Cylchgrawn Pwls - Cyf 03 Rhifyn Lles

Rhifyn Lles o Gylchgrawn Pwls gan Brifysgol Abertawe. Dysgwch am ein cyrsiau mewn Meddygaeth, Gwyddor Bywyd, Seicoleg a Gofal Iechyd drwy'r staff a'r myfyrwyr, yn ogystal â byw yn Abertawe.

YMATEB I’R

A allech oresgyn adfyd i lwyddo?

Sut mae Abertawe’n chwarae rhan hanfodol wrth hyfforddi gweithlu GIG y dyfodol MYND I’R AFAEL Â PHRINDER YN Y GIG

HERIAU BYD-EANG

PARATOI AR GYFER PRIFYSGOL

Gwneud y gorau o UCAS, ac awgrymiadau gorau ar gyfer cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

Lles ar ôl y pandemig, Covid hir a manteision data mawr

Ebrill 2022 | Vol 03 Rhifyn Lles

HEALTH AND WELLBEING DIWRNODAU AGORED 7

9

11

LLWYDDIANT ACADEMAIDD

SBORT

Our one million pound pioneering project provides state-of-the-art teaching and research facilities

24

21

17

CYFLEOEDD BYD-EANG

IECHYD A LLES

LLETY

Gain on-campus placement experience and benefit the local community

Work with real patients using top-of-the-range equipment

Yn y rhifyn hwn

www.swansea.ac.uk/hwa

Croeso gan yr Athro Keith Lloyd

4

Heriau Byd-eang: Lles 5 6 pheth rydyn ni wedi’u cyflawni ers y pandemig 6 Sylw ar: Ddysgu cyfunol 8 Pam y dewisais Abertawe 10 Mynd i’r afael â phrinder yn y GIG 14 Heriau Byd-eang: Covid hir 15 Sylw ar: Iaith Arwyddion Prydain 16 Lles 18 Iechyd meddwl pobl ifanc 19 Sylw ar: UCAS 20 Dyma Abertawe: canllaw lleol 22 Pam Cymru? Safbwynt rhyngwladol 24 Pam ddylech chi ddod yn arbenigwr? 26 6 phrosiect sy’n achub bywydau 27 Bio-argraffu 3D gan ddefnyddio celloedd dynol 28 Heriau Byd-eang: Data Mawr 31 Creu penawdau 32 Astudio gyda ni 34

29

CYFLOGADWYEDD

30

CYFLEOEDD YMCHWIL

AR Y CLAWR: Ar y clawr: Mae’r myfyriwr PhD mewn Seicoleg, Tennessee Randall, hefyd yn meddu ar deitl byd mewn cicfocsio. Gyda chefnogaeth drwy gydol ei hastudiaethau gan y Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS), mae Tennessee wedi cerfio gyrfa ddeuol ym Mhrifysgol Abertawe, gan lwyddo mewn cicfocsio tra hefyd yn ennill gradd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg a Gradd Meistr mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl gyda Rhagoriaeth. Delwedd y Clawr: Tennessee Randall

34

Y GYMRAEG

CYSWLLT Prifysgol Abertawe Parc Singleton Abertawe SA2 8PP +44(0)1792 295111 astudio@abertawe.ac.uk abertawe.ac.uk

35

TALU AM EICH ASTUDIAETHAU

This document is also available in English

PWLS

CREU EFFAITH...

YN Y

HERIAU BYD-EANG: Lles WRTH I NI DDECHRAU AR Y FFORDD HIR O ADFER AR ÔL PANDEMIG CORONAFEIRWS BYD-EANG, MAE PWYSIGRWYDD LLES A’I RÔL YM MAES IECHYD POBL YN CAEL EI DDWYN I FLAEN Y GAD O RAN YMCHWIL.

Croeso O BOB HER DAW CYFLE. YMA YM MHRIFYSGOL ABERTAWE RYDYM WEDI YMATEB I BOB HER Y MAE COVID-19 WEDI’I THAFLU ATOM. CROESO I DRYDYDD RHIFYN CYLCHGRAWN PWLS.

newyddion ABERTAWE WEDI’I HENWI YN Y 10 UCHAF YN Y DU AM BERFFORMIAD AMGYLCHEDDOL Mae Prifysgol Abertawe yn un o’r deg prifysgol orau yn y DU am faterion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd a luniwyd gan People and Planet, a gyhoeddwyd gan The Guardian. Cynghrair Prifysgolion People & Planet yw’r unig dabl cynghrair cynhwysfawr ac annibynnol o brifysgolion y DU. GOLAU GWYRDD I BROSIECT CAMPYSAU BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE GWERTH £132 MILIWN Cefnogir Prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gan gyllid gan Lywodraethau’r DU a Chymru fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Bydd y buddsoddiad yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo arloesedd a thwf busnes yn y sectorau Technoleg Feddygol a Chwaraeon sy’n ehangu ac yn arwain at ddatblygu cynhyrchion fel Smart Garments. Rhagwelir y bydd y prosiect, sy’n bwriadu creu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe, yn werth dros £150 miliwn i’r economi ranbarthol erbyn 2033 PRIFYSGOL ABERTAWE YN Y 26AIN SAFLE YM MYNEGAI CYDRADDOLDEB YN Y GWEITHLE STONEWALL Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol. Mae rhestr Stonewall o’r 100 Cyflogwr Gorau wedi’i llunio o’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle – prif ddull meincnodi’r DU ar gyfer cynhwysiant LGBTQ+ yn y gweithle.

