Sail Magazine 2020 [CYM]

SAIL CYLCHGRAWN I GYN-FYFYRWYR 2020 Mae’r ysbrydolwr Instagram, sylfaenydd busnes ioga a’r Chwaraewr Rygbi Rhyngwladol

yn sôn wrthym sut y gwnaeth hi gadw’r genedl i symud yn ystod y cyfnod clo.

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

RHANNU LLUNIAU VARSITY RHITHWIR

EIN BRWYDR YN ERBYN COVID

© Ffotograffiaeth Cwm Calon

CROESO I RIFYN Y CANMLWYDDIANT O’N CYLCHGRAWN I GYN-FYFYRWYR,

Ledled y byd, mae’r argyfwng coronafeirws (Covid-19) wedi newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio gyda’n gilydd. Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym wedi galw ar 100 mlynedd o wydnwch, arloesedd a chydweithrediad er mwyn ymaddasu, ac i gyfrannu at yr ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i ymateb i’r argyfwng. Mae ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn cydweithio i gefnogi’r gofynion logistaidd ar ein hisadeiledd gofal iechyd. Rydym wedi defnyddio ein hargraffyddion 3D o’r radd flaenaf er mwyn cynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb, ac rydym wedi newid un o’n labordai solar i gynhyrchu 5,000 litr o hylif diheintio dwylo bob wythnos i gyflenwi’r GIG yn lleol. Mae tîm o’n myfyrwyr wedi datblygu triniaeth newydd i ryddhau nwy’n sydyn i ddiheintio ambiwlansys, a allai gael gwared ar Covid-19 o’r arwynebau a’r awyr o fewn llai nag 20 munud yn hytrach na 45 munud, heb angen i berson wneud unrhyw waith glanhau. Mae ein hymchwilwyr o’r radd flaenaf yn modelu effeithiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol yr argyfwng ar ein bywydau. Rydym yn archwilio effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl, gan ystyried effaith hirdymor y mesurau cadw pellter cymdeithasol a chynnig cymorth lles i’r rhai y mae ei angen arnynt fwyaf. Rydym yn modelu amgyffred y cyhoedd o’r ap ar gyfer ffonau clyfar i olrhain cysylltiadau o ran Covid-19, ac yn gweithio gyda phartneriaid i ddeall effaith Covid-19 ar

weithgarwch corfforol a lles pobl ar adegau gwahanol y cyfyngiadau symud yn y DU. Mae ymateb ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid i’r argyfwng hwn wedi bod yn ysbrydoledig, gan adeiladu ar ganrif o effaith gadarnhaol a gweithredoedd pwrpasol. Felly, rwyf wrth fy modd bod rhifyn y Canmlwyddiant o SAIL yn cynnig cyfle i dynnu sylw at draddodiad hir y Brifysgol o gefnogi datblygiad myfyrwyr ysbrydoledig a thalentog, drwy ddangos detholiad o’n cyn-fyfyrwyr a’u cyflawniadau. Er bod gennym lawer mwy o gyn-fyfyrwyr talentog nag y gallem obeithio eu cynnwys mewn un cylchgrawn, mae’r casgliad hwn yn rhoi cipolwg sy’n adlewyrchu pa mor amrywiol y bu llwyddiant ein cymuned o gyn-fyfyrwyr, ym meysydd ymchwil, chwaraeon, entrepreneuriaeth, cyfraniad at y gymdeithas a gweithredu cymdeithasol. Mae talent ac amrywiaeth ein cymuned o gyn-fyfyrwyr yn destun balchder mawr i’n Prifysgol, wrth i’n cyn-fyfyrwyr barhau i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithasau ledled y byd. Wrth i ni ddechrau ein hail ganrif fel Prifysgol, rwy’n ffyddiog y byddant yn cynnal y traddodiad hwn, gan barhau i ymateb i heriau byd-eang cyfoes fel llysgenhadon balch dros ein Prifysgol. Is-Ganghellor

03. Eich Cefnogaeth, Ein Diolch 04. Ein Hymateb

01.  Cyswllt Prifysgol Abertawe 02. Digwyddiadau’r Canmlwyddiant

PRIFYSGOL ABERTAWE

I’r rhai ohonoch sydd heb gofrestru, Swansea Uni Connect yw eich cymuned ar-lein unigryw. Fel aelod gwerthfawr, rydym yn eich gwahodd i ymuno heddiw a dechrau mwynhau budd rhwydwaith eang ac amrywiol o gysylltiadau sydd oll yn rhannu’r profiad o fod ym Mhrifysgol Abertawe! Dwy funud sydd angen i gofrestru arno a hynny drwy LinkedIn fel bod eich gwybodaeth broffesiynol wedi’i chynnwys yn eich proffil ar y platfform.

SwanseaUniConnect.com

Dyma fanteision cofrestru: 1. Ffrwd newyddion a swyddi wedi’i phersonoli. 2. Cyfleoedd i fentora a gwirfoddoli, neu gael help, cyngor a chymorth y gall fod eu hangen arnoch. 3. Trefnu cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol yn eich diwydiant er mwyn rhwydweithio, rhannu cyngor, mentora a mwy. 4. Dod o hyd i hen ffrindiau a chyd-fyfyrwyr. Mae Swansea Uni Connect yn rhoi man arbennig i chi allu cadw cysylltiad â’ch rhwydwaith Prifysgol Abertawe a chael gwybod y diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn y Brifysgol.

Golygyddion : Rachel Thomas, Gerard Kennedy, Ffion White & Sioned Williams. Dylunio gan : IconCreativeDesign.com

RHANNWCH PROFIAD ABERTAWE:

Lawrlwythwch yr ap Android: “Swansea Uni Connect” Apple:  “Graduway Community” – rhowch “Prifysgol Abertawe” pan ofynnir

05. Aduniad 06-23. Proffiliau Cyn-fyfyrwyr

01

DIGWYDDIADAU’R CANMLWYDDIANT

YMRWYMEDIG I OFALU AM EIN CYMUNED

2020 oedd y flwyddyn roedd y Brifysgol i fod i ddathlu ei chanmlwyddiant. Fodd bynnag, mae effeithiau rhyfeddol a distryw’r pandemig ar draws y byd wedi cymryd blaenoriaeth, yn ddigon teg, eleni. Ers agor ein drysau 100 o flynyddoedd yn ôl, rydym wedi arloesi, cydweithio a thyfu i fod yn gampws deuol, yn sefydliad o’r radd flaenaf sy’n gwasanaethu ei gymuned, yn addysgu ei bobl, yn mynd i’r afael â phroblemau byd-eang ac yn darparu cartref i lawer. Mae ein llwyddiannau wedi effeithio ar y byd mewn sawl ffordd, ac rydym yn hynod o falch o fod wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon yn ein hanes cyfoethog. Yn anffodus, ni allwn ddathlu’r cyflawniadau hyn yn y ffordd a fwriadwyd gennym, felly rydym yn awr wedi gwneud y penderfyniad anodd i ohirio pob digwyddiad canmlwyddiant corfforol yn 2020, ac yn eu lle, ynghyd â’r rhoddion hanfodol yr ydym yn eu derbyn gan ein cefnogwyr hael, mae £200,000 a neilltuwyd yn flaenorol ar gyfer ein dathliadau canmlwyddiant yn mynd tuag at ymladd Covid-19, cefnogi ein myfyrwyr, a gyrru arloesedd wrth i ni ddechrau ein 100 mlynedd nesaf. Er ein bod yn siomedig nad ydym yn dathlu’n bersonol gyda’n cyn-fyfyrwyr, ein staff, ein partneriaid, ein myfyrwyr a’n ffrindiau, rhaid sicrhau diogelwch ein cymunedau a chydnabod bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lawer o deulu Abertawe. Felly, er mwyn diddanu a diweddaru ein cymuned Prifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod hwn, rydym wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein, gyda mwy ar y gweill.

Ar y 29ain o Ebrill, cynhaliwyd Varsity rhithwir. Roedd timau chwaraeon myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn cystadlu yn erbyn yr hen elynion o Brifysgol Caerdydd mewn amrywiaeth o heriau ar-lein, megis ‘Keepie Uppies’ gyda phêl rygbi, cic gosb chwil, sgwatiau a llawer mwy. Yn ystod y dydd, Abertawe oedd yn fuddugol o 17 – 14 gan gipio Coron y Varsity rhithwir. Uchafbwynt y diwrnod oedd cwis Varsity rhithwir dan arweiniad y chwaraewr rygbi o Gymru, Ryan Jones ac roedd hefyd yn cynnwys llu o gyn-fyfyrwyr a chyfeillion megis Liz Johnson, Paul Thorburn, Alun Wyn Jones, Michael Sheen, Max Boyce ac Eddie Izzard. Ar y 13eg o Fai, daeth cyn-fyfyrwyr ynghyd ar Swansea Uni Connect i rannu eu lluniau a’u hatgofion o’u hamser yn Abertawe. Yn ystod y digwyddiad, rhannwyd dros 350 o luniau – yn cwmpasu 100 mlynedd o Brifysgol Abertawe.

FE GODON NI

MEWN YCHYDIG DROS MUNUD

Gellir gweld yr holl luniau yn adran luniau ac albymau: SwanseaUniConnect.com Gwyliwch y fideo Varsity yma: Swan.ac/varsity-rhithwir EI WELD AR WAITH:

02

EIN DIOLCH.

