Cylchgrawn Pwls - Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

Rhifyn Canmlwyddiant o Gylchgrawn Pwls yr Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Dewch o hyd i ddarganfod am yr Ysgol, ein cyrsiau a bywyd ein myfyrwyr.

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

YSGOL FEDDYGAETH

DRWS I DYFODOL

A allech chi syrthio mewn cariad ag Abertawe hefyd ?

Blwyddyn Canmlwyddiant Abertawe DATHLU 100 MLYNEDD

HERIAU BYD-EANG

Newydd ar gyfer 2021 Effeithiau dinistriol gwefrau cyfreithlon FFERYLLIAETH

Sut y gallai bacteria pridd wella canser

1

Ionawr 2020 | Cyf 01 Rhifyn Canmlwyddiant

Yn y rhifyn hwn

AF YN Y DU AMGYLCHEDD YMCHWIL 1

2 IL YN Y DU ANSAWDD

YMCHWIL

5 & 17

16

18

HERIAU GWAITH YMCHWIL BYD-EANG

FFOCWS AR: FFERYLLIAETH

AWGRYMIADAU ASTUDIO FRANCESCA

Her gwaith ymchwil: Gwefrau Cyfreithlon

5 6 8

6 ffordd i lwyddo

Ffocws ar: Gyflogadwyedd

Gorwelion byd-eang Ein Helusen: SDMF

12 14 15 16 17 18 19 20 23 24 26 28 30 31 32

Ymchwil sy’n canolbwyntio ar bobl

23

Ffocws ar: Fferylliaeth

Her gwaith ymchwil: Ymchwil Canser Awgrymiadau astudio Francesca

AR Y BRIG

Achub y byd gyda’ch gradd

Llesiant

Ar y brig – ein cyfradd basio 100%

Barn ein myfyrwyr

CYSYLLTU Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe Parc Singleton Abertawe SA2 8PP +44(0)1792 295111 astudio@abertawe.ac.uk abertawe.ac.uk/meddygaeth

Sut brofiad yw byw yn Abertawe?

Dathlu 100 mlynedd

AR Y CLAWR: Cariadon ers plentyndod, Akeem Halimi a Natalie Hughes, ill dau yn 21 oed, a ddyweddïodd yn syth ar ôl graddio mewn Biocemeg Feddygol a Gwyddorau Meddygol Cymhwysol yn Haf 2019. Llun y clawr: Martin Ellard

28

Beth sydd ar y gweill yn 2020

Gweithio gyda ni Astudio gyda ni

DATHLU 100 MLYNEDD

This document is also available in English

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

Heriau GWAITHYMCHWILBYD-EANG DEWCHIGYFARFODÂDRAMIRAGUIRGUIS,CYFARWYDDWR RHAGLENEINCWRSFFERYLLIAETHNEWYDD.MAEEIHYMCHWIL YNARCHWILIOSYLWEDDAUSEICOWEITHREDOLNEWYDD,A ELWIDGYNTYN‘GYFFURIAUPENFEDDWOLCYFREITHLON’,A’U BYGYTHIADSYLWEDDOL I IECHYDYCYHOEDD

Croeso DYMA GYFNOD CYFFROUS I BRIFYSGOL ABERTAWE WRTH I NI DDATHLU BLWYDDYN EIN CANMLWYDDIANT. CROESO I RIFYN CANMLWYDDIANT CYLCHGRAWN YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE.

Yn y newyddion DARGANFYDDIAD PWYSIG O RAN TRIN CANSER Ar sail gwaith caled gwyddonwyr yr Ysgol Feddygaeth yn y frwydr yn erbyn canser endometriaidd, maent wedi cael patent gan yr Unol Daleithiau i baratoi’r ffordd ar gyfer therapi newydd. Mae’r Athro Deya Gonzalez a’r Athro Steve Conlan o’r gr ŵ p Bioleg Atgenhedlu ac OncolegGynaecolegol wedi datblygu dull o drin canser gynaecolegol, a’r gobaith yw y bydd y dull hwn yn lleihau sgil- effeithiau i gleifion. Mae’r tîm yn gobeithio y gall y darganfyddiadau newydd arwain at driniaeth newydd i gleifion canser y groth. HWB O £10M I IECHYD MEDDWL Fefyddcanolfanymchwilarloesolargyferdatblygu ffyrddnewyddo leihaugorbryderac iselderymhlith pobl ifanc yn cael ei sefydlu gyda chyllid o £10m ganunobrifelusennau’rDU,sefSefydliadWolfston. Mae’r Ysgol Feddygaeth wedi gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu Canolfan Wolfston ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Yn ôl yr Athro Ann John, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Feddygaeth: “Mae’r ganolfan yn addo newid sylweddol o ranymdrechionymchwil i ddeall a thrawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sy’ndioddefoorbryderac iselder.” GWOBRARIANAMGYDRADDOLDEB RHYWEDD Mae’r Ysgol Feddygaeth yn dathlu ar ôl ennill gwobr am ei hymrwymiad parhaus i gydraddoldeb rhywedd. Fel rhan o gynllun Siarter SWANAthenaganyrUnedHerioCydraddoldeb, mae gan y Brifysgol wobr arian ‘sefydliadol’ eisoes – un o blith tair prifysgol ar ddeg yn unig trwy’r DU, a’r unig Brifysgol nad yw’n Brifysgol Gr ŵ p Russell, i gyflawni hyn. Mae’r Ysgol Feddygaeth wedi cael adnewyddu ei Gwobr Arian bresennol – sydd bellach wedi’i hymestyn i gynnwys ei staff gwasanaethauproffesiynol.

Deallusol, trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi, a sut i ymgorffori’r elfennau yma’n ymarferol.Mae hynwedi’i gyflawni trwy ddatblygu’r Athrofa Gwyddor Bywyd. Nod cangen ymchwil ac arloesi’r Ysgol Feddygaeth–yrAthrofaGwyddor Bywyd – yw datblygu gwyddor feddygol trwy gyfrwng ymchwil amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, achysylltu’r buddion hynny â’r economi trwy Arloesi Agored. Mae’r cymysgeddhwnogryfderau ynein rhoi mewn sefyllfa ddelfrydol i baratoi a chynorthwyo einmyfyrwyr i fynd i’r afael âgyrfaoeddmewnmeysyddynymwneud â meddygaeth, gwyddoniaeth, iechyd, gofal cymdeithasol a menter, gan droi’r ymchwil yn welliannau i gleifion. Rydym wrth ein bodd fod cyflogadwyedd ar gyfer eingwyddonwyr bywydgraddedig ymhlith y gorau yn y DU. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae’r Brifysgolwedi gweldcyfnododwf aruthrol, ac rydym wedi cyrraedd ein nod o fod ymhlith y 30 Prifysgol ymchwil orau, gan gyrraedd safle 26 yn nhabl cynghrair Fframwaith RhagoriaethYmchwil yDUyn 2014. Mae’r Ysgol Feddygaeth yn rhan bwysig o’r llwyddiant hwnnw. Gobeithioybyddy rhifynCanmlwyddiant hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y gymuned lewyrchus sydd gennym yma yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.

Mae fyngwaithymchwil yncanolbwyntio’n bennafarganfodsylweddauseicoweithredol newydd–cyffuriausy’ndynwaredeffeithiau cyffuriau hamdden traddodiadol. Daw’r cyffuriauhyn i’r amlwgar raddfa frawychus, acoherwyddbodganddynnhwsgil-effeithiau anrhagweladwy mae modd iddyn nhw arwainat risgsylweddol i iechydycyhoedd. Felly, ar y cychwyn roedden nhw’n cael eu galw’n ‘gyffuriaupenfeddwol cyfreithlon’ – roedd hyn yn anghywir, oherwydd roedd yn awgrymu eu bod yn gyfreithlon ac yn ddiogel. Ond doedd hynny ddim yn wir. Roedden nhw’n cael eu galw’n gyffuriau labordy ac yn gyffuriau clybiau hefyd, ac yn ‘Sbeis’ yn fwy diweddar. Pa enw bynnag a ddefnyddiwn arnyn nhw, mae pob un yn cynnwys nifer o ddosbarthiadau, felly feallannhwgynnwys cyffuriau cathinon, canabinoidau synthetig, cyffuriau ffenlithilamin…. ondhefyd, feallan nhw gynnwys ychwanegion bwyd neu feddyginiaethaupresgripsiwnaailgyfeiriwyd. Mae’r amrywiaeth yma o ddosbarthiadau cyffuriau’ngolyguygallannhwwneudsawl peth i’rdefnyddiwr.Mae llaweroadweithiau cemegol yndigwyddac feallannhweffeithio ar lwybraudopamin, serotoninacadrenalin ein hymennydd. Gyda ‘Sbeis’, neuganabinoidausynthetigyn gyffredinol, rydymwedi gweld gwenwyno ar raddfa fawr mewn nifer o wledydd, yn cynnwys yDU. YmManceinionymmisEbrill 2017,gwelwydgrwpiauobobl yngNghanol y Ddinas â golwg fel sombïaid arnyn nhw

