyddor chwaraeon o Brifysgol Abertawe ac un o gyd-ymchwilwyr yr astudiaeth: “Un peth cadarnhaol sydd wedi deillio o Covid-19 yw bod y llywodraeth wedi hyrwyddo pwysigrwydd gweithgarwch corfforol. Y tu hwnt i’r holl fanteision ffisiolegol, mae’r manteision i iechyd meddwl o fod yn weithgar yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio y bydd unrhyw newidiadau

cadarnhaol i ymddygiad yn parhau pan gaiff y cyfyngiadau symud eu codi. Bydd yr wybodaeth hon yn hollbwysig ledled y pedair cenedl gartref, ac mae fy nghyd-ymchwilydd Dr Melitta McNarry a minnau’n awyddus i gyflwyno mentrau drwy Sefydliad Gweithgarwch Corfforol ac Iechyd Cymru.” Ychwanegodd Dr James Faulkner o Brifysgol Winchester, prif ymchwilydd yr astudiaeth: “Bydd yr arolwg hwn yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth bwysig ynghylch a yw’r strategaethau penodol a osodwyd gan y llywodraeth yn cael dylanwad sylweddol, boed yn gadarnhaol neu’n negyddol, ar weithgarwch corfforol a lles poblogaeth y DU.”

Dr Michael Ward

6 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 7

E R T H Y G L

E R T H Y G L

HYLIF DIHEINTIO, MASGIAU A MEICROFFONAU ARBENIGEDD YMCHWIL YN HELPU GWEITHWYR Y GIG Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn defnyddio eu harbenigedd technegol i helpu gweithwyr iechyd a gofal yn ystod y pandemig coronafeirws:

DEALL PRYDER Y CYHOEDDYNGHYLCH AP OLRHAIN CYSYLLTIADAU Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn awgrymu bod gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio ap ar gyfer ffonau symudol i olrhain cysylltiadau o ran Covid-19. Dywedodd oddeutu traean o’r cyfranogwyr na fyddant yn defnyddio’r ap. Mae llawer o bobl yn poeni na fydd yr ap yn diogelu preifatrwydd defnyddwyr neu na chaiff ei ddefnyddio gan ddigon o bobl i sicrhau ei fod yn effeithiol. Roedd llawer o bobl o’r farn nad oedd ganddynt ddigon o wybodaeth am yr ap neu eu bod wedi cael eu camarwain ynghylch sut mae’r ap yn gweithio. Mae’r ymchwil ar ffurf adroddiad rhagarweiniol a gyhoeddwyd ar medRxiv, gwefan a ddefnyddir gan ymchwilwyr i rannu darganfyddiadau newydd ynghylch materion amserol cyn iddynt gael eu hadolygu gan gymheiriaid i’w cyhoeddi mewn cyfnodolyn. Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n arwain yr ymchwil, mewn cydweithrediad â chydweithwyr ym Mhrifysgol Manceinion ac ymgynghorydd annibynnol yn Sefydliad Iechyd y Byd. Meddai Dr Williams: “Bydd cefnogaeth y cyhoedd i’r ap, a’r defnydd ohono, yn penderfynu yn y pen draw a fydd y strategaeth yn llwyddo neu’n methu. Mae ein hastudiaeth yn awgrymu nad oes sicrwydd y bydd y llywodraeth yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i sicrhau’r math o ddefnydd a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Mae angen gwneud llawer o waith i gynyddu hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn y ffordd y mae’r llywodraeth yn ymdrin â Covid-19, ac i wella gwybodaeth am yr ap. “Rydym yn argymell y dylai’r llywodraeth gyfathrebu mewn modd mor glir â phosib, gan ddefnyddio cyfryngau amrywiol. Dylid newid i ymagwedd ddatganoledig, canolbwyntio ar dawelu meddyliau’r cyhoedd ynghylch preifatrwydd, a hyrwyddo’r neges allweddol bod defnyddio’r ap yn rhan o’r cydgyfrifoldeb am atal y feirws rhag lledaenu a’i fod yn gallu helpu i achub bywydau.”