Er bod Covid-19 wedi effeithio ar ein dathliadau, rydym wedi bod wrth ein bodd gyda’r ymateb i’n hymgyrch codi arian ar gyfer y canmlwyddiant. O ddarparu cyllid sbarduno ar gyfer ymchwil arloesol, i gefnogi ein myfyrwyr mwyaf agored i niwed, mae rhoddion gan ein cyn-fyfyrwyr a chyfeillion yn gwneud gwahaniaeth enfawr ar draws y Brifysgol a thu hwnt. A WNEWCH CHI ROI RHODD DRWY FYND I: swan.ac/rhoddwch-arian Bydd eich rhodd yn cael ei chyfeirio tuag at y mentrau mwyaf dirdynnol, taer a phwysig ym Mhrifysgol Abertawe. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth. Drwy ddal gafael yn ysbryd cyfunol teulu Abertawe, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol disglair a llwyddiannus wrth i ni ddechrau ar ein 100 mlynedd nesaf. Os hoffech ddarllen mwy am ganmlwyddiant y Brifysgol, ein hanes, digwyddiadau arfaethedig a dyheadau’r dyfodol, gallwch ymweld â: swan.ac/2020

GRANTIAU CALEDI ARIANNOL

“Yn ystod fy ail flwyddyn yn y Brifysgol, collais fy swydd ran-amser a fy opsiynau gofal plant. Roeddwn yn ystyried gadael y Brifysgol ond yna clywais am y grantiau caledi a ariennir gan gyn-fyfyrwyr. Yn dilyn fy nghais, cefais wybod yr oedd yn llwyddiannus y diwrnod canlynol, ac roedd yr arian yn fy nghyfrif banc erbyn diwedd yr wythnos. Daeth y wobr hefyd gydag arbenigedd ac arweiniad sydd wedi bod yn amhrisiadwy i mi a’m teulu ac wedi fy ngalluogi i barhau fy ngradd.” – Unigolyn sydd wedi derbyn y grant caledi yn ddiweddar

03

YMCHWIL & NEWYDDION COVID

EIN BRWYDR YN ERBYN

BETH RYDYN NI WEDI BOD YN EI WNEUD:

• Mae timau o bob rhan o’r Brifysgol wedi dod at ei gilydd i gefnogi consortiwm sydd newydd ei sefydlu-SWARM (Consortiwm Gweithgynhyrchu Ychwanegion a Chyflym De Cymru) - yn ei chenhadaeth i gefnogi ymateb ‘ Covid-19 ‘ GIG Cymru. • Mae tîm o fyfyrwyr wedi datblygu triniaeth nwy gyflym newydd ar gyfer ambiwlansys, a allai gael gwared ar halogiad Covid-19 o arwynebau a’r aer, mewn llai nag ugain munud, hanner yr amser y mae’n ei gymryd fel arfer wrth ddefnyddio pobl i lanhau. • Mae ein myfyrwyr Nyrsio, Parafeddygaeth a Bydwreigiaeth wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen gyda staff y GIG. • Mae grŵp o fyfyrwyr Meddygaeth Prifysgol Abertawe wedi bod yn cynnig gofal plant cymorth brys i staff hanfodol y GIG. • Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi cynllunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu’n gyflym o ddarnau lleol. Cyn hyn, roedd dyluniad peiriant anadlu yn y naill beth neu’r llall, ond nid y ddau. Yn hollbwysig, gellir defnyddio’r peiriant anadlu hyd yn oed ar gyfer cleifion â choronafeirws difrifol. • Mae’r Ysgol Feddygaeth a Choleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd hefyd wedi sicrhau bod eu hystafell sgiliau clinigol ar gael i’r bwrdd iechyd lleol.

Mae staff y Brifysgol wedi dod at ei gilydd i roi offer cyfarpar diogelu personol hanfodol i’r ysbyty lleol.

DARGANFYDDWCH FWY:

gweld sut mae’r Brifysgol yn cefnogi’r ymdrech fyd-eang: swan.ac/cy-covid19 #GydanGilydd #EinAbertawe

Mae myfyrwyr a staff yn defnyddio argraffwyr 3D o’r radd flaenaf y Brifysgol i gynhyrchu feisorau ac amddiffynwyr wyneb ar gyfer y GIG a gweithwyr rheng flaen.

04

Yn ystod y cyfnod anghyffredin hwn, mae ein staff a’n myfyrwyr wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi’r frwydr yn erbyn Covid-19. Roeddem am ddefnyddio hwn fel cyfle i roi goleuni ar rywfaint o’r gwaith hanfodol hwn. Reunion YN DOD YN FUAN... Mae cynlluniau pawb ar gyfer 2020 wedi newid... yr oeddem i fod i gael Aduniad Canmlwyddiant: teithiau o amgylch y campws, hufen iâ Joe’s, taith i’r Mwmbwls, mynd am dro o gwmpas Parc Singleton a chinio mawreddog yn Nhŷ Fulton.

Mae darlithydd o Goleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’i gŵr wedi trawsnewid eu busnes jin i gynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwyir.

Mae Lab technoleg solar y Brifysgol, SPECIFIC, wedi newid dros dro i gynhyrchu 5000 litr yr wythnos o hylif diheintio dwylo, sy’n cael ei ddefnyddio gan y GIG lleol, cartrefi gofal a thimau tai rheng flaen.

NID YW’R DATHLIADAU WEDI’U CANSLO, DIM OND EU GOHIRIO. Bydd mwy o fanylion yn cael eu hanfon atoch cyn gynted ag y byddwn yn gallu trefnu digwyddiadau i bawb gael dod at ei gilydd. Os nad ydych wedi cael e-bost oddi wrthym ers amser, cadwch mewn cysylltiad a diweddarwch eich manylion yma:

swan.ac/diweddariad-gan-sail

05

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

GYN-FYFYRWYR

SY’N YSBRYDOLI

Mae 2020 yn nodi canrif o gyn-fyfyrwyr sy’n ysbrydoli ar gyfer Prifysgol Abertawe. Rydym yn hynod falch o’n cyn-fyfyrwyr. Mae llawer yn mynd ymlaen i gyflawni llwyddiant mawr yn eu gyrfaoedd, mae rhai yn ennill cydnabyddiaeth ryngwladol ac mae llawer o rai eraill yn cyflawni llwyddiant mwy lleol. Maent i gyd ar frig y don. Maent yn rhagori mewn chwaraeon, yn dileu rhwystrau, yn herio stereoteipiau, yn rhoi llais i’r rhai dan orthrwm ac yn cyflawni ymchwil arloesol. Yn feddylwyr, yn freuddwydwyr ac yn weithredwyr - maent i gyd yn gyn-fyfyrwyr Abertawe.

Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau

6.  MANUEL NICHOLAUS MSc Dyframaeth.

1.  BRONWEN WINTERS BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2020. LLYSGENNAD YMGYRRAEDD YN EHANGACH. YMGYRCHYDD. 2.  ANNABELLE APSION BA Drama a Saesneg. Blwyddyn Graddio 1984. ACTOR: SHAMELESS, CALL THE MIDWI FE, SOLDIER SOLDIER. 3.  SAM BLAXLAND PhD Hanes. Blwyddyn Graddio 2017. AWDUR. ARWEINYDD TEI THIAU. HANESYDD. 4.  PETER STEAD BA Hanes. Blwyddyn Graddio 5.  JOANNE HILL BSc Nyrsio. Blwyddyn Graddio 2019. O GAETHIWED I SYLWEDDAU I NYRS. GWEDDNEWID EI BYWYD. 1964. AWDUR CYMREIG. DARLLEDWR. HANESYDD.

Blwyddyn Graddio 2008. BIOLEGYDD Y MÔR. DIOGELU

1

ECONOMÏAU MOROL, PYSGODFEYDD CYNALIADWY A DIOGELWCH BWYD. 7.  GEOFFREY THOMAS BSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1962. YSGOLHAIG. ADDYSGWR. 8.  FIROUZEH SABRI BSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1995. GWYDDONYDD DEUNYDDIAU. AELOD T ÎM PROSIECT GLANIO AR FAWRTH. MODEL RÔL . 9.  NIA PARRY BA Sbaeneg a Chymraeg. Blwyddyn Graddio 1996. EIRIOLWR BRWD DROS YR IAI TH GYMRAEG, DARLLEDWR AC ADRODDWR STRAEON. 10.  SIAN REYNOLDS LLB y Gyfraith. Blwyddyn Graddio 2002. LLONGWR. CYFREI THIWR.

2

3

11.  MARIA MARLING BA Rheoli Busnes. Blwyddyn

4

5

6

Graddio 2012. CYD-SYLFAENYDD. FFATRI FEGAN GYNTAF CYMRU, SAVEG.

7

8

9

10

11

12

13

14

15

16 19

17

18

20

21

22

12.  BEN EVANS PhD Peirianneg

Awyrofod. Blwyddyn Graddio 2008. DEWIN AERODYNAMEG. CYTHRAUL CYFLYMDER. TORRWR RECORDIAU.