Gan gadw’n ffyddlon i weledigaeth ein sylfaenwyr diwydiannol, mae’r brifysgol yn defnyddio ei chryfderau addysgu ac ymchwilio, ei chydweithrediad â diwydiannau a’i chysylltiadau byd-eang i sbarduno twf economaidd, meithrin ffyniant a chyfrannu at iechyd, hamdden a llesiant ei chymuned Ers ei dyddiau cynnar fel Ysgol Glinigol yn2001, maeYsgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cymryd camau breision mewn byr amser, ac mae wedi cael llwyddiant blaenorol o ran ansawdd a grym ei hymchwil, rhagoriaeth ei haddysgu, cyflogadwyedda rhagolygon ei graddedigion a bodlonrwydd ei myfyrwyr. Fel ysgol feddygaeth rydym yn anelu’n gyson at arloesi, ymestyn a chyflwyno addysg o’r radd flaenaf. Mae ein perfformiadyn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014) – lle daethom yn 1af trwy’r DU am amgylchedd ymchwil ac yn 2il am ymchwil yn gyffredinol – yn brawf o hyn. Ychydigoysgolionmeddygol sy’n cynnig cyrsiau’n ymwneud â chynhyrchu Eiddo

“Lleihau niwed – gwneud yn si ŵ r y bydd y claf yn ddiogel – dyna’r peth pwysicaf”

Erbynhyn rydwi’ngweithiogydagAddiction UK i wella’r modd y caiff sylweddau seicoweithredol newydd eu darganfod a’u dosbarthu. Trwy wybod i ba ddosbarth o gyffuriau y maen nhw’n perthyn, fe allwn ni gyfarwyddo triniaethau a lleihau niwed .

– mewn gwirionedd, roedden nhw mewn cyflwr catatonig ar ôl cymryd ‘Sbeis’. Gall cynhyrchion ‘Sbeis’ gynnwysmwynag un canabinoid synthetig, felly allwn ni ddim rhagdybio y bydd pob un yn dynwared effaith cannabis – maen nhw’n effeithio ar dderbynyddionCB1/CB2, ondhefydmaen nhw’n effeithio ar dderbynyddion eraill ac fe allan nhw newid y ffordd y mae’r corff yn gweithredu.

Cewch ddysgumwy am waith ymchwil Amira yng Nghyfres Podlediadau Prifysgol Abertawe:

Yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth, Ysgol FeddygaethPrifysgolAbertawe

DARLLENWCH YNEICHBLAEN...

Diddordeb mewn Fferylliaeth? Gweler tudalen 16 i gael gwybod mwy am y cwrs

4

5

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE DEWCH DRAW I WELD drosoch eich hun

DR DANNII HARTE Raddedig Geneteg a PhD

Mae yna gymaint mwy i Brifysgol nag astudio am radd. Yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mae gennym gyfleoedd lu i ehangu eich profiadau...

6 FFORDD I

lwyddo

“Mae’r cyfleoeddymaePrifysgol Abertawe wedi’u rhoi i mi wedi bod yn fythgofiadwy. Dod i Abertawe fu’r penderfyniad gorauawnes i erioed. Rhoddodd gyfle i mi gael lleoliad blwyddyn yn GlaxoSmithKline, a agorodd fy llygaid i sut beth y gallai gyrfa yn y maes ymchwil fod. Rydw i’n falch o gael dweud fy mod yn un o raddedigion Prifysgol Abertawe… yn ddi-os, mae Abertawe wedi llwyddo i gipio fy nghalon!”

Elwa ar leoliad

Profiad ymarferol

Hoffi Geneteg? Gweler T32

DR NAOMI JOYCE Raddedig PhD

Rhannu eich canfyddiadau

Teithio’r byd

“Cyrhaeddodd fy astudiaethau yn yr Ysgol Feddygaeth eu penllanw pan benderfynais ymuno â’r tîm Menter ac Arloesi. Mae hyn wedi caniatáu i mi roi fy ymchwil ar waith yn ymarferol. Mewn ysbryd o arloesi agored, rydw i’n defnyddio fy astudiaethau i wneud gwahaniaeth, gan fynd â dyfeisiadau newydd gan bobl eraill o’r labordy at wely’r claf, ac yn ôl eto.”

“Rydw i wir wedi mwynhau bod yn llysgennad myfyrwyr ar gyfer yr Ysgol Feddygaeth. Mae’n brofiad gwerth chweil – rhoi i bobl eraill yr help yr oeddwn i ei eisiau pan oeddwn yn ymgeisydd, yn ogystal â rhoi cyfle i mi barablu am yr holl hwyl a gefais wrth astudio yma! Ac mae’r arian ychwanegol bob amser yn ddefnyddiol!” LatifMiah,MyfyriwrMeddygaeth

DIWRNODAUAGORED 2020

15 CHWEFROR 17 HYDREF 04 EBRILL

07 TACHWEDD

Dysgu gan yr arbenigwyr

Dod yn llysgennad

13 MEHEFIN

PhD? Trowch i’r dudalen nesaf!

6

7

abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

FFOCWS AR

DILYNWCHEICHDIDDORDEBAU, RHOWCH HWB I’CH GYRFA, NEU DEWISWCH GYFEIRIAD NEWYDD GYDA’N CYRSIAU ÔL- RADD... Aros gyda ni CYRSIAU A GAIFF EU HADDYSGU Gwyddoniaeth Glinigol (Ffiseg Feddygol) MSc Ymarfer Diabetes MSc/PGDip/PGCert/DPP Meddygaeth Genomig MSc/PGDip/PGCert/DPP ArweinyddiaethargyferyProffesiynauIechyd MSc/PGDip/PGCert/DPP Addysg Feddygol MSc/PGDip/PGCert/DPP Astudiaethau Cydymaith Meddygol MSc Gwyddor Data Iechyd

JACK BARTLETT Raddedig BSc Biocemeg Feddygol ac MSc Nanofeddygaeth. Erbyn hyn, mae Jack yn astudio Meddygaeth i Raddedigion

Gyflogadwyedd “Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi’i hadeiladu ar dair colofn cryfder sydd wedi dylanwadu nid yn unig ar ein dewis o gyrsiau ond hefyd ar y cynnwys yr ydym yn ei addysgu. Rhywbeth sy’n hollbwysig i bob un o’n cyrsiau i israddedigion yw cyflogadwyedd, lle ceir llwybrau clir a all arwain at yrfaoedd mewn ymchwil, arloesi a gofal iechyd.”

“Dechreuais fy mlwyddyn gyntaf yn Abertawe yn 2015 ac rydw i i fod i gwblhau fy nghwrs gradd meddygol yn 2023 – felly teg yw dweud fy mod yn eithaf hoff o’r lle! Rydw i wedi cael cefnogaeth ac anogaeth

bob amser wrth astudio yma. Cynigiodd fy nghwrs gradd mewn Biocemeg Feddygol sylfaen dda i mi, gyda dilyniant naturiol o ran anhawster, ond byth bythoedd i’r graddau nes gwneud i ni deimlo ein bod mewn dyfroedd dyfnion. Cefais flas ar fywyd y campws; gan fod y brifysgol ar gyrion canol y ddinas, roedd hi’n ddigon pell i’r myfyrwyr fod yn gymuned annibynnol, ond yn ddigon agos i ganol y ddinas ar gyfer unrhyw beth a âi â’ch bryd”

Yr Athro Phil Newton, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Ymchwil

Gofal Iechyd

Diddordeb mewn Nanofeddygaeth? Gweler T32

Dilynwch ein Llwybr i Feddygaeth i gael GWARANTU CYFWELIAD ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth i Raddedigion Cewch elwa ar fodiwlau pwrpasol, lleoliad yn ymwneud â gofal iechyd a pharatoadau arbenigol ar gyfer ymgeisio am gwrs Meddygaeth i Raddedigion. Os byddwch yn cael hwyl dda ar bethau, byddwch yn si ŵ r o gael cyfweliad ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion!

Beth am fynd i’r afael â phrosiect ymchwil yn ein cyfleusterau ymchwil dihafal Cewch feithrin uwch-sgiliau labordy yn barod ar gyfer prosiect ymchwil capfaen seiliedig ar labordy neu ddata yn eich blwyddyn olaf. Wedi gwirioni ar ymchwil? Darllenwch am ein dewisiadau MSci – a gallwch dreulio blwyddyn gyfan mewn labordy!

