Adnoddau'r Ganolfan Ymchwil i Ymarfer

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Adroddiad Gwerthuso Ysgol Newydd

AT1

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Dadansoddi data’r ysgol Astudiaethau achos teuluoedd

 Un o'n cwestiynau oedd: Beth yw cryfderau a gwendidau’r model democrataidd a ddefnyddir gan yr ysgol newydd a pha mor dda y mae’n cael ei gymhwyso?

Grwpiau ffocws staff Cyfweld staff unigol Arolwg teuluoedd Dadansoddiad cost a budd Adolygiad o lenyddiaeth lles ac addysg ddemocrataidd

Yr hyn a ddarganfuom

used with all ages Roedd dulliau addysgu democrataidd yn gwella hyder plant fel dysgwyr a’u gallu i gymryd rhan ym mywyd yr ysgol. Mae’r model ysgol yn cael effaith gadarnhaol ar les disgyblion a rhieni.

1

2

Mae'r staff wedi creu amgylchedd lle mae plant sydd wedi cael eu haddysgu gartref yn y gorffennol yn teimlo eu bod yn gallu mynychu.

3

Mae manteision yr ysgol i'r plant yn fwy na chostau rhedeg yr ysgol.

4

Pam mae hyn yn bwysig

Nid yn unig mae'r gwerthusiad o gymorth i'r ysgol hon wrth symud ymlaen, ond mae hefyd yn codi cwestiynau ehangach am bwysigrwydd addysg ddemocrataidd a ffyrdd o ddatblygu cyfrifoldeb plant am eu dysgu, e.e. trwy sosiocratiaeth ac arfer adferol. Mae’r model o ddiddordeb i’r gymdeithas ehangach o ystyried y cynnydd yn nifer y plant sy’n cael eu haddysgu gartref a’r ansicrwydd ynghylch ansawdd eu profiadau addysgol.

Gwybodaeth bellach

Yr Athro Andy Townsend, Pennaeth Adran, Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Abertawe: andrew.townsend@abertawe.ac.uk

Townsend, A. et al (2021) The New School First Year Evaluation Report. Nottingham

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Ymgysylltu â rhieni drwy freeflowinfo

JG1

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Cyfweliadau gyda rhieni a staff, gan gynnwys arolygon o rieni a staff.

Beth yw effeithiolrwydd ap (sef, freeflowinfo ) sydd wedi ei greu’n arbennig i gefnogi ymgysylltiad rhieni? A oes angen unrhyw welliannau i’r ap?

Yr hyn a ddarganfuom

Roedd freeflowinfo yn arbennig o ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd: rhannu gwaith a wnaethpwyd gartref yn ystod y cyfnod clo, neu pan nad oedd plant yn gallu lleisio’r hyn roedden nhw wedi ei ddysgu, neu mewn unedau cyfeirio disgyblion. Yr Athro Janet Goodall

1

Mae freeflowinfo yn cefnogi ymgysylltiad rhieni â dysgu.

used with all ages Mae’n ymddangos bod freeflowinfo yn cefnogi hunan-effeithiolrwydd disgybl o ganlyniad i’r ganmoliaeth gadarnhaol mae’n ei dderbyn gan rieni ac athrawon trwy ddefnyddio’r ap.

2

Mae freeflowinfo yn cynyddu nifer y sgyrsiau rhwng rhieni a phlant i wella lles.

3

Pam mae hyn yn bwysig

Mae ymgysylltiad rhieni â dysgu yn un o’r arfau gorau sydd gennym ar gyfer cefnogi dysgu pobl ifanc; mae llawer o apiau sy’n cael eu defnyddio i’r diben hwn yn canolbwyntio ar ymwneud y rhieni â’r ysgol, yn hytrach nag â’r dysgu fel y cyfryw; serch hynny, mae’n ymddangos bod freeflowinfo yn cefnogi ymgysylltiad rhieni yn uniongyrchol â dysgu eu plant.

