Welsh Language and Culture Strategy Cymraeg

Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r Strategaeth newydd hon ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n amlinellu ein huchelgeisiau a’n dyheadau i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn ein sefydliad ac yn ein cymuned.

CAMU YMLAEN Strategaeth Iaith a Diwylliant Cymraeg Prifysgol Abertawe 2022-27

Rhagarweiniad

Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’r Strategaeth newydd hon ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n amlinellu ein huchelgeisiau a’n dyheadau i sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn ein sefydliad ac yn ein cymuned. Mae ein graddedigion yn cyfrannu’n sylweddol at amrywiaeth o sectorau ledled Cymru a’r tu hwnt, a’n nod yw sicrhau bod cyfleoedd iddynt baratoi ar gyfer y gyrfaoedd hynny drwy astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a dod i gysylltiad â’r iaith beth bynnag eu cefndir neu eu maes astudio. Dyma ein huchelgais ar gyfer ein cydweithwyr hefyd, yn unol â’n hymrwymiad i fuddsoddi yn ein pobl. Mae ein Prifysgol yn falch o fod yn lle cynhwysol a chroesawgar i astudio a gweithio ynddo, ac yn lle sy’n parchu ac yn dathlu diwylliannau amrywiol. Yn y bôn, Prifysgol sydd a’i gwreiddiau yng Nghymru a Phrifysgol i Gymru ydym ni, ac rydym yn dathlu ein treftadaeth a’n diwylliant Cymreig. O’r gwreiddiau cadarn hyn, ac yn ôl arwyddair y Brifysgol, “Gweddw crefft heb ei dawn”, rydym yn codi’n golygon yn hyderus i gynrychioli Cymru, a’r oll sydd ganddi i’w gynnig, ar lwyfan byd-eang. Mae’r Strategaeth hon yn cydweddu â Gweledigaeth Strategol a Phwrpas y Brifysgol (2020) yn enwedig â’n hymrwymiad i ehangu’r ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a chael profiad o’r Gymraeg. Wedi’r cyfan, mae gan ein Prifysgol enw da am ragoriaeth mewn addysgu, ymchwil arloesol, cyrhaeddiad rhyngwladol, a phrofiad eithriadol i fyfyrwyr sy’n rhoi’r sgiliau i’n graddedigion i’w galluogi i lwyddo’n bersonol ac yn broffesiynol.

Mae’r Strategaeth hon yn datgan ein hymrwymiad i alluogi ein staff i ymgysylltu â’r iaith fel ffordd o feithrin sgil ychwanegol ar gyfer y gweithle ac fel porth at gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd yn y gwaith ac yn y gymuned. Gan fynd i’r afael â thargedau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, byddwn yn ehangu ein rôl sefydliadol, ein hamlygrwydd a’n dylanwad er mwyn sicrhau mai Prifysgol Abertawe yw prif ysgogwr newid mewn perthynas â hyrwyddo agenda’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’r Strategaeth hon yn cydnabod gwir natur Cymru’r unfed-ganrif-ar-hugain gyda’i dwy iaith swyddogol a’i chymdeithas aml-ddiwylliannol ac aml-ethnig. Mae’n amlygu ein bwriad i sicrhau bod pawb sydd yn ymweld neu yn byw, yn astudio neu’n gweithio yng Nghymru yn medru profi popeth sydd gan y genedl unigryw hon i’w gynnig yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd y Strategaeth hon yn sicrhau bod y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth yn rhan annatod o’r profiadau ffurfiannol hynny ar gyfer ein holl fyfyrwyr, a bod ein siaradwyr Cymraeg yn elwa’n llawn ar astudio mewn prifysgol sydd â chysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol gwerthfawr.

