Our Stategic Vision and Purpose Cym

PRIFYSGOL ABERTAWE. EIN GWELEDIGAETH STRATEGOL A’N PWRPAS: AIL GANRIF AR FRIG Y DON.

AIL GANRIF A R F R I G Y D O N EIN GWELEDIGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE S T RAT E GOL A’ N PWR PAS :

EIN GWELEDIGAETH Rydym, a byddwn yn parhau’n Brifysgol egwyddorol, bwrpasol a gwydn sy’n cydbwyso addysgu rhagorol ag ymchwil ac arloesi sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang, mewn amgylchedd agored sy’n galluogi ein myfyrwyr a’n cydweithwyr i ragori. Mae cydweithredwyr ledled y byd yn ein gwerthfawrogi fel partner y gallant ymddiried ynddo, ond rydym hefyd yn hollol ymrwymedig i’n rhanbarth ac yn falch o fod yn Brifysgol ar gyfer Cymru.

Gweddw crefft heb ei dawn Technical skill is bereft without culture

“Gorchwyl eich Coleg fydd anfon allan i’r byd ddynion a menywod sydd wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer y gwaith ymarferol sydd o’u blaenau, â meddyliau sydd mewn cytgord â delfrydau uchel, yn agored i ddiddordebau cyfoethog ac amrywiol bywyd modern ac yn ymroddedig i wasanaethu eu cyd-ddynion a menywod.” Brenin Siôr V, 19 Gorffennaf 1920, yn y seremoni i osod carreg sylfaen ein Prifysgol

CYFLWYNIAD Wrth i ni ddathlu ein canmlwyddiant, gallwn edrych yn ôl â balchder cyfiawnadwy yn yr hyn a gyflawnwyd gan ein Prifysgol, ers i ni agor ein drysau’n gyntaf i fyfyrwyr ym 1920. Er i’r Cynllun hwn gael ei gyhoeddi ar adeg benodol yn ein hanes, pan fu’n rhaid i ni gydweithio fel cymuned i ymateb i bandemig Covid-19, gallwn hefyd achub ar y cyfle hwn i fyfyrio ar yr hyn y gallem ei gyflawni yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd yn werth ei ddathlu yn ein hail ganrif. Rydym wedi ymgynghori’n eang â’n cydweithwyr, ein myfyrwyr, ein cyn-fyfyrwyr a’n partneriaid i bennu gweledigaeth ein cymuned ar gyfer ei phrifysgol, ei phwrpas, yr ymrwymiadau byddwn yn eu gwneud a’r blaenoriaethau byddwn yn eu cyflawni. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer ein Prifysgol a’r hyn rydym yn ei gynrychioli. Caiff ei hadolygu bob blwyddyn a’i diweddaru mor aml ag sy’n angenrheidiol; caiff ei hategu gan strategaethau manwl â thargedau a mesurau llwyddiant clir ar gyfer pob un o’n pileri craidd a’n sylfeini galluogi. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi o’u hamser i rannu eu meddyliau am Brifysgol Abertawe, ac am y cyfraniadau niferus sydd wedi helpu i egluro ein pwrpas.

EIN STRATEGAETH Rydym yn sefydliad sydd, yn ei hanfod, yn egwyddorol, yn bwrpasol ac yn wydn. Mae ein cymuned o gydweithwyr, myfyrwyr, partneriaid a rhanddeiliaid yn nodweddiadol am y gwerthoedd, y diwylliant a’r ymddygiadau arbennig sy’n greiddiol i ni. Mae ymrwymiad ein cymuned yn tanategu pum piler allweddol ein Prifysgol - ein cenhadaeth ddinesig, profiad y myfyrwyr, dysgu ac addysgu, ymchwil a mentergarwch. Nodir pob un o’r rhain gan ein hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, gweithredu â chyfrifoldeb cymdeithasol, ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth a chynnal meddylfryd byd-eang sydd yn ein galluogi i fod yn Brifysgol gymunedol â chyrhaeddiad ac enw rhyngwladol. Mae ein gwaith wedi’i alluogi gan arweinyddiaeth gref a llywodraethu cadarn, cyfathrebu effeithiol ac ymrwymiad i gynaliadwyedd ariannol ac amgylcheddol. Mae’n seiliedig ar ein hisadeiledd digidol a diriaethol, ein strategaeth rhyngwladoli a’n hymagwedd at recriwtio cydweithwyr dawnus a brwdfrydig. I

H

Y

EIN GWERTHOEDD, EIN DIWYLLIANT A’N HYMDDYGIADAU

Yr Athro Paul Boyle CBE, FRSE, FBA Is-ganghellor

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN CRYFDERAU

EIN HYMRWYMIADAU

Mae gan ein Prifysgol lawer o gryfderau sydd wedi cyfrannu at ein llwyddiant hyd yn hyn ac rydym yn ymrwymedig i’w diogelu a’u gwella. Yn benodol, mae nifer o agweddau’n nodweddiadol o’n cymuned: • Rydym yn gymuned gynnes a chroesawgar sy’n rhoi pwyslais ar deulu. Mae ein pobl yn ganolog i’n sefydliad ac mae eu hiechyd a’u lles yn bwysig i ni. Mae gennym wobr arian Athena SWAN ac rydym wedi cael ein cydnabod gan Athena Swan a Stonewall am ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb • Mae ein safle cyson yn y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr wedi’i ategu gan ein hamgylchedd diogel a gofalgar a’n hymrwymiad i wella cyflogadwyedd myfyrwyr drwy gyfleoedd i deithio, ymgymryd â lleoliadau gwaith a meithrin sgiliau newydd

Ein cryfderau yw sylfeini ein llwyddiant yn y dyfodol. Ar drothwy ein hail ganrif, rydym wedi nodi’r ymrwymiadau trosfwaol canlynol a fydd yn diffinio ein Prifysgol yn y blynyddoedd o’n blaenau. • Argyfwng yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu ein cymdeithas o hyd. Byddwn yn alinio ein gwaith â’r nodau Datblygu Cynaliadwy a byddwn yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040 • Byddwn yn ehangu ac yn dyfnhau mynediad at addysg ymhellach, gan hyrwyddo cyfleoedd dysgu gydol oes, cynhwysol a theg • Byddwn yn sicrhau ymagweddau arloesol at addysgu, wedi’u hategu gan dechnoleg ddigidol. Caiff y rhain eu datblygu mewn partneriaeth â’n myfyrwyr a byddant yn helpu i wreiddio syniadaeth ryngddisgyblaethol ar draws ein rhaglenni

