Postgraduate Prospectus - WELSH

Discover why our School of Management is the perfect place to study and explore our courses, facilities, careers support and student experiences

YR YSGOL REOLAETH Cyfrifeg a Chyllid | Rheoli Busnes | Economeg | Marchnata | Twristiaeth PROSBECTWS ÔL-RADDEDIG 2020/21

GWYBODAETH BWYSIG – DARLLENWCH

Mae’r neges ganlynol yn cynnwys gwybodaeth bwysig iawn. Dylech ei darllen wrth ddefnyddio’r prosbectws. Argraffwyd y llyfryn hwn yng ngaeaf 2020. Mae’n cynnwys gwybodaeth am raglenni mae Prifysgol Abertawe’n bwriadu eu darparu i fyfyrwyr sydd am ddechrau eu hastudiaethau prifysgol yn hydref 2020. Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir ar ddyddiad ei chyhoeddi. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai newidiadau yn angenrheidiol i raglenni, lleoliadau astudio, cyfleusterau, ffioedd, neu efallai y bydd costau ychwanegol o ganlyniad i resymau staffio, ariannol, rheoleiddiol ac academaidd dilys. Byddwn bob amser yn ymdrechu i gadw newidiadau i leiafswm ac i hysbysu darpar fyfyrwyr yn briodol.

Caiff unrhyw newidiadau eu cyhoeddi ar dudalennau ar-lein y cyrsiau: swansea.ac.uk/cy/ol-raddedig/addysgir

1

2

UN O’R 30 O YSGOLION BUSNES GORAU AM RAGORIAETH YMCHWIL (REF 2014 – 21)

PROFIAD RHAGOROL I FYFYRWYR drwy gyfleoedd i ryngweithio âmyfyrwyr ôl-raddedig eraill, siaradwyr cyhoeddus ac arweinwyr diwydiant mewn seminarau, tiwtorialau a digwyddiadau rhwydweithio.

UN O’R 10 PRIFYSGOL ‘WYRDDAF’ (Guardian People & Planet University League 2019)

ADNODDAU DYSGU AC ADDYSGU O’R RADD

FLAENAF, DAFLIAD CARREG YN UNIG O’R TRAETH

Yn yr adolygiad diweddaraf gan Advance HE, dyfarnwyd Gwobr Efydd Siarter Athena SWAN i Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe am ei hymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau.

3

Mae sicrhau swydd â chyflog cychwynnol uwch yn fwy o her nawr nag erioed o’r blaen, ond bydd cymhwyster ôl-raddedig yn rhoi mantais ddefnyddiol i chi mewn marchnad cyflogaeth gystadleuol i raddedigion. Bydd y cymhwyster ychwanegol yn profi i gyflogwr bod gennych ddyfalbarhad, cadernid a’r gallu i ddatblygu gwybodaeth lefel uchel. Yma yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein darpariaeth o safon fyd-eang i raddedigion: os oes gennych ddiddordeb mewn gradd ôl- raddedig a addysgir neu radd ymchwil, mae gennym y cyfleusterau a’r arbenigedd i’ch helpu i lwyddo. Mae graddedigion ein rhaglenni ôl-raddedig yn gweithio i rai o fusnesau mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys PwC, KPMG, Deloitte a llawer eraill. Mae rhai hyd yn oed wedi sefydlu eu busnesau byd-eang eu hunain.

CYNNWYS

PAMASTUDIO YN ABERTAWE? CYFLOGADWYEDD ACHREDIAD CYFRIFEG A CHYLLID RHEOLI TWRISTIAETH MARCHNATA GWEINYDDU BUSNES (MBA) ECONOMEG

07 09 11 16 28 43 45 49 51

4

#bywydprifabertawe

#prifysgolabertawe

71

#taithNepal2019

PAM ASTUDIO YN

Abertawe?

BYWYD ABERTAWE Dinas sy’n cynnig y cyfan. Canol y ddinas, y traeth, y campysau: mae’n hawdd ac yn gyflym cyrraedd pen eich taith. P’un a ydych yn gwirioni ar chwaraeon, yn dwlu ar ddiwylliant neu’n awchu am antur awyr gored, bydd digon i’ch difyrru rhwng darlithoedd. Mae gan Benrhyn Gwyr bum traeth sydd wedi ennill Baner Las – o gildraethau llonydd i fannau poblogaidd i gynnal barbeciw traeth. Dyma faes chwarae perffaith ar gyfer anturiaethau awyr agored. Gallwch fynd ar gefn beic, loncian neu grwydro’n hamddenol ar hyd y promenâd i’r Mwmbwls, pentref swynol ar lan y môr lle gallwch brynu’r hufen iâ gorau. Ar ddiwrnodau gwlyb, gallwch ymweld ag Oriel Glynn Vivian a’r Mission Gallery yng nghanol y ddinas a’r Ganolfan Eifftaidd ar Gampws Singleton. Dylai’r rhai llengar yn eich plith ymweld o leiaf unwaith â chartref Dylan Thomas hefyd. Does dim lle gwell na’r Ardal Forwrol am ddiod ger y môr. Yn ogystal â chaffis a bariau mae’n gartref i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sy’n rhad ac am ddim.

BYWYD CAMPWS Mae Campws y Bae’n cynnig lle unigryw i fyfyrwyr fyw ac astudio gan fod Abertawe’n un o’r ychydig brifysgolion yn y byd sy’n meddu ar ei thraeth ei hun. Mae’r campws hefyd yn cynnig amrywiaeth drawiadol o gyfleusterau i fyfyrwyr, gan gynnwys llety en- suite, llyfrgell o’r radd flaenaf, casgliad mawr o gyfleusterau manwerthu a hamdden a gwasanaethau cymorth myfyrwyr heb eu hail. Mae’r Campws, sy’n gartref i’r Coleg Peirianneg a’r Ffowndri Gyfrifiadol, yn darparu amgylchedd o safon fyd-eang ar gyfer cydweithrediadau ymchwil, dysgu ac addysgu, mentergarwch ac arloesi.

PROFIAD RHAGOROL I FYFYRWYR Cewch gyfleoedd niferus i ryngweithio â myfyrwyr ôl-raddedig eraill, siaradwyr cyhoeddus, academyddion o fri rhyngwladol ac arweinwyr diwydiant drwy ddarlithoedd, seminarau a digwyddiadau rhwydweithio.