23

24

13.  LYN EVANS

BSc a PhD Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1966. ARLOESWR

MEWN FF ISEG. MAL IWR GRONYNNAU. HEL IWR YR HIGGS BOSON. 14.  SHEKHAR DUTT PGDip Economeg Ddatblygu. Blwyddyn Graddio 1984. LLYWODRAETHWR. YSGRI FENNYDD AMDDI FFYN TO LLYWYDD CYMDEI THAS FRENHINOL CEMEG. 15.  HANNAH LAMDEN BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2008. CYFARWYDDWR Y CYFRYNGAU: L I TTLE MIX, SIMON COWELL . 16.  JONATHAN ELPHICK BSc Swoleg. Blwyddyn Graddio 1968. AWDUR HANES NATURIOL . ADAREGWR. 17.  MICHELLE OWEN BA Iaith a Chyfathrebu. Blwyddyn Graddio 2011. SYLWEBYDD. CYFLWYNYDD. ANGERDDOL DROS BÊL -DROED. 18.  AIMEE EHRENZELLER BSc Seicoleg, MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol. Blwyddyn Graddio 2019. ARWR GOFAL IECHYD.

25

19.  ROGER PHILLIPS BSc Biocemeg. Blwyddyn Graddio 1977. ARWEINYDD BUSNES. YMGYNGHORWR. MENTOR. 20.  ELOISE WILLIAMS

26

MA Ysgrifennu Creadigol a’r Cyfryngau. Blwyddyn Graddio 2011. AWDUR LLYFRAU PLANT. DEI L IAD CYNTAF Y TEI TL CHI LDREN’S LAUREATE WALES. BA Hanes. Blwyddyn Graddio 1999. ENI LLYDD GWOBR BAFTA. AWDUR. CYFARWYDDWR. ACTOR.

24.  ALYS

THOMAS BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 2015. DEI L IAD RECORD Y GYMANWLAD. 25.  KIRITKUMAR LATHIA BSc Peirianneg Drydanol. Blwyddyn Graddio 1970. YN PENNU SAFONAU AR GYFER CYFATHREBU BYD-EANG. 26.  ALISTAIR BARNES BSc Cemeg a Gwyddor Rheoli. Blwyddyn Graddio 1990. ARWEINYDD ELUSEN. DARPARWR CYFLEOEDD. ADEI LADWR CYMUNED.

21.  JONNY OWEN

22.  PAUL PINDAR BSc Seicoleg. Blwyddyn

Graddio 1981. ENTREPRENEUR. ARWEINYDD BUSNES CAPI TA.

23.  LIAM DUTTON

BSc Daearyddiaeth. Blwyddyn Graddio 2002. DARLLEDWR. DYN TYWYDD. CERDDOR. ADDYSGWR.

07

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

JASON MOHAMMAD

BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1996. CYFLWYNYDD RADIO A THELEDU.

Mae gan Anne genhadaeth i weddnewid y sector bancio er mwyn darparu profiad gwell i gwsmeriaid. A hithau’n bennaeth banc sefydledig yn y DU, mae Anne hefyd yn eiriolwr pwerus dros benodi rhagor o fenywod i rolau blaenllaw mewn busnes. Beth wnaeth i chi benderfynu astudio Cyfrifiadureg a Chemeg yn Abertawe? Mae un o’r lluniau cynharaf sydd gen i o’m plentyndod yn fy nangos ym mreichiau fy nhad wrth iddo sefyll y tu allan i gampws Prifysgol Abertawe. Ces i fy ngeni a’m magu yn y ddinas ac roedd pawb yn falch iawn o’r brifysgol. Roeddwn i wedi penderfynu astudio meddygaeth ac roeddwn i’n bwriadu teithio ymhellach am fy ngradd. Doedd fy nghanlyniadau Safon Uwch ddim cystal ag roeddwn i’n gobeithio, felly treuliais i fore hir ar y ffôn yn siarad â phrifysgolion amrywiol i weld beth oedd ar gael. Yn y diwedd, ces i sgwrs â rhywun yn Abertawe a soniodd am radd mewn Cyfrifiadureg a’r eiliad clywais i hynny, roeddwn i’n meddwl dyna’r hyn dwi eisiau ei wneud. Roedd yn cyfuno popeth roeddwn i’n ymddiddori ynddo a byddai’n rhoi cyfle i mi ddysgu sgiliau newydd hefyd.

Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham astudio’r Gymraeg a Gwleidyddiaeth? Roeddwn i’n gwybod bod gan Brifysgol Abertawe adrannau Cymraeg a Gwleidyddiaeth gwych, felly roeddwn i eisiau astudio yno er mwyn cael fy nysgu gan y gorau. Hefyd, roedd apêl Penrhyn Gŵyr a’r traethau gerllaw yn atyniad enfawr. Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe? Cael fy nysgu gan ddarlithwyr cwbl ragorol, y ffrindiau a wnes i yn y brifysgol a’r llu o weithgareddau chwaraeon y gwnes i gymryd rhan ynddynt. Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe? Ym Mhrifysgol Abertawe y tyfodd fy hyder fel dysgwr Cymraeg. Rwy’n cofio’r cawr o ddarlithydd, Hywel Teifi Edwards, yn ein hannog ni i gyd i ddefnyddio ein sgiliau llafar Cymraeg. Ni welodd unrhyw wahaniaeth rhwng myfyrwyr Cymraeg ‘iaith gyntaf’ a “dysgwyr ail iaith”. A dyna lle y cafodd fy hyder ei fethrin.

Pam dewis gyrfa mewn darlledu? I fod yn berffaith onest, dyna’r unig beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roeddwn i’n arfer chwarae recordiau Queen, ABBA a 10cc pan oeddwn i’n ddim ond pum mlwydd oed, felly roedd yn anochel y byddwn yn mynd i weithio i BBC Radio 2 a BBC Radio Wales! Roeddwn i hefyd yn arfer sylwebu ar gemau fideo ‘nôl yn yr 1980au - gemau fideo chwaraeon – felly mae’n debyg nad oedd gyrfa mewn chwaraeon teledu yn gam annisgwyl chwaith. A wnaeth eich cyfnod yn y Brifysgol eich helpu i gychwyn gyrfa mor llwyddiannus mewn darlledu ydych chi’n meddwl? Yn sicr. Fe wnes i gyfarfod â chynghorydd gyrfaoedd, Mr Hugh Jones, pan oeddwn yn ymgeisio am gwrs ysgol newyddiaduraeth Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe anogodd fi i fynd amdani. Enillais ysgoloriaeth gyda BBC Cymru ac mae’r gweddill yn hanes. Oni bai am Brifysgol Abertawe, ni fyddwn lle yr wyf i heddiw. Beth yw uchafbwynt eich gyrfa? Heb amheuaeth, derbyn yr e-bost gan fy nghynhyrchydd i ddweud fy mod i’n mynd i fod yn rhan o’r tîm cyflwyno ochr y cae ar gyfer rownd derfynol Cwpan y Byd 2014 ym Mrasil rhwng yr Ariannin a’r Almaen. Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad? Rwsia. Teithiais ledled y wlad yn ystod rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA 2018 a chefais fy hudo yn llwyr gan yr hanes, y bensaernïaeth ysblennydd a’r bwyd arbennig.

Beth yw eich atgofion gorau am eich amser yn Abertawe?

Os ydych yn disgwyl clywed straeon am fy nyddiau gwyllt yn y brifysgol, byddwch chi’n cael eich siomi wrth siarad â mi, mae arna i ofn. Treuliais i’r rhan fwyaf o ddiwrnodau yn y llyfrgell. Roeddwn i wedi treulio’r rhan fwyaf o’m plentyndod mewn siopau llyfrau, neu yn y llyfrgell neu â fy mhen yn y copi ail law o wyddoniadur Britannica roedd fy nhad wedi’i brynu i mi pan oedd yr athrawon ar streic. Nawr roedd gen i gyfle i eistedd yn y llyfrgell yn astudio drwy’r dydd, gwyn fy myd. Roedd cyfrifiadura’n weddol sylfaenol o hyd yn y dyddiau hynny. Roedd gennym gyfrifiadur PDP 11 Unix a oedd yn caniatáu i ni fewnbynnu data ar gardiau. Roedd system lafurus iawn lle byddech yn ysgrifennu eich rhaglen, yna roedd rhaid i chi ruthro i lawr y grisiau â’r cerdyn tyllog a mynd ag ef i ystafell arall ar bwys y ffreutur i’w redeg. Byddai bob amser tipyn o giw ac yna roedd rhaid aros am hanner awr i weld a oedd wedi gweithio.

08

BODEN ANNE BSc Cyfrifiadureg a Chemeg, 1981. PRI F SWYDDOG GWEI THREDU, STARL ING BANK.