Yr Athro Elwen Evans CF, Dirprwy Is-ganghellor Y Gymraeg a’i Diwylliant

datblygu lle bo angen, yn ogystal ag asesu’n gywir – a recriwtio’n effeithiol – y sgiliau Cymraeg y mae eu hangen ar gyfer swyddi newydd ac wrth ail-benodi i swyddi mewn meysydd allweddol. Dros y blynyddoedd, rydym wedi meithrin partneriaethau a rhwydweithiau allanol ardderchog er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a’i diwylliant. Mae ein cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth wraidd ein strategaeth a’n gwaith o ddydd i ddydd. Ond mae ein gwaith hefyd yn cynnwys cefnogi a datblygu prosiectau gyda’n gwyliau cenedlaethol – yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod yr Urdd a Thafwyl. Rydym yn cynnal cysylltiadau agos ag ysgolion Cymru ac Awdurdodau Lleol yn rhanbarth y Brifysgol. Mae meithrin cymuned yn allweddol i’n llwyddiant fel prifysgol, ac ni all ein cymuned ar ein dau gampws lwyddo heb gysylltiadau agos â’n cymunedau yn ne-orllewin Cymru. O ganlyniad, rydym yn diogelu ac yn cynnal a chadw’r berthynas â’n cymunedau Cymraeg sydd o fudd i’r ddwy ochr, ac yn adeiladu ar y berthynas honno er mwyn cyrraedd y cymunedau di-Gymraeg lleol y mae llawer ohonynt yn gymunedau amlddiwylliannol, gan gynnwys lleiafrifoedd ethnig, ac yn sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn iddynt hwy hefyd. Rydym hefyd yn llwyddiannus wrth gynnal perthnasoedd buddiol â sefydliadau cenedlaethol Cymru, gan gynnwys y Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Urdd Gobaith Cymru, BBC Cymru ac S4C, a sefydliadau, elusennau a busnesau lleol sy’n rhannu’r nod o weithredu er lles y Gymraeg. Felly, mae sylfaen gadarn gan y Strategaeth hon a’r Gymraeg yn y sefydliad, a’n nod yn ystod y pum mlynedd nesaf yw symud ymlaen, adeiladu ymhellach ar y sylfeini hynny er mwyn sicrhau cynnydd parhaus, a chymryd ein lle yn hyderus ymhlith y prifysgolion hynny yng Nghymru sy’n croesawu, yn dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg a Chymreictod.

i gefnogi ein myfyrwyr ymhellach yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol. Mae ein holl staff a’n myfyrwyr hefyd yn cael budd o wasanaethau a darpariaeth y canolfannau Cymraeg lleol, T ^ y Tawe a Th ^ y’r Gwrhyd. Drwy waith ein huned Dysgu Cymraeg: Ardal Bae Abertawe, mae cannoedd o bobl yn ymuno â’n cyrsiau yn y gymuned ac yn y gweithle bob blwyddyn er mwyn dysgu’r iaith, ac ers i ni gyflwyno cyrsiau ar-lein a chyrsiau cyfunol, cafwyd cynnydd pellach yn y niferoedd sy’n dewis dysgu’r iaith gartref mewn gwledydd ym mhedwar ban byd. Er mwyn estyn croeso cynnes i fyfyrwyr rhyngwladol, rydym yn cynnig cyfle iddynt ddysgu’r iaith a phrofi diwylliant Cymru wrth ymateb i’w hawydd amlwg i fanteisio i’r eithaf ar y cyfle i gael blas ar fywyd yng Nghymru yn ystod eu hamser yma. Mae ein rhagoriaeth addysgu yn cyd-fynd â’n henw da rhyngwladol am ymchwil, gyda llawer ohono wedi’i wreiddio yn iaith, hanes a diwylliant Cymru, o brosiectau adfywio wedi’u harwain gan dreftadaeth a deall llenyddiaethau Cymru yn Saesneg a Chymraeg, i lunio polisïau ac archwilio a hyrwyddo Cymraeg fel iaith lewyrchus. Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i Reoliadau 2017 Safonau’r Gymraeg (Rhif 6), a ddaeth i rym yn y Brifysgol yn 2018. Mae’r Safonau wedi hwyluso datblygiad sylweddol wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg rheng flaen, a hawliau myfyrwyr i dderbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n ategu datblygiadau Cymraeg yn y ddarpariaeth academaidd. Mae gwasanaethau Cymraeg ar gyfer aelodau’r cyhoedd sy’n rhyngweithio â’r Brifysgol wedi gwella’n sylweddol hefyd, ac mae hawliau staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hyrwyddo a’u hwyluso. Er bod y sylfeini cychwynnol o ran Safonau’r Gymraeg ar waith bellach, mae angen rhoi sylw i wreiddio’r Gymraeg ymhellach ar draws gwasanaethau’r Brifysgol, gan wella gallu timau i weithio’n ddwyieithog o’r dechrau’n deg. Bydd hyn yn cynnwys gwerthfawrogi ac annog lefelau sgiliau Cymraeg y staff presennol, darparu’r lefel angenrheidiol o gymorth i’w

Cyd-destun strategol

Mae gan ein Prifysgol draddodiad cryf o addysgu’r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd Adran y Gymraeg ym 1921 fel un o’n disgyblaethau sefydlol ac mae wedi bodoli’n barhaus ers hynny, gan arwain yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil dros y degawdau. Ers sefydlu Academi Hywel Teifi yn 2010 er mwyn gwireddu ein huchelgais i ehangu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg, rydym wedi sicrhau bod amrywiaeth eang o gyrsiau a rhaglenni ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn cyflymu’r datblygiadau hyn, rydym yn gweithio’n effeithiol ac yn agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac, o ganlyniad, rydym bellach yn cynnig mwy na 21 pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg, o’r Gyfraith i Feddygaeth, Hanes i Fiocemeg, a’r Cyfryngau i Waith Cymdeithasol. Yn ystod y degawd diwethaf,