• Rydym yn Brifysgol sy’n cael ei harwain gan ymchwil ac yn un o’r 10 prifysgol orau yn y DU am gydbwyso addysgu rhagorol ag ymchwil ragorol, fel y cydnabuwyd gan ein Gwobr Aur gan y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a’n perfformiad yn un o’r 30 o brifysgolion gorau yn y DU yn ôl REF2014 • Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac mae gan ein hymchwil effaith economaidd a cymdeithasol. Rydym yn un o’r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn y DU am bwyslais ar ddiwydiant (HE-BCI 2018) ac rydym yn haeddu ein henw da am arloesi a chydweithredu • Rydym yn falch o fod yn Brifysgol i Gymru, sy’n hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â’n dylanwad ar fywyd economaidd a chymdeithasol ein rhanbarth a’n gwlad

• Byddwn yn ehangu ein cyrhaeddiad a’n henw byd-eang nes ein bod yn bartner o ddewis ar gyfer cydweithrediadau rhyngwladol ym meysydd ymchwil, addysgu a mentergarwch, a gwella ein statws yn y tablau rhyngwladol o’r prifysgolion gorau, flwyddyn ar ôl blwyddyn

• Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud Dinas- ranbarth Bae Abertawe yn brifddinas chwaraeon a lles Cymru

• Byddwn yn cryfhau ein statws ymysg sefydliadau mwyaf blaenllaw’r DU am bwyslais ar effaith ac ymchwil, un sy’n rhagori mewn ymchwil ryngddisgyblaethol a chydweithredol, a byddwn yn sefydlu’r Sefydliad Uwch-astudiaethau cyntaf yng Nghymru • Byddwn yn cau’r bwlch rhwng cyflogau’r rhywiau ac yn mynd i’r afael â’r rhesymau strwythurol a gweithrediadol sy’n sail iddo, a’r gyfran isel o athrawon benywaidd

• Byddwn yn datblygu ymagwedd a roddir ar waith yn y sefydliad cyfan at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb hiliol

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN TREFTADAETH

Gellir olrhain gwreiddiau ein sefydliad i freuddwydion y glowyr a’r diwydianwyr a alluogodd sefydlu Prifysgol Cymru drwy eu cyfraniadau. Eu gobeithion oedd y byddai eu prifysgol nhw yn darparu cyfleoedd newydd i’w cymunedau wrth iddi helpu i lunio dyfodol Cymru. Ym 1920, daeth Abertawe’n bedwerydd aelod ffederal y Brifysgol. Crëwyd Coleg y Brifysgol, Abertawe i fod yn sefydliad technegol a fyddai’n gweithio mewn partneriaeth â’i gymuned i ddiwallu anghenion y rhanbarth, a diwydiant lleol yn benodol. Er mai’r Gwyddorau, Mathemateg, Peirianneg a Meteleg oedd ein disgyblaethau sefydlol, ychwanegwyd at y rhain yn gyflym drwy gyflwyno Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Hanes, y Clasuron ac Addysg. Felly, er iddi gael ei sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, y bwriad oedd y byddai ein Prifysgol yn datblygu’n sefydliad eang ac eclectig sy’n cwmpasu’r ystod gyfan o ymdrechion academaidd. Mae’r uchelgais hwn wedi’i gyfleu yn ein harwyddair, gweddw crefft heb ei dawn, ac mae’n wir o hyd heddiw. Wedi’r cwbl, ni yw’r Brifysgol sy’n cyfrif ymhlith ei graddedigion Glanmor Williams, Kenneth O. Morgan a Hywel Teifi Edwards, Mary Williams, Saunders Lewis a Rush Rhees, yn ogystal ag Edward Bowen, Florence Mockeridge ac Oleg Zienkiewicz. Rydym wedi addysgu rhai o’r ffigurau mwyaf rhyfeddol a dylanwadol ym mywyd academaidd a chyhoeddus Cymru, ynghyd ag arwyr chwaraeon ac eiconau diwylliannol.

Campws ein Prifysgol ni oedd yr un cyntaf yn y DU i gael ei adeiladu at y diben, mewn lleoliad deniadol gyferbyn â’r traeth. Roedd ehangu i’n Campws newydd yn y Bae yn 2015 yn ddatganiad pwerus o’n hunanhyder ac yn brawf trawiadol o ba mor bell rydym wedi dod ers ein sefydlu. Mae ein cymuned o fyfyrwyr wedi tyfu o 89 yn unig ym 1920 i bron 22,000 heddiw. Mae ein henw am ragoriaeth addysgu, profiad ardderchog i’n myfyrwyr ac ymchwil arloesol wedi arwain at ein proffil rhyngwladol trawiadol. Rydym yn falch o ennill lle yn gyson ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU am foddhad myfyrwyr; o ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn WhatUni ddwywaith yn y pum mlynedd diwethaf; a chael ein cydnabod fel Prifysgol y Flwyddyn Cymru yn ôl The Times a’r Sunday Times ddwywaith mewn pedair blynedd. O ddechreuad diymhongar fel un o Golegau lleol Prifysgol Cymru ganrif yn ôl, rydym yn hyderus ac yn falch heddiw i wasanaethu pobl a diwydiannau ein rhanbarth ac yn ddigon cryf i gystadlu â llawer o sefydliadau gorau’r byd.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN POBL, EIN GWERTHOEDD, EIN DIWYLLIANT A’N HYMDDYGIADAU

“Dwi’n meddwl bod na rywbeth sydd yn ein gwneud ni’n wahanol i brifysgolion eraill. Mae’n fwy na’n lleoliad a’n hymdeimlad o gymuned. Mwy na’r ffordd rydym yn addysgu neu’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n partneriaid, ac mae’n fwy na’n treftadaeth Gymreig. Mae’n anodd ei ddiffinio ond gallen ni ei alw’n ‘Anian Abertawe’.” KC, Gwasanaethau Myfyrwyr