Wedyn, byddai rhaid i chi fynd yn ôl i fyny i’r ystafell gwyddorau cyfrifiadura a gwneud addasiadau angenrheidiol i’r rhaglen cyn mynd drwy’r broses gyfan eto. Roeddwn i’n ffit iawn yn y dyddiau hynny gyda’r holl redeg i fyny ac i lawr y grisiau. Beth wnaethoch chi ar ôl graddio o Abertawe? Roeddwn i’n ddifrifol iawn am sicrhau swydd a dechreuais i gynllunio beth byddwn i’n ei wneud o’r ail flwyddyn yn Abertawe a threuliais i lawer o amser yn y swyddfa yrfaoedd. Ar ôl llawer o chwilio i weld beth oedd ar gael, fe wnes i gais am swydd yn dadansoddi paent ar gyfrifiadur yn Zurich, un arall am weithio yn y diwydiant amddiffyn ac un arall yn GCHQ. Fel tipyn o gerdyn gwyllt, ac yn dilyn awgrym fy mam bod cotiau gwyn labordy ‘yn draenio lliw o’r wyneb’, gwnes i gais hefyd am swydd ym Manc Lloyds. Gan ystyried bod 1000 o ymgeiswyr am un swydd dan hyfforddiant i raddedigion, doeddwn i ddim yn obeithiol iawn, ond gwnaethon nhw gynnig y swydd i mi. Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio yn adran cyfrifiaduron Banc Lloyds ac roeddwn i’n syfrdanu’n aml fy mod i’n cael fy nhalu i wneud rhywbeth a oedd yn rhwydd i mi ac yn bleser hefyd. Rydych chi wedi gweithio i nifer o fanciau. Beth wnaeth i chi feddwl bod angen newid y sector? Dechreuais i feddwl yn ddifrifol am ffordd newydd o fancio yn sgil argyfwng 2008. Ar y pryd, hwn oedd y trychineb ariannol gwaethaf o fewn cof ond, pan oedd yr holl ffwdan wedi tawelu, roedd y banciau mwy neu lai wedi mynd yn ôl i fusnes fel arfer. Roedden nhw’n gweithredu mwy neu lai yn yr un ffordd ag roedden nhw wedi’i wneud ers degawdau, er gwaethaf y datblygiadau digidol a oedd i’w gweld yn newid popeth arall ar gyflymdra anhygoel gyda busnesau megis Uber, Netflix ac Amazon. Roedd llwyddiant y cwmnïau technoleg wedi dangos i mi fod popeth yn dechrau gyda’r cwsmer a’r rheswm pam mae Apple, Amazon a’r holl rai eraill mor llwyddiannus yw eu bod wedi perffeithio eu prosesau cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau. Enghraifft berffaith o sut roedd y banciau’n methu oedd y broses agor cyfrif. Roedd yn broses ofnadwy o hir a rhwystredig. Roedd rhaid mynd i

gangen, cael cyfweliad hir a chwblhau llwyth o waith papur ac yna aros am sbel hir nes cyflawni’r nod. Roedd angen rheolau i atal twyll, mae hynny’n wir, ond roedd y banciau’n gwneud y broses yn gymhleth yn ddiangen.Wrth wraidd yr hyn roeddwn i am ei wneud roedd awydd i helpu pobl i wella eu perthynas ag arian. Roedd gen i weledigaeth am wasanaeth bancio digidol a allai weithredu ar ffôn symudol, dyfais sydd gyda phawb drwy’r amser, lle mae popeth yn agored, yn dryloyw ac yn hawdd i ddeiliad y cyfrif gael mynediad ato. Mae’n rhaid nad oedd hi’n hawdd sefydlu cwmni i drawsnewid sector fel bancio. Beth oedd yr heriau mwyaf? Un o’r heriau mwyaf oedd yr un mae pawb sy’n ceisio sefydlu busnes yn ei hwynebu: arian. Yn fy achos i, roedd angen llawer o arian arna i, o bosib, cymaint â £300 miliwn yn ôl fy amcangyfrifon cynnar. Roedd angen yr arian i ddatblygu’r banc ei hun a rhoi’r holl dechnoleg ar waith ond, ar ben hynny, roedd angen digon o arian arnaf i ddarparu ar gyfer newidiadau yn yr arian a oedd yn llifo i mewn ac allan o’r banc o ddydd i ddydd. Fel y gallwch ddychmygu, dyw denu buddsoddwyr ddim yn beth hawdd, yn enwedig i rywun heb brofiad o fod yn entrepreneur. Mae gan Starling dros filiwn o gwsmeriaid erbyn hyn ac mae pobl yn dod yn fwy cyfforddus yn rheoli eu harian o’u ffonau. Fydd Starling yn parhau i arloesi yn y farchnad hon? Mae bob amser wedi bod yn bwysig i mi ein bod yn parhau i arloesi ar ôl i ni dyfu o fod yn fenter newydd i fusnes sefydledig (ond heb fod yn rhan o’r ‘sefydliad’!). Waeth pa mor fawr rydym yn tyfu, dwi ddim eisiau i ni fod yn gorff mawr ac araf nad yw byth yn symud ymlaen nac yn datblygu. Rydym yn mireinio’r ap bob dydd ac mae pob aelod o’r tîm yn cael ei annog i awgrymu syniadau newydd drwy’r amser. Rydym yn gwrando ar gwsmeriaid hefyd. Os ydyn nhw’n dweud ‘pam na wnewch chi roi cynnig ar hwn’ neu ‘ydych chi wedi ystyried hwnnw’ rydym yn ymateb i hynny, pam na fydden ni ?

Rydych chi’n un o’r ychydig fenywod ar frig y sector bancio a thechnoleg. Oes digon yn cael ei wneud i leihau’r anghydbwysedd rhwng y rhywiau? Yr ateb byr yw: nac oes. Mae’n hynod ddiflas i mi o hyd pan fydda i’n mynd i ddigwyddiadau’r sector ac, yn ddi-ffael, dwi’n un o lond llaw o fenywod â rolau uwch mewn grŵp o 100 o ddynion neu fwy. Yn nyddiau Dwi wedi dod i arfer â’r ffaith bod rhagfarn ddiarwybod ym mhob man, ond dyw hynny ddim yn golygu fy mod i’n derbyn hynny. Rwy’n eiriolwr angerddol dros fenywod ac yn gwneud popeth y gallaf i’w cefnogi fel y bydd rhagor o fenywod yn ymuno â rhengoedd yr entrepreneuriaid a pherchnogion busnes benywaidd. Fy nghyngor i unrhyw fenyw sy’n darllen yr erthygl hon fyddai i ymladd yn galed, mynnu’r un driniaeth, ymgeisio am y swyddi uchaf ac i beidio byth â rhoi’r ffidil yn y to. cynnar Starling, roedd pobl yn gofyn i mi’n aml beth roeddwn i’n ei ‘wneud’ yn y banc.

DARLLEN MWY: Gallwch ddarllen y proffil llawn yma:

swan.ac/proffiliau

09

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR OLUWASEUN OSOWOBI MSc Cysylltiadau Rhyngwladol. Blwyddyn Graddio 2012. YMGYRCHYDD. ACT I FYDD. CYMRAWD OBAMA.

Mae’r ymgyrchydd, actifydd a chymrawd Obama, Oluwaseun yn gweithio’n galed i addysgu am drais ar sail rhywedd a’i leihau, gyda’i menter Stand to End Rape . Pam gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer eich gradd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol? Roedd gen i ddiddordeb mewn astudio cwrs gydag elfen o hawliau dynol a chydraddoldeb rhyw, tra hefyd yn ymchwilio i’r perthnasoedd economaidd a gwleidyddol rhwng gwledydd a’r llywodraeth a sut maent yn effeithio ar y ddau fater hynny. I ddechrau, roeddwn wedi penderfynu astudio Rheolaeth Ryngwladol gan ei fod yn rhannol yn cwmpasu fy ffocws, fodd bynnag, roedd y cwrs yn gyfyngedig o ran ei ymchwil ar hawliau dynol, ac felly dechreuais ymchwilio i amrywiol sefydliadau ledled y DU sy’n cynnig fy maes diddordeb penodol. Fe wnaeth fy asiant ar y pryd fy nghynghori i ystyried Prifysgol Abertawe gan siarad am fanteision astudio yn y sefydliad - gan gynnwys hyfforddiant fforddiadwy a gofal iechyd am ddim trwy’r GIG. Ar ôl edrych ar amryw o erthyglau a phostiadau am y sefydliad, roeddwn i’n gwybod fy mod wedi dod o hyd i’m cartref ar gyfer fy nyfodol. Ac yn sicr, roedd yr ysgoloriaeth ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol hefyd yn un o’r manteision. Beth yw eich hoff atgof o’ch cyfnod yn Abertawe? Fy hoff atgof o fod yn Abertawe yw creu cymuned o ffrindiau a theulu o fewn yr ysgol a lleoliadau cymdeithasol. Rwyf wrth fy modd gyda gweithgareddau’r Eglwys, cyfnodau astudio gyda myfyrwyr eraill yn y llyfrgell, neidio ar y bws i gyrraedd y gwaith gyda chydweithwyr. Fel myfyriwr Gradd Meistr, roeddwn yn awyddus nid yn unig i ennill profiad academaidd, ond hefyd profiad proffesiynol. Llwyddais i gael swydd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn ogystal â mewn sectorau gwaith ffurfiol eraill. Cyfrannodd rhai o’r swyddi hyn at hyd fy mhrofiad gwaith ac roedd yr arian a godwyd wedi fy nghynorthwyo i gychwyn fy sefydliad yn Nigeria. Ers graddio rydych wedi sefydlu Menter Stand to End Rape (STER) ac wedi bod yn codi llais ac ymgyrchu i roi diwedd ar drais ar sail rhywedd. Beth fu’ch her fwyaf wrth sefydlu’r elusen? Roedd siarad am ddod â thrais rhywiol ac ar sail rhywedd i ben yn anodd iawn yn enwedig mewn lleoliadau crefyddol a diwylliannol. Herio stigma cymdeithasol a chredoau diwylliannol hynafol oedd un o’r heriau mwyaf wrth sefydlu Menter Stand to End Rape (STER). Dros amser, mae’r diwylliant o dawelwch wedi gorfodi mwyafrif o’r rhai sydd wedi goroesi trais i fyw mewn uffern, mewn poen bob dydd, weithiau gyda’r rhai sydd wedi eu camdrin, a gwylio’r drwgweithredwyr yn cerdded yn rhydd er mwyn “amddiffyn enw ac urddas y teulu” trwy gadw’n dawel. Roedd codi ymwybyddiaeth o gydraddoldeb rhyw a thrais