Mae’r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn lansio ei ap cyntaf i gefnogi cynhwysiant digidol pobl hyn. ^

Mae GENIAL Science yn brosiect ymchwil cydweithredol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Phrifysgol Abertawe, sy’n cynnwys academyddion, clinigwyr, myfyrwyr PhD a myfyrwyr MSc. Wedi’i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, mae’r prosiect wedi ymrwymo i hyrwyddo damcaniaeth ac ymarfer lles ac mae’r tîm y tu ôl iddo wedi datblygu fframwaith i helpu i ddeall a gwella ‘iechyd cyfan’. Fel yr esbonia’r cyd-sylfaenydd, yr Athro Andrew Kemp o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe: Mae ein cymdeithas yn wynebu sawl her gysylltiedig fawr a fydd yn cael effaith gynyddol sylweddol ar iechyd byd-eang ac mae’n ddyletswydd arnom yn y sector prifysgolion ac ymchwil i weithio tuag at oresgyn heriau o’r fath er mwyn hyrwyddo iechyd a lles unigolion, cymunedau a’r blaned. Drwy’r prosiect GENIAL Science, rydym wedi nodi pwysigrwydd hyrwyddo lles wrth geisio gwella iechyd, yn enwedig mewn perthynas â phobl sy’n byw gyda chyflyrau

Mae’n bleser gennyf eich croesawu i rifyn diweddaraf ein Cylchgrawn Pwls. Unwaith eto, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi arwain at newid ac ansicrwydd na welwyd eu tebyg o’r blaen. Ond wrth i ni ddod allan o’r pandemig, rydym wedi ymfalchïo’n fawr mewn edrych yn ôl ar lwyddiannau ein staff a llwyddiannau ein myfyrwyr - ar lefelau academaidd a phersonol. Drwy gydol y cyfnod anodd hwn, rydym wedi gweld lles ac iechyd meddwl yn dod i’r amlwg yn llygad y cyhoedd ac, yma yn Abertawe, mae’r rhain yn feysydd o ddiddordeb ymchwil hirsefydlog. Ar ôl y pandemig, rydym wedi gweld cynnydd - a diddordeb - mawr yn ein hymchwil i iechyd meddwl pobl ifanc yn benodol, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar bolisïau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol ar lefel genedlaethol.

Rwy’n falch o gyflawniadau staff a myfyrwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf; maent wedi dangos dewrder a gwydnwch mawr drwy oresgyn adfyd yn uniongyrchol, wrth barhau i gefnogi ein cymuned leol, ei gilydd a’r GIG. Bydd y rhifyn hwn o Pwls yn rhoi cipolwg i chi o rywfaint o’r gwaith anhygoel, a gynhaliwyd eleni ac rwy’n mawr obeithio y gallwch weld eich hun fel rhan o’n cymuned wych yn y dyfodol. Mae ar y byd angen pobl ddisglair, ofalgar a phenderfynol yn fwy nag erioed, pobl fel chi! Edrychaf ymlaen at eich croesawu a’ch gweld chi yn Abertawe yn fuan iawn.

“Mae ein damcaniaeth wedi’i chymhwyso i wella ‘iechyd cyfan’ mewn gwahanol boblogaethau” Yr Athro Kemp

cronig y mae’n rhaid eu rheoli, ac nad yw’n bosib iddynt gael eu hiacháu yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym wedi gosod y sylfeini ar gyfer model gwyddonol trawsddisgyblaethol i ymdrin â lles sy’n cynnig potensial nas gwireddwyd eto i hyrwyddo ‘iechyd cyfan’ unigolion, cymunedau a natur, yng nghyd-destun llawer

o’r heriau sylweddol sydd bellach yn wynebu’r ddynolryw, gan gynnwys trychineb yr hinsawdd. Mae’r ymchwil hon wedi’i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Global Advances in Health and Medicine

ac arweiniodd at wobr fawreddog Hyrwyddo Gofal Iechyd am Gyfraniad Eithriadol at Gyflawni Ymchwil.

Yr Athro Keith Lloyd Dirprwy Is-ganghellor, Deon Gweithredol

DARLLENWCH FWY...

Diddordeb mewn astudio cwrs a fydd yn eich arwain at ymchwil? Trowch i Dudalen 34

4

5

Profodd y pandemig i ni na all unrhyw beth atal arloesedd. Dyma rai o’r pethau a gyflawnwyd gennym o ganlyniad uniongyrchol i Covid-19 a fydd yn parhau i gael effaith gadarnhaol am flynyddoedd i ddod.

PWLS

RHIFYN LLES ROSS DAVEY Wedi ennill gradd BSc mewn Biocemeg Feddygol Myfyriwr Meddygaeth MBBCh

6 PHETH RYDYM WEDI’U cyflawnu

“Ar y dechrau, roeddwn i’n bryderus bod fy nghwrs yn troi at fformat cyfunol gan nad oeddwn i’n siwr sut byddai’n effeithio ar fy astudiaethau. Fodd bynnag, cyn bo hir cefais fanteision i’r math hwn o ddysgu ac rwy’n mwynhau cael sesiynau wyneb yn wyneb sy’n cael eu hategu gan y fformat rhithwir y mae darlithoedd eraill yn ei gymryd. “Gall sesiynau ar-lein ei gwneud hi’n haws cynllunio digwyddiadau eraill yn fy niwrnod, lle ^

byddai’n rhaid i mi ymrwymo fel arall i fod ar y campws am gyfnodau hir rhwng darlithoedd wyneb yn wyneb. Mae llawer o ddarlithoedd rhithwir yn cael eu recordio, sy’n golygu bod cynnwys a addysgir yn fwy hygyrch ac rwy’n gallu ail-wylio’r fideos hyn yn hwylus nes ymlaen er mwyn fy helpu i adolygu ar gyfer arholiadau. Mae addysgu ar-lein yn cynnig safbwynt gwahanol i addysg, sy’n gallu teimlo’n rhyfedd ar adegau, ond wrth baru hynny ag addysgu wyneb yn wyneb mae’n gwneud profiad dysgu pwerus.”