Ein pobl yw ein hased pwysicaf ac maent yn diffinio ein Prifysgol. Rydym yn sefydliad egwyddorol . Rydym yn deall bod ein hymddygiad beunyddiol yn bwysig; mae gennym ffydd yn ein gilydd, rydym yn ein cefnogi ein gilydd, rydym yn dathlu cyflawniadau ein gilydd ac yn dwyn ein gilydd i gyfrif. Rydym yn parchu ein cydweithwyr ac yn trin eraill fel byddem yn disgwyl iddynt ein trin ni, ac rydym yn gweithio fel un brifysgol, gan gydnabod bod pob cydweithiwr a phob myfyriwr yn cyfrannu at ein llwyddiant. Byddwn yn buddsoddi yn ein pobl ac yn gwobrwyo perfformiad rhagorol. A byddwn yn hyrwyddo rhyddid llefaru. Wrth eirioli dros awtonomiaeth ac annibyniaeth academaidd, rydym yn cydnabod y bu llawer o’n cyflawniadau mwyaf nodedig yn seiliedig ar gydweithrediadau cynhyrchiol, â chydweithwyr mewnol ac yn allanol â’n cymuned a’n partneriaid, fel y rhagwelwyd gan ein sefydlwyr diwydiannol. Cawn ein huno gan ein hawydd i gydweithio er mwyn creu a rhannu gwybodaeth, datrys problemau byd-eang a gwneud gwahaniaeth i’r bywydau rydym yn cyffwrdd â nhw. Credwn yng ngwerth hyblygrwydd, cydweithredu a chreu amser i feddwl, gan ddilyn trywydd ysgogiad deallusol, gwreiddioldeb ac effaith. Rydym yn cydweithio mewn amgylchedd proffesiynol a gofalgar sydd yn ein galluogi i ragori ar ddisgwyliadau er lles pawb. Rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd lle gall ein cydweithwyr gyflawni eu potensial a byddwn yn rhoi cyfle i grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli fynegi eu profiadau yn y gymuned ac yn cefnogi sgyrsiau am Hil, y Rhywiau a Thueddfryd Rhywiol. Rydym yn ymdrechu i fod yn sefydliad lle mae pawb yn gyfrifol am gynhwysiant, ac mae Stonewall wedi ein cynnwys ar ei restr o’r

100 o gyflogwyr gorau yn y DU am gynwysoldeb yn y gweithle ers 2016. Rydym yn aelod o Gyflogwyr i Ofalwyr Cymru, Siarter Athena Swan a’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol. Rydym yn sefydliad â phwrpas a gyda’n gilydd rydym yn helpu i wneud y byd yn lle gwell. Os oes gennym ddelfrydau uchel, mae hynny’n deillio o‘r disgwyliadau uchel sydd gennym o’n hunain, o’r amgylchedd lle’r ydym yn gweithio, o’n partneriaid ac o’r effaith rydym yn ymdrechu i’w chyflawni yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn angor diwylliannol ac economaidd yn ein cymuned ac mae gennym rôl arbennig i’w chwarae wrth ysgogi datblygiad rhanbarthol a hybu iechyd a lles, ac rydym yn falch o fod yn gadarnle treftadaeth, iaith a diwylliant Cymru. Ar yr un pryd, rydym yn dathlu ein meddylfryd byd-eang. Mae’r myfyrwyr a’r staff o dros 140 o wledydd sydd wedi ymgartrefu yn Abertawe yn cyfoethogi ac yn llunio ein dinas, ein rhanbarth a’n gwlad, gan ddilyn olion troed ein 140,000 o gyn-fyfyrwyr o bob cwr o’r byd. I fod yn gystadleuol mewn marchnad addysg uwch fyd-eang, mae angen i ni weithredu â phwrpas a chyfrifoldeb wrth i ni ymdrechu am ragoriaeth. Mae hynny’n gofyn i ni fod yn gadarn , yn ariannol, yn strwythurol ac yn emosiynol yn ein hymateb i fygythiadau cenedlaethol a rhyngwladol, i fod yn barod i groesawu newid ac addasu iddo, a bod yn sensitif i anghenion a heriau cymdeithas. Yn anad dim, mae’n gofyn i ni fod yn ffyddlon i’n diwylliant arbennig ac i’r gymuned drugarog, oddefgar a chyd-gefnogol sy’n diffinio ein teulu Abertawe.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU O RAN POBL, GWERTHOEDD, DIWYLLIANT AC YMDDYGIAD:

1. Byddwn yn rhoi ein pobl wrth wraidd ein strategaeth, gan hybu agwedd at gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n arwain y sector 2. Byddwn yn gweithio gyda’n cymuned i ddyfeisio ffyrdd newydd o wobrwyo a chydnabod cydweithwyr, a meithrin eu datblygiad personol a gyrfa 3. Byddwn yn gweithredu strategaeth iechyd a lles i sicrhau ein bod yn galluogi ein cydweithwyr i ffynnu ac i lwyddo

4. Byddwn yn cau’r bwlch rhwng cyflogau’r rhywiau ac yn cynyddu’r ganran o’n hathrawon sy’n fenywod 5. Byddwn yn parhau i herio a mynd i’r afael ag achosion o wahaniaethu, beth bynnag yw’r rheswm, a byddwn yn sicrhau bod lleisiau grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli’n cael eu clywed

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN CENHADAETH DDINESIG Rydym yn falch o berthyn i Ddinas Abertawe a Dinas-ranbarth Bae Abertawe ehangach ac rydym yn dathlu’r dreftadaeth honno. Gyda champysau yn ardaloedd tri awdurdod lleol, rydym yn cydnabod mai prifysgol y rhanbarth yw ein Prifysgol ni, ac mae gennym gyfrifoldeb i weithio gyda’n cymuned a Chymru ac er eu lles.

“Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth go iawn, gweld yr holl ffyrdd mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr wedi camu i’r adwy i gefnogi ein cymuned yn y frwydr yn erbyn Covid-19. Dylem fod yn falch o sut mae ein Prifysgol wedi ymateb i’r pandemig.” CS, Y Gyfraith gweithgareddau’n bwysig i bobl yn ein cymuned, o’n prosiect i adfywio Gweithfeydd Copr yr Hafod-Morfa a arweinir gan dreftadaeth a’n harlwyaeth ddiwylliannol, i ddarparu addysg a sgiliau a datblygiad economaidd ein rhanbarth. Byddwn yn ennill eu hymddiriedaeth a’u parch, nid yn unig fel cyflogwr mawr neu gyfrannwr at yr economi ranbarthol, ond fel sefydliad sy’n rhoi blaenoriaeth i fuddiannau gorau ei gymuned. Byddwn yn gwybod ein bod yn cyflawni rhagoriaeth oherwydd y bydd ein cymuned yn dweud wrthym. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Wrth feddwl am ein cenhadaeth ddinesig, mae cyflawni rhagoriaeth yn golygu dangos pam mae ein Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ac wedi cydnabod argyfwng yr hinsawdd. Mae’r ymrwymiad unigryw a wnaed gan Gymru i lesiant cenedlaethau’r dyfodol yn rhoi cyfle i ni ymateb i’w deddfwriaeth ac i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn ein holl weithgareddau. Rydym yn dod ynghyd i gefnogi ein cymuned yn ystod cyfnodau o argyfwng cenedlaethol; yn ystod 2020, cafodd cronfeydd dathlu ein Canmlwyddiant eu dargyfeirio i gefnogi myfyrwyr mewn anawsterau ariannol, lles ac ymchwil mewn perthynas â Covid-19 yn ystod y pandemig.