rhywiol ac ar sail rhywedd fel ceisio datgymalu arferion a chredoau cymdeithasol sydd wedi’u cynnal ers canrifoedd. Yn hynny o beth, bu cymaint o wrthwynebiad i’r ymdrech i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd targed ynglŷn â’r angen i ddwysáu ymdrechion i atal trais rhywiol ac ar sail rhywedd - trwy ddysgu’r egwyddor o ganiatâd i fechgyn a dynion er enghraifft. Roedd gwrthwynebiad hefyd pan gafodd y rhai a oedd wedi goroesi troseddau o’r fath eu hannog Yr hyn rwyf fwyaf balch ohono ers sefydlu Menter STER yw’r llawenydd yn wynebau’r goroeswyr rydyn ni wedi gweithio gyda nhw. Mae yna ymdeimlad cynhenid o gyflawniad pan fydd y sefydliad yn tynnu dioddefwr o sefyllfa o gamdriniaeth a misoedd / blynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r goroeswr yn ddiogel ac yn byw bywyd y maen nhw’n wirioneddol yn ei fwynhau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r goroeswyr rydyn ni’n eu cefnogi, fel modd o dalu yn ôl, yn ymuno â STER fel gwirfoddolwr neu staff i wthio mandad y sefydliad ymhellach. Dyna un o’r teimladau mwyaf arbennig y gallai unrhyw sylfaenydd ei gael erioed. i godi llais er mwyn derbyn cefnogaeth ddigonol. Beth ’rydych chi wedi bod yn fwyaf balch ohono ers sefydlu STER? Rydych chi wedi cael eich anrhydeddu fel Person Ifanc y Flwyddyn y Gymanwlad ac fel Arweinydd Newydd Sefydliad Obama. Sut mae’n teimlo i weld eich gwaith yn cael ei gydnabod mewn modd mor amlwg? Mae’n teimlo’n wych i gael fy anrhydeddu fel #TIMENEXT100, Person Ifanc y Flwyddyn y Gymanwlad 2019 ac Arweinydd Sefydliad Obama yn Affrica ymhlith pethau eraill. Mae’r rhain yn blatfformau hynod amlwg ac mae cael fy nghydnabod am waith STER yn brawf o’r effaith y mae’r sefydliad yn ei chael nid yn unig yn Nigeria ond ledled y byd. Mae hyn hefyd yn fath o anogaeth inni ddwysáu ein hymdrechion ac mae’n ysbrydoli pobl ifanc eraill i fod yn asiantau newid. Serch hynny, gyda’r gydnabyddiaeth daw cyfrifoldeb atebolrwydd cyhoeddus, arweinyddiaeth i’r gymuned a chynhaliaeth y weledigaeth. Pwy yw’r person enwocaf i chi gwrdd â nhw yn y seremonïau gwobrwyo hyn? Rwyf wedi cyfarfod â’r cyn-Arlywydd Barack Obama yng nghyfarfod Arweinwyr Sefydliad Obama yn Affrica a oedd yn ymgynnull yn Johannesburg, De Affrica ac roeddwn i’n meddwl “O Mam Bach! Mae Barrack Obama yma reit o’m blaen!” Roedd hi fel yr eiliad honno pan fydd eich ffrind enwog yn cerdded i mewn i’r ‘stafell ac rydych chi am sgrechian “Ydy, mae’n ffrind i fi! Rwy’n ei hadnabod!” Roedd yn foment swreal imi fod yn sefyll wrth ymyl asiant newid mor fyd-enwog. Fe wnes i wir fwynhau’r brif anerchiad a rannodd yn ystod un o’r sesiynau.

10

Hyd yn hyn rydych chi wedi helpu dros 200,000 o fenywod trwy STER. Beth yw eich uchelgeisiau ar gyfer yr elusen? Ydy, mae STER wedi rhoi gwybodaeth i dros 200,000 o bobl ac wedi cyrraedd tua 350 o ferched, merched a bechgyn â gwasanaeth uniongyrchol. Fel sefydliad, edrychwn ymlaen at ddiwrnod lle mae trais rhywiol ac ar sail rhywedd yn dod yn rhan o’n hanes yn hytrach nag yn rhan o’n bywydau bob dydd. Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio ehangu ein gwasanaethau ar draws y gwahanol Wladwriaethau yn Nigeria i’n galluogi i gyrraedd mwy o bobl a threialu rhaglenni arloesol a ddatblygwyd ar gyfer y blynyddoedd 2020 – 2025. Bydd angen cyllid ar gyfer hyn. Yn y tymor hir, ein huchelgais yw troi’n sefydliad eirioli byd-eang sy’n arwain mentrau eiriolaeth polisi ac yn cynghori Llywodraethau mewn rhaglenni atal ac ymateb i drais rhywiol ac ar sail rhywedd.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n ystyried dod i Abertawe i astudio?

Os ydych chi’n ystyried dod i Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer gradd Israddedig, Ôl-raddedig neu PhD, yna gallaf ddweud eich bod yn gwneud penderfyniadau da mewn bywyd. Mae’r sefydliad academaidd yn hynod fforddiadwy, mae’r dechneg addysgu yn wych ac rydych chi’n cael profiad academaidd amhrisiadwy wedi’i deilwra ar gyfer datblygu eich gyrfa. Fel cyn-fyfyriwr i’r sefydliad, gallaf ddweud wrthych gyda sicrwydd nad yw’r berthynas yn dod i ben o fewn pedair wal Prifysgol Abertawe ‘chwaith. Mae yna weithred fwriadol i barhau i’ch cefnogi ar ôl eich astudiaethau academaidd, yn union fel fy mhrofiad i. Onid yw hynny’n rheswm da i astudio yn Abertawe ?

11

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR A CHYD-SYLFAENYDD ‘THE YOGA HUB’ , CAERDYDD. ALECS Rydych chi wedi bod yn llwyddiannus mewn chwaraeon ac mewn busnes, o ble rydych yn cael eich cymhelliad i lwyddo? Rwy’n dod o deulu sy’n hoff iawn o DONOVAN MA Cyfathrebiadau, y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, Blwyddyn Graddio 2014. SYLFAENYDD YOGABI L I TY

chwaraeon; mae fy nau riant yn chwaraewyr rhyngwladol (mam gyda hoci a dad gyda rygbi) ac mae fy chwaer yn athletwr anhygoel. Mae nhw i gyd yn fy ysbrydoli mewn ffyrdd gwahanol ac maent yn gefnogol iawn – hyd yn oed pan nad ydyn nhw yno, gallaf deimlo eu bod yn fy annog, sy’n rhoi sbardun ychwanegol i mi lwyddo. Maent i gyd yn ddawnus iawn – mae nhw wedi gosod y safon yn eithaf uchel! Pan oeddwn i’n iau, pêl-rwyd oedd y gamp roeddwn i’n dwlu arni fwyaf ond, yn anffodus, fy hoff gamp oedd dechrau fy hanes o anafiadau hefyd – troais i fy ffêr ychydig o weithiau a ches i lawdriniaeth ar fy mhen-glin, dim byd anarferol yn y gêm hon... ond yr anaf a roddodd derfyn ar fy ngyrfa pêl-rwyd oedd torri gwäellen fy ffêr yn gyfan gwbl. Isafbwynt fy anaf oedd clywed efallai na fyddwn i’n gallu neidio neu redeg yn iawn eto. Ar ôl cyfnod o ddysgu cerdded eto – a oedd yn teimlo fel misoedd – awgrymodd yr arbenigwyr ioga. Doeddwn i ddim yn cymryd ioga o ddifrif bryd hynny a bod yn onest – roeddwn i’n meddwl os nad oedd yn gwneud i chi chwysu na’ch gwneud yn fwy heini, doedd dim pwynt rhoi cynnig arno. Rhoddais i gynnig ar ychydig ddulliau – roeddwn i’n ysu gadael rhai dosbarthiadau, roedd rhai’n rhy anodd a chwympais i gysgu mewn un dosbarth!

Gan ysbrydoli’r wlad gyda’i hymagwedd unigryw at ioga yn ystod pandemig Covid-19, mae’r chwaraewr rhyngwladol o Gymru, Alecs Donovan, yn gymeriad trawiadol – ar y cae rygbi ac oddi arno.

KATE MCMURDO LLM Ymarfer Cyfreithiol

JAMES ROBERTS BSc Gwyddor Chwaraeon. Blwyddyn Graddio 2010. CYSTADLEUYDD PARALYMPAIDD. RHWYFWR. CHWARAEWR PÊL FOL I A PHÊL - FASGED CADAIR OLWYN.