7

CHWARAEON YN ABERTAWE Mae Adran Chwaraeon y Brifysgol,

Mae gan Gampws y Bae Neuadd Chwaraeon uchder llawn sy’n addas ar gyfer pêl-fasged, badminton, pêl-rwyd, pêl foli, cleddyfaeth a saethyddiaeth. Hefyd ceir campfa â’r holl gyfarpar angenrheidiol ac ystafell lle cynhelir dosbarthiadau troelli a phwysau tegell, yn ogystal â chyfleusterau newid. Mae’r cyfleusterau eraill yn cynnwys ardal aml-ddefnydd â llifoleuadau, cwrt pêl-fasged hanner maint a chaeau hyfforddi. UNDEB Y MYFYRWYR HYNOD GYMDEITHASOL Holl bwrpas Undeb y Myfyrwyr yw sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib yn y brifysgol. Mae gennym 120 o gymdeithasau, 50 o glybiau chwaraeon a 12 mis o ddigwyddiadau na ddylai neb eu colli. Os ydych am gael profiad o’r cyfryngau, rhoi cynnig ar hobi newydd neu leisio eich barn am rywbeth sy’n bwysig i chi, mae ffordd i bawb gyfrannu.

‘Chwaraeon Abertawe’, yn cwmpasu pob agwedd ar chwaraeon a hamdden, ac mae croeso i bawb, waeth beth yw lefel eu gallu chwaraeon. Mae gennym gysylltiadau cryf â Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe a thimau rygbi proffesiynol y rhanbarthau, y Gweilch a’r Scarlets, sy’n hyfforddi ar ein safleoedd. ddigwyddiad mwyaf yng Ngemau Farsity Prydain, ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt. Yn Farsity, mae prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn cystadlu mewn dros 25 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci, i gleddyfaeth, sboncen a ffrisbî Her Farsity Cymru yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru a’r ail eithafol. Mae llawer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i gynrychioli eu gwlad ac i ennill contractau gyda chlybiau proffesiynol a lled-broffesiynol ar ôl perfformiadau gwych yng Ngêm Farsity Cymru.

8

CYFLOGADWYEDD Yr Ysgol Reolaeth yw’r unig Ysgol yn y Brifysgol sydd â’i thîm o ymgynghorwyr gyrfa ei hun. Gyda hanes trawiadol o helpu myfyrwyr i sicrhau cyflogaeth, mae ein tîm Cyflogadwyedd pwrpasol yn ymrwymedig i wneud yn siwr eich bod yn derbyn y cymorth gorau sydd ar gael, fel y byddwch yn graddio â’r sgiliau a’r profiad angenrheidiol i’ch helpu i lwyddo yn eich gyrfa ddelfrydol ar ôl graddio.

MAE EIN CYMORTH YN CYNNWYS:

GWELLA RHAGOLYGON GYRFA MYFYRWYR Mae cyflogwyr yn chwilio am fwy na gradd wrth ystyried ceisiadau am swyddi gan raddedigion. Dewch draw unrhyw bryd i’n Hyb Cyflogadwyedd a siarad ag un o’n Hymgynghorwyr Gyrfa arbenigol i weld sut gallan nhw eich helpu i gael y fantais gystadleuol honno sy’n hanfodol yn y farchnad swyddi graddedigion. Mae tîm Cyflogadwyedd yr Ysgol yn wych a gallan nhw helpu gyda’ch holl gwestiynau: o gyfleoedd i gael eich mentora i leoliadau gwaith neu swydd ar ôl graddio. E mm a Sk inn er ECONOMEG

Apwyntiadau personol

Sesiynau grwp

Digwyddiadau rhwydweithio i gwrdd â darpar gyflogwyr Ymweliadau gan gwmnïau i’ch ysbrydoli wrth ddewis gyrfa Cymorth wrth wneud ceisiadau am swyddi

Profiad gwaith

Cymorth, arweiniad a chynllunio gyrfa pwrpasol

Mae

o’r myfyrwyr sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth gyrfaoedd yn dweud bod y tîm wedi gwneud gwahaniaeth i’w profiad yn y brifysgol * *Arolwg adborth o apwyntiadau gyda’r Gwasanaeth Gyrfaoedd 2018

9

CYSYLLTWCH Â NI E -BOST: astudio@abertawe.ac.uk FFÔN: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

CYNLLUN MENTORA CYFLOGADWYEDD

MAE EIN CYSYLLTIADAU Â DIWYDIANT YN CYNNWYS:

Caiff myfyrwyr yr Ysgol Reolaeth gyfle i gymryd rhan yn ein Cynllun Mentora Cyflogadwyedd unigryw sy’n para chwe mis. Yn y cynllun, mae myfyriwr yn gweithio gyda mentor ym myd busnes i feithrin sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ac i gael profiad gwerthfawr o fyd gwaith. Gallai’r berthynas rydych yn ei meithrin â’ch mentor fod yn un o’r rhai pwysicaf a mwyaf gwerthfawr byddwch yn eu datblygu ar hyd eich gyrfa. Gall eich mentor helpu i’ch arwain yn eich gyrfa a’ch helpu i greu cysylltiadau pwysig ag ymarferwyr proffesiynol eraill a chwmnïau.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Cynllun Mentora, ewch i:

swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/cyfleoedd- i-fyfyrwyr/cynllun-mentora-cyflogadwyedd

10

ACHREDIAD Mae achrediad yn golygu bod corff proffesiynol perthnasol wedi cymeradwyo cwrs fel un sy’n bodloni ei safonau ansawdd. Mae’n amlygu cysylltiad agos rhwng diwydiant a’ch cwrs ac yn golygu bod ymarfer blaengar, a ddefnyddir yn y byd go iawn, yn rhan o’ch astudiaethau. Mae cyrsiau wedi’u hachredu yn cyfrif tuag at gymwysterau a chofrestriadau proffesiynol a gallant eich rhoi ar lwybr carlam yn eich gyrfa. Mae nifer o’n graddau wedi’u hachredu sy’n golygu y bydd gennych nifer o achrediadau yn ogystal â’ch gradd, rhywbeth sy’n hynod ddeniadol i ddarpar gyflogwyr.

Y MANTEISION Cychwyn cadarn: drwy wneud gradd sydd wedi’i hachredu gan gorff proffesiynol, ni fydd rhaid i chi sefyll arholiadau proffesiynol/cymwysterau gyrfa gynnar penodol, a fydd yn rhoi hwb i chi yn eich gyrfa. Cymorth: Bydd aelodaeth myfyriwr o gorff proffesiynol, yn rhoi cyfle i chi fanteisio ar gymorth gyrfa y corff hwnnw, yn ogystal â chysylltiadau â chymheiriaid ac arbenigwyr. Mae’n edrych yn dda ar eich CV ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth.