MEDDYLFRYD BYD-EANG: Rydym yn gweithio i gyflawni atebion lleol i’r heriau byd-eang sy’n effeithio arnom i gyd. Er bod ein cenhadaeth ddinesig â’i gwreiddiau yn ein rhanbarth lleol, mae’n ehangu i gynnwys yr effaith rydym yn ymdrechu i’w chael mewn cymunedau byd-eang. Rydym yn denu cydweithwyr a myfyrwyr i Abertawe o bob cwr o’r byd ac rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod yr addysg a’r profiadau a ddarparwn a’r ymchwil a wneir yma yn berthnasol yn lleol ac yn rhyngwladol. Mae ein cyn-fyfyrwyr yn bwysig i ni, ynghyd â’r cysylltiadau a’r partneriaethau niferus sydd gennym ledled y byd, o’r prosiectau cymunedol rydym yn rhan ohonynt i’n cyfeillgarwch â Hillary Rodham Clinton a datblygiad ein rhaglen Heriau Byd-eang. Ymdrechwn i weithio mewn partneriaethau agored a theg, yng ngwir ystyr y gair, ac i ddysgu cymaint â phosib gan eraill. CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Yn anad dim, ein nod yw darparu addysg a chyfleoedd dysgu gydol oes sy’n galluogi ein myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth a’r sgiliau i’w helpu i gyflawni eu huchelgeisiau, ac rydym yn ymrwymedig i ehangu mynediad at addysg ar gyfer cymunedau difreintiedig a’r rhai sydd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Yn yr un modd, rydym yn ymrwymedig i fod yn rhan o brosiectau sy’n cefnogi ac yn gwella lles ein cymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Ein hamcan yw grymuso cymunedau a helpu’r rhai di-lais i gael eu clywed, ac anogwn ein myfyrwyr i fod yn ddinasyddion moesegol sy’n cyfranogi yn eu cymunedau. Rydym wedi llofnodi Cytundeb

GWNEUD GWAHANIAETH: Rydym yn addysgu ac yn hyfforddi’r athrawon, y meddygon, y nyrsys, y parafeddygon a’r gweithwyr allweddol eraill sy’n asgwrn cefn ein cymdeithas, ac sydd wedi arwain ymateb ein cymuned i Covid-19. Mae ein gwasanaeth gwirfoddoli myfyrwyr, Discovery, wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau miloedd o bobl yn ein rhanbarth ers dros 50 o flynyddoedd, ac mae ein prosiectau celfyddydau a threftadaeth a arweinir gan y gymuned yn ein cysylltu â’n gorffennol. Rydym yn cyfrannu at fywyd diwylliannol ein cymuned drwy Theatr Taliesin, y Neuadd Fawr a’r Ganolfan Eifftaidd, ein Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton a thrwy Wobr Ryngwladol Dylan Thomas. Mae T ^ y’r Gwrhyd, ein canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, yn gwasanaethu ei chymuned drwy hyrwyddo’r Gymraeg, a darparwn ddosbarthiadau iaith Saesneg i’r ffoaduriaid a’r ceiswyr lloches sy’n cael eu croesawu i’n rhanbarth. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r ddinas a thimau chwaraeon lleol i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a rennir â’r gymuned ac mae gennym uchelgais i sefydlu dinas Abertawe a’n Prifysgol fel prif hyrwyddwyr chwaraeon yng Nghymru. Mae ein gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd a’n gwyliau gwyddoniaeth rheolaidd yn hyrwyddo gwerth addysg uwch a’n hymchwil, ac mae ein gwaith gydag ysgolion a cholegau yn tanio dychymyg pobl ifanc.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

BLAENORIAETHAU EIN CENHADAETH DDINESIG

“Y Gymraeg yw calon ein cymuned - yn gyfrwng dysgu, ymchwilio, cymdeithasu a dathlu.“ SD, Daearyddiaeth

4. Byddwn yn agor ein prifysgol i’r cyhoedd, gan ehangu ein rhaglenni diwylliannol a’n cyfleusterau chwaraeon a’u gwneud yn fwy gweladwy a hygyrch 5. Byddwn yn cyflwyno ysgoloriaethau’r Canmlwyddiant ar gyfer ceiswyr lloches a dod yn Brifysgol Noddfa ym mlwyddyn ein Canmlwyddiant

1. Byddwn yn creu partneriaethau lleol a rhanbarthol go iawn sy’n seiliedig ar dryloywder, atebolrwydd a phwrpas a rennir, a fydd yn ysgogi datblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru a’r tu hwnt 2. Byddwn yn cyhoeddi strategaeth cenhadaeth ddinesig a gaiff ei datblygu drwy gydweithredu â’n partneriaid, â’r nod o fod yn batrwm arfer gorau ar gyfer cenhadaeth ddinesig 3. Byddwn yn hyrwyddo’r effeithiau cadarnhaol y mae ein staff a’n myfyrwyr wedi’u cael yn ein cymuned a byddwn yn c reu rhagor o gyfleoedd iddynt wirfoddoli

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

PROFIAD EIN MYFYRWYR Ein myfyrwyr yw calon ein Prifysgol. Rydym yn ystyried eu hanghenion a’u disgwyliadau wrth wneud penderfyniadau a gallwn ymfalchïo yn ein henw cryf cyson am ansawdd profiad ein myfyrwyr, cryfder ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, a’n hymrwymiad i iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Mewn partneriaeth ag Undeb y Myfyrwyr, byddwn yn gweithio i sicrhau bod pob myfyriwr sy’n dewis Abertawe fel ei gartref yn cael y profiad gorau posib yma.