SEAN HOLM Raddedig BSc Biocemeg. Yn ystod prosiect ymchwil ei flwyddyn olaf, gofynnwyd i Sean a hoffai astudio am PhD

MSc/PGDip/PGCert/DPP Hysbyseg Iechyd MSc/PGDip/PGCert/DPP Ffiseg Ymbelydredd Meddygol MSc

Nanofeddygaeth MSc/PGDip/PGCert/DPP GRADDAU YMCHWIL

“Y teimlad hwnnw o orfoledd pan lwyddwch i ddatrys pysl cymhleth, does yr un teimlad arall yr un fath, mae’n cael gafael ynoch. I mi, mae ymchwil yr un fath yn union â physl, gyda’r anhawster ychwanegol

Rydym yn mynd i’r afael â gwaith ymchwil o’r raddflaenaf sy’ncael effaithwirioneddol ar iechyd a llesiant. Ymgeisiwch yn awr am radd ymchwil yn ymwneud ag un o’n pedair thema ymchwil hollbwysig: • Biofarcwyr a Genynnau • Dyfeisiau • Microbau ac Imiwnedd • Gwybodeg Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth

abertawe.ac.uk/meddygaeth/ llwybrau-i-feddygaeth

fod rhai darnau ar goll. Dyna pam y mae mor gyffrous i mi. Trwy astudio yn yr Ysgol Feddygaeth, wedi fy amgylchynu gan unigolion o’r un meddylfryd o wahanol feysydd, rydw i mewn awyrgylch ysgogol ar gyfer dysgu, rhannu syniadau a chamu ymlaen â’m gwaith ymchwil. Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fy mod wedi gwirioneddol fwynhau fy nghwrs PhD hyd yn hyn ac edrychaf ymlaen at y blynyddoedd sydd i ddod”

Manteisiwch i’r eithaf ar ein hethos Arloesi Agored Byddwch yn meithrin eich sgiliau entrepreneuraidd trwy ein cysylltiadau ag Ysgol Reolaeth y Brifysgol, cyn cynllunio prosiect capfaen gyda’r nod o ddatblygu agweddau masnachol ar waith ymchwil gwyddorau meddygol. Tybed beth wnewch chi’n ei ddarganfod?

TREFNWCH LE MEWN DIWRNODAGORED:

Diddordeb mewn Biocemeg? Gweler tudalen 32

8

9

Pa lwybr y byddwch chi’n ei ddilyn? Gweler tudalen 32 i gael gwybod mwy am ein cyrsiau

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

#tawemedics19

#swanseamedicine

@swanseauni

@swanseauni

1033

#stethoscope #medicalstudent

#filmset #popeyevillage

#swanseamedicine

#swanseauni

664

#loveisintheair

1736

#swansealife @ mrjpbutler

#Clearing #labtour

#swanseamedicine

@lgbtpridecymru

@swanseamedicine

@unigamsaa

355

#geeseorswans

1583

#PrideCymru

#futurepaediatrician #conference

#thegambiaexperience

#swanseamedicine

@succ_cricket

@prostatecymru

@futurefaceofsci

311

#annualawards

#nanobach #futurescientist

#elective #bursary

#supersciencesunday

#champions #swanseasport

10

11

PWLS

Pam

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

Mae gan Brifysgol Abertawe gysylltiadau rhyngwladol, gyda chysylltiadau o ran staff, myfyrwyr, partneriaethau ac ymchwil yn ymestyn ar draws y byd. Mae ein campysau’n lleoedd bywiog acamrywiol acmae staff amyfyrwyr o fwy na 130 o wahanol wledydd yn rhan o’n cymuned gyfeillgar.

Cymru?

Oeddech chi’n gwybod bod Cymru,“gwladychwedlau”, wedi’i chynnwys yn rhestr cylchgrawn y National Geographic o’r cyrchfannau mwyaf cyffrous i ymweld â nhwyn 2020? Mae rhestr y cylchgrawn teithio o’r 25 lle gorau i ymweld â nhw trwy’r byd wedi’i seilio ar ddiwylliant, dinasoedd, natur ac antur… ac mae Cymru yn llawn dop o’r pethau yma i gyd!

PAR JAMFA Myfyriwr Blwyddyn Gyntaf Meddygaeth i Raddedigion O Wlad Tai

Gorwelion Byd-eang

“Clywais am Brifysgol Abertawe trwy wefan GAMSAT, gan fod Abertawe yn un o’r prifysgolion sy’n derbyn yr arholiad mynediad hwn ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. Fe wnes i gyflwyno cais trwy UCAS ac roedd y cyfarwyddiadau’n hawdd iawn i’w dilyn – gallwch hefyd fynd ar we-dudalen Abertawe i weld beth yw’r gofynion. Gan fy mod yn dod o Wlad Tai, roeddwn i angen 7 yn y prawf IELTS, llythyr cymeradwyo gan fy mhrifysgol flaenorol, 2:1 yn fy ngradd baglor a sgôr GASMAT dda. Fe ddeuthum i Abertawe am dri diwrnod ar gyfer fy nghyfweliad – treuliais y deuddydd cyntaf yn dod i adnabod fy athrawon, fy mentoriaid a’m cyfoedion rhyngwladol trwy fynd ar ymweliadau yr oedd yr Ysgol Feddygaeth wedi’u trefnu, ac erbyn fy nghyfweliad ar y trydydd diwrnod roeddwn i’n teimlo fy mod eisoes yn adnabod fy nghyfoedion. Byddwch yn chi eich hun yn eich cyfweliad, mae’n lle eithriadol o braf ac mae pawb yma i gynnig help llaw” Chwifio’r Faner DEWCH I GYFARFOD Â RHAI O’N STAFF RHYNGWLADOL

Nod Prifysgol Abertawe yw cynnig cyfle i bob un o’i hisraddedigion astudio neu weithio dramor. Mae gennym bartneriaethau gyda mwy na 150 o brifysgolion ledled y byd ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ddewisiadau ar gyfer astudio dramor am flwyddyn, am semester neu dros yr haf.

BETHAMWELD DROSOCHEICH HUN!

#SwanseaUniGlobal Mae cyflogwyr yn cydnabod bod treulio amser dramor yn: • Magu hyder, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd • Meithrin safbwynt byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Hwyluso’r gallu i addasu i amgylcheddau a heriau newydd • Gwella sgiliau cyfathrebu a sgiliau iaith • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a all fod o fudd i’ch gyrfa yn y dyfodol Trwy astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, fe fyddwch yn si ŵ r o ddisgleirio yng nghanol y dorf a meithrin sgiliau newydd, a bydd yn esgor ar rwydwaith rhyngwladol amhrisiadwy ar gyfer eich dyfodol y tu hwnt i’ch gradd.

DR SHANG-MING ZHOU Uwch-ddarlithydd Gwybodeg

YR ATHRO CATHY THORNTON Dirprwy Bennaeth yr Ysgol

DRARUNRAMACHANDRAN CyfarwyddwrDerbyniadauMeddygol

DRMARCELA BEZDICKOVA Uwch-ddarlithydd Anatomeg

SwanUniGlobal

swanseauniglobal

swanseauniglobal

12

13

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

YMCHWIL SY’N

canolbwyntio ar bobl

Ein Helusen

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd o fudd cymdeithasol mawr ac mae bellach yn rhan greiddiol o waith ymchwil yr Ysgol Feddygaeth. Trwy gynnwys y cyhoedd yn ein hymchwil, daw’r gwaith ymchwil hwnnw’n fwy perthnasol i anghenion a phryderon pobl ac mae’n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio i wella penderfyniadau, triniaethau a gwasanaethau’n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r gr ŵ p Gwyddor Data Poblogaeth yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe o’r farn mai ymgysylltu yw conglfaen ein gwaith. Rydym yn cynnwys y cyhoedd o’r cychwyn cyntaf; o baratoi ceisiadau ymchwil, pennu cyfeiriad gwaith ymchwil parhaus, dosbarthu canlyniadau ymchwil a gweithgareddau – yr holl ffordd at waith ehangach yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o ddefnyddio data at ddibenion ymchwil. “RYDYM YN DEFNYDDIO DULL SY’N CANOLBWYNTIO AR BOBL ER MWYN SICRHAU BOD EIN GWAITH YN BERTHNASOL AC YN ADLEWYRCHU BUDDIANNAU A GWERTHOEDD Y CYHOEDD” Professor Kerina Jones, Cyfarwyddwr Cyswllt Ymgysylltu â’r Cyhoedd.

ymchwilwyr drafod eu prosiectau, gan gynnig awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o ymgysylltu â’r cyhoedd a recriwtio aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan. Un cynnig diweddar a roddwyd gerbron y Cyngor Ymchwil Feddygol oedd ariannu prosiect ymchwil cydweithredol i archwilio’r cysylltiadau rhwng eiddilwch a phan fo unigolyn yn byw gyda mwy nag un clefyd cronig ac yn cymryd nifer o feddyginiaethau ar gyfer gwahanol gyflyrau. Ymgynghorwyd â’r Panel Defnyddwyr yn gynnar yn y broses gynllunio a chafodd datganiadau ategol y Panel eu cynnwys yn y cynnig. “RYDW I’N CREDU’N GRYF NA FYDDAI’R CANLYNIAD WEDI’I WIREDDU HEB GYFRANIAD Y PANEL DEFNYDDWYR. DIOLCH I’W GYFRANIAD, CAFODD Y CYNNIG AMGYLLID SGÔR O 9/10” Yr Athro Ronan Lyons, Arweinydd Prosiect a Chyd-gyfarwyddwr Ymchwil Gwyddor Data Poblogaeth. OEDDECH CHI’N GWYBOD... Mae gweithgareddau Gwyddor Data’r Ysgol Feddygaeth wedi denu £30miliwn o arian Llywodraeth y DU. Oherwydd hyn, mae’r gweinyddion sydd yn yr adeilad yn un o’r prif safleoedd cysylltu data trwy’r DU ar gyfer data iechyd dienw.