1

2

3

Cafodd amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG eu dylunio a’u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan dîm o’r Coleg Peirianneg, drwy gymorth ASTUTE 2020 o Sefydliad Ymchwil Gweithgynhyrchu’r Dyfodol, Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Cyflymu a Chanolfan Argraffu a Chaenu Cymru. Ar ôl gweithio ddydd a nos, gwnaethant gynhyrchu dyluniad Prusa ffynhonnell agored ar gyfer yr amddiffynwyr, gan ychwanegu sbwng neopren a strap elastig llydan. Anfonwyd y feisorau i ysbytai lleol ar gyfer profion ac adborth, a ddefnyddiwyd gan y tîm i wella’r dyluniad. Mae’r feisorau wedi ennill nod diogelwch CE, sy’n golygu y gellir eu cynhyrchu ar raddfa fwy.

Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe wedi helpu i ddatblygu adnodd cymorth cyfathrebu arobryn ar gyfer staff iechyd rheng flaen sy’n gorfod gwisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig. Roedd y Ganolfan yn rhan o’r tîm yng Nghymru a oedd yn gyfrifol am MaskComms, meicroffon sy’n ddigon bach i’w roi y tu mewn i fasg wyneb a throsglwyddo llais yn ddi-wifr i uchelseinydd y gellir ei wisgo. Mae’n galluogi grŵp o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwisgo masgiau i gyfathrebu â’i gilydd yn haws mewn ysbyty, megis mewn theatr yn ystod llawdriniaeth. Mae’r prosiect wedi ennill grant gwerth £8,000 yn nigwyddiad Hac Iechyd Cymru eleni, sy’n ceisio ysgogi mentrau arloesol ac annog GIG Cymru, diwydiant a’r byd academaidd i gydweithio.

Staff fferyllfa yn Abertawe’n dangos yr hylif diheintio a gynhyrchwyd gan y Brifysgol

Cynhyrchodd tîm o 30 o wirfoddolwyr o dri o golegau’r Brifysgol filoedd o litrau o hylif diheintio dwylo, gan addasu llinell gynhyrchu a ddefnyddir ar gyfer technoleg solar fel arfer. Mae’r GIG, darparwyr tai a gofal, a dwsin o ysgolion lleol yn defnyddio’r hylif diheintio, sy’n bodloni’r safon a bennir gan Sefydliad Iechyd y Byd. Arweinir y gweithgynhyrchu gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC, sy’n arbenigo mewn ymchwil solar a dylunio, yn ogystal â phrosesu cemegol. Gwnaeth aelodau’r tîm addasu ac arloesi wrth iddynt fynd rhagddynt. Gwnaethant ddyfeisio cyfarpar potelu amlben a all lenwi potel 5L mewn 20 eiliad yn hytrach na 60 eiliad. Gwnaethant weithio’n agos gyda gwneuthurwyr lleol i gael gafael ar y swm anferth o gynhwysion a oedd yn angenrheidiol i gynhyrchu miloedd o litrau o hylif diheintio.

Yr adnodd cymorth cyfathrebu

8 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 9

E R T H Y G L

E R T H Y G L

£6 MILIWN AR GYFER TECHNOLEG SOLAR Y GENHEDLAETH NESAF

Bydd grant gwerth £6 miliwn yn ysgogi’r broses o ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd. Bydd grwpiau ymchwil o fri rhyngwladol o Brifysgol Abertawe, Coleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen yn cydweithio i ddatblygu defnyddiau o gelloedd solar perofsgit ac organig nad yw technolegau solar presennol yn addas ar eu cyfer. Mae perfformiad y technolegau newydd hyn yn gallu cystadlu â dewisiadau cyfredol, ond maent yn fwy hyblyg, yn fwy ysgafn, yn rhatach i’w cynhyrchu, a gellir eu hargraffu’n uniongyrchol ar gynhyrchion wrth iddynt gael eu gweithgynhyrchu. Felly, maent yn addas ar gyfer defnyddiau newydd megis: 5G, sy’n defnyddio ffynonellau ynni hynod ysgafn ar gyfer lloerennau ffug a cherbydau awyr di-griw sy’n gweithredu ar uchder; Y Rhyngrwyd Pethau, lle mae synwyryddion yn cael eu gosod mewn eitemau pob dydd; Adeiladau a cherbydau di-garbon, a allai ddefnyddio eu toeon, eu waliau a’u ffenestri er mwyn cynhyrchu ynni. Y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) sy’n darparu’r grant. Bydd y tîm yn ei ddefnyddio er mwyn cyflwyno gwyddoniaeth a pheirianneg sylfaenol sy’n ategu’r technolegau hyn; datblygu dulliau gweithgynhyrchu carbon isel, rhad a fydd yn golygu y gellir eu cynhyrchu ar y raddfa briodol; a chreu prototeipiau.