11

Mae Sefydliad y Bancwyr Siartredig wedi achredu’r rhaglen MSc mewn Bancio a Chyllid Rhyngwladol yn ffurfiol. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd am gael sylfaen gadarn i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn bancio, masnachu neu ddadansoddi ariannol. Mae Cymdeithas y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn gorff cyfrifyddiaeth rhyngwladol blaenllaw. Mae cymhwyster gan yr ACCA yn dangos i gyflogwyr bod gennych allu ym mhob agwedd ar fusnes. Mae AACSB International (AACSB) yn gymdeithas nid er elw fyd-eang sy’n cysylltu addysgwyr, myfyrwyr a busnesau er mwyn cyflawni nod cyffredin: creu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr mawr. Yn gyfystyr â’r safonau rhagoriaeth uchaf ers 1916, mae AACSB yn darparu gwasanaethau sicrhau ansawdd, gwybodaeth addysg busnes a dysgu a datblygu i dros 1,700 o sefydliadau sy’n aelodau a mwy nag 800 o ysgolion busnes achrededig ledled y byd.

Mae Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig yn gymdeithas fyd- eang o ymarferwyr buddsoddi proffesiynol sy’n pennu safon rhagoriaeth yn y diwydiant.

Mae Sefydliad y Bancwyr Siartredig wedi achredu’r rhaglen MSc mewn Bancio a Chyllid Rhyngwladol yn ffurfiol. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd am gael sylfaen gadarn i’w paratoi ar gyfer gyrfaoedd mewn bancio, masnachu neu ddadansoddi ariannol.

Mae’r Sefydliad Marchnata Siartredig yn gorff proffesiynol yn y DU sy’n cynnig hyfforddiant a chymwysterau mewn Marchnata a phynciau perthnasol.

12

BETH YW’R GWAHANIAETH RHWNG GRADD A ADDYSGIR A GRADD YMCHWILE?

Cewch ddewis modiwlau penodol i baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol benodol Byddwch yn datblygu gwybodaeth mewn pwnc arbenigol rydych wedi’i astudio o’r blaen

Byddwch yn mynychu darlithoedd a seminarau

Cewch eich asesu ar sail aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau

Fel arfer, byddwch yn cwblhau traethawd estynedig

1 flwyddyn amser llawn neu 2 flynedd rhan-amser

13

1 af YN NGHYMRU AM EFFAITH YMCHWIL SY’N ARWAIN Y FFORDD YN FYD-EANG (REF 2014 – 21)

Byddwch yn ymchwilio’n fanwl i faes o ddiddordeb neu bwnc penodol Mae’r pwyslais Mae’r pwyslais ar astudio annibynnol

Cewch arweiniad a chymorth gan oruchwyliwr

Y canlyniad fydd darn unigryw o waith sy’n cynnwys gwybodaeth newydd mewn maes penodol Cewch eich asesu ar sail traethawd ymchwil terfynol ac arholiad llafar

MRes a Meistr: 1 flwyddyn amser llawn neu 2 flynedd rhan-amser PhD: 3 blynedd amser llawn neu 6 blynedd rhan-amser

MPhil: 2 flynedd amser llawn 4 blynedd rhan-amser

14

Fyfyriwr Meistr YR HYN A DDISGWYLIR GAN Mae rhaglenni israddedig wedi’u cynllunio i gyflwyno’r sylfaen wybodaeth mewn maes penodol i fyfyrwyr ond mae graddau ôl-raddedig yn gofyn am lefel uwch o O ganlyniad, ystyrir bod unigolion â gradd ôl-raddedig yn fwy cymwysedig. Mae’r buddion ariannol ac emosiynol yn werth yr ymrwymiad yn bendant a gall wella eich

ddealltwriaeth ac annibyniaeth a gwybodaeth fwy arbenigol. Efallai y bydd eich amserlen yn cynnwys llai o ddarlithoedd o’i chymharu â gradd israddedig; fodd bynnag, bydd llawer o astudio mwy annibynnol a hunan-gyfeiriedig.

rhagolygon gyrfa a chyflog yn fawr. Bydd yn hwb hefyd i’ch hyder a’ch hunan-barch oherwydd natur annibynnol cymhwyster ôl-raddedig.

15

CYFRIFEG A CHYLLID

YNGLYN Â’R ADRAN:

MEYSYDD ARBENIGEDD:

• Econometreg Gymhwysol ac Ariannol • Cyllid Empirig • Dadansoddi Cyfres Amser • Marchnadoedd Ar-lein • Economïau Marchnad Datblygol • Bancio • Cyllid Corfforaethol • Rheoleiddio Ariannol 17 EG YN Y DU AM GYFRIFEG A CHYLLID (Times Good University Guide 2020/21)

O raddau Meistr i astudio am PhD, rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Mae gennym raglenni ôl-raddedig a addysgir ac ymchwil, felly gallwn ddiwallu eich anghenion pa lwybr bynnag sy’n apelio atoch. Mae’r rhaglenni hyn yn ddelfrydol os hoffech symud i yrfa mewn cyfrifyddiaeth neu faes cyllid. Maent i gyd yn ymdrin â phrif egwyddorion cyllid a’r methodolegau meintiol sy’n berthnasol i gyfrifyddiaeth a byd cyllid. Mae llawer o’n modiwlau’n cynnig achrediad proffesiynol gan Gymdeithas y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae gennym gysylltiadau cryf hefyd â’r Gymdeithas Ariannol Siartredig (FCA), felly bydd ein rhaglenni yn eich rhoi ar y llwybr carlam mewn cyfrifyddiaeth a chyllid drwy eich cysylltu â chyrff proffesiynol neu eich eithrio o sefyll arholiadau proffesiynol allweddol. Byddwch yn elwa o’n lleoliad ar Gampws y Bae arloesol sy’n gartref i gwmnïau blaenllaw megis Fujitsu. Mae ein cyfadran addysgu yn arwain y ffordd ym maes ymchwil ac mae gan ein staff brofiad helaeth o’r byd proffesiynol hefyd. Rydym yn canolbwyntio ar gyflogadwyedd ein myfyrwyr ac felly, rydym yn sicrhau ein bod yn cynnig achrediad drwy Sefydliad y Dadansoddwyr Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig a Sefydliad y Cyfrifyddion Ardystiedig Siartredig (ACCA). Gall achrediad yr ACCA yn benodol eich eithrio o sefyll hyd at saith o arholiadau sylfaenol y Gymdeithas. Bydd y berthynas agos hon â chyrff proffesiynol yn gwella eich rhagolygon gyrfa a rhoi mantais i’ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.