TERRY MATTHEWS BSc Peirianneg Drydanol. Blwyddyn Graddio 1969. ENTREPRENEUR. SEFYDLYDD BUSNESAU. BUDDSODDWR. BI L IYNYDD.

a Drafftio Uwch. Blwyddyn Graddio 2019. YMGYRCHYDD DROS HAWL IAU POBL ANABL . YMGYRCHYDD ADDYSG. MAM WYCH.

12

Gwnaethoch chi chwarae dros Gymru am y tro cyntaf gan ddod oddi ar y fainc yn yr ail hanner yn erbyn yr Eidal mewn gêm ryngwladol a dorrodd record o ran presenoldeb ar gyfer gêm menywod Cymru yn Stadiwm Principality (11,062). Sut profiad oedd hynny? Roedd yn freuddwyd wedi’i wireddu; digwyddodd popeth mor gyflym fel nad oedd hi’n ymddangos yn eglur. Yr unig beth rwy’n ei gofio yw rhywun yn gadael am asesiad anaf i’r pen a’r rheolwr yn gweiddi fy enw; doedd dim amser gennyf i feddwl ond gwnaeth hyd yn oed redeg ar y cae fynd â’m gwynt. Roeddwn i’n ddigon ffodus i ennill fy nghap cyntaf yn Stadiwm Principality ac rwy’n meddwl mai fi yw’r unig fenyw i wneud hyn, sy’n wych! Rwy’n meddwl hefyd, ar y pryd, roeddwn i mor gynnar yn fy ngyrfa rygbi fel nad oeddwn i’n sylweddoli beth roeddwn i wedi’i gyflawni felly roeddwn i ychydig yn ddiniwed am y peth; ac, yn y diwedd, rwy’n meddwl bod hyn yn beth da neu byddwn i wedi bod yn rhy nerfus fel arall! Rwyf yng ngharfan Cymru o hyd, ond yn y garfan saith bob ochr ar hyn o bryd – sy’n cynnwys llawer o redeg o’i chymharu â’r garfan 15 bob ochr ond mae’n ddifyr iawn ac yn ymarfer ffitrwydd gwych felly rwy’n ei fwynhau’n llwyr! Rydym yn gwybod y byddwch yn ysbrydoli llawer o’n darllenwyr, ond pwy sydd wedi’ch ysbrydoli chi? Bu farw un o’m ffrindiau, Elli Norkett, mewn damwain car ychydig flynyddoedd yn ôl; roeddwn i’n chwarae rygbi gyda hi ac roedd hi’n aelod o garfan Cymru hefyd. Beth bynnag rydw i’n ei wneud, mae’n fy ysbrydoli i weld pa mor bell y gallaf gyrraedd ac yn fy atgoffa bod bywyd yn rhy fyr i beidio â rhoi cynnig ar bethau neu fyw. Mae popeth rwy’n ei wneud nawr, yn isymwybodol, dros Elli.

Ar ôl i fi fynd am tua chwe wythnos i ddosbarth roeddwn yn ei fwynhau, roeddwn i’n gallu gweld gwahaniaeth mewn sut roedd fy ochr chwith yn gweithio o’i chymharu â’m hochr dde – a pha mor anystwyth roeddwn i o ganlyniad i flynyddoedd heb weithio ar hyblygrwydd, chwaraeon trawiad cyson a chredu bod cynhesu’n wastraff amser. Ar ôl i fi fynd am tua chwe wythnos i ddosbarth roeddwn yn ei fwynhau, roeddwn i’n gallu gweld gwahaniaeth mewn sut roedd fy ochr chwith yn gweithio o’i chymharu â’m hochr dde – a pha mor anystwyth roeddwn i o ganlyniad i flynyddoedd heb weithio ar hyblygrwydd, chwaraeon trawiad cyson a chredu bod cynhesu’n wastraff amser. Rydych chi bellach wedi sefydlu dau fusnes sy’n ymwneud ag ioga: Yogability – dull ioga sy’n benodol i athletwyr - sy’n cynnwys cleientiaid megis clwb rygbi’r Gynghrair Gallagher, Bristol Bears a ‘The Yoga Hub’, sef canolfan ffitrwydd yng Nghaerdydd, lle gall aelodau gael sesiynau ioga a Pilates diderfyn am ffi fisol sefydlog. Sut aethoch chi ati i adeiladu gyrfa ar y profiad adsefydlu hwnnw? Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i ddull ioga a oedd yn benodol i athletwyr ac a oedd yn diwallu anghenion pobl fel fi – felly creais i Yogability. Roeddwn i’n gwybod yn reddfol na fyddwn i byth yn chwarae pêl-rwyd eto ar ôl torri gwäellen fy ffêr,felly roeddwn i’n meddwl beth am roi cynnig ar rygbi eto ? Ymunais i â chlwb lleol lle roedd fy ffrindiau’n chwarae. Enillon ni’r gynghrair a’r cwpan y flwyddyn honno (heb fawr o help gen i dwi’n siŵr achos roeddwn i’n dal yn ansicr am yr holl reolau!). Wedyn penderfynodd y clwb roi’r gorau i dîm y menywod, felly gwnaeth fy nhad helpu i

sefydlu tîm menywod yn Abertawe a fe yw Ysgrifennydd y Clwb erbyn hyn; a symudodd y tîm cyfan draw i chwarae i’r Crysau Gwynion. Ar ôl clywed fy mod i’n chwarae rygbi wedi torri gwäellen fy ffêr, gofynnodd ychydig o dimau rygbi i mi addysgu Yogability iddyn nhw... cyn hir dechreuais i weithio gyda thîm saith bob ochr Undeb Rygbi Cymru a dyna pryd sylweddolais i fod rhywbeth gen i – o fewn blwyddyn roeddwn i’n methu credu faint roedd y busnes wedi tyfu! Digwyddodd rhywbeth tebyg gyda ‘The Yoga Hub’; hoffwn i allu talu’n fisol i fynd i sesiynau ioga a Pilates diderfyn. Wrth siarad â phobl yn y campfeydd roeddwn i’n eu defnyddio, sylweddolais i nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn mynd i ddosbarthiadau ioga gan eu bod yn rhy ddrud. Felly fy nod cyntaf oedd ei wneud yn rhesymol iawn. Yr ail nod oedd chwalu’r camsyniad mai dim ond un math o ioga sydd. Rydym yn cynnig 14 o fathau gwahanol o ioga a Pilates – wedi’u haddysgu gan 12 o hyfforddwyr gwahanol. Roeddwn i am i bobl nad ydynt wedi mwynhau dosbarth yn y Mae gan bawb anghenion a chwaeth gwahanol felly roeddwn i am ddiwallu eu hanghenion nhw. Agorais i ‘The Hub’ i fyny’r grisiau mewn campfa o’r enw UFIT yng Nghaerdydd; mae’r gampfa a’r siop goffi ar agor rhwng 5am ac 11pm, sy’n apelio ataf yn fawr oherwydd roeddwn i am i bobl ei weld fel digwyddiad yn hytrach na dod i mewn, gwneud dosbarth ac yna fynd adref – gallwch chi aros am goffi neu gwrdd â ffrindiau hefyd. gorffennol sylweddoli bod llawer mwy o fathau o ymarfer y gallent roi cynnig arnynt.

Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau

ALUN BAKER BSc Economeg a Daearyddiaeth. Blwyddyn Graddio 1982. ARWEINYDD BUSNES. ENTREPRENEUR.

GEMMA ALMOND BA Hanes. Blwyddyn Graddio 2014. HANESYDD ANABLEDD A MEDDYGAETH. CYN-ATHLETWR A NOF IWR EL Î T.

SYR JOHN THOMAS BSc Cemeg, PhD Sbectrometreg Màs. Blwyddyn Graddio 1957.

CEMEGYDD CYFLWR SOLET. ADDYSGWR. HANESYDD.

13

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

SMITH PARALYMPWR, MEng PEIRIANNEG AWYROFOD, Blwyddyn Graddio 2014.

Mae derbyn ei aur Paralympaidd cyntaf ychydig cyn Wythnos y Glas yn Abertawe, David, Pencampwr y Byd a Pharalympaidd, yn anelu at ddominyddu yn chwaraeon Boccia. Beth ddaeth â chi i Brifysgol Abertawe? Roeddwn i am astudio Peirianneg Awyrofod ac roedd staff y cwrs, yr awyrgylch cyffredinol a’r traeth yn brif atyniadau. Beth yw eich hoff atgofion o astudio yn Abertawe? Y teithiau astudio a oedd yn cynnwys hedfan megis y labordy hedfan yn Cranfield neu hedfan o gwmpas penrhyn Gŵyr. Sut gwnaethoch chi gydbwyso gofynion y radd â’ch gyrfa fel chwaraewr Boccia rhyngwladol? I ddechrau, bues i’n astudio’n amser llawn gan nad oeddwn i’n gorfod canolbwyntio ar fy ngyrfa chwarae gymaint. Fodd bynnag, wrth i Boccia rhyngwladol ddatblygu’n gyflym a gemau Llundain 2012 nesáu, bu angen gohirio rhannau o’m gradd. Roedd y Brifysgol yn gymwynasgar iawn a gwnaeth bopeth y gallai i’m cefnogi, gan hyd yn oed ganiatáu i mi aros mewn neuaddau fel y gallwn barhau i hyfforddi drwy gydol yr haf. Sut gwnaethoch chi ddechrau Boccia? Chwaraeais i yn yr Ysgol Gynradd oherwydd ei bod yn ysgol anghenion arbennig a gwnes i gystadlu am y tro cyntaf pan oeddwn i’n 6 oed mewn cystadleuaeth yn Stoke Mandeville. I’r sawl ohonom nad ydym yn gwybod unrhyw beth am Boccia. Beth yw ef? Mae Boccia yn gêm sy’n debyg i fowls ar gyfer pobl sydd ag anableddau corfforol (er ei bod hi’n gêm ardd boblogaidd yn Ewrop hefyd). Fel chwaraewyr Boule, rydym yn chwarae gyda pheli lledr meddal ar gwrt caled dan do yr un maint â chwrt badminton. Mae yna ap bellach o’r enw Boccia Battle ac mae’n realistig iawn felly mae’n rhoi syniad da i chi.