Enw’r rhaglen ymchwil yw Defnyddiau Ffotofoltäig Penodol ac Integredig (ATIP). Fe’i harweinir gan Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Chanolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) newydd y Brifysgol, CPE (Centre for Processable Electronics) yng Ngholeg Imperial Llundain, ac Adran Ffiseg Prifysgol Rhydychen. Mae hefyd yn cynnwys 12 o bartneriaid diwydiant o rannau gwahanol o’r gadwyn gyflenwi. Meddai’r Athro James Durrant FRS, o SPECIFIC, a fydd yn arwain y rhaglen: “Mae’r ffaith bod EPSRC wedi dewis dyfarnu’r Grant Rhaglen hwn yn dangos arbenigedd ein tîm a chryfder y DU yn y maes hwn. Gyda’r tair canolfan flaenllaw hyn yn cydweithio, byddwn yn gallu cyflwyno technolegau solar y genhedlaeth nesaf o’r labordy i’r byd go iawn yn gyflymach, er lles y DU a gweddill y byd.”

ASTUDIAETH YN DANGOS ARFERION HEDFAN CONDORIAID

Ffotograffydd: Facundo Vital

Yn hytrach na chwifio eu hadenydd er mwyn symud yn yr awyr, mae’r adar mwyaf yn defnyddio ceryntau aer i’w cadw yn yr awyr am oriau ar y tro. Mae condor yr Andes – sef aderyn esgynnol trymaf y byd, a all bwyso hyd at 15kg – yn chwifio ei adenydd un y cant o’r amser y mae yn yr awyr. Daethpwyd i’r casgliad hwn mewn astudiaeth a oedd yn rhan o gydweithrediad rhwng yr Athro Emily Shepard o Brifysgol Abertawe a Dr Sergio Lambertucci yn Ariannin. Gwnaethant ddefnyddio technoleg recordio yn yr awyr o’r radd flaenaf ar gondoriaid yr Andes er mwyn cofnodi pob curiad adain ac achos o droi a throelli wrth i gondoriaid chwilio am fwyd. Roedd y tîm am wybod am y ffordd y mae ymdrechion hedfan adar yn amrywio yn ôl amgylchiadau amgylcheddol. Bydd eu casgliadau’n helpu i wella dealltwriaeth o allu adar mawr i esgyn a’r amgylchiadau penodol sy’n gwneud hediad yn anfanteisiol. Darganfu’r ymchwilwyr fod mwy na 75 y cant o weithgarwch chwifio’r condoriaid yn ymwneud â’r esgynfa. Fodd bynnag, ar ôl iddynt gyrraedd yr awyr, gall condoriaid barhau i esgyn am gyfnodau hir mewn amrywiaeth o wyntoedd ac amgylchiadau thermol – llwyddodd un aderyn i beidio â chwifio ei adenydd am bum awr, gan deithio tua 172km neu fwy na 100 milltir. Meddai Dr Hannah Williams, sydd bellach yn Sefydliad Ymddygiad Anifeiliaid Max Planck: “Wrth wylio adar o farcutiaid i eryrod yn hedfan, efallai y byddwch yn amau a ydynt yn chwifio eu hadenydd o gwbl. Mae’r cwestiwn hwn yn bwysig, gan fod damcaniaethau’n dweud wrthym y bydd adar mor fawr â chondoriaid yn ddibynnol ar esgyn er mwyn symud. “Datgelodd ein canlyniadau nad oedd nifer y weithiau roedd yr adar yn chwifio eu hadenydd yn newid yn sylweddol yn ôl y tywydd. Mae hyn yn awgrymu bod penderfyniadau ynghylch ble a phryd i lanio yn hanfodol, gan fod angen i gondoriaid esgyn i’r awyr eto, a bod glanio’n ddiangen yn ychwanegu’n sylweddol at ymdrech gyffredinol yr hediad.”