YN Y DU AM ANSAWDD YMCHWIL (Complete Graduate Guide 2020/21) 23 AIN

Yr Athro Cysylltiol Sarah Jones PENNAETH YR ADRAN CYFR I FEG A CHYL L ID

16

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc CYFRIFEG A CHYLLID*

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

Cynlluniwyd y rhaglen hon yn benodol i wella rhagolygon cyflogaeth drwy gynnig cyfle i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth fanwl ac uwch o bynciau allweddol ym maes cyfrifeg a chyllid. Bydd graddedigion y rhaglen hon yn meddu ar wybodaeth uwch am offer a thechnegau allweddol mewn cyfrifeg a chyllid, modelu ariannol a chyfrifyddiaeth ariannol a rheoli. Hefyd, gall myfyrwyr elwa o hyd at saith eithriad o sefyll arholiadau sylfaenol yr ACCA ar y rhaglen hon. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig.

*Caiff y cwrs hwn ei ailenwi yn MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ar gyfer mynediad ym mis Medi 2021.

Ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Dadansoddwr Ariannol Masnachol • Arweinydd Tîm Cyllid • Swyddog Archwilio • Goruchwyliwr Ariannol

• Prosiect Annibynnol • Egwyddorion Cyllid • Marchnadoedd Ariannol Rhyngwladol • Paratoi a Dadansoddi Cyfriflenni Ariannol

17

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc CYLLID A DADANSODDEG DATA MAWR

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

Mae’r rhaglen hon, a gynlluniwyd i gysylltu dau faes allweddol, sef cyllid a dadansoddeg busnes, yn mabwysiadu ymagwedd a ysgogir gan ddata at dadansoddi marchnadoedd ariannol a gwybodaeth sefydliadol. Yn ogystal, mae’n ymdrin â phrif egwyddorion cyllid, modelu ariannol a marchnadoedd ariannol ac yn paratoi myfyrwyr i weithio ym meysydd cyllid a rheoli ariannol sy’n cael eu hysgogi gan ddata. Hefyd, gall myfyrwyr ennill hyd at bum eithriad o sefyll arholiadau sylfaenol yr ACCA ar y rhaglen hon. Mae’r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig.

Ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Bancio Buddsoddi • Uwch-rolau Cyllid mewn Sefydliadau Rhyngwladol • Ymgynghori ar Reoli • Dadansoddi Data

• Paratoi a Dadansoddi Cyfriflenni Ariannol • Cyllid Empirig • Data Mawr mewn Cyllid • Cyllid Ymddygiadol

18

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc RHEOLI ARIANNOL RHYNGWLADOL

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

Yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn symud i yrfa ym maes cyllid, mae’r rhaglen hon yn cyfuno damcaniaeth academaidd cyllid â safbwynt ymarferol cryf, gan feithrin dealltwriaeth gadarn o gyllid a disgyblaethau cysylltiedig. Gall myfyrwyr hefyd elwa o hyd at bum eithriad o sefyll arholiadau sylfaenol yr ACCA ar y rhaglen hon. Mae’r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig. Dylai myfyrwyr sydd am astudio cyllid ochr yn ochr â maes rheoli arbenigol edrych ar y rhaglen MSc mewn Rheoli (Cyllid) ar dudalen 34. Students on this programme have the opportuntiy to choose their programme distinction, MSc or MFin, depending on what’s most appealing to their region. .

Ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir israddedig

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Ymgynghorydd Trethi Cynorthwyol • Ymgynghorydd TG

• Egwyddorion Cyllid • Rheoli Asedau • Cyfrifyddu Rheoli • Dull Ymchwil Feintiol

• Cyfrifydd dan Hyfforddiant • Ymgynghorydd Recriwtio

19

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc CYLLID RHYNGWLADOL Yn addas ar gyfer graddedigion sy’n chwilio am raglen arbenigol i’w rhoi ar y llwybr carlam i yrfa mewn cyllid; mae’r rhaglen hon yn cyfuno damcaniaeth academaidd cyllid â safbwynt ymarferol cryf, gan ddefnyddio tueddiadau ac ymarfer proffesiynol cyfredol i lywio addysgu a thrafodaeth. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o rôl a phwysigrwydd gwybodaeth gyfrifyddu i reolaeth ariannol sefydliadau cymhleth a byddwch yn graddio â dealltwriaeth gref o gyllid a’i ddisgyblaethau cysylltiedig. I gael eich derbyn i’r rhaglen hon, rhaid eich bod wedi astudio cyfrifeg neu gyllid o’r blaen. Does dim angen gradd â ‘Chyfrifeg a Chyllid’ yn y teitl ond gall fod yn radd mewn economeg, busnes neu raglen gyffredinol ag elfen sylweddol o gyfrifeg neu gyllid yn y cynnwys.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Moeseg a Gwarantau Incwm Sefydlog • Llywodraethu a Moeseg Gorfforaethol • Marchnata Ariannol a Sefydliadau Rhyngwladol • Econometreg Ariannol

• Dadansoddwr Ariannol • Banciwr Buddsoddi • Ymgynghorydd TG • Archwilydd

20

20

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc BANCIO A CHYLLID RHYNGWLADOL

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer graddedigion sydd am feithrin sylfaen gadarn mewn bancio a chyllid rhyngwladol i’w paratoi ar gyfer gyrfa mewn bancio, masnachu neu ddadansoddi ariannol. Bydd yn galluogi myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth uwch o egwyddorion a thechnegau cyllid, datblygu, masnach a bancio rhyngwladol, gwybodaeth am weithgareddau marchnadoedd ariannol a sefydliadau ariannol mewn economïau datblygedig a datblygol, a gwerthfawrogiad o rôl rheoli risg mewn sefydliadau cymhleth. I gael eich derbyn i’r rhaglen hon, rhaid eich bod wedi astudio cyfrifeg neu gyllid o’r blaen. Does dim angen gradd â ‘Chyfrifeg a Chyllid’ yn y teitl ond gallai fod yn rhaglen economeg neu fusnes neu raglen gyffredinol ag elfen sylweddol o gyfrifeg neu gyllid yn y cynnwys.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Dadansoddwr Ariannol • Banciwr Buddsoddi • Ymgynghorydd Buddsoddi