gwelwyd twf o 135% yn nifer y myfyrwyr sy’n astudio traean o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn gweithio’n galed i sefydlogi ac ehangu’r hyn sydd ar gael i fyfyrwyr, gan ychwanegu pynciau newydd megis Addysg, Gwyddor Barafeddygol a Fferylliaeth at y ddarpariaeth. Mae Abertawe yn brifysgol sy’n falch o’i gwreiddiau, gan hyrwyddo ei Chymreictod a chynnig croeso Cymreig i fyfyrwyr ni waeth o ble maent yn dod. Mae cymdeithas Gymraeg fywiog ar y campws ac yn y gymuned leol, ac mae myfyrwyr yn elwa’n sylweddol o fyw mewn llety i siaradwyr Cymraeg ar ein campysau, sef Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Mae Swyddog Materion y Gymraeg Undeb y Myfyrwyr a’r Gymdeithas Gymraeg weithgar yn sicrhau amrywiaeth o gyfleoedd a chynlluniau

Mae’r strategaeth hon yn cydweddu â’r uchelgeisiau a nodwyd yn y ddogfen Prifysgol Abertawe: Ein Gweledigaeth Strategol a’n Pwrpas (2020), ac yn benodol â’r gydnabyddiaeth ein bod yn angor diwylliannol ac economaidd yn ein cymuned sydd â rôl arbennig i’w chwarae wrth ysgogi datblygiad rhanbarthol a hybu iechyd a lles, ac rydym yn falch o fod yn gadarnle iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru ar draws ein pum piler allweddol: EIN CENHADAETH DDINESIG: Rydym yn cyfrannu at fywyd diwylliannol ein cymuned drwy ein Theatr Taliesin, y Neuadd Fawr a’r Ganolfan Eifftaidd, ein Llyfrgell Glowyr De Cymru ac Archifau Richard Burton, tra bod T ^ y’r Gwrhyd, sef ein Canolfan Gymraeg yng Nghwm Tawe, yn cefnogi ei chymuned drwy hyrwyddo’r Gymraeg. PROFIAD EIN MYFYRWYR: Byddwn yn sicrhau y bydd pob myfyriwr yn cael cyfle i ddysgu rhagor am ein treftadaeth a’n diwylliant Cymraeg a chael profiad o’r rhain, ac y caiff gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr eu darparu’n ddwyieithog yn unol â Safonau’r Gymraeg. EIN DYSGU AC ADDYSGU: Rydym yn parchu hawl myfyrwyr i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg a byddwn yn ehangu ein hystod o gyfleoedd iddynt wneud hynny a gwella eu cyflogadwyedd yn sgîl hynny. EIN HYMCHWIL: Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau lleol ac â chymunedau ledled y byd, gan ddysgu ganddynt wrth i ni eu cefnogi i ddatblygu. EIN MENTERGARWCH: Byddwn yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad sy’n ysgogi ac yn gwobrwyo ymchwil ac arloesi cydweithredol, gan ddenu mewnfuddsoddiad rhyngwladol i’r rhanbarth.

Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi canolbwyntio yn y Strategaeth hon ar bedwar piler allweddol .

1. DIWYLLIANT

EIN PRIFYSGOL, gan sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned o fyfyrwyr a staff amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus;

2. PROFIAD Y DYSGWR, gan feithrin amgylchedd cefnogol sy’n helpu pawb

Mesurau llwyddiant

sy’n dysgu Cymraeg i wneud cynnydd, beth bynnag yw lefel eu gallu;

ERBYN 2027 BYDDWN WEDI: 1. Cyfrannu’n ystyrlon at uchelgais Llywodraeth Cymru i greu miliwn o bobl sy’n siarad Cymraeg erbyn 2050, drwy alluogi’r holl fyfyrwyr a staff i ddysgu Cymraeg ac i feithrin perthynas ystyrlon â diwylliant a threftadaeth Cymru. 2. Rhoi proses gadarn ar waith i gynllunio’r gweithlu, er mwyn datblygu ymhellach nod y sefydliad o fod yn Brifysgol ddwyieithog. 3. Codi proffil y Gymraeg a’r gymuned Gymraeg yn y Brifysgol a chydnabod cyflawniadau unigolion sy’n gweithio i hyrwyddo’r amcan hwn. 4. Cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n dewis ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg i 750. 5. Gwella ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y disgyblaethau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig, a hyrwyddo ymagwedd ryngddisgyblaethol.