DEWCH I WELD Â’CH ’CH llygaid eich hun

Mwy o gyllid ymchwil

Cyrsiau sy’n dechrau ym mis Ionawr

CYRSIAU/ PYNCIAU

SGWRSIO Â’N MYFYRWYR

Diwrnodau Agored a Gweminarau rhithwir ar alw

Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith

BYWYD MYFYRWYR

“Byddwn yn bendant yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr rhyngwladol eraill ar sail faint o gymorth sy’n cael ei ddarparu. Mae’r athrawon a’r staff yma yn hynod gymwynasgar a chyfeillgar - rwy’n gallu siarad â nhw’n uniongyrchol heb unrhyw betruso!“ Hiu Lam Chau, BSc Seicoleg o Hong Kong

TEITHIAU O’R CAMPWS

GWYBODAETH RYNGWLADOL

Dysgu cyfunol

Mwy o leoedd rhyngwladol

RHIENI A GWARCHEIDWAID

6

7

abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored

PWLS

Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd

GWEMINARAU Cychwyn Arni DARLITHOEDD RHAGFLAS A SESIYNAU GWYBODAETH Dysgwch fwy am sut beth yw bod yn fyfyriwr yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gyda phopeth o’r awgrymiadau gorau ar baratoi eich cais i ganllawiau myfyrwyr sy’n benodol i’r pwnc.

SYLW AR

Ddysgu Cyfunol Ar ôl y pandemig, mae’r drefn draddodiadol 9-5 yn ymddangos fel rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Yn fwy nag erioed o’r blaen, mae cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn uchel ar restr blaenoriaethau pawb. Rydym yn cydnabod bod gweithio ystwyth a dysgu cyfunol yn allweddol i gyflawni hyn. Nid yn unig y mae hyblygrwydd yn arwain at well brofiadau dysgu ac addysgu i fyfyrwyr ac athrawon, mae ganddo hefyd amrywiaeth o fanteision eraill, megis arbedion ariannol a gwell effaith amgylcheddol. Felly sut mae dod o hyd i’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith? Dyma ein hawgrymiadau euraidd:

Deall y disgwyliadau Mae addysgu ar y campws yn hanfodol ar gyfer dysgu ymarferol a dysgu sy’n seiliedig ar sgiliau, ond beth am ddarlithoedd, adolygu a gwaith grwp? Dewch i wybod beth sy’n ^

Paratowch

DARLLENWCH FWY NEU COFRESTRWCH:

Mae paratoi â’r offer, y feddalwedd a’r gofod gwaith cywir yn hanfodol er mwyn cael y gorau o’ch astudiaethau Does dim byd gwaeth na gorfod clirio eich nodiadau ganol y sesiwn er mwyn i chi allu defnyddio’r bwrdd i gael cinio. Bydd buddsoddi (amser ac ymdrech - nid yn ariannol yn unig) wrth baratoi gweithfan sy’n addas i’r diben yn rhoi’r lle dynodedig sydd ei angen arnoch i fynd i mewn i ‘ddull astudio’ - a lle rhydd ar gyfer eich amser rhydd.

TENNESSEE RANDALL Myfyriwr PhD

Mae’r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yma i’ch helpu i feithrin eich sgiliau astudio academaidd a chyflawni eich nodau. Rydym ni’n gallu eich helpu i bontio’r bwlch rhwng lle rydych chi nawr a lle mae angen i chi fod:

“Pan wnes i raddio gyda fy ngradd israddedig, doedd gen i ddim syniad beth oedd y dyfodol i mi yn academaidd. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ac rwyf wedi cwblhau fy ngradd Meistr ac wedi derbyn cynnig i astudio PhD ym Mhrifysgol Abertawe o dan ysgoloriaeth ymchwil. Dyfarnodd yr ESRC yng Nghymru ddim ond dau fyfyriwr seicoleg, ac yr oeddwn yn ddigon ffodus i fod yn un ohonynt. Rwy’n llawn cyffro i barhau â’m pennod addysgol nesaf lle rwyf ar y llwybr i ddod yn Dr Randall.”

ddisgwyliedig gennych fel y gallwch gynllunio sut rydych chi am ddefnyddio gweddill eich amser. Mae codio lliw y mathau gwahanol o weithgareddau yn eich calendr nid yn unig yn sicrhau eich bod yn gwybod ble rydych chi i fod a phryd, mae hefyd yn helpu i ddelweddu eich amser rhydd.

• Gwella eich ysgrifennu • Diweddaru eich sgiliau mathemateg • Adeiladu eich gwybodaeth am ystadegau • Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol

Cymerwch ran Beth bynnag fo fformat eich profiad dysgu - gwnewch y gorau ohono!