MAE EINHELUSEN YN CEFNOGI GWAITH YMCHWIL MEDDYGOL SY’N TORRI TIR NEWYDD

Elusen annibynnol yw Sefydliad Meddygol Dewi Sant sy’n codi arian i gefnogi gwaith arloesol mewn ymchwil ac addysg feddygol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Mae’r Sefydliad yn cefnogi datblygiadau’n ymwneud ag iechyd pobl yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Ffurfiwyd Sefydliad Meddygol Dewi Sant yn 2006 er mwyn cynorthwyo gyda gwaith arloesol cyffrous mewn ymchwil ac addysg feddygol. Dan arweiniad yr Athro Julian Hopkin CBE, Cyn-bennaeth yr Ysgol Feddygaeth, mae’r Sefydliad mewn sefyllfa unigryw i gefnogi gwaith arweinwyr yn eu maes trwy’r byd. Mae datblygiadau sylweddol yn cynnwys ymchwil i ganfod achosion epilepsi ymhlith plant, diagnosis cynnar o glotiau gwaed mewn achosion o strôc neu drawiad ar y galon, a chanolfan ymchwil glinigol ar gyfer diabetes.

blwyddyn i gefnogi prosiectau ymchwil newydd cyffrous. Fel yr esbonia’r Athro Julian Hopkin, Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Elusen: “ Rydym yn mynd ati’n gynnar yn y broses i bennu gwaith ymchwil a all arwain at newid bywydau ac yn cynnig grantiau sbarduno er mwyn sicrhau y bydd cyfleoedd pwysig yn cael eu dilyn. Rydym yn creu cysylltiadau cryf gyda sefydliadau sydd ar garreg ein drws a rhai trwy weddill y byd, gan gydweithio gyda phartneriaidyngNghymrua thuhwnt; ac yn bwysicach na dim, rydym yn buddsoddi yn einmyfyrwyr eithriadol – gwyddonwyr a meddygon gwych y dyfodol. Gyda’n gilydd rydym yn gwneud gwahaniaeth. Fe allwn, ac fe ddylem, gael byd iachach. YSefydliad yw ein ffordd ni o gyfrannu at hyn.” Yn 2020 bydd tri o grantiau o £6,000 yr un yn cael eu dyfarnu ar gyfer cefnogi syniadau ymchwil newydd, er mwyn i brosiectau ymchwil myfyrwyr a staff ddatblygu a thyfu, a mynd yn eu blaen i sicrhau cyllid allanol.

DR NICK JONES Darlithyddac Ymchwilydd

“Fel ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa,

mae cyllid sbarduno gan Sefydliad Meddygol Dewi Sant wedi fy ngalluogi i ddilyn rhai o’m syniadau ymchwil fy hun. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i mi gydweithio gyda gwyddonwyr gwych yn y DU ac Iwerddon. Roeddwn i eisiau ymchwilio i sut y gall gr ŵ p arbennig o gelloedd gwynion, a elwir yn CD4+ T, ddefnyddio maetholion fel siwgr a phrotein a geir yn ein deiet i gynhyrchu’r egni a’r blociau adeiladu angenrheidiol ar gyfer gweithio’n effeithiol yng nghyd-destun clefydau gwahanol. Cynigiodd Sefydliad Meddygol Dewi Sant gyllid sbarduno ar gyfer rhoi’r gwaith hwn ar y gweill, gan ein galluogi i fapio sut y mae celloedd T yn newid eu ffordd o ddefnyddio maetholion wrth iddyn nhw weithredu. Y darganfyddiad mwyaf diddorol oedd y ffaith fod celloedd T angen asid amino o’r enwglwtamin i ddod yn hollol weithredol, ac mae’r canfyddiad hwn wedi’i gyhoeddi bellach yn Nature Communications”

“RYDYM FOD YMGYSYLLTU Â’R CYHOEDD YN BROSES DDWY FFORDD. MAE’N CYFOETHOGI AC YN YSGOGI GWAITH EIN HYMCHWILWYR, GAN SBARDUNO SYNIADAU NEWYDD A HELPU EIN HYMCHWILWYR I FEDDWL AM FATERION CYMDEITHASOL A MOESEGOL EHANGACH” Lynsey Cross, Swyddog Ymgysylltu â’r Cyhoedd. O’R FARN

Rhan greiddiol o waith ymgysylltu’r gr ŵ p yw’r Panel Defnyddwyr. Mae’r Panel yn cynnwys un ar bymtheg o aelodau’r cyhoedd ac mae’n cyfarfod bob chwarter. Mae’n rhoi cyfle i

Ar hyn o bryd caiff mwy na 40 o brosiectau eu cefnogi. Yn ychwanegol at y rhain, mae’r Sefydliad hefyd yn cynnig Grantiau Sbarduno bob

Mwy o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi neu elwa ar Sefydliad Meddygol Dewi Sant:

Diddordeb mewn astudio Iechyd Cleifion a’r Boblogaeth? Gweler tudalen 9 a thudalen 32

14

15

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

Heriau GWAITHYMCHWILBYD-EANG DEWCHIGYFARFODÂ’RATHROMICROBIOLEG,PAULDYSON– MAEEIYMCHWILYNARCHWILIOBACTERIAA’RRÔLSYDDGAN FACTERIAYNEINHIECHYDA’NLLESIANT…ACFEDDECHREUODD YCWBLGYDAPHRIDD!

OEDDECH CHI’N GWYBOD... bod 98% o raddedigion Fferylliaeth y DU yn gweithio, neu mewn astudiaethau pellach, chwe mis ar ôl graddio

FFOCWS AR

Fferylliaeth

YN 2021 BYDD YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE YN LANSIO’I CHWRS FFERYLLIAETH NEWYDD CYNTAF ERS CANRIF. PAM FFERYLLIAETH? PAM ABERTAWE? PAM NAWR? Mae gan fferyllwyr gymysgedd unigryw o wybodaeth wyddonol a phroffesiynol, sy’n eu gwneud yn arbenigwyr gofal iechyd ar feddyginiaethau. Bellach, nhw yw’r proffesiwn gofal iechyd mwyaf ond dau ac maent yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau mewn fferylliaeth gymunedol a fferylliaeth gofal sylfaenol, ysbytai, ac yn y diwydiant fferyllol.

Am sawl blwyddyn, ffocws fy ngwaith ymchwil oedd Bacteria Pridd sy’n cynhyrchu gwrthfiotigau. Fe ŵ yr pob un ohonom fod gennym argyfwng byd- eang o ran ymwrthedd i wrthfiotigau, felly mae yna angen parhaus i geisio dod o hyd i wrthfiotigau newydd y bydd modd eu defnyddio mewn meddygaeth. Ers deg mlynedd bellach rydw i wedi canolbwyntio ar ymyriant RNA mewn pryfed a therapi canser… Mewn ffordd, mae gan bob math o bryf ei ficrobiom ei hun yn ei goluddion. Mae deiet pryfed yn tueddu i fod yn benodol iawn. Ceir pryfed sy’n bwydo ar waed a phryfed sy’n bwydo ar sudd planhigion neu baill – nid yw’r ffynonellau maetholion yma’n gymhleth iawn. Fel arfer, mae ganddyn nhw ddiffyg mewn rhywbeth neu’i gilydd, a’r rheswm pam y mae gan bryfed yn benodol facteria arbennig yn eu coluddion yw er mwyn i’r bacteria yma syntheseiddio beth bynnag sydd ar goll yn eu deiet. Mae hyn yn gweithio’r ddwy ffordd. Mae’r pryfed, wedyn, yn darparu maeth ac egni ar gyfer y pryfed sy’n byw yn eu coluddion. Dyma berthynas symbiotig rhwng y bacteria a’r pryf. Rydym yn defnyddio’r bacteria sy’n byw y tu mewn i bryfed i gyflawni ymyriant RNA – yn y bôn, system gellog sy’n defnyddio dilyniant DNA y genyn ei hun i’w ddiffodd. Mae Prifysgol

Mae Fferylliaeth yn Abertawe yn adeiladu ar gryfderau’r Ysgol Feddygaeth trwy roi dull rhyngddisgyblaethol ar waith. Rydym yn sylweddoli bod Fferyllwyr, Meddygon a Nyrsys yn gweithio gyda’i gilydd mewn lleoliadau clinigol, felly fe ddylai addysg a hyfforddiant adlewyrchu hyn. Bydd ein myfyrwyr Fferylliaeth yn elwa ar ein profiad a’n harbenigedd mewn gwyddor glinigol a gwyddor bywyd, ymchwil, hyfforddiant ac ymarfer, gan eu helpu i feithrin ymarfer, gwyddor a gwybodaeth fferyllol hollbwysig.