• Prosiect Ariannol • Data Mawr mewn Cyllid • Cyllid Empirig • Rheoli Risg

21

21

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc RHEOLI BUDDSODDIADAU

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar reoli cyllid a buddsoddiadau ac mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Ariannol Siartredig (CFA). Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth uwch o reoli asedau a risg mewn sefydliadau cymhleth, gan eu paratoi i fod yn fasnachwyr ac yn rheolwyr buddsoddiadau’r dyfodol. I gael eich derbyn i’r rhaglen hon, rhaid eich bod wedi astudio cyfrifeg neu gyllid o’r blaen. Does dim angen gradd â ‘Chyfrifeg a Chyllid’ yn y teitl ond gallai fod yn rhaglen economeg, busnes neu raglen gyffredinol ag elfen sylweddol o gyfrifeg neu gyllid yn y cynnwys.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,200 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Cyllid Ymddygiadol • Marchnata Ariannol a Sefydliadau Rhyngwladol • Cyllid Corfforaethol • Rheoli Risg

• Masnachwr Buddsoddi • Dadansoddwr Ariannol • Rheolwr Buddsoddiadau

22

22

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

Fel rhan o’r radd Meistr uchelgeisiol hon, byddwch yn dysgu’r damcaniaethau a’r arferion diweddaraf a sut i’w rhoi ar waith fel cyfrifydd proffesiynol, wrth i ni eich paratoi ar gyfer arholiadau proffesiynol yr ACCA. Ni fydd angen i fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglen MSc hon ac sy’n llwyddo yn holl bapurau proffesiynol yr ACCA astudio ymhellach a byddant yn gallu canolbwyntio’n llwyr ar eu gyrfa. O’ch diwrnod cyntaf yn yr Ysgol Reolaeth, byddwn yn gweithio gyda chi i’ch helpu i gynyddu eich sgiliau a’ch profiad er mwyn gwella eich rhagolygon gyrfa. Cewch gyngor pwrpasol un i un diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm gyrfaoedd ymroddedig. Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o’n lleoliad ar Gampws y Bae arloesol a chyfle i weithio gyda chwmnïau megis Fujitsu, mewn cyfleusterau â mannau addysgu ac astudio penodol a chyfleusterau TG helaeth â’r galedwedd a’r feddalwedd arbenigol ddiweddaraf. MSc CYFRIFEG STRATEGOL

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,000 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). ynghyd â phapurau sylfaenol ACCA F1 i F9. Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Rheoli Perfformiad Uwch • Archwilio a Sicrwydd Uwch

• Cyfrifydd Ariannol Strategol • Cyfrifydd Cyfalaf • Cyfrifydd Rheoli • Rheolwr Archwilio a Chyfrifon

• Adrodd Corfforaethol • Dull Ymchwil Feintiol

23

23

MAE CYNLLUN Y CWRS YN RHOI AMSER ICHI SEFYLL ARHOLIADAU ACCA AR ÔL POB MODIWL. GOLYGA HYN, ERBYN DIWEDD Y CWRS, BYDDAF WEDI CWBLHAU FY HOLL ARHOLIADAU CYFRIFEG SIARTREDIG, YN OGYSTAL AG ENNILL GRADD MEISTR. Emma MacCleaster MSc CYFR I FEG STRATEGOL

24

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc TECHNOLEG ARIANNOL (FINTECH)

Mae technolegau sy’n tarfu yn effeithio ar bob maes gwasanaethau ariannol ac er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau i ddod ymlaen yn y maes hwn, mae’r rhaglen MSc mewn Technoleg Ariannol (FinTech) wedi cael ei datblygu ar gyfer graddedigion nad ydynt yn arbenigwyr mewn cyfrifiadureg, sydd â gradd gyntaf mewn busnes, cyllid, mathemateg neu economeg ac sydd eisiau meithrin rhagor o ymwybyddiaeth a sgiliau ym maes Technoleg Ariannol. Dyma'r rhaglen berffaith i'r rhai sy'n dymuno datblygu eu cysyniad ap eu hunain a'i gael i'r farchnad. Bydd y rhaglen hon yn ystyried defnydd technoleg ariannol ym myd bancio, yswiriant, rheoli asedau a llawer o sectorau ariannol eraill. Byddwch yn cael gwybodaeth arloesol am ddefnydd technoleg ‘blockchain’, arian digidol, Data Mawr a deallusrwydd artiffisial yn y byd ariannol.

Rhan-amser (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £11,250 Tuition Fees Per Year International: £19,050 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth). Gofyniad Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

FUTURE CAREERS:

EXAMPLE MODULES:

• Rheolwr Datblygu Busnes • Arbenigwr Data • Dadansoddwr Ariannol • Rheolwr Cynnyrch

• Diogelwch Rhwydwaith • Rheoli Arloesedd • Amgylchedd Technoleg Ariannol • Blockchain, Crypto-arian Chontractau Doeth

25

25

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc CYFRIFEG BROFFESIYNOL Bydd y rhaglen MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn caniatáu i gyfrifyddion cymwysedig ymuno â modiwl prosiect annibynnol i ennill yr MSc. Mae’n rhaid eich bod wedi ennill eich cymhwyster fel cyfrifydd gyda’r cyrff proffesiynol yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a bydd gennych gredydau o’ch dysgu blaenorol fel cyfrifydd cymwysedig. Hefyd, disgwylir i chi gwblhau ail fodiwl mewn Dulliau Ymchwil Feintiol i’ch paratoi ar gyfer y prosiect annibynnol a gallwch wneud hyn o bell, sy’n caniatáu i fyfyrwyr gwblhau fel dysgwyr o bell. Bydd ehangder ymchwil, addysgu ac arbenigedd ymarferol y tîm addysgu yn cyfoethogi eich datblygiad, a bydd y rhaglen yn elwa o gysylltiadau â chymdeithasau a rhwydweithiau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Caiff yr MSc mewn Cyfrifeg Broffesiynol ei chynnig ddwywaith ym mhob blwyddyn academaidd a bydd dau gyfnod derbyn – mis Mai a mis Medi.