GWNEUD GWAHANIAETH: Mae ein myfyrwyr ni ymhlith y rhai mwyaf cyflogadwy o holl brifysgolion y DU, ac maent yn mynd ymlaen i wneud cyfraniadau gwerthfawr at y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Maent yn unigolion amryddawn a chanddynt amrywiaeth o sgiliau sy’n helpu i greu CV trawiadol. Mae ein myfyrwyr yn gwneud cyfraniad sylweddol at gymdeithas leol drwy raglenni gwirfoddoli ac allgymorth, a byddwn yn gwneud rhagor i hyrwyddo a dathlu’r gweithgareddau hyn. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae ein myfyrwyr yn rhan o gymuned ryngwladol. Cânt eu haddysgu gan gydweithwyr sy’n dod â safbwyntiau rhyngwladol i’w hystafelloedd dosbarth a chânt eu hannog i archwilio’r byd ar eu liwt eu hunain. Byddwn yn sicrhau y caiff yr holl fyfyrwyr gyfle i ddysgu rhagor am dreftadaeth a diwylliant Cymru ac i gael blas arnynt; i feithrin sgiliau a phrofiadau a fydd yn eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol, lle bynnag yn y byd maent yn dewis gweithio. Ein nod yw creu dinasyddion byd-eang a fydd yn mynd allan i’r byd ac yn gwneud gwahaniaeth.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn perfformio’n dda o ran ehangu cyfranogiad a’n cyfraddau cadw myfyrwyr, yn enwedig mewn grwpiau a dangynrychiolir. Byddwn yn parhau i gefnogi myfyrwyr o bob cefndir i elwa o addysg uwch ac i gyflawni canlyniadau rhagorol, a byddwn yn cefnogi Undeb y Myfyrwyr wrth iddynt ein galluogi i gyflawni ein huchelgeisiau academaidd ac ar gyfer profiad y myfyrwyr. Byddwn yn parhau i wrando ar ein myfyrwyr ac annog yr adborth sydd yn ein galluogi i ddeall eu hanghenion. Yn bwysicaf oll, byddwn yn parhau i flaenoriaethu lles ein holl fyfyrwyr, yn enwedig y rhai y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt, er mwyn sicrhau y gallant fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn y brifysgol. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr, Gwobrau Dewis y Myfyrwyr WhatUni a’r Arolwg Hynt Graddedigion yn fesurau allweddol o’n profiad rhagorol i fyfyrwyr, ond byddwn hefyd yn ceisio dangos rhagoriaeth mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys llwyddiant ein timau chwaraeon, ffyniant ein cymdeithasau myfyrwyr ac effaith Undeb y Myfyrwyr a Discovery - ein gwasanaeth gwirfoddoli i fyfyrwyr.

“Dylai ein myfyrwyr deimlo y bydd ganddynt gyfle i newid y byd pan ddônt i Abertawe.” EG, Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU PROFIAD Y MYFYRWYR

1. Byddwn yn sicrhau mai lles ein myfyrwyr yw sylfaen ein profiad myfyrwyr 2. Rydym yn ymddiried yn ein myfyrwyr ac mae gennym ffydd ynddynt a byddwn yn eu cynnwys ymhellach yn ein prosesau penderfynu 3. Byddwn yn gweithio gyda’n cyn-fyfyrwyr, ein cymuned a’n partneriaid i greu rhagor o gyfleoedd i’n myfyrwyr gwblhau lleoliad ar sail gwaith ac i feithrin y sgiliau a’r profiadau a fydd yn eu helpu i wneud gwahaniaeth yn ein cymdeithas, pa ddisgyblaeth academaidd bynnag maent yn ei hastudio

4. Byddwn yn darparu rhagor o gyfleoedd i ragor o fyfyrwyr astudio neu weithio dramor yn ystod eu gradd 5. Byddwn yn gwella’r cyfleoedd chwaraeon, hamdden a diwylliannol sy’n cyfrannu at brofiad y myfyrwyr a’n cymuned gydlynol

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN DYSGU AC ADDYSGU Mae rhannu gwybodaeth er mwyn meithrin sgiliau meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn elfen sylfaenol o’n diben. Mae’n galluogi ein myfyrwyr i fod yn gadarn yn wyneb heriau byd-eang ac i addasu i fyd gwaith newidiol. Byddwn yn parhau i hyrwyddo dysgu ar-lein a darpariaeth addysgu cyfunol, ymagwedd rydym wedi ei rhoi ar waith a dysgu ohoni yn ystod pandemig Covid-19. Rydym yn dathlu ein treftadaeth Gymraeg ac yn falch o fod yn rhan o genedl ddwyieithog. Rydym yn parchu hawl myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ehangu ein hystod o gyfleoedd iddynt wneud hynny. Byddwn hefyd yn gweithio i gynnal ein statws fel cymuned sy’n cydbwyso rhagoriaeth ymchwil ac addysgu.

GWNEUD GWAHANIAETH: Mae’r wybodaeth a’r profiadau a ddarparwn i’n myfyrwyr a’r sgiliau rydym yn eu helpu i’w meithrin yn berthnasol i anghenion ein cymuned. Rydym yn croesawu cyfleoedd i gyfuno safbwyntiau ac arbenigedd o ddisgyblaethau gwahanol a byddwn yn datblygu rhaglenni gradd rhyngddisgyblaethol sy’n ychwanegu at ein rhaglenni gradd llwyddiannus mewn pynciau penodol. Byddwn yn ehangu ein darpariaeth o gyrsiau ymhellach i gynnwys rhaglenni newydd sy’n ychwanegu gwerth yn ein rhanbarth ac yn rhyngwladol, er enghraifft mewn fferylliaeth, rheoli a hyfforddi chwaraeon a ffisiotherapi. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae ein graddedigion yn gweithio mewn byd sy’n gynyddol gysylltiedig lle gofynnir iddynt werthfawrogi a deall diwylliannau a gwledydd eraill. Rydym yn cynnig cyfleoedd creadigol i’n myfyrwyr astudio a gweithio dramor yn ystod eu rhaglenni gradd, ac i gysylltu eu haddysg â’r heriau a wynebir gan gymunedau ledled y byd. Mae’r rhaglenni rydym yn eu darparu’n denu myfyrwyr o dros 140 o wledydd a byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ehangu ein darpariaeth ymhellach y tu hwnt i’n ffiniau cenedlaethol.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Byddwn yn gweithio i wreiddio’r Nodau Datblygu Cynaliadwy ym mhob rhan o’n cwricwlwm, gan gysylltu addysgu â heriau cymdeithasol. Byddwn yn cynyddu’r gyfran o’n staff sy’n dod o gefndiroedd BAME ar bob lefel a byddwn yn cynnwys rhagor o safbwyntiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein cwricwlwm i leihau’r bwlch mewn cyrhaeddiad. Rydym hefyd yn cydnabod y dylai dysgu fod yn weithgarwch gydol oes a byddwn yn cynyddu cyfleoedd i oedolion sy’n dysgu feithrin sgiliau newydd a dilyn trywydd eu diddordebau deallusol. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn mesur llwyddiant ein Strategaeth Dysgu ac Addysgu drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr. Rydym yn pennu disgwyliadau uchel ac yn mesur ein safonau gan gydweithredu â’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd. Mae ein Gwobr Aur yn y FfRhA yn adlewyrchu cydnabyddiaeth genedlaethol ein rhagoriaeth.