Gwybodaeth bellach

Yr Athro Janet Goodall, Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Abertawe: j.s.goodall@abertawe.ac.uk

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight Canfyddiadau o Weithwyr Chwarae Lles yn yr Ysgol Gynradd PK1

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Cyfweliadau gyda phenaethiaid ysgolion cynradd yn Nhorfaen (Sir Fynwy).

 Beth yw barn penaethiaid ysgolion cynradd Torfaen am gyfraniad Gweithwyr Chwarae Lles yn eu hysgolion?

Mae'n amhosib ac yn anodd iawn i'r plant agor lan. Felly, dyna le mae therapi Lego® yn dod mewn, y gweithwyr chwarae sy'n dod mewn ac yn gweithio da’r plant trwy ddefnyddio Lego®." Un ymatebydd.

One respondent.

Yr hyn a ddarganfuom

Sylfaen gwella lles yw meithrin perthynas gref rhwng y Gweithwyr Chwarae a’r plant, y staff a’r ysgol, a’r gymuned ehangach. Cyfrannodd Gweithwyr Chwarae'n effeithiol mewn gwahanol ffyrdd, e.e. cynnig cefnogaeth academaidd, rhedeg cynlluniau chwarae neu wersylloedd lles. Mae ansawdd yr hyfforddiant a'r addysg a gaiff Gweithwyr Chwarae yn allweddol i'w llwyddiant.

1

2

3

Pam mae hyn yn bwysig

Mae'r ymchwil wedi cyfrannu at ymgyrch Llywodraeth Cymru am 'Ddull Ysgol Gyfan' i gefnogi lles plant, yn ogystal â rhoi'r themâu ar waith o fewn y ‘Cynllun Gweithredu Polisi Chwarae’ ac agenda trechu tlodi plant.

 Type something Gwybodaeth bellach Dr Pete King, Uwch Ddarlithydd, Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, Prifysgol Abertawe: p.f.king@abertawe.ac.uk

King, Pete (2021) Well-being playworkers in primary schools – a headteacher’s perspective, Education 3-13 , DOI: 10.1080/03004279.2021.1971276

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight The Daily Mile: Argymhellion ysgol gyfan ar gyfer ei weithredu a’i gynnal EM1

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Grŵp ffocws gyda phlant mewn chwe ysgol gynradd a chyfweliadau gydag athrawon a phenaethiaid. Profion ffitrwydd cardioresbiradol o blant dros rediad gwennol 20m. Mesurau dros ddau bwynt amser; man cychwyn (cyn gweithredu The Daily Mile) a gwaith dilynol (3-6 mis ar ôl ei weithredu).

Beth yw profiadau disgyblion, athrawon a phenaethiaid o The Daily Mile? Beth yw’r cysylltiadau rhwng The Daily Mile a ffitrwydd plant o wahanol grwpiau economaidd- gymdeithasol?

Yr hyn a ddarganfuom

Fe wnaethom nodi ffactorau allweddol cyffredin wrth weithredu The Daily Mile yn llwyddiannus ac argymell:

bod yn hyblyg

1

2

ychwanegu The Daily Mile at y ddarpariaeth chwarae gyfredol

used with all ages

mabwysiadu agwedd gymunedol ysgol gyfan

5

3

4

athrawon yn cymryd rhan

gosod nodau personol

Pam mae hyn yn bwysig

Gyda dros 4 miliwn o blant mewn 90 o wledydd yn cymryd rhan yn The Daily Mile bob dydd, mae ymchwil o'r fath yn hanfodol i lywio polisi ac arfer gorau.