Yn fwyfwy y dyddiau hyn, mae Fferyllwyr yn darparu gwasanaethau clinigol newydd a gwell ar draws lleoliadau gofal iechyd, o’r gymuned a gofal sylfaenol i fferylliaeth ysbytai, fferylliaeth ddiwydiannol a’r byd academaidd. Mae ein Gradd Fferylliaeth yn cydnabod y rolau newydd ac uwch hyn ac yn integreiddio gwyddorau ac ymarfer â ffocws cryf ar sgiliau clinigol, sgiliau cyfathrebu a thechnoleg ddigidol er mwyn paratoi’r myfyrwyr i gwrdd â’r heriau sydd ynghlwmwrth wedd newidiol Fferylliaeth.

7 thema

Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Ysgol Feddygaeth a chwarae rhan bwysig yn y dasg o hyfforddi fferyllwyr y dyfodol Fferyllfa Evans, Llanelli “ • Fferylleg • Cemeg Fferyllol • Ffarmacoleg • Bioleg a Biocemeg • Anatomeg a Ffisioleg • Fferylliaeth Glinigol • Ymarfer Fferylliaeth “ I wneud cais i astudio Fferylliaeth, byddwch angen graddau ABB-BBB mewn Safon Uwch, yn cynnwys Cemeg, ac o leiaf un pwnc STEM arall, fel Bioleg, Ffiseg, Mathemateg neu Seicoleg. Hefyd, byddwch angen TGAU Mathemateg a Saesneg, Gradd C (4) neu uwch. Cewch fwy o wybodaeth ar ein tudalen Fferylliaeth:

“ Fel gwyddonydd rydych chi eisiau gwneud rhywbeth a fydd yn newid bywydau… dyna yw fy nod” “

tiwmorau. Y syniad oedd chwilio am facteria y gellid eu defnyddio, o bosibl, i dargedu tiwmorau mewn cleifion… Cewch wybod sut y caiff gwaith ymchwil Paul ei lywio a’i ariannu gan CANCER RESEARCH UK yng Nghyfres

Abertawe wedi patentu’r dechnoleg hon a ddatblygwyd gennym ar gyfer pryfed, ac un diwrnod gofynnwyd i mi yn eithaf didaro – “ allwch chi ddim meddwl am rywbeth a fyddai hyd yn oed yn fwy defnyddiol?! ” Ac fe ddechreuodd olwynion fy meddwl droi… efallai y byddai modd i ni wneud rhywbeth tebyg i’r hyn yr ydym yn ei wneud gyda phryfed ar gyfer trin

Yn ystod y Radd Meistr integredig (MPharm) bedair blynedd hon mewn Fferylliaeth, bydd y cwricwlwm yn adlewyrchu’r ffordd y mae Fferyllwyr yn ymdrin â chleifion a’r modd y mae cleifion yn eu cyflwyno’u hunain i Fferyllwyr.

Podlediadau Prifysgol Abertawe, ‘Archwilio Problemau Byd-eang’

Rydym yn gweithio tuag at gael ein hachredu gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae’r cwrs MPharmmewn Fferylliaeth wedi’i achredu dros dro, hyd nes y caiff y rhaglen achrediad llawn

Diddordeb mewn Geneteg? Gweler tudalen 32 i gael gwybod mwy am ein cyrsiau

16

17

Diddordeb mewn Fferylliaeth? Gweler tudalen 32 i gael gwybod mwy am ein cyrsiau

PWLS

Yma mae Dr Hugh Jones, tiwtor derbyn, yn rhannu ei awgrymiadau ynghylch astudio Geneteg a Biocemeg... 1. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn hollol si ŵ r pa radd yr ydych eisiau ei hastudio eto – dydyn ni ddim yn disgwyl i chi fod gant y cant yn si ŵ r. Mae strwythur modiwlaidd ein rhaglen yn ddigon hyblyg i chi allu newid eich meddwl yn ystod eich blwyddyn gyntaf, yn dibynnu ar eich pynciau Safon Uwch. 2. A ydych wedi ystyried gradd MSci? Mae ein MSci yn radd meistr integredig – byddwch yn gadael y Brifysgol gyda Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Lefel 7, gan dalu ffioedd israddedigion yn unig. Os byddwch yn gwneud cais am MSci, efallai y byddwn yn gofyn am raddau uwch, ond does gennych chi ddim byd i’w golli oherwydd byddwn yn eich ystyried yn awtomatig ar gyfer y cwrs BSc cyfatebol pe bai eich canlyniadau’n is na’r disgwyl. 3. Os ydych yn ymgeisio am gwrs gradd mewn Meddygaeth, Biocemeg Feddygol neu Eneteg Feddygol, cofiwch gynnwys pumed dewis doeth ar eich ffurflen UCAS – Llwybrau i Feddygaeth yw’r rhain, ac fe allen nhw warantu cyfweliad i chi ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion. 4. Mae Ysgoloriaethau Rhagoriaeth a Theilyngdod Prifysgol Abertawe yn arian go iawn – nid gostyngiad ffioedd yn unig: chi fydd yn cael yr arian! Rhoddir £3,000 yn awtomatig i bob myfyriwr sy’n llwyddo i gael AAA a £2,000 i bob myfyriwr sy’n llwyddo i gael AAB (mewn Safon Uwch neu gymhwyster cyfwerth).

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

SUT Y GALL EICH GRADD HELPU I achub y byd Ym mhob pwnc gradd, mae cyfleoedd i newid bywydau er gwell…wedi’r cwbl, gwnaeth Mark Zuckerberg greu Facebook yn ei ystafell wely yn Harvard. Ond beth am y cyrsiau hynny lle mae’r holl fyfyrwyr wrthi’n dawel yn newid y byd – yn gweithio’n galed i wneud darganfyddiadau a allai wellamiloedd o fywydau?

DYMA

Yma mae Francesca, myfyriwr Gwyddorau

Francesca

Meddygol Cymhwysol, yn rhannu ei hawgrymiadau ardderchog ar gyfer astudio

1

Byddwch yn drefnus: Mae adolygu’n gymaint haws ar ôl ei drefnu. Rydw i bob amser yn llunio amserlen ar gyfer yr wythnos ac yn codio fy nodiadau mewn lliw, fel y gallaf gario ’mlaen o’r lle y gorffennais. Os byddwch yn adolygu’n dda, fydd dim angen i chi dreulio’r noson cynt yn paratoi’n wyllt, a gallwch dreulio amser yn rhoi trefn ar eich deunyddiau ysgrifennu. Cymerwch seibiant: “Gwaith heb ŵ yl a wna Huw’n ddi-hwyl”, medd y dywediad! Bydd cymryd seibiant yn rheolaidd yn eich helpu i aildanio a chanolbwyntio eich meddwl. Rydw i’n ceisio gwneud amser i ymarfer gyda Chlwb Pêl-rwyd Abertawe a gwirfoddoli i elusen ‘Discovery’ y brifysgol – mae’r ddau beth yn help mawr. Hefyd, mae treulio amser yn sgwrsio am bynciau adolygu gyda’m cyd-fyfyrwyr yn fy helpu i gofio’r hyn yr ydw i wedi bod yn ei adolygu. Cwblhewch hen bapurau arholiad: Mae hen bapurau arholiad yn fy helpu i ganolbwyntio ar y mater dan sylw, hogi fy arddull ysgrifennu a rhoi prawf arnaf fy hun. Po fwyaf o bapurau yr ydw i’n eu cwblhau, po fwyaf hyderus ydw i. Bwydwch eich corff a’ch meddwl: Mae byrbrydau llawn egni’n wych i roi hwb i chi. Ond cofiwch neilltuo amser i fwyta prydau rheolaidd hefyd, oherwydd fe fydd y maeth iawn yn rhoi nerth i chi, yn gwella eich gallu i ganolbwyntio ac yn eich cynnal trwy sesiynau maith. Cofiwch beth yw eich nod: Pan ddaw hi’n fater o sefyll arholiadau, y ffordd orau o lwyddo yw gosod nod i chi eich hun. Cofiwch mai nod y gwaith adolygu yn y pen draw yw mynd i’r Brifysgol. Gwnewch yn si ŵ r mai Prifysgol Abertawe yw eich Dewis Pendant – byddwch yn si ŵ r o lety os gwnewch chi hynny. I mi, fe wnaeth hynny dynnu llawer o bwysau oddi arnaf.