6. Atgyfnerthu ein henw fel darparwr allweddol addysg Gymraeg a dwyieithog, gan ddod yn gyrchfan o ddewis ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith. 7. Cynyddu nifer y cyfleoedd cyflogadwyedd dwyieithog i fyfyrwyr, â’r nod o feithrin gweithlu dwyieithog hynod fedrus yng Nghymru. 8. Cynyddu ein rhagoriaeth mewn ymchwil sy’n ymwneud â Chymru, gan ddarparu ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, a thrwy ein cyfraniad at astudiaethau sy’n creu effaith ac sy’n llywio polisi cenedlaethol yng Nghymru. 9. Cynyddu ein cysylltiadau â Chymry dramor, a dathlu ein cyfoethogrwydd a’n hamrywiaeth ddiwylliannol gartref a thramor.

3. GWREIDDIO’R GYMRAEG LEDLED Y BRIFYSGOL, gan ein galluogi i gydymffurfio â gofynion rheoliadau Safonau’r Gymraeg y Brifysgol a rhagori arnynt, a

4. CHEFNOGI EIN HYMCHWIL A’N

CENHADAETH DDINESIG, gan gydnabod gwerth y Gymraeg i’n hymchwil a’n gweithgareddau arloesi, a’i heffaith ar ein Cenhadaeth Ddinesig.

Piler 1: Diwylliant ein Prifysgol

Ein nod yw atgyfnerthu’r ffyrdd rydym yn hyrwyddo statws Cymraeg a dwyieithog Prifysgol Abertawe, gan sicrhau bod ein Prifysgol yn gartref i gymuned amlieithog ac amlddiwylliannol sy’n groesawgar ac yn ffyniannus.

• Gweithio gyda swyddogion llawn amser a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr ac asiantaethau allanol lleol i ddarparu amgylchedd dwyieithog sy’n amrywiol, yn gynhwysol ac yn groesawgar, sydd hefyd yn gallu cynnig cyfleoedd Cymraeg estynedig i fyfyrwyr sy’n eu dymuno. ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Cryfhau amlygrwydd y Gymraeg ar draws y Brifysgol a phwysleisio ei phwysigrwydd yn ein gweithgareddau bob dydd i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd. • Sicrhau y caiff staff eu cydnabod a’u gwobrwyo am eu hymrwymiad i’r Gymraeg drwy broses Adolygiad Datblygiad Proffesiynol y Brifysgol ac ymgyrchoedd mewnol sy’n eich annog i ‘Ddefnyddio eich Cymraeg’. • Sefydlu rhaglen i academyddion sy’n dysgu Cymraeg i’w helpu i feithrin eu hyder i addysgu yn Gymraeg. • Datblygu mesurau i arddangos a dathlu effaith y Gymraeg ar lwyddiant ein Prifysgol mewn meysydd megis recriwtio myfyrwyr, cadw myfyrwyr, dilyniant a chyflogaeth; ymchwil a chysylltiadau byd-eang; proffil diwylliannol a chenhadaeth ddinesig.

ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Cryfhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff a myfyrwyr o’u hawliau iaith Gymraeg yn y Brifysgol. • Galluogi’r holl staff i gael profiad o’r Gymraeg drwy gyfleoedd i ddysgu am ddim

yn ystod oriau gwaith a thrwy ddarparu mannau i gymdeithasu yn Gymraeg.

• Sicrhau bod dysgwyr a siaradwyr rhugl yn integreiddio’n well, hybu unigolion i fod yn fwy hyderus yn eu galluoedd, a hyrwyddo rhagor o gyfleoedd i staff ddefnyddio eu sgiliau yn y gweithle. • Cefnogi staff i amlygu a rhoi gwybod am eu sgiliau Cymraeg, a’u defnyddio. • Cryfhau ein rhwydwaith staff academaidd Cymraeg drwy Academi Hywel Teifi a changen Abertawe y Coleg Cymraeg. • Gweithio gyda’r Gwasanaethau Datblygu a Hyfforddiant i ddatblygu cwrs hyfforddiant mewnol gorfodol i staff ynghylch ymwybyddiaeth iaith a diwylliant Gymraeg (gan gynnwys gwybodaeth am ofynion cydymffuriaeth â Safonau’r Iaith Gymraeg), yn enwedig wrth iddynt ymuno â’r sefydliad.

• Darparu rhagor o gyfleoedd i gyflwyno hanes a diwylliant Cymru i’r holl staff.

• Darparu hyfforddiant ar gyfer swyddi arweinyddiaeth ledled y Brifysgol i gynnwys pob agwedd ar ymwneud ag iaith a diwylliant Cymru, er mwyn galluogi ein harweinwyr i gefnogi staff a myfyrwyr yn well.

ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Cyrraedd y targed o gael 750 o fyfyrwyr sy’n astudio 5+ credyd yn Gymraeg. • Cynyddu’r elfennau o astudiaethau Cymreig yn y cwricwlwm yn gyffredinol. • Darparu a gwreiddio sgiliau cyflogadwyedd ac academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyrsiau sy’n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg. • Atgyfnerthu ein darpariaeth cyrsiau dysgu byr drwy gyfrwng y Gymraeg i oedolion ar draws amrywiaeth o bynciau, yn enwedig i oedolion sy’n dysgu heb gymwysterau lefel 4. • Cynyddu nifer yr ysgoloriaethau israddedig sydd ar gael gan Academi Hywel Teifi bob blwyddyn academaidd i 80, a nifer y bwrsariaethau i 20.

siaradwyr Cymraeg nad ydynt yn hyderus i wella eu sgiliau a’i siarad bob dydd.

Piler 2: Profiad y Dysgwr

• Atgyfnerthu ymhellach ein profiad myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith drwy ddatblygu ein gwasanaethau cymorth sgiliau academaidd a llesiant, gan ganolbwyntio’n benodol ar anghenion pontio mwy myfyrwyr (gan gynnwys y rhai y mae Covid19 yn effeithio arnynt). • Cryfhau’r bartneriaeth rhwng mentoriaid a myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn y cynllun Mentor Academaidd ac annog sgyrsiau am fanteision sgiliau aml-iaith rhwng yr holl fyfyrwyr a’u mentoriaid. • Gweithredu ymagwedd optio allan at gofrestru ar gyfer modiwlau cyfrwng Cymraeg i fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg.

Ein nod yw gwella nifer, ystod ac ansawdd y cyfleoedd i gefnogi dysgwyr cyfrwng Cymraeg ar draws ein cymunedau staff a myfyrwyr. Byddwn yn gweithio’n rhagweithiol gyda sefydliadau Addysg Uwch eraill, colegau addysg bellach ac ysgolion, a’r Coleg Cymraeg i archwilio, datblygu, darparu a hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg ar y cyd. Hefyd, byddwn yn gweithio i ddarparu rhagor o gymorth o ran sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau academaidd drwy gyfrwng y Gymraeg.

ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Recriwtio neu’n trosglwyddo rhagor o fyfyrwyr i’n darpariaeth cyfrwng Cymraeg, gan ragori ar ein targedau CCAUC ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio 5+ a 40+ credyd y flwyddyn, gan weithio tuag at gynnydd o 8% y flwyddyn yn y niferoedd presennol. • Cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg eang ac arloesol ar draws ystod o bynciau ym mhob un o’r tair Cyfadran ar lefelau Israddedig, Ôl-raddedig a Doethurol, yn ogystal â darpariaeth gynhwysol pum credyd sy’n croesi ffiniau Cyfadrannau. • Cefnogi pob un o’r tair Cyfadran, mewn cydweithrediad ag Academi Hywel Teifi, i ymrwymo i gyfrifoldeb am gyflawni amcanion a thargedau blynyddol y Brifysgol ynghylch dysgu ac addysgu trwy’r Gymraeg ac i roi adnoddau strategol i’r ymdrechion hynny. • Parhau i adeiladu ar ein darpariaeth 40+ credyd yn Gymraeg mewn partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar draws amrywiaeth o bynciau, ond gan roi blaenoriaeth benodol i gynlluniau gradd sy’n cynnig llwybrau galwedigaethol (e.e. Nyrsio, Bydwreigiaeth, Gwaith Cymdeithasol, y Gyfraith, Addysg, Meddygaeth a Fferylliaeth) a meysydd arbenigedd (e.e. Gwyddor Barafeddygol a’r gwyddorau).

ddarperir yn Gymraeg, sy’n cynnwys Cymraeg, Hanes, Daearyddiaeth, Ieithoedd Tramor Modern ac Astudiaethau’r Cyfryngau. • Dwysáu ein gweithgareddau o ran ymgysylltu a recriwtio mewn ardaloedd sydd â safle uchel ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. • Darparu cyfle i siaradwyr Cymraeg nad ydynt o reidrwydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg i gyfoethogi eu sgiliau cyflogadwyedd dwyieithog ac i wireddu eu potensial fel darpar weithwyr dwyieithog. • Sefydlu rhaglen o deithiau maes, sgyrsiau a chynnwys ar-lein i ddarparu rhagor o gyfleoedd i fyfyrwyr, yn enwedig myfyrwyr rhyngwladol, i gael profiad o’r iaith a’r diwylliant. • Ehangu ein rhaglen Cymraeg i Bawb i integreiddio cyfleoedd dysgu i oedolion yn well er mwyn i staff a myfyrwyr allu dysgu Cymraeg am ddim, ar sail ennill credydau a pheidio ag ennill credydau. • Parhau i gynnig 55 ysgoloriaeth a 10 bwrsariaeth bob blwyddyn academaidd ar sail gystadleuol drwy raglen ysgoloriaethau Academi Hywel Teifi i’n holl fyfyrwyr israddedig. • Hyrwyddo ymhellach Ysgoloriaethau a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg i fyfyrwyr, gan ganolbwyntio ar gefnogi

• Atgyfnerthu cyflwyno a hyrwyddo ein rhaglenni sy’n cynnig 60+ credyd a

Piler 3: Gwreiddio’r Gymraeg ledled y Brifysgol

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gydymffurfio â gofynion Safonau’r Gymraeg y Brifysgol, gan gyfrannu at amcanion Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050. Wrth wneud hynny, byddwn yn gwella cyfleoedd i wreiddio a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ein cymuned ac yn cynyddu ein buddsoddiad mewn meysydd sy’n allweddol i gefnogi ein huchelgeisiau, megis cyfieithu.

ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Parhau i wella ein gwaith marchnata a chyfathrebu â chynulleidfaoedd Cymraeg a chynulleidfaoedd di-Gymraeg yng Nghymru, gan ddarparu cyfathrebu dwyieithog dilys i’r holl fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr sy’n byw yng Nghymru. • Recriwtio rhagor o fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar draws pob un o’r tair Cyfadran drwy wneud hyrwyddo’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg a chymuned Gymraeg y Brifysgol yn flaenoriaeth strategol yng nghynlluniau marchnata a recriwtio’r Cyfadrannau a’r Ysgolion. • Cyflwyno ymgyrch i amlygu proffil y Brifysgol fel cyflogwr Cymraeg a dwyieithog sy’n cynnig rhagolygon gyrfa ardderchog. • Sicrhau y caiff gwaith a wneir yn Gymraeg ar draws ein gweithgarwch ymchwil, addysgu a gwasanaethau proffesiynol ei gydnabod drwy adolygiadau datblygiad proffesiynol ac wrth reoli llwyth gwaith.

myfyrwyr i achub ar y cyfleoedd hyn yn y ddarpariaeth brif ffrwd.

• Buddsoddi ymhellach yn ein Gwasanaethau Cyfieithu er mwyn cryfhau gallu’r Brifysgol i fod yn ddwyieithog ar draws rhagor o agweddau ar waith y sefydliad. • Rhoi systemau cadarn ar waith ar gyfer casglu data ynghylch y Gymraeg – gan gynnwys data manwl am nifer y myfyrwyr sy’n dewis darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg; gallu yn y Gymraeg a’i defnydd ymhlith myfyrwyr a staff; a data ar lefel fwy soffistigedig er mwyn ein galluogi i dargedu myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i’w recriwtio. • Sicrhau y caiff y Gymraeg ei chynnwys yn amlycach ym mhob digwyddiad cyhoeddus y mae’r Brifysgol yn ei gynnal. ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth unigryw Cymru yn rhagweithiol i fyfyrwyr a phartneriaid rhyngwladol, gan gynnwys y rhai sy’n ymgysylltu â phartneriaethau rhyngwladol a rhaglenni Addysg Drawswladol. • Cefnogi pob Cyfadran a Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau Proffesiynol i wneud mwy na chyflawni gofynion Safonau’r Gymraeg y Brifysgol ac i ystyried bod y Safonau’n dargedau gwaelodlin yn hytrach nag amcan. • Adolygu ein gwaith ymgysylltu â Rhwydwaith Seren a rhaglenni recriwtio eraill er mwyn

• Ehangu cyfleoedd i staff ddefnyddio eu Cymraeg mewn cyfarfodydd a

• Datblygu polisi mewnol ar gyfer galluogi cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd

hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael ac amlygu rhagolygon gyrfa i raddedigion. • Gweithredu dull mwy integredig a soffistigedig o gynllunio’r gweithlu, ymgorffori dwyieithrwydd yn ein harferion recriwtio cadarnhaol, a chwmpasu rhaglen recriwtio graddedigion llwybr carlam i osod ein graddedigion Cymraeg eu hiaith mewn meysydd o’n busnes.

digwyddiadau drwy gynyddu’r defnydd o gyfieithu ar y pryd a defnyddio cynifer o gyfleoedd a phlatfformau technoleg ddigidol â phosibl. • Sicrhau cyfradd drosglwyddo uwch o ran ein myfyrwyr Cymraeg i gyfleoedd astudio

mewnol ac archwilio’r posiblrwydd o greu ystafell bwrpasol gyda chyfarpar cyfieithu ar y pryd a/neu gynyddu’r defnydd trwy Zoom.

cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, a darparu cynigion gweithredol i alluogi