Un o’r celloedd solar perofsgit hyblyg

Yr Athro Emily Shepard

Ms Nasim Zarrabi, o Brifysgol Abertawe, yn gweithio ar fodiwlau solar gyda blwch menig

10 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

E R T H Y G L

P R O F F I L Y M C H W I L

SUT MAE CRWBANOD Y MÔR YN DOD O HYD I YNYSOEDD BACH, ANGHYSBELL

DR VICTORIA JENKINS

Mae Dr Victoria Jenkins yn Athro Cysylltiol yn Ysgol y Gyfraith. Mae ei diddordebau ymchwil ym maes cyfraith amgylcheddol ac mae hi wedi treulio dros 20 mlynedd yn cyhoeddi yn y maes hwn. Mae Dr Jenkins yn ymddiddori’n benodol mewn sut gellir defnyddio’r gyfraith a llywodraethu i helpu i fynd i’r afael â heriau cymhleth megis cyflawni datblygu cynaliadwy – neu integreiddio ein nodau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Yn 2002, cyhoeddodd bapur o’r enw “Placing Sustainable Development at the Heart of Government in the UK: the role of law in the evolution of sustainable development as the central organising principle of government”. Awgrymodd y papur y byddai dyletswydd gyfreithiol parthed datblygu cynaliadwy yn gweithredu fel addysgwr pwerus ar gyfer pob gweithredwr yn ein cymdeithas ac yn rhoi ffocws i weithredu llywodraethol yn benodol. Mae’r syniad hwn wedi bod wrth wraidd deddfwriaeth

newydd yng Nghymru sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mewn llyfr diweddar i nodi pum mlynedd ers i’r Ddeddf ddod i rym ( #futuregen: Lessons from a Small Country ), disgrifiodd pensaer y ddeddfwriaeth honno, Jane Davidson, yr ‘eiliad a roddodd groen gŵydd’ iddi pan sylweddolodd fod Dr Jenkins wedi cynnig y syniad hwn dros ddegawd cyn iddo gael ei drafod gan Aelodau Cynulliad Cymru. Mae Dr Jenkins yn parhau i weithio ar ymchwil sy’n torri tir newydd ym maes cyfraith amgylcheddol a bellach mae hi’n canolbwyntio ar yr heriau cymhleth sy’n gysylltiedig â gwarchod gwerthoedd tirwedd a chyflawni dulliau cynaliadwy o reoli tir. Mae hi wedi cyflwyno ei gwaith fel rhan o ddarlithoedd cyfraith amgylcheddol Brodies, cyfres uchel ei bri, ym Mhrifysgol Caeredin a dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru iddi er mwyn ystyried

ymagweddau posib at Fframweithiau Cyffredin y DU i ddiogelu’r amgylchedd ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae tirwedd a dulliau cynaliadwy o reoli’r tir yn feysydd ymchwil amlddisgyblaethol ac mae Dr Jenkins yn ceisio cydweithredu ag ymchwilwyr eraill a sefydliadau allanol wrth ymgymryd â’r agendâu ymchwil hyn. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar bapur sy’n ystyried rôl deddfwriaeth wrth ddiogelu mawndiroedd gyda Dr Jonathan Walker, Cydlynydd yr Hyb Ymchwil yng Nghynllun Rheoli Cynaliadwy Mawndiroedd Cymru. Mae mawndiroedd yn storfa carbon bwysig ac yn hanfodol i gadernid ecosystemau gwlyptiroedd Cymru. Gyda’i gilydd, mae Dr Jenkins a Dr Walker wedi nodi nifer o wendidau yn y warchodaeth bresennol sydd ar gael i’r adnoddau naturiol hanfodol hyn dan y gyfraith ac maent wedi awgrymu cyfres o ddiwygiadau yn y tymor byr a’r tymor hir i unioni hyn.

Credyd am y ffotograff: RD a BS Kirkby

Ym 1873, roedd gallu crwbanod y môr i ddod o hyd i ynysoedd anghysbell i nythu ynddynt yn destun rhyfeddod i Charles Darwin. Mae astudiaeth arloesol gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe a chydweithwyr o Brifysgol Deakin a Phrifysgol Pisa wedi datgelu sut maent yn gwneud hynny. Gwnaeth y tîm roi tagiau lloeren ar 33 o grwbanod gwyrdd a chofnodi eu trywydd unigryw wrth iddynt fudo’n bell yng Nghefnfor yr India i ynysoedd cefnforol bach. Mae tystiolaeth yr astudiaeth ymysg yr orau a ddarparwyd hyd yn hyn o allu crwbanod y môr i ailgyfeirio yn y cefnfor agored. Teithiodd saith crwban ddegau o gilometrau’n unig i safleoedd chwilota ar Gylchynys Fawr Chagos, teithiodd chwech ohonynt dros 4,000km i dir mawr Affrica, un i Fadagasgar, ac aeth dau grwban arall tua’r gogledd i’r Maldives. Aeth y rhan fwyaf o’r rhywogaethau a gafodd eu holrhain tua’r gorllewin i safleoedd chwilota pell yng Nghefnfor Gorllewinol yr India a oedd yn gysylltiedig ag ynysoedd bach.