• Rheoli eich amser yn well • Gwella eich sgiliau digidol • Hogi eich sgiliau cyfathrebu • Dysgu sut i osgoi llên-ladrad

P’un a ydych chi’n eistedd gartref yn gwrando ar ddarlith neu’n gweithio ochr yn ochr â’ch cyfoedion mewn labordy neu ystafell efelychu, byddwch yn bresennol. Mae gan ein staff addysgu gyfoeth o wybodaeth a phrofiad i’w rannu â chi - gofyn ac ateb cwestiynau yw un o’r ffyrdd gorau o gyfuno dysgu ac ehangu eich sylfaen wybodaeth.

abertawe.ac.uk/llwyddiant-academaidd

8

PWLS Mae’r myfyriwr Seicoleg presennol Jemimah yn rhannu ei rhesymau dros ddewis Abertawe Mae dyfyniad gan Dylan Thomas sy’n dweud, “This sea-town was my world” ... Rwy’n credu mai dyna beth yw Abertawe a’r Brifysgol pan fyddwch chi’n byw yma. Roeddwn i wrth fy modd â’r ffordd roedd Abertawe’n teimlo fel prifysgol ac roeddwn wrth fy modd gyda pha mor agos oedd hi at fy nheulu. Rwy’n cofio mynd i’r diwrnod agored tra roeddwn i’n dal i astudio ar gyfer fy arholiadau Safon Uwch, ac roedd fy nhad a minnau’n cytuno ei fod yn teimlo fel ail gartref i mi bron yn syth. Mae’n dal i wneud heddiw bron tair blynedd yn ddiweddarach. Mae seicoleg yn eich sefydlu mor dda ar gyfer ystod enfawr o bosibiliadau yn y dyfodol. Mae hynny’n anhygoel i mi! O fioleg yr ymennydd i agweddau cymdeithasol ar gymdeithas... mae seicoleg yn cwmpasu’r cyfan. Mae astudio yn ystod y pandemig yn bendant wedi bod yn heriol. Mae wedi cael ei fanteision ac mae asesiadau ar-lein yn gweddu’n llwyr i’m harddull ddysgu yn well nag arholiadau traddodiadol. Ond roedd cadw cymhelliant a theimlo fel eich bod yn rhan o brofiad y brifysgol ar-lein yn anodd. Rwy’n credu bod Abertawe wedi gwneud (ac yn dal i wneud) gwaith gwych o ran addasu i’r newid a darparu ar gyfer blynyddoedd gwirioneddol anodd. Ar ôl i mi raddio, rwy’n bwriadu cael rhywfaint o brofiad a gwaith gwirfoddol yn y sector seicoleg, gan gynnwys plant ac oedolion sy’n agored i niwed gobeithio. Yna, ar ôl ychydig flynyddoedd, rwy’n bwriadu gwneud fy ngradd meistr. Yn bendant byddwn yn argymell Prifysgol Abertawe i fyfyrwyr eraill. Mae ganddi deimlad anhygoel fel prifysgol. Mae cymaint o dynfa i’w charu, ac mae’r brifysgol ei hun yn wych ar gyfer cynifer o bethau. Mae gan fy ffrindiau a minnau gariad mawr at y lle hwn.

Cymerwch ran Mae rheswm pam mae pawb yn dweud wrthych chi am ymaelodi â chymdeithas pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol...dyna’r ffordd orau o wneud ffrindiau, dysgu pethau newydd a chael hwyl. Mae gennym dros 150 o gymdeithasau a chlybiau i ymuno â nhw, o Gymdeithas Her y Brifysgol, i’r Gymdeithas Trampolinio, a hyd yn oed Cymdeithas Lysieuol. P’un a ydych chi’n bobydd penigamp, yn saethydd o fri neu’n frwdfrydig dros astudiaethau hynafol, mae gennym y gymdeithas i chi, gan gynnwys rhai gwych sy’n gysylltiedig â meddygaeth a gofal iechyd...

LAURYN DAVEY Myfyriwr MBBCh Meddygaeth

“Dewisais astudio yn Abertawe i barhau â’m trefn hyfforddi yng Nghymru - mae’n amgylchedd cadarnhaol i fod ynddo, ac mae’n cefnogi fy anghenion chwaraeon ac academaidd. Rwy’n cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol mewn athletau ac wedi cael fy enwebu i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad 2022. Rwy’n defnyddio’r tymor i ffwrdd yn y gaeaf i flaenoriaethu fy astudiaeth, felly pan fydd tymor y gystadleuaeth yn dechrau rwyf ar y blaen gyda’m gwaith.” MAE PRIFYSGOL ABERTAWE WEDI ENNILL ACHREDIAD GYRFA DDEUOL Y CYNLLUN YSGOLORIAETH ATHLETWYR TALENTOG

MedSoc

n

P

Mae gennym gyfleoedd chwaraeon sy’n addas i bob un o’n myfyrwyr, o’r athletwyr elît a rhyngwladol i ddechreuwyr pur, mae rhywbeth at ddant pawb. Chwaraeon i bawb

abertawe.ac.uk/sbort

10

PWLS

RHIFYN LLES

@UKinZimbabwe

@PrifAbertawe

@swanseamedicine

@PrifAbertawe

547

1334

#honk #blwyddynnewydddda #arthrofagwyddorbywyd

@swanseahsc

@PrifAbertawe

1818

#baecopr #einabertawe #arena

#achubwyrbywyd #parafeddygon

@swanseahsc

#clirio

@swanseapsych

@sport_swansea

124

#graddio #dyfodoldisglair

#prifabertawe #urdd #enillydd

#olympaidd #beijing2022 #alumni

#tassathlete #llongyfarchiadau

@swanseahsc

@swanseahsc

@swanseamedicine

@PrifAbertawe

295

#diwrnodailgylchu #ewchynwyrdd #cynaliadwyedd

#rydychynfwynaeichgraddau

#OBE #llawfeddygcardiaidd

#rcn_cymru #enillydd

#diwrnodrhyngwladolyfydwraig

12

13

PWLS

RHIFYN LLES

WYDDECH CHI... Os gallwch ymrwymo i weithio i GIG Cymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, byddwch yn gymwys i gael Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru ynghyd â chyllid cynhaliaeth a benthyciad cyfradd is gan Gyllid Myfyrwyr.