ARAFU DATBLYGIAD CLEFYD PARKINSON: Y tu mewn i’r celloedd ymennydd a gaiff eu tyfu gan y myfyriwr PaigeWhite ceir ensymau Nicotinamide N-methyltransferase. Mae’r ensym hwn i’w gael yn gyffredin mewn pobl sy’n dioddef o gamau olaf clefyd Parkinson, ac mae Paige yn astudio’i weithrediad a’i esblygiad. “Os yw dilyniant yr ensym hwn yn unigryw i bobl, yna mae’n arwydd bod angen gwneud gwaith ymchwil pellach. Os ymchwiliwn ni i’r ffordd y maewedi esblygu, yna efallai y bydd modd i ni ddysgu’n nes ymlaen sut i arfau datblygiad clefyd Parkinson. Mae ein darlithwyr bob amser yn pwysleisio y gall ein hymchwil agor drysau i wyddonwyr eraill a darganfyddiadau pellach – yn fy marn i, mae hynny’n beth gwych” Cwrs gradd anrhydedd uwch pedair blynedd yw’r cwrs MSci – caiff ei alw hefyd yn gwrs meistr integredig gan fod y flwyddyn olaf yn gyfwerth â gradd meistr ôl-radd (Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Lefel 7).

Yma, mae myfyrwyr sy’n dilyn ein cyrsiau MSci Biocemeg aGeneteg, ac sy’n cynnal prosiectau ymchwil meddygol, yn esbonio sut y gall eu hastudiaethau arwain at rai o ddarganfyddiadau mwyaf y byd. YMCHWILIO I’R GELL LADD NATURIOL: Mae Ben Jenkins, myfyriwr MSci, yn ymchwilio i gell imiwnedd o fath arbennig, a elwir yn gell ladd naturiol, a’r modd y mae’n gweithredu yn ystod beichiogrwydd. Mae celloedd lladd yn bwysig mewn imiwnedd gwrthfeirysol, ac wrth i fenywod beichiog ddod yn fwy tueddol i ddal firysau arbennig, fel y ffliw, efallai y bydd deall y ffordd y mae’r celloedd hyn yn gweithredu yn helpu i ganfod a ydynt yn cyfrannu at yr ymateb gwaeth hwn. “Mae yna gymaint o dechnegau yr ydw i wedi’u dysgu a chynifer o gyfleusterau ar gyfer samplu gwaed, profi samplau gwaed a ddaw o ysbytai, ac ynysu gwahanol fathau o gelloedd trwy amrywiol ffyrdd. O safbwynt imiwnedd, mae Abertawe ar flaen y gad. Mae hi mor ddiddorol darganfod pethau nad oes neb arall wedi dod o hyd iddyn nhwo’r blaen, ac mae gwybod y gallai’r gwaith yma gael effaith ar bobl yn nes ymlaen – y gallai helpu gwyddonwyr eraill i wneud darganfyddiadau pellach – yn deimlad cyffrous.”

2

3 4 5

Mwy o wybodaeth am y prosiectau y gallech fod yn rhan ohonynt:

Diddordeb mewn Geneteg neu Fiocemeg? Neu’r ddau?! Gweler tudalen 32

18

19

Diddordeb mewn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol? Gweler tudalen 32

PWLS

Bywyd Abertawe

Llesiant

22

23

24

YR ATHRO ANN JOHN Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Ymchwil yn canolbwyntio ar iechyd meddwl plant ac oedolion ifanc

“TWIN TOWN”

AR Y BRIG

BARN EIN MYFYRWYR

“Mae’r cyfnod rhwng 11-24 oed yn gyfnod llawn newid, a chyda’r newid hwnnw weithiau fe ddaw teimladau ac emosiynau cythryblus sy’n rhan o brofiad arferol pobl. Mae cyfnod canlyniadau arholiadau’n un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus, ac fe all hynny beri i chi deimlo’n hynod bryderus. Gall gorbryder ddod i’r amlwg mewn sawl ffordd. Mae rhai pobl yn eithaf ymwybodol eu bod yn teimlo’n orbryderus – er enghraifft, os yw eu calon yn curo rhywfaint yn gyflymach – ond hefyd, gall gorbryder deimlo fel cwlwm yn eich stumog neu lwmp yn eich gwddf, a dyma beth sy’n digwydd pan fydd pobl yn profi bygythiad, sef rhywbeth sy’n mynd â ni’n ôl at y syniad ‘ymladd neu ffoi’. Yn aml, fe fydd y teimladau hyn yn diflannu. Ond os byddan nhw’n eich cadw’n effro yn y nos neu’n eich poeni, neu os byddan nhw’n effeithio arnoch pan fyddwch eisiau gweld eich cyfeillion – dyna’r adeg pan fydd gorbryder yn mynd yn ormod. Un peth y gallwch ei wneud yw ceisio tynnu eich meddwl oddi ar y teimladau – anadlwch i mewn ac allan yn ddwfn, lluniwch restr chwarae neu gwnewch rywbeth corfforol fel mynd am dro, siarad â chyfeillion neu weithgareddau ymwybyddiaeth ofalgar fel lliwio. Y peth pwysig i’w gofio yw bod popeth yn mynd heibio yn y pen draw. Os ydych chi’n poeni am ganlyniadau eich arholiadau,

25

26

28

CYMDEITHASAU MYFYRWYR

BYW YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

DATHLU 100 MLYNEDD

30

31

32

BETH SYDD AR Y GWEILL YN 2020

GWEITHIO GYDA NI

ASTUDIO GYDA NI

codwch y ffôn – mae gennym bobl yma i’ch helpu. Gall sgwrs sydyn am eich opsiynau eich helpu’n arw i glirio eich meddwl”

20

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

DATHLU EIN

“Twin Town”

OEDDECHCHI’NGWYBOD... BOD 100% O’N GRADDEDIGION ASTUDIAETHAU CYDYMAITH MEDDYGOL WEDIPASIO’RARHOLIADCENEDLAETHOL? MAE’RCYFLAWNIADHWNYNSICRHAU MAI’RFANHONYW’RPRIF LE I ASTUDIO A HYFFORDDI I FYND YN GYDYMAITH MEDDYGOL YNGNGHYMRU A’R DU

cyfradd basio 100%

Mae’r efeilliaid un ffunud,Will ac Alex Carroll-Adams, wedi cael eu haduno yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wrth i’r ddau ddilyn eu huchelgais i fod yn feddygon.

Erbyn hyn mae Will, sydd yn ei bedwaredd flwyddyn a’i flwyddyn olaf o’n cwrs Meddygaeth i Raddedigion, wedi cael cwmni Alex, sydd newydd gychwyn ei astudiaethau. Darganfu’r efeilliaid 27 oed eu bod yn danbaid dros eu darpar broffesiwn ar ôl cwblhau graddau anfeddygol. Yn ôl Will, a enillodd BSc mewn Anthropoleg: “IRoedd wastad yn edifar gen i nad oeddwn wedi astudio meddygaeth, ac yna yn ystod fy ngradd sylweddolais fy mod yn cael blas ar anthropoleg fforensig, sef astudio ysgerbydau ac archwilio’r esgyrn. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli y gallai anthropoleg fod yn bwnc a allai fy arwain at feddygaeth hyd nes i mi ddysgu mwy am y cwrs meddygaeth i raddedigion.”

ystyried dilyn yn ôl troed Will. “Ar ôl treulio cymaint o amser gyda’n gilydd pan oedden ni’n blant, wnaethon ni ddim anelu at fod yn yr un lle â’n gilydd, ond trwy ddamwain mae’r ddau ohonom yma yn Abertawe,” medd Alex, a enillodd BA mewn addysg gynradd. Kamila Hawthorne, Pennaeth Meddygaeth i Raddedigion, “Mae Will ac Alex yn dangos bod yna fwy nag un ffordd o fynd yn feddyg. Y peth pwysicaf y gall ymgeiswyr a myfyrwyr ei ddysgu yw’r grefft o wrando ar y cleifion y byddan nhw’n eu cyfarfod, a gofalu amdanyn nhw gyda pharch a thosturi.” Ychwanega’r Athro

PAM DEWIS MYND YN Gydymaith Meddygol? A oes gennych ddiddordeb mewn cael gyrfa’n gweithio ochr yn ochr â meddygon mewn ysbytai neu feddygfeydd, yn diagnosio ac yn rheoli triniaethau cleifion? Ein cwrs gradd MSc integredig dwy flynedd mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol yw’r unig gwrs yn Ne Cymru, a bydd yn eich helpu i feithrin gwybodaeth a sgiliau clinigol i basio’r Arholiad Cenedlaethol a chychwyn ar eich rôl newydd mewn

gofal iechyd.