• Cynyddu ein cydweithrediad a’n cefnogaeth i Academi Heddwch Cymru, y mae’r Brifysgol yn bartner iddi, i wreiddio heddwch a hybu heddwch yn yr agenda ymchwil a pholisi yng Nghymru. • Cynyddu ein gweithgareddau ehangu cyfranogiad cyfrwng Cymraeg a’n darpariaeth i grwpiau a dangynrychiolir. • Datblygu ymhellach ein gwaith ymgysylltu â graddedigion, cyn-fyfyrwyr a Chymrodorion er Anrhydedd cyfrwng Cymraeg y Brifysgol, er mwyn darparu lleoliadau gwaith posibl i fyfyrwyr ac amlygu’r llwyddiannau maent wedi eu cyflawni yn eu gyrfaoedd oherwydd eu dwyieithrwydd neu eu hamlieithrwydd. • Ymrwymo i ddathlu’r Gymraeg yn nodau ein Cenhadaeth Ddinesig. ERBYN 2027 BYDDWN YN: • Gwreiddio’r Gymraeg yn nodau ein Cenhadaeth Ddinesig. • Codi proffil, enw da a dealltwriaeth y cyhoedd o effaith mentrau Ymchwil ac

Arloesedd Prifysgol Abertawe, gan ddenu cydweithredu pellach â rhanddeiliaid a gwneud y mwyaf o’n gallu i sicrhau gwerth ychwanegol trwy ein dwyieithrwydd. • Cefnogi a chyfrannu at amcanion Degawd Rhyngwladol Ieithoedd Brodorol UNESCO 2022-32 drwy dynnu ar ein harbenigedd rhyngddisgyblaethol i sicrhau bod ieithoedd brodorol, a’r Gymraeg yn arbennig, yn cael eu cadw, eu hadfywio a’u hyrwyddo ledled y byd. • Elwa ar gynyddu ein cysylltiadau â Chymry dramor er budd dysgu, ymchwil a chymuned y Brifysgol. • Sicrhau rhagor o gefnogaeth gan y Brifysgol, y llywodraeth a’r awdurdod lleol ar gyfer T ^ y’r Gwrhyd, er mwyn sicrhau ei fod yn weithredol o hyd ar ôl 2026. • Datblygu ymhellach ein hopsiynau cyllido dyngarol â’r nod o gynnig Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi ar ôl 2027.

Piler 4: Cefnogi ein Hymchwil a’n Cenhadaeth Ddinesig

Mae llawer o’n hymchwil wedi’i wreiddio yn iaith, hanes a diwylliant Cymru, o brosiectau adfywio ar sail treftadaeth a dealltwriaeth o lenyddiaeth Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg, i lunio polisi ac archwilio a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw. Rydym hefyd yn cydnabod bod ein gweithgareddau ymchwil a mentergarwch yn cefnogi ein Cenhadaeth Ddinesig yng Nghymru a thu hwnt a’n nod yw sicrhau bod gwaith yn parhau i gael ei alluogi a’i atgyfnerthu gan y Gymraeg.

• Sicrhau bod myfyrwyr ac ymchwilwyr Prifysgol Abertawe sy’n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael pob cyfle i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan Raglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (ILEP) newydd Llywodraeth Cymru a galluogi mwy o gyfnewid diwylliannol â myfyrwyr o bob rhan o’r byd, yn enwedig yng nghyd-destun ieithoedd lleiafrifol. • Cryfhau ein cydweithio â chyrff Cymraeg megis Menter Iaith Abertawe, Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot, Mudiad Meithrin, Urdd Gobaith Cymru, ac ymgysylltu â phartneriaid newydd er mwyn archwilio cyfleoedd wedi’u hysgogi gan rannu ieithoedd, diwylliannau, profiadau a threftadaeth. • Cynyddu ein gweithgareddau cenhadaeth ddinesig a’n gwaith ymgysylltu cyfrwng Cymraeg drwy ddigwyddiadau cenedlaethol a gweithgareddau cymunedol, gan ymgorffori’r iaith a chynnwys Cymraeg dilys ymhellach yn nigwyddiadau blynyddol y Brifysgol. • Parhau i gymryd rhan – mewn ffyrdd deinamig ac arloesol – mewn gwyliau cenedlaethol gan gynnwys Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd a Thafwyl er mwyn arddangos doniau creadigol ac ymchwil arloesol y Brifysgol.

ERBYN 2024 BYDDWN YN: • Datblygu ymhellach ein cymuned ymchwil Gymraeg a dwyieithog gyhoeddus a nodi cyfleoedd i greu ymchwil sy’n cael effaith ar y cyd â’n myfyrwyr a’n rhanddeiliaid allanol yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang. • Atgyfnerthu rhwydwaith rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol Canolfan Richard Burton a Chanolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru (CREW) er mwyn cyflwyno ymhellach weithgareddau ymchwil arloesol a dylanwadol dwyieithog sy’n hyrwyddo datblygiad diwylliannol, yn llywio polisi cyhoeddus, ac yn darparu dealltwriaeth ddyfnach o le Cymru ar y llwyfan byd-eang. • Sicrhau bod ymchwil a gaiff ei gyflawni yn Gymraeg neu’n ddwyieithog yn cael ei arwain yn strategol a’i fapio’n gynhwysfawr ar draws y sefydliad, a bod pob gweithgaredd ymchwil cyfrwng Cymraeg yn cael ei gydnabod yng nghofnodion datblygiad proffesiynol unigol academyddion. • Gan adeiladu ar ein cyflwyniadau i REF 2014 a 2021, byddwn yn annog ac yn cefnogi ein hymchwilwyr i gynnal ymchwil pellach a chwblhau mwy o gyhoeddiadau yn Gymraeg gyda’r bwriad o gyflwyno nifer uwch o gyhoeddiadau Cymraeg mewn ymarferion rhagoriaeth ymchwil yn y dyfodol.