Rhan-amser (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £3,000 GofynionMynediad: Bydd gan fyfyrwyr gyfwerth â 120 credyd o ddysgu blaenorol, h.y. y rhai sydd wedi ennill cymhwyster gan gorff proffesiynol cydnabyddedig yn ystod y pum mlynedd diwethaf, IELTS 6.0 (o leiaf 5.5. ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

GYRFAOEDD POSIB:

• Dulliau Ymchwil Feintiol • Prosiect Annibynnol

• Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus • Arbenigwr Trethi • Arbenigwr Archwilio • Cyfrifydd Rheoli

26

MWYNHEAIS I'R DEWIS O FODIWLAU AR FY NGHWRS YN FAWR IAWN, ROEDD YR ACADEMYDDION YN DDIDDOROL AC MAE'N AMLWG EU BOD YN MWYNHAU EU PWNC AC MAE'N ANODD IAWN I MI FYNEGI PA MOR DDIOLCHGAR YDW I I'R TÎM GYRFAOEDD AM EU CEFNOGAETH GYDA'M CEISIADAU CYNLLUN GRADDEDIG. MAE'R YSGOL REOLAETH YN YSGOL O'R

RADD FLAENAF MEWN SEFYDLIAD O'R RADD FLAENAF. George Miller MSc ACCOUNTINGAND FINANCE AND BSc BUSINESSMANAGEMENT GRADUATE

27

RHEOLI BUSNES

MEYSYDD ARBENIGEDD:

YNGLYN Â’R ADRAN:

• Rheoli Prosiect • Entrepreneuriaeth • Cynaliadwyedd • Rheoli Arloesedd

Mae ein rhaglenni busnes a addysgir wedi’u cynllunio i wella eich cyflogadwyedd a gallwch elwa o dîm o ymgynghorwyr gyrfa â’r wybodaeth arbenigol am sut i lansio eich gyrfa. Rydym wedi datblygu’r rhaglenni MSc mewn Rheoli ar gyfer myfyrwyr â graddau israddedig mewn unrhyw ddisgyblaeth, ac mae ein tîm o arbenigwyr proffesiynol yn darparu addysgu ymarferol a arweinir gan ymchwil. P’un a ydych yn dewis ein gradd rheoli busnes cyffredinol neu un o’n llwybrau arbenigol, mae pob un o’n cyrsiau wedi’i strwythuro i ganiatáu hyblygrwydd fel y gallwch deilwra eich modiwlau ac, yn y pen draw, eich gradd, i gydweddu â’ch dyheadau gyrfa sy’n datblygu. Mae’r rhaglen wedi’i hachredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol yn y DU sy’n ymroddedig i hyrwyddo’r safonau uchaf o ragoriaeth mewn rheoli ac arweinyddiaeth. Mae cyflogadwyedd a phrofiad y myfyrwyr ar frig ein hagenda ac mae gennym hanes ardderchog o helpu ein graddedigion i sicrhau swyddi gyda chwmnïau aml-wladol mawr. Mae ein hacademyddion o fri rhyngwladol, ynghyd â’n rhaglenni wedi’u teilwra, yn ymdrechu i roi’r cychwyn gorau posib i’n myfyrwyr yn y meysydd maent yn eu dewis. Un ffordd rydym yn gwneud hyn yw drwy achredu ein cyrsiau gyda’r Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), sef yr unig sefydliad siartredig yn y DU sy’n ymroddedig i hyrwyddo’r safonau uchaf o ragoriaeth mewn rheoli ac arweinyddiaeth.

• Ymddygiad Sefydliadol • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol • Rheoli Cadwyni Cyflenwi • E-fasnach

10 YSGOL ORAU YN Y DU AM YMCHWIL SY’N ARWAIN Y FFORDD YN FYD-EANG (REF 2014 – 21) UN O’R

DATBLYGU SGILIAU MEWN SAWL MAES RHEOLI BUSNES

Yr Athro Paul Jones PENNAETH YR ADRAN RHEOL I BUSNES

28

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI

Rydym yn cynnig y rhaglen un flwyddyn hon fel cwrs paratoi ar gyfer rheoli ac mae’n agored i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth israddedig. Mae’n ymdrin ag egwyddorion rheoli craidd, megis marchnata rhyngwladol, rheoli gweithrediadau, strategaeth fyd-eang, rheoli cyllid ac adnoddau dynol, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250 DiplomaÔl-raddedig (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £7,250 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £12,350 GofynionMynediad: Gradd 2:2 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth (neu gymhwyster tramor cyfwerth). Gofynion Iaith Saesneg: IELTS 6.0 (o leiaf 5.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Entrepreneur • Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Rheoli • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

• Traethawd Estynedig • Rheoli Adnoddau Ariannol • Rheoli Adnoddau Dynol • Rheoli Marchnata • Rheoli Gweithrediadau

29

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (DADANSODDEG FUSNES)

Mae sefydliadau blaenllaw yn defnyddio data a dadansoddeg i lywio eu penderfyniadau strategol a gweithrediadol. Bydd y llwybr hwn yn rhoi dealltwriaeth drylwyr i chi o sut mae data’n cael ei ddefnyddio yn y byd corfforaethol, o’r data y tu ôl i’r rhyngrwyd i logisteg rheoli piblinell gyflenwi fyd-eang. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer gyrfa yn oes ‘data mawr’ ac mae’n ymdrin ag egwyddorion rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Dadansoddwr Gwybodaeth Fusnes • Gwyddonydd Data • Dadansoddwr neu Ymchwilydd • Partner Busnes AD

• Traethawd Estynedig • Rheoli Adnoddau Ariannol • Strategaeth • Cloddio Data • Dadansoddeg Fusnes

30

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (BUSNES DIGIDOL)

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae galw cynyddol am reolwyr sy'n gallu deall pwysigrwydd technoleg mewn perthynas â sylfeini'r sefydliad a gwerthfawrogi galluoedd technolegau digidol newydd o fewn y cyd-destun sefydliadol lle cânt eu defnyddio. Bydd y rhaglen hon yn rhoi ffocws dwys i chi ar effaith Systemau Gwybodaeth ar sefydliadau a'r heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â modelau busnes newydd, gan ymdrin â phynciau megis systemau gwybodaeth heddiw a busnes digidol.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

GET IN TOUCH Email: study@swansea.ac.uk Tel: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/som

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Arbenigwr Trawsnewid Digidol • Dadansoddwr Busnes Digidol • Ymgynghorydd Rheoli

• Rheoli Adnoddau Ariannol • Rheoli Marchnata • Busnes Digidol • Strategaeth

31

RWY'N HYDERUS Y BYDD FY NGRADD MEISTR O BRIFYSGOL ABERTAWE YN FY RHOI BEN AC YSGWYDDAU UWCHLAW YMGEISWYR ERAILL WRTH GYFLWYNO CAIS AM SWYDDI A RHAGLENNI HYFFORDDI I RADDEDIGION. Amy Hillman MSC RHEOL I ( RHEOL I ADNODDAU DYNOL ) GRADDEDIG