HERIAU BYD-EANG: Covid Hir BYDD RHAGLENNI ADSEFYDLU PERSONOL AR GYFER CLEIFION Â COVID HIR YN CAEL EU DATBLYGU FEL RHAN O BROSIECT YMCHWIL NEWYDD DIOLCH I £1.1 MILIWN O GYLLID GAN LYWODRAETH Y DU.

MYND I’R AFAEL Â

WYDDECH CHI... Amcangyfrifwyd bod Covid Hir yn effeithio ar o leiaf 10% o bobl sy’n profi’n bositif am Covid-19. Mae’r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod dros filiwn o bobl yn byw gyda’r cyflwr yn y DU.

Phrinder yn y GIG

MAE ABERTAWE’N PARHAU I CHWARAE RHAN HANFODOL YN Y GWAITH O HYFFORDDI GWEITHLU GOFAL IECHYD Y DYFODOL GYDA CHYRSIAU NEWYDD YN CAEL EU HYCHWANEGU AT EIN HOPSIYNAU HYFFORDDI WEDI’U HARIANNU’N LLAWN AC EHANGU MYNEDIAD I GRWPIAU SYDD WEDI’U TANGYNRYCHIOLI.

Mae pobl sydd â Covid hir yn profi amrywiaeth eang o broblemau parhaus fel blinder ac anhawster gyda thasgau bob dydd, sy’n golygu y gallant ei chael hi’n anodd dychwelyd i’w bywydau blaenorol. Gall hyn wedyn gael ei waethygu gan ansicrwydd a diffyg dealltwriaeth ynghylch y diagnosis. Nid oes unrhyw opsiynau triniaeth go iawn ar hyn o bryd, felly mae datblygu ymyriadau effeithiol i helpu pobl i ymdopi â’u cyflwr a’u goresgyn yn hanfodol i’r grwp hwn o gleifion sy’n cynyddu ond sydd heb ei wasanaethu’n ddigonol. Mae’r prosiect, a elwir yn LISTEN, wedi’i ariannu drwy’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR). Mae’n dwyn ynghyd arbenigedd o St George’s, Prifysgol Llundain a Phrifysgol Kingston, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe ac mae’n cynnwys dylunio a gwerthuso ymyriad hunanreoli ar gyfer pobl sy’n dioddef o Covid hir. Mae cynigion ar gyfer y ffyrdd newydd hyn o gefnogi pobl â Covid hir yn cynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol. Bydd ymchwilwyr prosiect nid yn unig yn dadansoddi ^

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn arwain y ffordd o ran hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a gofal iechyd ac mae hyn wedi’i gydnabod gydag amrywiaeth o gyrsiau newydd wedi’u hariannu’n llawn, gan gynnwys BSc mewn Therapi Galwedigaethol, BSc Ymarferydd Adran Llawdriniaethau a Nyrsio Anabledd Dysgu. FErs bron tri degawd, mae ein dull arloesol o addysgu ynghyd â’n hymroddiad i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd wedi ein rhoi ar flaen y gad o ran hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyn yn ein gwneud yn lle delfrydol i chi os ydych yn bwriadu cymryd y cam cyntaf tuag at yrfa gofal iechyd.

Eich opsiynau Gwyddorau Gofal Iechyd • Clywedeg • Ffisioleg Gardiaidd • Peirianneg Feddygol • Meddygaeth Niwclear • Niwroffisioleg • Ffiseg Radiotherapi • Ffiseg Ymbelydredd • Ffisioleg Anadlu a Chysgu • Peirianneg Adferiad Meddygaeth Bydwreigiaeth Myrsio • Oedolyn • Plant • Anabledd Dysgu • Iechyd Meddwl Therapi Galwedigaethol Ymarferydd Adran Llawdriniaethau Gwyddor Barafeddygol Astudiaethau Cydymaith Meddygol

Rydym yn credu’n gryf y dylai gweithlu’r GIG yma yng Nghymru, a thu hwnt, adlewyrchu ein cymdeithas amrywiol yn llawn, felly rydym wedi ymrwymo i ehangu mynediad i’n cyrsiau gofal iechyd drwy ddefnyddio cynigion cyd-destunol. Mae cynigion cyd-destunol yn ystyried amrywiaeth o ffactorau a allai fod wedi cael effaith ar eich cyrhaeddiad addysgol, a allai eich atal rhag cael mynediad i addysg uwch. Rydym yn defnyddio gwybodaeth ychwanegol o’ch ffurflen gais ochr yn ochr â’n gofynion derbyn safonol i roi’r cyfle

“Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal” Dr Berni Sewell

pa mor effeithiol yn glinigol yw’r ymyriad, ond hefyd pa mor effeithiol yw’r ymyriad o ran cost. Fel yr esbonia Dr Berni Sewell, Uwch-ddarlithydd yng Nghanolfan Economeg Iechyd Abertawe y Brifysgol yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi ffocws pendant ar ba mor gyfyngedig yw ein hadnoddau iechyd a gofal. Ein cyfrifoldeb

ni yw sicrhau bod pob ymyriad newydd nid yn unig yn effeithiol ond hefyd yn effeithiol o ran cost. Mae cymryd rhan fel economegwyr iechyd yn astudiaeth LISTEN yn gyfle gwych i gefnogi datblygiad ymyriad sy’n gwella canlyniadau a phrofiadau ar gyfer y grwp hwn o gleifion sy’n cynyddu’n gyflym, gan sicrhau hefyd ein bod yn cynnal ein gwasanaeth iechyd ac ansawdd y gofal ar gyfer y dyfodol. ^

gorau i chi gyflawni’r yrfa gofal iechyd rydych chi’n breuddwydio amdani.

14

15

Eisiau gweithio i’r GIG? Trowch i dudalen 34 i ddarllen mwy am ein cyrsiau Gofal Iechyd

PWLS

RHIFYN LLES

SYLW AR Iaith Arwyddion Prydain MAE MYFYRWYR ABERTAWE YN HELPU I FYND I’R AFAEL Â RHWYSTRAU MEWN DARPARIAETH GOFAL IECHYD, GAN WEITHIO I GYNYDDU EU GWYBODAETH, EU SGILIAU A’U PROFIAD O ANGHENION Y GYMUNED FYDDAR.

DR PAULA ROW Cydlynydd Anabledd y Gyfadran

CYMORTH

Myfyrwyr

“Fel Cydlynydd Anabledd, rwy’n helpu myfyrwyr ag anableddau fel anawsterau dysgu, cyflyrau iechyd meddwl neu anableddau corfforol, i gael mynediad at dimau cymorth i fyfyrwyr ar draws y campws ac i gael y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt. Bydd hyn ar ffurf cynllun cymorth wedi’i deilwra, a allai gynnwys darparu addasiadau rhesymol megis amser ychwanegol mewn arholiadau, estyniadau terfyn amser, gweithiwr achos, mentor, cynorthwy-ydd labordy neu ysgrifennwr nodiadau.

abertawe.ac.uk/ gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr eu profi pan gyrhaeddwch. Cael cymorth i ymarfer arferion newydd a dysgu sgiliau newydd, fel golchi dillad a choginio, a dod o hyd i ffyrdd gwahanol o oresgyn y pethau rydych chi’n eu cael yn heriol. • Cymorth gyda gofal personol 2. Siarad â chyfeillion a theulu am y newidiadau y byddwch efallai yn Mae gan bob myfyriwr yr hawl i deimlo ei fod yn cael ei gefnogi yn ystod ei amser yn y brifysgol ac rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau sy’n addas i anghenion unigol. Mae gennym adnoddau, gwasanaethau a gweithdai ar-lein, sesiynau cymorth a chymorth arbenigol i fyfyrwyr ag anawsterau hirdymor. Mae paratoi yn allweddol i ymgartrefu yn y brifysgol yn gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod yn: 1. Dweud wrthym am eich anabledd, anawsterau dysgu, iechyd meddwl, cyflwr ASC neu gyflwr meddygol, cyn gynted ag y bo modd fel y gallwn gynnig ein cefnogaeth lawn yr holl ffordd o’r cais drwodd i ennill gradd. Gallwn eich helpu i gael mynediad at: • Gyllid ychwanegol • Addasiadau a thechnoleg gynorthwyol • Llety wedi’i addasu

Defnyddir Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gan dros 150,000 o bobl yn y DU a dyma’r bedwaredd iaith a ddefnyddir amlaf. Fodd bynnag, mae llawer o bobl yn dal i fethu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau hanfodol mewn BSL, gan gynnwys ym maes gofal iechyd, a all effeithio’n negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl fyddar yng Nghymru. Mae gan bobl fyddar eisoes ddwywaith y risg o broblemau iechyd meddwl ac yn ei chael hi’n anodd iawn cael cymorth gan mai anaml y bydd gwasanaethau’n darparu gwybodaeth hygyrch neu wasanaethau sy’n berthnasol yn ddiwylliannol. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn, mae myfyrwyr Abertawe wedi bod yn gweithio i gynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad o anghenion y gymuned fyddar, yn ogystal â chael dealltwriaeth ehangach o ddiwylliant byddar. Eu nod yw darparu gofal a chymorth o safon uwch, gan weithio i feithrin gwasanaeth iechyd mwy cynhwysol ac effeithiol ar gyfer pobl fyddar a’u teuluoedd.