Gwybodaeth bellach

Dr Emily Marchant, Darlithydd mewn Addysg, Prifysgol Abertawe E.K.Marchant@abertawe.ac.uk. The Daily Mile: https://thedailymile.co.uk/research/ [cynnwys Saesneg]

Marchant E, Todd C, Stratton G, Brophy S (2020) The Daily Mile: Whole-school recommendations for implementation and sustainability. A mixed-methods study. PLOS ONE 15(2): e0228149. https://doi.org/10.1371/journal.pone.0228149

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight Defnydd rhieni o sylweddau a chanlyniadau addysgol plant

EL1

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Defnyddion ni adolygiad cwmpasu a ddewisodd 51 o astudiaethau a oedd yn edrych ar y berthynas rhwng y defnydd o sylweddau gan rieni a chanlyniadau addysgol plant.

Beth gall ymchwil eisoes ei ddweud wrthym am hyn? Pa feysydd o ddeilliannau addysgol y mae defnydd rhieni o sylweddau yn effeithio arnynt? Ble mae angen mwy o ymchwil arnom?

Yr hyn a ddarganfuom

Roedd defnydd rhieni o sylweddau yn cael ei gysylltu’n negyddol a chyrhaeddiad addysgol plant, h.y. roedd ganddynt raddau is.

1

Roedd defnydd rhieni o sylweddau yn gysylltiedig â’r ffaith bod eu plant mewn perygl o ddioddef problemau ymddygiad, cael eu disgyblu yn yr ysgol, bod eu presenoldeb yn yr ysgol yn is, bod eu gallu academaidd yn is a’u presenoldeb yn uwch mewn ‘dosbarthiadau arbennig’ a oedd yn ymwneud â chynnydd a disgyblaeth academaidd. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw farn gyffredin ynghylch a oedd plant rhieni sy’n defnyddio sylweddau yn mwynhau’r ysgol yn llai na’u cymheiriaid er mwyn gwella lles.

2

3

Pam mae hyn yn bwysig

Amcangyfrifir bod gan 3.7% o blant riant sy’n hysbys i’r gwasanaethau alcohol a chyffuriau, a bod llawer o rieni eraill yn bodoli sydd â rhyw lefel o ddibyniaeth ar alcohol yn ogystal â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Mae yna hefyd blant sydd angen cymorth addysgol ychwanegol efallai na chlywir sôn amdano – 'y niweidiau cudd'.

Gwybodaeth bellach

Dr Emily Lowthian, Darlithydd, Prifysgol Abertawe: e.m.lowthian@abertawe.ac.uk

Lowthian, E. (2022). The Secondary Harms of Parental Substance Use on Children’s Educational Outcomes: A Review. Journal of Child & Adolescent Trauma . 15, 511-522. https://doi.org/10.1007/s40653-021-00433-2

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Anifeiliaid mewn ysgolion

HL1

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Defnyddion ni holiadur, a ddosbarthwyd trwy’r cyfryngau cymdeithasol, i 610 o addysgwyr mewn 23 o wledydd.

Pa fathau o anifeiliaid sydd i'w cael mewn ysgolion a beth maen nhw'n ei wneud? Pam mae anifeiliaid yn cael eu cymryd i mewn i'r ysgol?

Yr hyn a ddarganfuom

Ceir ystod eang o anifeiliaid mewn ysgolion. Mae anifeiliaid yn ymwneud â phob ystod oedran. Defnyddir anifeiliaid yn bennaf i wella lles. used with all ages

1

"Mae'n ymddangos bod llawer o ysgolion yn dod ag anifail anwes i'r ysgol fel aelod o staff ac yn datgan mai nhw yw eu ci ysgol. Mae'r dull didaro hwn yn creu risg i'r disgyblion ac i'r ci." Safbwynt un atebydd

2

3

Pam mae hyn yn bwysig

Mae addysgwyr yn credu'n eang y gall anifeiliaid wella dysgu a lles plant. Ond mae angen addysg a hyfforddiant cadarn o ansawdd uchel.