32

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (MENTER AC ARLOESI)

Ydy gweithio i chi eich hun, pennu eich agenda a’ch nodau eich hun yn apelio atoch ? A fu’n uchelgais gennych erioed i sefydlu eich busnes eich hun ? Os oes gennych yr ysbryd entrepreneuraidd, yr ymrwymiad a’r dyfalbarhad, gallwch weithio unrhyw le yn y byd a fydd dim terfyn ar eich uchelgeisiau. Bydd y rhaglen hon yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol i chi o natur entrepreneuriaeth, rôl entrepreneuriaid yn yr economi a modelau gweithredu busnesau entrepreneuraidd. Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i sefydlu, gweithredu a thyfu eich busnes eich hun. Bydd y radd hon yn berthnasol hefyd os hoffech weithio mewn sefydliad mawr ac os oes gennych ddiddordeb mewn newid entrepreneuraidd.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Entrepreneur • Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Rheoli

• Strategaeth • Cynllunio Busnes • Damcaniaeth Entrepreneuriaeth a Rheoli Busnes Bach • Traethawd Estynedig

33

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (CYLLID)

Mae’r rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cyllid neu yrfa ym maes cyllid ond nad ydynt am wneud gradd Cyfrifeg a Chyllid lawn. Byddwch yn astudio modiwlau mewn pynciau cyllid uwch, megis egwyddorion cyllid corfforaethol a rheoli adnoddau ariannol. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal ag egwyddorion rheoli craidd megis rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Ymgynghorydd Rheoli • Partner Busnes AD • Ymgynghorydd Ariannol • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

• Rheoli Adnoddau Ariannol • Rheoli Gweithrediadau • Egwyddorion Cyllid Corfforaethol • Dulliau Ymchwil

34

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (RHEOLI ADNODDAU DYNOL)

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer pawb sydd â diddordeb yn elfen ddynol rheoli busnes, o rheoli adnoddau dynol clasurol i feysydd megis arweinyddiaeth a rheoli elfennau dynol busnes mewn cyd-destun byd-eang dynamig. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal ag egwyddorion rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Partner Busnes AD • Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Rheoli

• Rheoli Adnoddau Dynol • Rheoli Marchnata • Arweinyddiaeth • Rheoli Adnoddau Dynol Rhyngwladol

35

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (RHEOLI RHYNGWLADOL)

Oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa ym myd cyffrous busnes rhyngwladol ? Hoffech chi weithio dramor neu mewn sefydliadau sy’n gweithredu ar raddfa fyd-eang ? Mae’n farchnad sy’n tyfu lle ceir llawer o gyfleoedd swyddi, wrth i gwmnïau byd-eang wella eu cysylltiadau a chwilio am arweinwyr a rheolwyr y dyfodol. Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd am ganolbwyntio’n benodol ar gyfleoedd a heriau busnes mewn marchnad fyd-eang a chyd-gysylltiedig. Byddwch yn astudio modiwlau mewn rheoli busnes byd-eang a rhyngwladol cyn ymgymryd â phrosiect arbenigol ar sail arddull ymgynghori rheoli sy’n berthnasol i reoli rhyngwladol.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Ymgynghorydd Busnes • Dadansoddwr • Ymgynghorydd Rheoli • Banciwr Buddsoddi

• Rheoli Adnoddau Ariannol • Amgylchedd Busnes Byd-eang: Cysylltiadau Gwleidyddol Rhyngwladol • Strategaeth • Rheoli Rhyngwladol

36

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (MARCHNATA)

Mae Marchnata’n faes sy’n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu gyrfa a chyda’r cyfle i weithio mewn unrhyw sector, unrhyw le yn y byd, mae’n rhaid bod rhywbeth yn cyd-fynd â’ch set sgiliau. Mae’r rhaglen hon yn addas i’r rhai sy’n ymddiddori yn heriau gweithgareddau marchnata byd-eang ac a hoffai ddatblygu gyrfa mewn maes marchnata. Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio pynciau arbenigol megis cyfathrebiadau marchnata integredig ac ymddygiad defnyddwyr. Cynlluniwyd y rhaglen hon yn benodol i roi pwyslais pendant ar reoli mewn cymuned fyd-eang a chyd-gysylltiedig. Mae hefyd yn ymdrin â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Cyfarwyddwr Marchnata • Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Rheoli

• Rheoli Marchnata • Arweinyddiaeth • Rheoli Gweithrediadau • Marchnata Digidol

37

ROEDD SAFLEOEDD PRIFYSGOL ABERTAWE YN Y TABLAU O’R PRIFYSGOLION GORAU YN DRAWIADOL A HYNNY, AR Y CYD Â’R CYFLEUSTERAU O’R RADD FLAENAF YN YR YSGOL REOLAETH AC AR GAMPWS Y BAE A’M HARGYHOEDDODD MAI PRIFYSGOL ABERTAWE OEDD Y LLE GORAU I MI. Abd u ll a I r u fa n MSc RHEOL I ( RHEOL I GWE I THREDIADAU A CHYF LENWI )

PR I F SWYDDOG GWE I THREDU HEAVY FORCE PVT LTD

38

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (RHEOLI GWEITHREDIADAU A CHYFLENWI)

Mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr â diddordeb pendant mewn sut mae cynhyrchion a gwasanaethau’n cael eu creu a’u dosbarthu, a dysgu am sut gellir gwella’r broses hon ar gyfer cwmnïau’r 21ain ganrif. Cynlluniwyd y radd yn benodol i roi pwyslais pendant ar reoli mewn cymuned fyd-eang a chyd-gysylltiedig. Mae’r cwrs yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar fodiwlau sy’n ymwneud â rheoli cadwyni cyflenwi byd-eang a rheoli prosiect. Mae hefyd yn ymdrin â chysyniadau rheoli craidd megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Ymgynghorydd Gweithrediadau a Chyflenwi • Rheolwr Datblygu Busnes • Ymgynghorydd Rheoli • Dadansoddwr neu Ymchwilydd

• Rheoli Prosiect • Rheoli Cadwyni Cyflenwi Byd-eang • Rheoli Adnoddau Ariannol • Traethawd Estynedig

39

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (MEDDALWEDD TECHNOLEG)

Ar y rhaglen Meistr hon, byddwch yn meithrin yr wybodaeth a'r sgiliau i wneud penderfyniadau hollbwysig am dechnoleg meddalwedd a'r effaith ar sefydliad. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o bob agwedd ar reoli cyn ehangu eich gwybodaeth am ddiogelwch rhwydweithiau a gwella eich sgiliau yn barod am y genhedlaeth nesaf o rwydweithiau datblygol. Cyflwynir y rhaglen hon ar y cyd ag Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe a byddwch yn ennill galluoedd sy'n rhychwantu galluoedd rheoli yn ogystal â gwybodaeth dechnegol