“Mae’n bwysig ein bod yn dysgu ein myfyrwyr i fod yn wydn ac nid oes dim byd o’i le os nad ydynt yn llwyddo’r tro

cyntaf, bob tro.” JB, y Celfyddydau a’r Dyniaethau

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU DYSGU AC ADDYSGU

1. Byddwn yn darparu dysgu hyblyg a chynhwysol, wedi’i bersonoli â chymorth cymunedau dysgu 2. Byddwn yn grymuso ein cymuned addysgu i gyflawni safonau uchel o addysgu ac asesu a byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu cydnabod a’u gwobrwyo am wneud hyn 3. Byddwn yn disgwyl i’n gweithgareddau dysgu, addysgu ac asesu gael eu llywio gan gynrychiolwyr o bob rhan o’n cymuned a’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector

4. Byddwn yn meithrin amgylchedd dysgu sy’n galluogi ein cymunedau dysgu i ffynnu 5. Byddwn yn sicrhau bod ein systemau a’n prosesau’n cefnogi ein cydweithwyr a’n myfyrwyr i gyflawni rhagoriaeth dysgu, addysgu ac asesu

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN HYMCHWIL Mae ein hymchwil yn newid bywydau, yn ysgogi arloesi a thwf rhanbarthol ac mae’n cydweddu â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae’n effeithio ar ein diwylliant a’n cymdeithas, yn ogystal ag ar ein hiechyd a’n lles, ein heconomi a’n planed. Rydym yn ysgogi newidiadau mewn polisi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym ar flaen y gad mewn llawer o feysydd, gan gynnwys: gweithgynhyrchu uwch ac arloesi ym maes ynni glân a’r economi ddigidol; nanoiechyd a dadansoddi data iechyd ar raddfa fawr; gwerthuso’r farchnad lafur, defnydd gan derfysgwyr o’r rhyngrwyd a chadwraeth ein treftadaeth ddiwydiannol. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o asesu a lliniaru’r risgiau sy’n gysylltiedig ag argyfwng yr hinsawdd ac rydym yn gweithio i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac i gyfoethogi bywydau pawb drwy ein dealltwriaeth o hanes a’r celfyddydau.

“Ddylen ni byth anghofio manteision gweithio’n gydweithredol. Allwn ni ddim gweithio ar ein pennau ein hunain, a rhaid i ni barhau i fod yn agored, yn ymatebol ac i ymgysylltu â’r byd.” VT, Engineering

GWNEUD GWAHANIAETH: Mae ein hymchwil yn cael effaith oherwydd ei bod yn cael ei llywio i ddiwallu anghenion ein partneriaid diwydiannol, masnachol, academaidd ac yn y sector cyhoeddus. Byddwn yn parhau i gynhyrchu gwybodaeth a arweinir gan ddarganfod, mewn amgylchedd sy’n galluogi’r cydweithrediadau hyn i ffynnu, ac i ddatblygu, diogelu a masnacheiddio ein hymchwil lle y bo’n briodol. Rydym yn ymrwymedig i annog ymchwil sy’n croesi ffiniau disgyblaethol traddodiadol er mwyn achub bywydau, gwella cymdeithas ac ysgogi arloesi. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Mae gennym gydweithrediadau rhyngwladol cryf sy’n rhoi cyrhaeddiad byd-eang i’n hymchwil. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau amlwladol i ddiogelu hawliau a lles dinasyddion yn fyd-eang a chyda rhai o gwmnïau mwyaf y byd i ysgogi arloesi a darganfod. Mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn elwa o gyfleoedd i ddatblygu a thyfu partneriaethau ac i ymgymryd â’u hymchwil a’i chyflwyno’n rhyngwladol.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn sicrhau uniondeb ein gwaith drwy ymagwedd gadarn at foeseg, uniondeb a llywodraethu ymchwil. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau lleol a chyda chymunedau ledled y byd, gan ddysgu ganddynt wrth i ni eu cefnogi i ddatblygu. Gan edrych i’r dyfodol, bydd ein hymchwil yn canolbwyntio ar heriau byd-eang, gan gynnwys argyfwng yr hinsawdd a phandemig Covid-19, mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb, gofal iechyd a dyfodol gwaith. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn parhau i gynhyrchu ymchwil ac effaith sy’n arwain yn fyd-eang, y gellir asesu eu hansawdd drwy’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a dulliau mesur eraill; rydym yn un o’r 20 o brifysgolion gorau yn y DU am effaith a asesir yn ôl dyfyniadau ac incwm o grantiau ymchwil fesul aelod staff. Gellir mesur ein llwyddiant mewn ffyrdd eraill megis twf ein hincwm o ymchwil, ansawdd ein cydweithrediadau cenedlaethol a rhyngwladol, a ffyniant ein cymuned ymchwil ôl-raddedig a’n cefnogaeth i Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU YMCHWIL

1. Byddwn yn sefydlu’r Sefydliad Uwch-astudiaethau cyntaf yng Nghymru â phwyslais penodol ar ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n cael effaith ac sy’n berthnasol i bolisïau ac yn ymateb i’r nodau Datblygu Cynaliadwy 2. Byddwn yn sefydlu cyfres o sefydliadau ymchwil ar draws y Brifysgol a fydd yn seiliedig ar gryfderau disgyblaethol craidd ac a fydd o safon fyd-eang o ran eu graddfa a’u heffaith 3. Byddwn yn cynyddu graddfa ein cymuned ymchwil, gan feithrin doniau ymchwilwyr gyrfa gynnar a chanolbwyntio ar ryngwladoli a gwyddoniaeth agored

4. Byddwn yn ymbaratoi ar gyfer dyfodol ar ôl Covid-19 a Brexit, gan atgyfnerthu’r partneriaethau sydd gennym a sefydlu rhai newydd sy’n ddigon cadarn i addasu i heriau gwleidyddol a chymdeithasol 5. Byddwn yn cefnogi rhagor o’n cydweithwyr i ymgymryd â rolau arweinyddiaeth ac ymgynghorol ar gyrff ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol gan effeithio ar brosesau penderfynu a llunio polisïau er lles cymdeithas

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN MENTERGARWCH Rydym yn brifysgol hynod gydweithredol ac entrepreneuraidd. Cawsom ein sefydlu gan ddiwydiant, ar gyfer diwydiant, ac rydym yn parhau’n ffyddlon i uchelgeisiau ein sefydlwyr, drwy weithio gyda phartneriaid diwydiannol, masnachol ac yn y sector cyhoeddus er budd ein rhanbarth a’n cenedl. Rydym yn gwerthfawrogi ein partneriaethau â chwmnïau angori a BBaCh yng Nghymru - mae mwy na 40 o gwmnïau wedi’u cydleoli â ni ar ein campysau - a chyda’r nifer o sefydliadau rydym yn cydweithredu â nhw’n rhyngwladol. Rydym yn annog ein staff a’n myfyrwyr i wneud y mwyaf o’u syniadau - rydym ar y brig yng Nghymru ac yn y pum uchaf yn y DU am fentrau newydd sy’n dal i weithredu ar ôl tair blynedd ac rydym yn cyhoeddi mwy gyda diwydiant nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru.