Ceir galw cynyddol am Gymdeithion Meddygol ledled y DU, a bydd cryn ofyn am eich sgiliau a’ch gradd mewn amrywiol leoliadau. Fel y dengys ein cyfradd basio yn yr Arholiad Cenedlaethol, trwy ein cwricwlwm sbiral byddwch yn graddio fel Cydymaith Meddygol hyderus a chymwys, yn barod i wasanaethu ar draws ymarferion clinigol.

Mwy o wybodaeth am eich rôl mewn gofal iechyd yn y dyfodol, yn cynnwys gofynion mynediad a sut i ymgeisio:

Mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n gwneud meddyg da:

Yn raddol, dechreuodd Alex

Diddordeb mewn Astudiaethau Cydymaith Meddygol? Gweler tudalen 32

Diddordeb mewn Meddygaeth i Raddedigion? Gweler T32

22

23

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

BARN EIN myfyrwyr

#swanseamedicine

#swanseamedsoc

#swanseamedicine

MOLLY HANSON Myfyriwr AMS Pêl-rwyd ac Athletau

#seeyouinswansea #clearing #adjustment

#swanseamedicine

660

“Mae astudio ar y campws a chael yr holl gyfleusterau wrth ymyl y darlithoedd yn ei gwneud hi’n llawer haws cymryd rhan mewn chwaraeon. Weithiau, gall fod yn anodd cael cydbwysedd rhwng astudio a chwaraeon, ond mae cyfleoedd di-rif i gwrdd â phobl newydd a rhoi cynnig ar chwaraeon gwahanol i’w cael ar garreg eich drws”

#medsoc-olympics

200

#physicianassociatestudies

#luckyt-shirts

Cymryd rhan Mae yna reswm pam y mae pawb a’i gi yn dweud wrthych am ymuno â chymdeithas ar ôl i chi fynd i’r Brifysgol…dyma’r ffordd orau o wneud cyfeillion, dysgu pethau newydd a chael hwyl. Mae gennym fwy na 150 o gymdeithasau a chlybiau y gallwch ymuno â nhw, o Gymdeithas Her y Brifysgol i’r Gymdeithas Trampolinio, a hyd yn oed y Gymdeithas Llysiau. Pa un a ydych yn giamstar yn y gegin, yn fwasaethwr penigamp neu’n frwd dros astudiaethau hynafol, mae gennym gymdeithas ar eich cyfer, yn cynnwys rhai gwych yn ymwneudâmeddygaeth agofal iechyd...

#swanseamedicine

#tawemedics19

#swanseamedicine

JONATHAN MOORE Myfyriwr AMS Rhwyfo

#freshersfun

#daytoremember

“Mae rhwyfo wedi fy helpu i ddod yn fyfyriwr crwn ac wedi dysgu i mi’r fantais o anghofio am fy ngradd am ychydig oriau pan fyddwn yn ymarfer. Roedd cynrychioli Prifysgol Abertawe yn Nhîm Prifysgol Cymru yn brofiad gwerth chweil ac fe fuaswn yn ei argymell i bawb”

@snapshotsofamedic

PAEDIATRICS

MedSoc

n

458

#swanseagambialink

#medicalbiochemistry

swansea-union.co.uk

24

25

EICH CAM CYNTAF I Dyfodol Disglair DYMA

PWLS SUTBROFIAD YWBYWYN ABERTAWE? Mae ein dinas ger y môr, gyda’i lleoliad dihafal ar y ffrynt, yn caniatáu i chi wneud yn fawr o lan y môr tra’n parhau i fwynhau bwrlwm y ddinas. Trwy gydol eich astudiaethau cewch eich amgylchynu gan harddwch naturiol, a chithau’n byw ac yn astudio dafliad carreg yn unig o ganol dinas fywiog a milltiroedd o arfordir ysblennydd – Mae Abertawe yn gartref i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU – Penrhyn G ŵ yr. Gyda mwy nag 19 milltir o arfordir hardd i’w archwilio, gallwch dreulio eich amser yn crwydro copaon calchfaen Bae’r Tri Chlogwyn, yn syrffio rhai o donnau gorau’r DU yn Llangynydd, neu’n rhyfeddu at harddwch gerwin Bae Rhosili – sef y Gorau yng Nghymru (2018), y traeth gorau yn Ewrop (2017), a rhywle sy’n gyson ymhlith 10 dewis gorau’r DU yng Ngwobrau “Travellers’ Choice” Trip Advisor. pawb ar ei ennill! PENRHYN G Ŵ YR

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE

STADIWM LIBERTY LIBERTY

M4 A CHAERDYDD

GORSAF ABERTAWE ERT E

A483

PARC SINGLETON

STRYD Y GWYNT WIND STREET

CANOL Y DDINAS

YSBYTY YSGOL FEDD GAETH

CAMPWS Y BAE

Y PENTREF CHWARAEON E TREF CH ARAEON

Y MARINA

PARC SINGLETON

ABERTAWE YN: 4 awr o Fanceinion

3 awr o Birmingham a Llundain 2 awr o Gaerfaddon a Bryste 1 awr o Gaerdydd

Mae meysydd awyr Caerdydd, Bryste a Heathrow yn hawdd i’w cyrraedd o Abertawe hefyd!

Y MWMBLS

PENRHYN GWYR

Y MWMBWLS Un o gymdogion y Brifysgol yw pentref glan môr cartrefol y Mwmbwls lle ceir Pier Fictoraidd a chastell enwog Ystumllwynarth, strydoedd sy’n frith o siopau bwtîc a lleoedd bwyta annibynnol, ynghyd â siopau hufen iâ enwog Verdi’s a Joe’s.

YR UCHELDIROEDD Os cerddwch am dipyn trwy Barc Singleton fe gyrhaeddwch un o’r lleoedd mwyaf ‘hip’ yng Nghymru. Mae hyb myfyrwyr yr Ucheldiroedd yn gartref i fariau a lleoedd bwyta ffasiynol, y gwellhad gorau trwyGymru ar gyfer pen mawr (diolch, Uplands Diner, am eich brecwast ‘Mega Beast’ anferthol), siopau cyfleustraamarchnadoeddmisol, ynghyd â rhai o’r golygfeydd gorau yn y ddinas.

Y MARINA Pan fo’r môr yn galw, does unlle gwell. Maeymabopeth,ofariau‘nosweithiau allan mawr’ i Theatr Dylan Thomas, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a marchnad fisol yn llawn bwrlwm. Gallwch hyd yn oed giniawa ar ben yr adeilad uchaf yng Nghymru, lle cewch olygfeydd godidog ar draws y bae a chyn belled â gogledd Dyfnaint a Bannau Brycheiniog.

CAMPWS SINGLETON Mae’r Ysgol Feddygaeth wedi’i lleoli yng nghampws Singleton ac mae’n swatio’n braf rhwng glan môr Bae Abertawe a pharc deiliog Singleton – perffaith ar gyfer picnics amser cinio a phenwythnosau ar y traeth. Mae traeth ein campws (fel yr hoffwn ei alw) yn Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon D ŵ r ac yn gyrchfan boblogaidd i fyfyrwyr yn ystod egwylion ac amser cinio.

ARCHWILIO’R DDINAS Mae Canol Dinas Abertawe yn daith gerdded 40 munud ar hyd y lan, neu’n daith5munudmewnbwso’rcampws.Ar ôl cyrraedd, gallwch siopayny stryd fawr ac ym marchnad dan do fwyaf Cymru, diwallu eich dyheadau diwylliannol yn Oriel Gelf Glynn Vivian, neu flasu cynnyrch y lleoedd bwyta, y bariau a’r tafarnau sydd ar un o strydoedd (drwg) enwogAbertawe, sefWind Street.

26

27

PWLS

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE Llwyddiant CANMLWYDDIANT

OEDDECH CHI’N GWYBOD... bodcarreg sylfaen y Brifysgol wedi’i gosod gan Frenin Siôr V ym mis Gorffennaf 1920

DATHLU

100 Mlynedd 2020 YW BLWYDDYN CANMLWYDDIANT PRIFYSGOL ABERTAWE. PAN AGORODD COLEG PRIFYSGOL CYMRU, ABERTAWE EI DDRYSAU YMMIS GORFFENNAF 1920, ROEDD LLAI NA 100 O FYFYRWYRWEDI COFRESTRU. ERBYNHYN, MAE GAN Y BRIFYSGOL SAWL CAMPWS AMILOEDD O BOBL O BOB CWR O’R BYD YN ASTUDIO AC YN GWEITHIO YMA

Mae Francesca bob amser yn fodlon mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohoni ac mae wedi bod yn llysgennad gwych i’r Ysgol Feddygaeth ac i’r Brifysgol yn gyffredinol. Mae hi’n broffesiynol, mae ganddi agwedd wych ac mae’n bleser cael gweithio ochr yn ochr â hi

YN YR YSGOL FEDDYGAETH RYDYM YN DATHLU CARREG FILLTIR BWYSIG ARALL HEFYD – SEF 50 MLYNEDD ERS AGOR YR ADRAN BIOCEMEG A GENETEG YN ABERTAWE

Gwobr Llysgennad Israddedigion: Francesca Bombieri

Mae Cameron yn llysgennad myfyrwyr rhagweithiol a hynod wybodus ac mae’n falch o gael cynnig cyngor a chyfleoedd i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio meddygaeth. Mae’n broffesiynol, yn fawr ei ofal ac yn fodel rôl gwych.