Mae’n dangos y gall y crwbanod deithio gannoedd o gilometrau oddi ar y llwybrau uniongyrchol er mwyn cyrraedd eu cyrchfan cyn ailgyfeirio, yn aml yn y cefnfor agored. Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod crwbanod yn aml yn cael trafferthion wrth ddod o hyd i ynysoedd bach, gan fynd yn rhy bell a/neu chwilio am yr ynys yn ystod y camau mudo olaf. Mae canlyniadau’r broses o’u holrhain drwy loeren yn ategu’r awgrym, sy’n deillio o waith blaenorol mewn labordai, fod crwbanod yn defnyddio tirnodau fel system syml o ddod o hyd i’r ffordd yn y cefnfor agored, gan ddefnyddio maes geomagnetig y byd o bosib. Meddai Dr Nicole Esteban o Brifysgol Abertawe, un o gyd-awduron yr astudiaeth: “Cawsom ein synnu pan aeth crwbanod gwyrdd gannoedd o gilometrau y tu hwnt i’w cyrchfan weithiau cyn chwilio’r cefnfor amdano. Mae ein hymchwil yn dangos tystiolaeth bod gan grwbanod synnwyr mapio syml sy’n eu hailgyfeirio yn y cefnfor agored.”

12 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe | 13

E R T H Y G L

BYGYTHIAD RHETHREG FILITARAIDD WRTH DRAFOD COVID-19

Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Llundain, a adeiladwyd o fewn dyddiau drwy gymorth Byddin Prydain, yn rhoi tystiolaeth weledol o’r ymateb militaraidd hwn i’r pandemig parhaus. Mae’r defnydd helaeth o rethreg filitaraidd yn yr argyfwng coronafeirws hefyd yn rhan o wleidyddiaeth bersonol ansicrwydd sy’n apelio at emosiynau’r cyhoedd ac yn ceisio anfon neges gref at yr etholwyr bod yr arweinwyr gwleidyddol yn effeithiol. Un enghraifft yw ymdrechion mynych Boris Johnson, Prif Weinidog Prydain, i godi ysbryd y Blitz, er mwyn sicrhau cefnogaeth eang y cyhoedd ar adeg o argyfwng rhyngwladol. Nid yw’r defnydd o’r fath iaith filitaraidd mewn ymateb i fygythiad anhysbys yn newydd o bell ffordd. Yn ôl yr Athro Laura McEnaney o Goleg Whittier, sy’n canolbwyntio ar hanes yr Unol Daleithiau ar ôl yr Ail Ryfel Byd, arweiniodd ymarferion amddiffyn sifil at filitareiddio bywyd pob dydd ar ddechrau’r Rhyfel Oer. Ym Mhrydain, datgelodd yr hanesydd David Edgerton fodolaeth gwladwriaeth ryfelgar, gan herio cysyniadau poblogaidd am y wladwriaeth les ar ôl y rhyfel. Yn y 1980au, cyfeiriodd yr ysgolhaig ffeministaidd Carol Cohn at y cyfyngiadau y mae iaith filitaraidd sy’n ffafrio un rhywedd yn gosod ar ddychymyg ein polisïau. Mae ymatebion militaraidd yn ei gwneud yn anodd lleihau’r posibilrwydd o wynebu’r un fath o ddiffyg parodrwydd yn y dyfodol. Gall rhethreg filitaraidd arwain at ofn a phanig ac ymatebion byrbwyll i’r panig hwnnw, gan wneud sefyllfa ofnadwy hyd yn oed yn waeth.