Gwybodaeth bellach

Prif awdur - Dr Helen Lewis, Uwch ddarlithydd, Prifysgol Abertawe: helen.e.lewis@abertawe.ac.uk

Lewis, Helen; Grigg, Russell; and Knight, Cathryn (2022) "An International Survey of Animals in Schools: Exploring What Sorts of Schools Involve What Sorts of Animals, and Educators’ Rationales for These Practices," People and Animals: The International Journal of Research and Practice: Vol. 5 : Iss. 1, Article 15. Available at: https://docs.lib.purdue.edu/paij/vol5/iss1/15

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Hanes yr arolygiaeth addysg yng Nghymru

RG1

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

Sut a pham dechreuodd yr arolygiaeth addysg yng Nghymru? Sut mae ei chyfrifoldebau wedi newid dros y blynyddoedd? Beth yw gwerth cymharol yr arolygiaeth addysg?

1907

1839

Beth yw gwerth cymharol yr arolygiaeth addysg?

Cynhaliodd tîm o haneswyr ac arolygwyr ysgol a oedd wedi ymddeol waith ymchwil uniongyrchol, e.e. defnyddio llyfrgelloedd ac archifau ac amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys adroddiadau, papurau newydd a hanes llafar.

North Wales Chronicle, 1897

Yr hyn a ddarganfuom

Mae’r arolygiaeth addysg yng Nghymru wedi chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn addysg. Yn hanesyddol, mae'r arolygiaeth wedi gweithredu rhwng bod yn asiantau'r wladwriaeth a bod yn ddylanwadwyr annibynnol ar bolisi ac arfer addysg.

1

2

Pam mae hyn yn bwysig

Mae'r ymchwil yn darparu hanes awdurdodol cyntaf yr arolygiaeth addysg yng Nghymru. Ar adeg pan fo’r arolygiaeth ei hun yn cael ei hadolygu, mae hwn yn ein hatgoffa’n amserol o’i gwasanaethau hynod eang.

Gwybodaeth bellach

Dr Russell Grigg, Uwch Ddarlithydd, Addysg, Prifysgol Abertawe: g.r.grigg@abertawe.ac.uk

Grigg, R. (2022) ‘The Inspectors and the inspected, 1839-1906’ in A. Kean (ed.) Watchdogs or Visionaries? Perspectives on the History of the Education Inspectorate in Wales, Cardiff: University of Wales Press.

Canolfan Ymchwil i Ymarfer: Crynodebau Ymchwil Staff

Gwerthuso'r rhaglen 'Anifail Empathi'

HL2

Helen Lewis, Russell Grigg, Cathryn Knight

Sut y gwnaethom yr ymchwil

Yr hyn roedden ni am ei ddarganfod

 Dadansoddi fideos o sesiynau wythnosol: Ysgol Gynradd yn Llundain Fewnol, 3 thîm o gŵn a'u gofalwyr ac 8 plentyn.

 Ydy sesiynau rheolaidd gyda chŵn yn gwella hunan-barch, hyder a sgiliau cymdeithasol plant?

Yr hyn a ddarganfuom

Mae angen amser i feithrin perthnasoedd.

1

Mae personoliaethau gwahanol (pobl a chŵn) yn dylanwadu ar y sesiwn.

2

Mae pob plentyn yn dweud eu bod yn mwynhau'r sesiynau.

3

Maen nhw'n magu hyder wrth ryngweithio â'r person sy'n gofalu am y ci.

4

Argymhellion allweddol ar gyfer arfer gorau

Dylai gofalwyr y cŵn wrando'n weithredol ar y plant. Dylai gofalwyr y cŵn arsylwi ac esbonio ymddygiad y ci drwy gydol y sesiwn. Dylid ystyried diddordebau'r ci (pêl) ochr yn ochr â rhai'r plant. Gwybodaeth bellach

Prif awdur - Dr Helen Lewis, Athro Cysllytiol, Prifysgol Abertawe: helen.e.lewis@abertawe.ac.uk

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8

Made with FlippingBook HTML5