Rydych chi wedi cystadlu mewn gemau Paralympaidd amrywiol ledled y byd. Sut mae’n teimlo i gynrychioli eich gwlad yn rhyngwladol? Mae’n fraint gennyf fod yn

rhan o Boccia’r DU a chynrychioli fy ngwlad ac mae’n bleser clywed yr anthem yn y rhan fwyaf o leoedd rwy’n mynd iddynt. Hefyd, mae difyrru a chwarae hyd eithaf fy ngallu o flaen gwylwyr yn wobrwyol iawn. Sut teimloch chi pan wnaethoch chi ennill eich medal aur Paralympaidd gyntaf? Roeddwn i’n hapus ac yn emosiynol gan mai’r

digwyddiad tîm oedd hynny felly roedd hynny’n gamp ar gyfer fy

ffrindiau ac nghyd-aelodau tîm yn ogystal â fi fy hun. Enillais i fy medal aur gyntaf cyn i fi ddechrau wythnos y glas yn Abertawe felly roedd hi’n hawdd dathlu! Chi yw’r pencampwr Olympaidd a phencampwr y byd. Chi yw’r chwaraewr Boccia o Brydain mwyaf llwyddiannus erioed. Beth sy’n nesaf? Yn dechnegol, rwy’n bencampwr Paralympaidd. Er, efallai, nad yw’n ymddangos fel bod llawer o wahaniaeth; o ran agweddau penodol ar y diwylliant, mae’n wahaniaeth sylweddol. Rwy’n falch o fod yn athletwr Paralympaidd yn hytrach nag yn athletwr Olympaidd. Mewn gwirionedd, fi yw’r cyd-chwaraewr mwyaf llwyddiannus o Brydain, ynghyd â Nigel Murray MBE, felly fy nod yw gosod record newydd a bod y chwaraewr BC1 cyntaf erioed i amddiffyn teitl Paralympaidd.

Cawsoch eich anrhydeddu gydag MBE oherwydd eich cyflawniadau. Sut oedd hi’n teimlo mynd i’r palas i’w gasglu? Teimlais i lawer o falchder wrth gasglu’r MBE, yn bersonol. Roedd fy rhieni a’m cynorthwy-ydd chwaraeon gyda fi felly roedd gallu mynd â’m rhieni i Balas Buckingham yn ymdeimlad arbennig. Pa gyngor sydd gennych i unrhyw un sy’n ystyried astudio yn Abertawe? Fy nghyngor fyddai pam lai ? Mae’n ddigon pell i ffwrdd i osgoi’ch rhieni’n ymyrryd yn eich bywyd os ydych yn byw yn Lloegr! Mae golygfeydd hardd ym mhob man ac mae’r bobl yn groesawgar ac yn gyfeillgar iawn.

14

YR ATHRO COLIN PILLINGER BSc Cemeg. PhD Sbectrometreg Màs.

YR ATHRO CARL JONES BSc a PhD Bioleg. Blwyddyn Graddio 1980.

MATTHEW WARE BSc Gwyddor Chwaraeon. MSc Nanofeddygaeth, PhD Nanodechnoleg. Blwyddyn Graddio 2006. YMCHWI LYDD CANSER ARLOESOL .

Blwyddyn Graddio 1964. GWYDDONYDD Y GOFOD. ARCHWI L IWR MAWRTH.

CADWRAETHWR O FRI RHYNGWLADOL .

SIAN THOMAS BA ac MA Cymraeg. Blwyddyn Graddio 1980. DARLLEDWR.

GEORGIA DAVIES Y Gyfraith. Blwyddyn Graddio 2013. CYSTADLEUYDD OLYMPAIDD.

GEMMA MCKINLAY BA yn y Dyniaethau. Blwyddyn Graddio 2019. MAM SENGL I SAI TH. MODEL RÔL ADDYSG.

SARAH POWELL BSc Seicoleg. Blwyddyn Graddio 1995. PRI F WEI THREDWR. CHWARAEWR HOCI . EIRIOLWR DROS CHWARAEON.

CHRISTIAN SAUNDERS

JAMIE TAGG BA Astudiaethau Americanaidd. Blwyddyn Graddio 2009. PERCHENNOG EAST CREAT IVE.CYFARWYDDWR GŴYL . CEFNOGWR LHDT+.

MSc Epidemioleg a Chynllunio Iechyd. Blwyddyn Graddio 1988. YN ARWAIN YMATEB Y CENHEDLOEDD UNEDIG I FFOADURIAID PALESTEINAIDD.

VERITY OCKENDEN

RENEE GODFREY BA Anthropoleg. Blwyddyn Graddio 2003. SYRFF IWR. CYFLWYNYDD A CHYNHYRCHYDD RHAGLENNI DOGFEN.

CAROL ROBINSON MSc Cemeg. Blwyddyn Graddio 1980. LLYWYDD Y GYMDEI THAS GEMEG FRENHINOL .

BA Saesneg ac Eidaleg. Blwyddyn Graddio 2014 . ATHLETWR. COGYDD. BARDD.

Gallwch ddarllen y proffiliau llawn yma: swan.ac/proffiliau

15

PROFFILIAU CYN-FYFYRWYR

YR ATHRO ANDY HOPPER

BSc Technoleg Gyfrifiadurol. Blwyddyn Graddio 1974. ATHRO. CYD-SYLFAENYDD CYFRI F IADURON ACORN.

Dwi’n meddwl y byddai’n deg dweud bod cyfrifiaduron wedi cael dylanwad mawr ar eich bywyd. Allwch chi siarad ychydig am hynny? Roedd Abertawe’n cynnig cwrs a oedd yn hynod dda i mi a’r myfyrwyr eraill achos, ar y pryd, roedd yn rhagweld pa mor bwysig fyddai cyfrifiaduron yn y byd yn y dyfodol. Enw’r cwrs oedd Technoleg Gyfrifiadurol. Digwyddais i ei astudio am resymau bydda i’n eu hesbonio, ond gwnaeth y cwrs hwnnw lywio fy ngyrfa gyfan. Beth oedd yn arbennig am y cwrs oedd ei fod yn cyfuno cyfrifiadureg ag electronig ac roedd yn cynnwys cyfrifeg ac economeg hefyd. Yn ystod y cyfnod pan oeddwn i yn Abertawe, roedd llawer o ryddid mewn

Sut daethoch chi i Abertawe? Tri rheswm. Pwyliad ydw i o ran genedigaeth a ches i fy magu’n siarad Pwyleg. Pan oeddwn i yn yr ysgol yn y DU, yn fy arddegau byddem yn treulio rhai o’n gwyliau haf ar fferm yn Llanybydder yng ngorllewin Cymru. Roedd rhai ffermwyr Pwylaidd wedi ymgartrefu yno ar ôl y rhyfel a threuliais i ambell haf yno. Yn ail, doeddwn i ddim wedi gwneud yn dda iawn yn yr ysgol (mae’r DU yn wahanol iawn i Wlad Pwyl), felly awgrymodd ffrind i’r teulu efallai y byddai’r busnes cyfrifiadura yma’n ddiddorol, ac yn drydydd, roeddwn i wedi gwneud cais am leoedd ym Manceinion ac Abertawe, ond doedd fy ngraddau ddim yn ddigon da i fynd i Fanceinion. Dwi ddim yn meddwl y ces i’r graddau ar gyfer Abertawe chwaith, ond gwnaeth Aspinall fy nerbyn serch hynny.

addysg. Roedd Abertawe’n eithaf arloesol, mewn ffordd dda. A dwi’n ddiolchgar i ddau berson yn benodol am hynny. Athro Peirianneg Drydanol o’r enw William Gosling – ei syniad ef oedd cynnig y cwrs – a dyn a gafodd ei recriwtio ganddo o Brifysgol Manceinion - David Aspinall a ddaeth yn Athro a chafodd ei recriwtio i arwain y cwrs yn Abertawe. Roedd gan Gosling lawer o gysylltiadau â diwydiant ac roedd hefyd yn Gyfarwyddwr Technegol cwmni o’r enw Plessey. Roedd yn gyfarwydd iawn, drwy ei waith, ag ochr ddiwydiannol pethau ac, wrth gwrs, i mi roedd hynny’n ysbrydoliaeth fawr oherwydd dyna rywbeth dwi wedi’i wneud yn fy ngyrfa oddi ar hynny. Mae fy ngyrfa wedi bod ag ochr academaidd a diwydiannol ar yr un pryd.