“Mae yna hefyd ystod eang o wasanaethau cymorth ar gael drwy’r Tîm Lles - heb fod angen tystiolaeth feddygol - gan gynnwys ymyrraeth iechyd meddwl tymor byr, cymorth a chwnsela Cyflwr y Sbectrwm Awtistig (ASC) yn ogystal â gwasanaethau cymorth mynediad agored yn y Brifysgol, fel y Gwasanaeth Gwrando, Cymorth Profedigaeth a Togetherall. Mae digon o help ar gael - peidiwch â bod ofn gofyn.” HEALTH AND WELLBEING IECHYD A LLES

• Mae myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion yn cwblhau cwrs rhagflas BSL wedi’i deilwra sy’n para 6 wythnos i ddysgu’r wyddor, arwyddion a strwythurau sylfaenol, yn ogystal ag arwyddion a

sgyrsiau sy’n gysylltiedig â meddygaeth i allu cefnogi defnyddwyr BSL mewn amrywiaeth o leoliadau

CYFLEUSTERAU YMCHWIL AC ADDYSGU O’R RADD FLAENAF CYFLE I ENNILL PROFIAD AR LEOLIAD GWAITH AR Y CAMPWS O FUDD I’R GYMUNED LEOL GWEITHIO GYDA CHLEIFION GO IAWN GAN DDEFNYDDIO

gofal iechyd, o apwyntiadau meddygon teulu i ofal brys • Mae staff nyrsio a myfyrwyr yn datblygu pecyn e-ddysgu

i godi ymwybyddiaeth o fyddardod i roi’r sgiliau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi pobl fyddar drwy eu taith gofal iechyd, gan gynnwys awgrymiadau da a chanllawiau arferion gorau

CYFARPAR O’R RADD FLAENAF

Darganfod mwy am rai o’r heriau sy’n wynebu pobl fyddar yng Nghymru:

abertawe.ac.uk/ academi-iechyd-a-llesiant

16

17

Our one million pound pioneering project provides

PWLS

CREU EFFAITH...

Lles

Iechyd Meddwl

POBL IFANC MEWN YMATEB I’R CYNNYDD MEWN GORBRYDER, ISELDER, HUNAN-NIWED A HUNANLADDIAD DROS Y DEGAWD DIWETHAF, MAE EIN HYMCHWIL AMLDDISGYBLAETHOL YN TRAWSNEWID DEALLTWRIAETH, GOFAL A CHANLYNIADAU POBL IFANC AG IECHYD MEDDWL GWAEL.

Roedd Dr Emily Marchant ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith yr ESRC am ei hymchwil arloesol i iechyd meddwl plant.

Mae ein gwaith ar iechyd meddwl pobl ifanc yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â phobl ifanc ac mae ein hymchwil yn cael ei throsi’n gyflym i bolisi ac ymarfer gan gynnwys adnoddau i ysgolion a gweithwyr ieuenctid a chanllawiau ar gyfer ymarfer. Gyda chyllid gwerth dros £3 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf, rydym yn arwain Platfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed a thema Gwyddor Data Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

YR ATHRO ANN JOHN Ymchwil sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl pobl ifanc

“Mae’r cyfnod rhwng 11 a 24 oed yn gyfnod o newid anferth a gall teimladau ac emosiynau eithaf cynhyrfus sy’n rhan o’r profiad dynol arferol gyd-fynd â’r newid hwnnw. Un o’r adegau mwyaf cynhyrfus yw amser canlyniadau arholiadau, ac mae hynny’n gallu gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn. Mae gorbryder yn gallu effeithio arnoch chi mewn pob math o ffordd. Mae rhai pobl yn eithaf ymwybodol eu bod yn teimlo’n llawn pryder - er enghraifft, os bydd eu calon yn curo ychydig yn gyflymach - ond mae gorbryder hefyd yn gallu teimlo fel cwlwm yn eich stumog neu lwmp yn eich gwddf ac mae’r teimladau hynny bron yn ymateb dynol i’r hyn rydych chi’n ei brofi’n fygythiad, sy’n mynd yn ôl i syniad eithaf cyntefig o ‘ymladd neu ffoi’. Yn aml, bydd y teimladau hyn yn diflannu ond os byddant yn eich cadw ar ddihun gyda’r nos neu os ydych chi’n pryderu neu mae’n effeithio ar eich awydd i weld eich ffrindiau - dyna pryd mae’r pryderu’n mynd yn ormod. Un o’r pethau y gallwch chi eu gwneud yw mynd â’ch meddwl i rywle arall - ceisiwch anadlu i mewn ac allan yn araf, creu rhestr o ganeuon neu wneud rhywbeth corfforol fel mynd am dro, siarad â ffrindiau neu weithgareddau meddylgar fel lliwio. Y peth pwysig i’w gofio yw na fydd hyn yn para am byth. Os ydych chi’n poeni am eich canlyniadau, ffoniwch ni gan fod gennym bobl yma i’ch helpu chi. Gall siarad am eich opsiynau eich helpu i glirio eich meddwl.”

Amlygodd un astudiaeth dan arweiniad yr Athro Ann John

bwysigrwydd strategaethau integredig mewn ysgolion a gofal iechyd i gefnogi cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg. Mae plant ag iechyd meddwl gwael, sy’n niwroamrywiol neu sy’n hunan-niweidio yn aml yn cael trafferth yn yr ysgol. Gall absenoldebau a gwaharddiadau fod yn offeryn defnyddiol i nodi’r rhai y mae angen cymorth ychwanegol arnynt. Bydd ymyrraeth gynnar nid yn unig yn lleihau trallod ac anawsterau uniongyrchol i’r person ifanc ond gall hefyd dorri ar draws llwybrau bywyd gwael a gwella canlyniadau yn ddiweddarach mewn bywyd.