GWNEUD GWAHANIAETH: Rydym yn meithrin diwylliant o gyd-greu â’n partneriaid. Mae ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn gweithio gyda phartneriaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ar fentrau a arweinir gan ddiwydiant sydd o fudd i’n hymchwil ac yn ysgogi arloesi, gan gael effaith economaidd a chymdeithasol. Mae ein hymagwedd entrepreneuraidd yn ychwanegu gwerth at brofiad y myfyrwyr, gan roi cyfleoedd i’n myfyrwyr ddatblygu sgiliau ymarferol drwy leoliadau gwaith, interniaethau a phrosiectau ymchwil cydweithredol. MEDDYLFRYD BYD-EANG: Byddwn yn ehangu ein partneriaethau â sefydliadau amlwladol mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn y DU a thramor. Byddwn yn parhau i feithrin hyder ein cydweithwyr a’n myfyrwyr i sefydlu eu busnesau eu hunain a’r meddylfryd i groesawu a datblygu’r sgiliau creadigol ac entrepreneuraidd a fydd o gymorth iddynt yn eu gyrfaoedd, lle bynnag yn y byd maent yn gweithio.

CYFRIFOLDEB CYMDEITHASOL: Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i gyfnewid gwybodaeth a datblygu sgiliau ar sail foesegol a theg. Er y byddwn yn arwain cydweithrediadau, byddwn yn gwrando ar ein partneriaid ac yn dysgu ganddynt. Ein rôl yw diwallu eu hanghenion, sbarduno eu twf a chefnogi eu datblygiad cynaliadwy i’r un graddau â’n nod i ehangu ffiniau ac arloesi. YMDRECHU I GYFLAWNI RHAGORIAETH: Byddwn yn mesur effaith ein hymagwedd entrepreneuraidd drwy’r Fframwaith Cyfnewid Gwybodaeth a’r arolwg Rhyngweithio rhwng Addysg Uwch, Busnes a’r Gymuned. Gellir asesu ein llwyddiant hefyd yn ôl cynnydd yn nifer y sefydliadau rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw, ein heffaith ar eu busnes a’r ffyrdd rydym yn ymgorffori entrepreneuriaeth yn ein rhaglenni gradd ac yn y cyfleoedd allgyrsiol rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr.

“Mae gwybodaeth yn werthfawr ond mae’n ddi-werth oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth â hi.” JM, myfyriwr

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU MENTERGARWCH

4. Byddwn yn cynyddu nifer y grantiau sy’n cynnwys cyllid gan ddiwydiant, a nifer y cyhoeddiadau rydym yn eu cynhyrchu ar cyd â phartneriaid diwydiannol 5. Byddwn yn ei gwneud hi’n haws i’n cydweithwyr dreulio amser yn gweithio mewn diwydiant, masnach neu yn y sector cyhoeddus, er enghraifft drwy gyfnodau sabothol a secondiadau

1. Byddwn yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad sy’n ysgogi ac yn gwobrwyo ymchwil ac arloesi cydweithredol, gan ddenu mewnfuddsoddiad rhyngwladol i’r rhanbarth 2. Byddwn yn sefydlu cyfres o bartneriaethau menter dramor, gan gynnwys ein staff a’n myfyrwyr 3. Byddwn yn cydnabod ein hanes cryf o bartneriaeth â diwydiant drwy nodi deg partner allweddol y Canmlwyddiant ac yn cryfhau ein cysylltiadau â’r sefydliadau hyn

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

ARWEINYDDIAETH A LLYWODRAETHU: Rydym yn gwerthfawrogi ein harweinwyr ar bob lefel yn ein Prifysgol ac yn cydnabod eu rôl sylfaenol wrth hyrwyddo ein gweledigaeth a chyflawni ein strategaeth. Mae arweinyddiaeth yn chwarae rhan hollbwysig wrth lunio ein diwylliant egwyddorol a byddwn yn buddsoddi yn ein harweinwyr drwy hyfforddiant a mentora. Ar yr un pryd, byddwn yn gweithio gyda Chyngor ein Prifysgol i lunio a chryfhau ein strwythurau llywodraethu ymhellach. Wrth i ni addasu i’r amgylchedd allanol newidiol, bydd ein harweinwyr yn fodelau rôl gweladwy y gellir ymddiried ynddynt, sy’n rhoi i ni’r hyder i ymateb i heriau a chyfleoedd wrth iddynt godi. Byddwn hefyd yn onest gyda’n gilydd a’n cymuned a byddwn yn cynnal sgyrsiau agored am Hil, Rhyw ac Anabledd; gan adeiladu ein henw da fel partner dibynadwy y gellir ymddiried ynddo. CYNALIADWYEDD: Byddwn yn ymdrechu i fod yn wydn yn ariannol ac yn amgylcheddol a byddwn yn buddsoddi mewn modd strategol a chyfrifol i gyflawni ein huchelgeisiau. Byddwn yn cefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflawni amgylchedd mwy cynaliadwy ac rydym yn cydnabod bod rhaid i’n Prifysgol gyfrannu at dargedau amgylcheddol a bod gennym rôl i’w chwarae wrth gefnogi eraill i wneud hyn. Byddwn yn ymdrechu i fod yn brifysgol ddi-garbon erbyn 2040 a byddwn yn cefnogi ein cymuned leol drwy brosiectau cynaliadwy a phrosiectau menter.