16

Beth yw eich hoff atgofion o Abertawe? Ces i amser gwych. Gwnaeth y brifysgol fy nghefnogi’n dda yn yr ystyr ehangach – yn y pwnc technegol ac yn fy mywyd cymdeithasol hefyd. Roedd y lleoliad yn hyfryd hefyd. Roeddwn i’n lwcus i fod yn berchen ar hen racsyn o gar. Drwy lanhau ffenestri, llwyddais i gynilo ychydig o arian i brynu Triumph Herald a oedd wedi gweld dyddiau gwell felly roedd gen i gerbyd, a oedd yn anarferol i fyfyriwr ar y pryd. Manteisiais i i’r eithaf arno, i fynd ar deithiau i benrhyn Gŵyr a lleoedd eraill. Roedd y bywyd cymdeithasol yn dda iawn a ches i gyfle i roi cynnig ar syrffio drwy glybiau chwaraeon y Brifysgol ac roedd byrddau syrffio gennym. Car codi to oedd y Triumph Herald, felly byddwn i’n clymu’r bwrdd syrffio ar draws y to a bant â ni. Roeddwn i’n sgïwr gweddol hefyd a ches i gyfle i fynd ar deithiau sgïo gyda phrifysgolion eraill i’r Alban ac yn y blaen. Fel rhywun sydd wedi sefydlu sawl menter, o ble daeth y syniadau am eich busnesau? Dwi ddim yn meddwl bod y byd academaidd ac ymchwil academaidd o angenrheidrwydd yn arwain at fusnes ar eu pennau eu hunain. Mae’n rhaid i chi fod yn yr amgylchedd iawn ac roedd gan Gaergrawnt ddiwylliant ac amgylchedd o adeiladu pethau sy’n ymarferol, yn ogystal â phethau eraill. Roedd yn rhan o’r DNA yno. Roedd fy ngradd PhD yn ymarferol iawn. Roeddwn i’n rhan o brosiect mwy a oedd yn ymwneud â rhwydwaith cyflymder uchel (roedd hyn cyn yr ether-rwyd). Dechreuodd nifer o gwmnïau fasnacheiddio hynny ac roedd gen i rôl fach yn y broses, felly dydw i ddim yn hollol gywir wrth ddweud nad oedd dim byd yn dod o waith Prifysgol ond roedd yn agored i bawb. Mae gan yr adran (a dwi’n falch o ddweud y bues i’n Bennaeth yr Adran honno am 14 o flynyddoedd) ddiwylliant cryf o gefnogi cydweithrediad â diwydiant. Yn y dyddiau hynny – ac i ryw raddau, mae hynny’n wir o hyd – roedd yr ochr ddiwydiannol yn cael ei hannog. Doedd dim angen cyfiawnhau hynny a doedd dim cyfyngiadau o gwbl. Drwy gael profiad diwydiannol – a chael eich annog i wneud hynny – y canlyniad ymarferol yw eich bod yn rhan o bortffolio. Rydych chi’n cyflawni mewn ystyr ehangach na nifer y papurau rydych chi wedi’u cyhoeddi. Aeth fy mhlant i’r brifysgol a dwi wrth fy modd bod pobl wedi eu haddysgu’n dda. Mae hynny’n dda, mae’n bwysig! Mae pethau pwysicach na rhagoriaeth ymchwil a dwi ar y brig yn fy adran a dyma fy sgôr REF ac yn y blaen. Felly, yn y dyddiau hynny, roedd symud rhwng diwydiant a’r byd

academaidd yn llawer haws na heddiw. Roeddwn i’n gallu gwneud pethau’n ddiwydiannol a fanteisiodd ar y rhyddid hwnnw, nid mewn ffordd linellol, ond roedd yn gysylltiedig â’r brifysgol am resymau ehangach a oedd yn ymwneud â chefndir, recriwtio, prototeipiau rhywbeth newydd neu arddangosiadau a fyddai’n tanio syniadau neu beth bynnag. Felly, dechreuodd yr holl gwmnïau’n annibynnol a deilliodd y syniadau amdanynt o gefndir gwaith arall, yn hytrach nag o’r Brifysgol. Datblygiad pwysig sy’n uniongyrchol berthnasol i hyn yw’r cwmni ARM. Roeddwn i’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn Acorn ac roeddwn i yn y brifysgol ar yr un pryd. Roedd hyn ar ddechrau’r 1980au ac roeddem wedi gwneud yn eithaf da gyda’r BBC Micro a oedd yn cynnwys sglodion a ddaeth o fy nghefndir yn y brifysgol, ond yr wybodaeth sy’n bwysig, nid y sglodion. Felly, ARM yw Acorn RISC Machines a RISC oedd cyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer y cyfrifiadur. Nid ni ddyfeisiodd hynny, cafodd ei ddatblygu ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley. Mae’n dechnoleg a gafodd ei throsglwyddo o’r UD a daeth hynny drwy’r ochr academaidd, nid drwy’r ochr ddiwydiannol. Roeddech chi ar flaen y gad ym maes cyfrifiadura yn y DU. Disgrifiwyd Acorn fel Apple Prydain. Sut profiad oedd bod yn y sefyllfa honno ar y pryd? Wel, ar y pryd roedd y sefyllfa’n teimlo’n gystadleuol iawn o hyd. Roedd cwmni bach o’r enw Apple, roedd cwmni bach o’r enw Intel. Felly wrth ddechrau’r prosiect microbrosesydd mewn cwmni o’r enw Acorn a’r prosiect ARM, roeddem yn ymwybodol bod Intel (a gynhyrchodd y microbrosesyddion roeddwn i’n eu defnyddio yn Abertawe ym 1971/1972) yn un o’r cewri. Nhw oedd ein cystadleuwyr. Mae’n rhaid eich bod yn hynod brysur. Oes amser sbâr gennych chi o gwbl a beth rydych yn ei wneud ag ef? Dwi ddim yn eithriadol o brysur oherwydd bod rhaid i chi ddirprwyo, ymddiried mewn pobl a maddau ac ati. Hedfan yw fy mhrif angerdd. Mae hedfan yn cyfuno nifer o bethau sydd o ddiddordeb i mi. Yn y bôn, peiriannydd ydw i, peiriannydd technoleg, Dwi’n hoffi electroneg a dwi’n hoffi potsian. Mae awyren fach gen i a dwi’n hoffi potsian â hi; systemau trydanol, d.c., a.c. systemau gwactod, systemau pwysedd, system danwydd, system olew, system afioneg, system ddadrewi, system propelor

cylchdro amrywiol, systemau offer glanio a hydroleg. Er fy mod i’n dweud potsian, efallai bydda i’n edrych ar bethau, profi rhai paramedrau, ond mae gen i bobl broffesiynol sy’n gofalu amdani ac yn sicrhau ei bod hi’n ddiogel i’w hedan! Dwi’n eithaf hoff o feicio ar benrhyn Gŵyr hefyd, felly bydda i’n taflu fy meic yng nghefn yr awyren, hedfan i lawr, treulio’r diwrnod yn beicio ac yna’n hedfan yn ôl gyda’r hwyr. O bryd i’w gilydd, bydda i’n galw heibio Tŷ Fulton am baned o de ond dwi ddim yn rhoi gwybod i neb ymlaen llaw, felly mae pobl siŵr o fod yn meddwl mai rhywun sydd wedi cerdded i mewn oddi ar y stryd ydw i. Felly, o’ch safbwynt ar flaen y gad ym maes technoleg, beth yn eich barn chi, fydd y datblygiad mawr nesaf yn y maes hwnnw? Dwi’n meddwl bod fframwaith cyfan cyfrifiadura a chynaliadwyedd yn gyffrous iawn. Dychmygwch, os ydym yn arsylwi ar y byd gan ddefnyddio synwyryddion, rhai awyrol yn bennaf, synwyryddion gwres a thechnegol, yn optimeiddio’r data yn y seiberofod ac yn bwydo hynny yn ôl i wella cynaliadwyedd y byd. Mewn geiriau eraill, gallai cyfrifiadura rheoli curiad calon y blaned. Bydd y dechnoleg yn parhau i ddatblygu ar garlam. Edrychwch ar y system leoli fyd-eang er enghraifft, gwasanaeth gwych sydd ar gael am ddim yn fyd-eang. Felly dychmygwch system tymheredd fyd-eang sy’n gallu rhoi tymheredd pob metr sgwâr ar y blaned, mewn amser real, i bawb, yn rhad ac am ddim. Byddai pob math o ben tost ynghlwm wrth hynny, moeseg, gwleidyddiaeth ac ati, dwi’n gwybod, ond rydych chi wedi gofyn y cwestiwn i mi a dwi’n amau y bydd agweddau pobl yn newid. Er enghraifft, mae tracio’r coronafeirws ar ffonau pobl yn dod yn dderbyniol lle byddai wedi bod yn ddiwedd y byd fis yn ôl. Yn yr un modd, wrth i’r capiau iâ ddechrau toddi a phan fydd llifogydd yn dechrau boddi dinasoedd, bydd pobl yn derbyn efallai fod hyn yn rhywbeth pwysig. Yn fy marn i, mae cyfrifiadura’n cefnogi cynaliadwyedd y blaned yn wobr wych ac yn rhywbeth hoffwn i ei weld.

DARLLEN MWY: Gallwch ddarllen y proffil llawn yma:

swan.ac/proffiliau

17

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26

Made with FlippingBook Learn more on our blog