Dr Christoph Laucht

Dr Susan Jackson

Mae Dr Christoph Laucht yn uwch-ddarlithydd mewn hanes modern yng Ngholeg Celfyddydau a Dyniaethau’r Brifysgol. Mae Dr Susan Jackson yn ymchwilydd yn Adran Hanes Economaidd Prifysgol Stockholm, gan ganolbwyntio ar filitareiddio a chysylltiadau rhyngwladol. Efallai mai prif elfen y pandemig coronafeirws newydd yw’r ansicrwydd amlochrog y mae’n ei greu i lywodraethau a’u pobl. Mae’r ansicrwydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i bryderon am iechyd y cyhoedd, gan ysgogi llywodraethau i gymryd camau difrifol i achub bywydau. Elfen gyffredin ymhlith arweinwyr, newyddiadurwyr a’r cyhoedd fel ei gilydd fu’r defnydd o rethreg hynod filitaraidd – a chenedlaetholgar yn aml – wrth gyfiawnhau a chloriannu sefyllfa’r pandemig. Ystyriwch y canlynol, er enghraifft:

I ddechrau, rydym yn argymell:

Byddin o bwythwyr, yn gwneud masgiau i America (The New York Times, 25 Mawrth)

Ailystyried y ffordd rydym yn siarad am yr arwyr. Nid oes angen i weithwyr gofal iechyd, rheolwyr cadwyni cyflenwi, llafurwyr amaeth ymfudol, gwneuthurwyr cyfarpar diogelu, ac arianwyr siopau fod ar y “rheng flaen” er mwyn i ni werthfawrogi’r gwasanaeth a ddarperir ganddynt i gadw’r gymdeithas ar waith hyd yn oed ar adegau heb bandemig. Peidio â siarad am gleifion rhyfel mwyach. Er mwyn deall pwysigrwydd yr argyfwng hwn, dylem gymharu nifer y bobl sydd wedi marw o ganlyniad i Covid-19 â chlefydau pandemig/epidemig yn y gorffennol. Ac mae angen i ni gael gafael ar ddata ar y pryd ac ystyried rhywedd yn ein hymatebion. Mae’r effeithiau niweidiol yn ymestyn ymhellach na nifer y bobl sy’n marw o’r feirws. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod trais domestig yn cynyddu ar adegau llawn straen. Hyrwyddo undod trawsffiniol a rhyngwladoliaeth. Drwy gael gwared ar rethreg rhyfela, gallwn ddosbarthu deunyddiau’n gydweithredol yn hytrach na’u cronni at ddibenion cenedlaetholgar. Gan fod pandemig yn croesi ffiniau, dylai ein hymdrechion i gyfyngu arno ac ymateb iddo wneud yr un peth.

Meddyg: Milwr ydwyf yn y frwydr yn erbyn coronafeirws, ac mae’n codi ofn arnaf (CNN, 27 Mawrth) Byddin yn paratoi am frwydr yn erbyn gelyn anweledig wrth i Ysbyty Nightingale agor (The Independent, 1 Ebrill) Mae iaith filitaraidd yn creu tyndra sydd yn ei hanfod yn peri problemau, yn enwedig pan fo’r gelyn yn feirws. Mae’r ensyniadau sero-swm mewn iaith filitaraidd yn ei gwneud yn anodd creu undod rhwng pobl sy’n byw mewn gwledydd gwahanol. Gall hyn arwain at effeithiau negyddol, e.e. cystadleuaeth beryglus rhwng gwladwriaethau a’r tu mewn iddynt ynghylch adnoddau sydd bellach yn brin. Mae’r defnydd o iaith filitaraidd yn chwarae rhan allweddol wrth gyfleu rhywbeth anhysbys ac anghyfarwydd mewn modd cyfarwydd, dirnadwy: drwy bortreadu coronafeirws fel gelyn anweledig y gallwn ei drechu, crëir yr argraff ei bod yn bosib cyfyngu ar y bygythiad ansicr hwn, ei reoli a hyd yn oed ei ddinistrio – mewn termau milwrol ac o ran gofal iechyd. Wrth i straeon am staff gofal iechyd “rheng flaen” a’r defnydd (deployment) o gyfarpar meddygol newydd ymddangos yn y cyfryngau, disgrifiodd maer Dinas Efrog Newydd 5 Ebrill 2020 – sef y diwrnod pan amcangyfrifwyd na fyddai digon o beiriannau anadlu i drin cleifion â chymhlethdodau Covid-19 difrifol mewn ysbytai yno – fel “D-Day”. Yn ogystal, mae’r lluoedd arfog wedi helpu awdurdodau sifil yn y “frwydr” yn erbyn coronafeirws. Mae delweddau o’r USNS Comfort, un o longau ysbyty Llynges yr Unol Daleithiau, yn glanio yn Ninas Efrog Newydd neu agor ysbyty argyfwng Nightingale y

14 | Momentwm: Newyddion Ymchwil o Brifysgol Abertawe

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14

Made with FlippingBook - Online Brochure Maker