Seremoni’r Garreg Sylfaen, 1920

Dechrau addysgu geneteg, 1966

Y gr ŵ p geneteg, 1972

Yr Adran Biocemeg a Geneteg,1975

Gwobr Llysgennad Clinigol: Cameron Avo

Magnietusant ut et vit et voluptiam ditempo rerferi dem nullaute resed molorer ionse- que incipsa ndiatus il inctate mperiae vendam, con cullupt atiae. Et etur? Qui omnisquae. Bust quidige nisint quas voluptior aspera sam quos experest, tem yn 2019, ac fel CynrychiolyddMyfyrwyr Ymchwil Ôl-radd mae hi wedi creu diwylliant y chwil cadarnhaol a phrofiad gwych i fyfyrwyr ymchwil ôl-radd yn yr Ysgol Feddygaeth. Chwaraeodd April ran hollbwysig yn y Gynha l dd Ymchwil i Ôl- addedigion

Yr Adran Biocemeg a Geneteg,1986

Ygarfan gyntaf o FyfyrwyrMeddygol, 2001 Ymweliad y Prif Weinidog Gordon Brown, 2008 Gwerth yr ILS wedi’i bennu’n £100m a mwy, 2012

Gwobr Llysgennad Ôl-raddedigion: April Rees

Dr Hugh Jones yw conglfaen tîm derbyn yr Ysgol Feddygaeth ar gyfer rhaglenni gradd i israddedigion. Mae ei brofiad wedi bod yn amhrisiadwy i’n cyrsiau newydd ac mae ei ddrws bob amser ar agor i staff a myfyrwyr fel ei gilydd.

1af trwy’r DU o ran Amgylchedd Ymchwil, 2014 Gwobr Arian SWAN Athena, 2015 Cyfradd basio 100% yn yr arholiad cenedlaethol, 2018

Yr Adran Biocemeg a Geneteg,1994

28

29

Gwobr Canmlwyddiant yr Ysgol: Dr D. Hugh Jones

Campws Parc Singleton, Prifysgol Abertawe, 2019

Graddedigion Biocemeg, Geneteg ac AMS, 2019

Campws y Bae, Prifysgol Abertawe, 2019

YSGOL FEDDYGAETH PRIFYSGOL ABERTAWE A YDYCH YN FUSNES NEWYDD NEU’N DEILLIO ... Dewch yn aelod o rwydwaith fywiog o fusnesau o’r un meddylfryd mewn gwyddorau bywyd, heb rentu swyddfeydd pwrpasol... Fel Aelod Cysylltiol o’r Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS), bydd modd i chi gael gafael ar gyfleusterau a chymorth busnes. Mae ein pecynnau aelodaeth risg isel, gwych eu gwerth, yn cynnwys: • Mynediad at le a chyfleusterau ar gyfer datblygu eich syniad busnes • Y gallu i ddefnyddio cyfeiriad yr ILS ar gyfer postio • Mynediad at ystafelloedd cyfarfod a chynadledda, cyfarpar a chyfleusterau arbenigol yn yr Athrofa • Mynediad at seminarau a gweithdai • Gwahoddiad i ddigwyddiadau rhwydweithio, gan roi cyfle i chi gydweithio a rhannu arferion gorau gyda Sefydliadau Cleientiaid ac Aelodau Cysylltiol eraill • Mynediad at rwydweithiau dosbarthu • Lle ar gyfer defnyddio desgiau poeth a chydweithio MWY O WYBODAETH:

PWLS

Aelodaeth Gysylltiol

YMLAEN Â’R

BETH SYDD AR Y GWEILL YN 2020 IONAWR Diwrnod Ymweld Ymgeiswyr Meddygaeth Dyddiad Cau Ceisiadau UCAS Dyddiad Cau Rhyngwladol (Meddygaeth) CHWEFROR COLLABORATE 2020 MAWRTH Diwrnod Rhyngwladol Menywod Sadwrn Gwyddonol Gwych EBRILL Tîm Prifysgol Cymru, Stadiwm Liberty MAI Eisteddfod yr Urdd, Sir Ddinbych MEHEFIN Diwrnod Hwyl i’r Teulu a’r Gymuned Penwythnos Dychweliad yr Alumni GORFFENNAF Dawns Haf Undeb y Myfyrwyr

Arloesi Un o brosiecrau arweiniol yr Ysgol Feddygaeth yw’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd, sy’n anelu at gyflymu arloesi yn y maes iechyd er mwyn helpu’r GIG.

Fel Ysgol Feddygaeth arweiniol rydym wedi ymrwymo i sicrhau y bydd ymchwil, arloesi ac arbenigedd o fewn yr Ysgol yn cael eu defnyddio i atal salwch, datblygu triniaethau gwell a bod ar reng flaen technolegau newydd y gellir eu defnyddio i wella gofal yn y GIG. Mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd wedi’i lleoli yn un o’n labordai diweddaraf, ac mae ei thîm o staff ymroddedig yn gweithio ar y cyd â’r GIG a busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau gofal iechyd arloesol, newydd, er mwyn creu gwerth economaidd parhaus yng Nghymru. Mae’n adeiladu ar ein cryfderau ymchwil mewn Biosynwyryddion a Dyfeisiau, Biowybodeg a Bioddadansoddeg. Ar hyn o bryd mae tîm y Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio i gefnogi busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Yn ôl Dr Naomi Joyce, arweinydd prosiect y Ganolfan: “TMae’r prosiect yn awyddus i weithio gyda diwydiannau ar brosiectau arloesi cydweithredol – rydym yn cynnig mynediad at gyfleusterau / cyfarpar o’r radd flaenaf a thîm cyflawni mewnol sy’n cynnwys technegwyr arloesi a chanddyn nhw gefndiroedd yn y byd academaidd ac mewn diwydiant. Gall y Ganolfan hefyd gyfrannu at gostau’r cydbrosiectau.”

Ymhellach, mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechyd yn gweithio tuag at Wobr Efydd y Fframwaith Asesu Effeithlonrwydd Labordai (LEAF). Mae’r wobr yn canolbwyntio ar feysydd fel caffael a gwastraff, cyfarpar, awyru, samplau a chemegau, pobl, ac ansawdd yr ymchwil. Nod y Ganolfan yw darparu tystiolaeth ynghylch effaith cynaliadwyedd labordai a dangos bod ymdrechion lleol yn

Diddordeb? Cysylltwch â Thîm Menter ac Arloesi’r ILS ar ilsinnovation@abertawe.ac.uk

@swanseamedicine #collaborateILS

Cinio Graddio / Alumni Dathlu Canmlwyddiant AWST Canlyniadau Safon Uwch Ffoniwch 0800 094 9071 MEDI

gwneud gwahaniaeth. Mwy o wybodaeth am sut y gallai eich busnes weithiogyda’rGanolfan:

COLLABORATE Gweithio gyda’n gilydd er budd iechyd, llesiant a datblygu economaidd yng Nghymru Cynhadledd flynyddol ym Mhrifysgol Abertawe yw COLLABORATE lle ceir siaradwyr blaenllaw, sesiynau gr ŵ p thematig, man arddangos a chyfleoedd rhwydweithio. Mae’n dathlu ac yn hyrwyddo prosiectau a phartneriaethau ar y cyd ar draws diwydiannau, y byd academaidd, y llywodraeth, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector yn y sector gwyddor bywyd.

Mae’r Ganolfan Technoleg Gofal Iechydyn rhano’r rhaglen“Accelerate” £24 miliwn a gynorthwyir gan gyllid Llywodraeth Cymru ac Ewrop. Caiff rhaglen “Accelerate” ei harwain gan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac mae’n gwneud yn fawr o arbenigedd a galluoedd Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

G ŵ yl Wyddoniaeth Abertawe Cyrraedd ac Wythnos y Glas HYDREF Dyddiad Cau UCAS ar gyfer Meddygaeth Peidiwch ag anghofio eich 5ed dewis! TACHWEDD Gwobrau Blynyddol RHAGFYR Cyngerdd y Nadolig

MWY O WYBODAETH: medevents@abertawe.ac.uk

30

31

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28-29 Page 30-31 Page 32

www.abertawe.ac.uk

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online