RHYNGWLADOLI: Drwy ein strategaeth ryngwladol, rydym yn ymrwymedig i gynyddu niferoedd ein myfyrwyr rhyngwladol, cryfhau ein partneriaethau strategol rhyngwladol yn Ewrop, UDA, Tsieina a Chanada, ehangu ein rhwydweithiau ymchwil byd-eang a chyflawni proffil byd-eang cryfach i’n Prifysgol. Byddwn yn cynnwys safbwyntiau rhyng- ddiwylliannol a byd-eang yn ein haddysgu, ein hymchwil, ein mentergarwch a phrofiad ein myfyrwyr a byddwn yn eu gwreiddio yn ein cenhadaeth ddinesig i sicrhau bod ein profiadau rhyngwladol yn cael effaith leol. YR YSTÂD DDIGIDOL A DIRIAETHOL: Rydym yn cydnabod y gwerth strategol y gall ein hisadeiledd digidol ei ychwanegu at ein haddysgu a’n hymchwil, yn ogystal ag at leihau ein hôl troed diriaethol a gwella ein hymdrech i fod yn fwy cynaliadwy. Byddwn yn buddsoddi mewn gwasanaethau digidol diogel a chadarn i gefnogi ac ehangu ein gwaith, gan hwyluso ein hymchwil, uchafu cyfleoedd dysgu a sicrhau y gallwn gyflawni ein huchelgeisiau’n effeithlon ac yn gynaliadwy. Rydym yn falch o’n buddsoddiad £450 miliwn diweddar yng Nghampws y Bae a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein hystâd ddiriaethol er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr a’n cydweithwyr yn cael profiadau tebyg waeth ar ba gampws maent yn astudio neu’n gweithio.

CYFATHREBU: Rydym yn falch o’n gweithgarwch ymgysylltu â chymuned y Brifysgol a byddwn yn ehangu’r cyfryngau a’r fforymau rydym yn eu defnyddio i wrando ar ein cydweithwyr a’n rhanddeiliaid. Byddwn yn cyfathrebu mewn modd agored, gonest a thryloyw, gan gynyddu ymddiriedaeth a hyder yn ein Prifysgol a’r tu allan iddi. Byddwn yn dathlu llwyddiant ac yn darparu gwybodaeth amserol a chyson, ac ni fyddwn yn osgoi sgyrsiau anodd. Byddwn yn dyfeisio rhagor o ffyrdd o ymgysylltu â grwpiau mwy anodd eu cyrraedd, a bydd ein timau arweinyddiaeth yn hygyrch ac yn agos-atoch. RECRIWTIO: Byddwn yn parhau i ddenu cydweithwyr dawnus i ymuno â’n cymuned, gan groesawu’r safbwyntiau newydd ac amrywiol maent yn eu cynnig i’n timau academaidd a gwasanaethau proffesiynol. Yn ein tro, byddwn yn cefnogi ein cydweithwyr i gyflawni rhagoriaeth a’u huchelgeisiau gyrfaol. Byddwn yn darparu mentora, hyfforddiant a chyfleoedd datblygiad proffesiynol wedi’u teilwra, a byddwn yn cydnabod llwyddiant ein cydweithwyr ac yn eu gwobrwyo’n briodol.

EIN SYLFEINI GALLUOGI Rydym yn cydnabod y cyfraniad eang mae ein Prifysgol yn ei wneud i gymdeithas, yr economi a gwerthoedd diwylliannol dyfnach y genedl. Mae llwyddiant ein gweithgareddau craidd yn seiliedig ar y sylfeini galluogi sy’n cefnogi popeth a wnawn. Bydd rhoi ein strwythur cyfadran newydd ar waith yn ein helpu i fod yn fwy effeithlon a gwydn, ond rhaid i ni gynllunio hefyd am ddyfodol cynaliadwy sy’n cydbwyso buddsoddiad doeth mewn cyfleusterau newydd â’r angen i barhau i gefnogi a gwella ein hisadeiledd diriaethol a digidol presennol. Mae angen i ni gael ein harwain mewn modd proffesiynol mewn amgylchedd a lywodraethir yn dda, a byddwn yn addasu ein hoffer cyfathrebu’n barhaus i sicrhau bod ein staff, ein myfyrwyr a’n cymuned yn deall ein penderfyniadau. Bydd ein meddylfryd yn fwyfwy rhyngwladol, a byddwn yn taflu ein rhwyd yn eang i ddenu’r myfyrwyr a’r staff gorau oll sy’n rhannu ein huchelgais.

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

EIN BLAENORIAETHAU GALLUOGI

1. Byddwn yn sicrhau bod llywodraethu cadarn, amrywiol a chynhwysol yn tanategu’r adolygiad rydym yn bwriadu ei gynnal o’n Cyngor, ein Senedd ac is-bwyllgorau’r ddau gorff 2. Byddwn yn ailstrwythuro ein Prifysgol i’w gwneud hi’n addas at ein dibenion yn ein hail ganrif, gan gyfuno ein saith coleg yn dair cyfadran er mwyn cynyddu cydweithredu traws-ddisgyblaethol a gwella arweinyddiaeth strategol a chynaliadwyedd ariannol a darparu gwasanaethau’n fwy effeithiol 3. Byddwn yn cynllunio’n gyfrifol i sicrhau ein bod yn wydn yn ariannol a’n bod yn gallu buddsoddi yn y sylfeini a fydd yn cefnogi ein gweithgareddau craidd 4. Fel rhan o’n hymrwymiad i gyfrannu at ddyfodol di-garbon, ac i nodi ein canmlwyddiant, byddwn yn plannu 100 o goed derw Cymreig yn ein rhanbarth a 1,000,000 o hadau morwellt oddi ar arfordir Cymru 5. Byddwn yn gwella cyfathrebu ar draws ein cymuned fel bod ein cydweithwyr, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn derbyn yr un neges gyson

6. Byddwn yn dathlu’r cyfraniadau cadarnhaol niferus a wneir gan ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn lleol, gan ddangos eu heffeithiau gwerthfawr 7. Byddwn yn codi arian o amrywiaeth o ffynonellau i adfer T ^ y Fulton i’w ogoniant gynt, â phrofiad y myfyrwyr wrth ei wraidd 8. Byddwn yn ehangu ein hisadeiledd a’n profiadau digidol sy’n cefnogi ein cenhadaeth academaidd 9. Byddwn yn cynyddu cynrychiolaeth amrywiol ar ein pwyllgorau a’n timau arweinyddiaeth, a sicrhau gwelededd grwpiau a dangynrychiolir 10. Byddwn yn gweithio’n systematig i wreiddio cydraddoldeb a chynhwysiant yn ein prosesau a’n llywodraethu a byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau a dangynrychiolir i ddeall a chynyddu ymwybyddiaeth o’u hanghenion unigol

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

AIL GANRIF AR FRIG Y DON

www.swansea.ac.uk

#PrifAbertawe

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28-29 Page 30-31 Page 32-33 Page 34-35 Page 36-37 Page 38

Made with FlippingBook Proposal Creator