Galluogi gwaith cyflawni

• Creu cynllun gweithredol 2022-27 a fydd yn sail i’r Strategaeth hon a chynllun busnes cysylltiedig i ehangu adnoddau i gyflawni ei nodau. • Ei gwneud yn ofynnol i bob Cyfadran ddatblygu ei chynllun gweithredol ei hun i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth. • Atgyfnerthu deallusrwydd marchnata er mwyn inni allu cysylltu mewn ffordd ystyrlon â chynulleidfaoedd Cymraeg a hyrwyddo natur unigryw ein diwylliant i gynulleidfaoedd rhyngwladol. • Sicrhau bod llais y myfyrwyr yn rhan annatod o weithrediad y strategaeth drwy gydweithio ag Undeb y Myfyrwyr a’i aelodaeth. • Dylanwadu ar brosesau cynllunio a gweithredu ar draws y Brifysgol i ganiatáu digon o amser i gyfieithu dogfennau staff/ myfyrwyr. • Monitro cynnydd wrth weithredu pob un o bileri Strategaeth y Gymraeg ledled y Brifysgol, a nodi ymyriadau a chymorth ychwanegol gofynnol i gyflawni pob amcan. • Nodi mentrau ac arferion gorau newydd yn genedlaethol ac yn fyd-eang sy’n atgyfnerthu dwyieithrwydd mewn lleoliad astudio neu weithle, sy’n cynnig cyfleoedd i hyrwyddo’r Gymraeg ac yn ein galluogi i fod yn fwy llwyddiannus drwy weithio ar y cyd ac ymgysylltu â phartneriaid allweddol. • Annog y sefydliad cyfan i gyflawni Strategaeth y Gymraeg drwy gyfathrebu’n rheolaidd, rhwydweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, cydnabod a gwobrwyo gwerth ein pobl a’u cefnogi i gyflawni.

Mae’r Strategaeth yn cefnogi – ac yn cael ei chefnogi gan – strategaethau’r Brifysgol ar gyfer Dysgu ac Addysgu, Ymchwil ac Arloesi, Rhyngwladoli, a Recriwtio Myfyrwyr. Caiff ei hategu gan ddau gynllun gweithredu cyflenwol, un ar gyfer darpariaeth academaidd, ymchwil a’r genhadaeth ddinesig cyfrwng Cymraeg, a’r llall ar gyfer y Gymraeg yng ngweithrediadau a gweinyddiaeth y Brifysgol. Arweinir gwaith cyflawni’r Strategaeth gan Academi Hywel Teifi a Swyddfa Polisi’r Gymraeg, a bydd yn tynnu ar waith ymgysylltu â’r tair Cyfadran a’u hysgolion, yn ogystal â Phartneriaeth Ymgyrraedd yn Ehangach, Academi Cynwysoldeb a Chymorth i Ddysgwyr Abertawe, Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ac Undeb y Myfyrwyr o ran y ddarpariaeth academaidd a’r cymorth i fyfyrwyr. Bydd ymrwymiad i gyflawni’r strategaeth gan dimau gwasanaethau proffesiynol ledled y Brifysgol, gyda chyfraniadau allweddol penodol gan y meysydd gwasanaeth canlynol: Cyfieithu, Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol, Adnoddau Dynol, MyUni, Bywyd Myfyrwyr a Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau. ER MWYN CYFLAWNI STRATEGAETH Y GYMRAEG Y BRIFYSGOL YN LLWYDDIANNUS AR Y CYD, BYDDWN YN: • Mynd i’r afael ag ystod o systemau mewnol a pholisïau er mwyn ein galluogi i hyrwyddo’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn well fel sgil gwerthfawr yn y gweithlu, ymhlith ein staff a’n myfyrwyr. • Gwneud defnydd gwell o ddata dibynadwy ynghylch sgiliau Cymraeg myfyrwyr presennol, darpar fyfyrwyr a staff y Brifysgol er mwyn targedu meysydd allweddol o ddatblygiad a chyfleoedd.

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17

Made with FlippingBook Digital Publishing Software