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

FUTURE CAREERS:

EXAMPLE MODULES:

• Dadansoddwr • Rheolwr Datblygu Busnes • Arbenigwr Data • Dadansoddwr Seiberddiogelwch

• Rhaglennu mewn Java • Diogelwch Rhwydweithiau • Sylfeini Prosiect Busnes • Prosiect Busnes

40

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

MSc RHEOLI (CHWARAEON)

Gan ganolbwyntio ar gyfraith rheoli chwaraeon, gwydnwch a llywodraethu, byddwch yn gwerthuso'n feirniadol gysyniadau a materion cyfreithiol allweddol sy'n deillio o bolisïau chwaraeon rhyngwladol a chenedlaethol a chyfraith cyflogaeth, yn ogystal â rheoli materion hollbwysig megis diogelu, cynhwysiant ac atal dopio. Mae'r rhaglen hon yn eich arfogi â'r wybodaeth ddamcaniaethol a'r set o sgiliau ymarferol i roi prosesau llywodraethu da ar waith wrth reoli chwaraeon ac fel arweinydd mewn rheoli chwaraeon, i lywio'n llwyddiannus yr hawliau a'r dyletswyddau cyfreithiol ynghylch gweithgareddau chwaraeon ledled y byd.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

FUTURE CAREERS:

EXAMPLE MODULES:

• Cyfreithiwr Chwaraeon • Marchnatwr Chwaraeon • Rheolwr Partneriaethau Corfforaethol • Ymgynghorydd Rheoli

• Rheoli Marchnata • Rheoli Gwydnwch Chwaraeon a Llywodraethu • Cyfraith Chwaraeon

41

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc RHEOLI ADNODDAU DYNOL

Bydd y rhaglen hon yn rhoi ichi'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth arbenigol yn y maes hwn. Gan adolygu galwadau ymarferol arferion gwaith yr 21ain ganrif, bydd y rhaglen yn datblygu rheolwyr arloesol, strategol sy'n gallu addasu ac sy'n deall goblygiadau byrdymor a hirdymor eu penderfyniadau. Gan fod datblygiad a lles gweithwyr wrth wraidd y rhaglen, mae ein graddedigion yn sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad drwy reoli unigolion a gweithluoedd yn ofalus.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rhan-amser (24 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/ UE: £5,450 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £9,250

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

FUTURE CAREERS:

EXAMPLE MODULES:

• Rheolwr Adnoddau Dynol • Rheolwr Hyfforddi a Datblygu • Ymgynghorydd Recriwtio • Ymgynghorydd Busnes

• Rheoli Adnoddau Dynol: Trefniadaeth a Chyd-destun • Arwain a Datblygu Pobl • Cysylltiadau Cyflogaeth a Lles

42

TEITHIAU

Rydym yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio amrywiaeth o gyrchfannau twristiaeth. Mae teithiau blaenorol wedi cynnwys ymweliadau â Chwisgi Penderyn, distyllfa chwisgi o’r radd flaenaf, stadiwm rygbi’r Scarlets a thaith i Nepal. Nod teithiau maes yw helpu myfyrwyr i ddeall cymhlethdodau a gofynion bod yn gyfrifol am gyrchfan twristiaeth. Mae’r daith i Nepal yn astudio datblygiad cymunedol drwy dwristiaeth a bydd yn cynnwys ymweliadau â Kathmandu, Annapurna ac ardaloedd gwledig eraill sy’n dechrau archwilio’r manteision y gall twristiaeth eu cynnig i’w twf economaidd. Sylwer bod cost y teithiau maes ar ben eich ffioedd cwrs. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o brofiadau taith maes gorfodol, rhai lleol a thramor (gall y cyrchfannau amrywio o flwyddyn i flwyddyn). Mae’r rhain yn golygu costau ychwanegol o oddeutu £1,700 drwy gydol y rhaglen. Bydd unigolion yn gallu gwneud cais am fwrsariaethau teithio gan yr adran a thîm Ewch yn Fyd-eang y Brifysgol i helpu i dalu’r gost ychwanegol hon.

43

MYNEDIAD MEDI AR GAEL

MSc RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL

Mae’r sector teithio a thwristiaeth yn parhau i dyfu’n gynt na’r economi gyffredinol. Yn ogystal â’r buddion ariannol mae’n eu cynnig, gall twristiaeth gyfrannu hefyd at welliannau amgylcheddol a safon bywyd well. Ar yr un pryd, caiff twristiaeth ei chysylltu’n gynyddol ag amrywiaeth o heriau economaidd, diwylliannol-gymdeithasol ac amgylcheddol. Yn seiliedig ar yr egwyddorion sy’n tanategu Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, bydd rhaglen MSc Rheoli Twristiaeth Ryngwladol Prifysgol Abertawe yn eich galluogi i feithrin y sgiliau a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol i werthuso dyfodol y diwydiant twristiaeth yn feirniadol, boed yn y DU neu dramor. Gan gyfuno cysyniadau allweddol o reoli busnes a’r gwyddorau cymdeithasol ag enghreifftiau o bob cwr o’r byd, bydd yn eich paratoi i eirioli dros ffurfiau mwy cyfrifol ar dwristiaeth ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. GWYBODAETH: Mae’r rhaglen MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn cynnwys Taith Astudio Twristiaeth orfodol am gost ychwanegol. Ewch i dudalennau gwe’r cwrs am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Amser llawn (12 mis) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE: £10,900 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: £18,500 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. GofynionMynediad: Gradd 2:1 mewn twristiaeth neu pwnc sy'n gysylltiedig â busnes. Gofynion iaith Saesneg: IELTS 6.5 neu uwch gan gynnwys o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Cyfarwyddwr Twristiaeth • Marchnatwr Cyrchfan

• Cyd-destun Byd-eang Twristiaeth • Twristiaeth Ddigidol • Marchnata Profiadau Twristiaeth • Cynllunio a Pholisi Twristiaeth

• Rheolwr Llety neu Ddigwyddiadau • Ymchwilydd neu Reolwr Twristiaeth

44

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52 Page 53 Page 54 Page 55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60 Page 61 Page 62 Page 63 Page 64 Page 65 Page 66 Page 67 Page 68 Page 69 Page 70

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5