“Mae hanner yr holl broblemau iechyd meddwl wedi’u sefydlu erbyn eu bod yn 14 oed, a thri chwarter erbyn iddynt gyrraedd 24 oed” Yr Athro Ann John

Ar ôl y pandemig, mae arweinwyr addysg hefyd wedi cael eu hannog i flaenoriaethu rhyngweithio cymdeithasol ar gyfer plant o bob oed yn dilyn arolygon dan arweiniad ymchwilwyr o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth. Er y gallent fod wedi cael eu hystyried fel y rhai lleiaf agored i drosglwyddo ac effeithiau negyddol Covid-19 ar iechyd, roedd cyfyngiadau’r pandemig wedi amharu

ar addysg, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd pobl ifanc i gymdeithasu. Ychwanegodd Dr Michaela James, o’r Ganolfan: Mae’n bwysig bod lleoliadau addysg yn cydnabod pwysigrwydd lles eu myfyrwyr ac yn blaenoriaethu eu dymuniadau a’u hanghenion yn hytrach na chanolbwyntio ar addysg ‘dal i fyny’ a phwysau asesu.

18

PWLS

TEIMLWCH YN Gartrefol

GWIRIWCH EICH AMODAU Bydd y rhan fwyaf o gynigion yn Amodol – sy’n golygu bod angen i chi gwblhau cymwysterau neu gamau gweithredu cyn bod eich lle 100% yn ddiogel. • C aiff amodau eu hamlinellu yn eich cynnig ar UCAS Track ond byddwn hefyd yn anfon e-byst atoch gydag arweiniad ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud nesaf. • Ar gyfer cyrsiau gofal iechyd, bydd hyn yn cynnwys cael Gwiriad DBS ac Asesiad Iechyd Galwedigaethol ac ni fyddwch yn gallu cymryd rhan mewn unrhyw elfennau ymarferol o’ch cyrsiau nes bod y rhain wedi’u cwblhau – ar y gorau. Y sefyllfa waethaf yw y byddwch yn fforffedu eich cynnig! Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig, byddwch yn gallu cyflwyno cais am lety a chyllid a gorau po gyntaf y byddwch yn gwneud y ddau beth hyn. Mae ein timau OS NAD YDYCH YN ENNILL Y GRADDAU ANGENRHEIDIOL, PEIDIWCH Â CHYNHYRFU! Mae gennym le i chi yn Abertawe, hyd yn oed os nad yw pethau’n mynd yn ôl y cynllun ar ddiwrnod y canlyniadau. Gyda dros 300 o gyrsiau, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r un iawn i chi. Cysylltwch â ni i drafod eich opsiynau ar ein Llinell Gymorth Clirio bwrpasol: 0800 094 9071 ymroddedig wrth law i’ch cefnogi ar hyd y ffordd: WYDDECH CHI... Mae UCAS wrth law drwy gydol y flwyddyn i’ch tywys drwy’r broses gyfan o’ch chwiliad cwrs cychwynnol hyd at gadarnhad.

HOPE HENRY Ymgeisydd Clirio

SYLW AR

“Ces i sioc fawr ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch pan ddaeth i’r amlwg nad oedd fy arholiadau wedi mynd cystal ag yr oeddwn i wedi gobeithio. Roedd popeth yn teimlo fel anhrefn llwyr nes i mi dderbyn galwad ffôn gan Brifysgol Derbyniais le ar gwrs Llwybr at Feddygaeth gan mai astudio Meddygaeth oedd fy nod yn y pen draw. Rwy’n gallu dweud heb os nac oni bai mai dyma’r penderfyniad gorau rwy’ erioed wedi’i wneud.” Abertawe, a siaradodd â mi drwy fy opsiynau.

DYDDIADAU ALLWEDDOL Mae pawb yn gwybod am y dyddiad cau mawr ym mis Ionawr ar gyfer cyflwyno ceisiadau ond mae llawer o ddyddiadau allweddol eraill i’w cofio… • Mae UCAS yn agor ar ddechrau chyflwyno!) unrhyw amser pan fynnwch chi o hynny ymlaen. • Dyddiad cau UCAS ar gyfer Meddygaeth (ynghyd â holl gyrsiau Rhydychen a Chaergrawnt) yw 15 Hydref bob blwyddyn... ni waeth pa ddiwrnod o’r wythnos fydd ef! mis Medi bob blwyddyn fel y gallwch ddechrau (a • Bydd dyddiad cau UCAS ar gyfer pob pwnc arall ym mis Ionawr ac mae’r dyddiad hwn wedi amrywio yn ystod y blynyddoedd diwethaf felly gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio ymlaen llaw. • Mae UCAS Extra yn agor ddiwedd mis Chwefror a gallwch ^ ddechrau gwneud newidiadau eto o hyn ymlaen hyd at Glirio. • Bydd dyddiad cau eich penderfyniad yn dibynnu ar pryd y byddwch yn derbyn eich cynnig olaf ...os byddwch yn derbyn penderfyniadau ar gyfer eich holl ddewisiadau cwrs erbyn diwedd mis Mawrth, bydd angen i chi gadarnhau eich dewisiadau Cadarn ac Yswiriant erbyn dechrau mis Mai. • Os nad ydych yn dal cynnig rydych yn fodlon arno erbyn mis Gorffennaf, gallwch gofrestru ymlaen llaw ar gyfer Clirio . Er na ellir cadarnhau cynigion yn aml tan ddiwrnod y canlyniadau, mae’n werth ymchwilio’n gynnar a chysylltu

CURWCH Y RAS CLIRIO Gwnewch y gorau o’ch cais o’r dechrau: • Gallwch gyflwyno cais am 5 cwrs ar unrhyw un adeg felly gwnewch yn siwr eich bod yn cadw eich opsiynau ar agor drwy wneud y gorau o’r pum lle ar eich ffurflen gais. ^ • Os na fyddwch yn defnyddio’r 5 ar unwaith, gallwch ychwanegu dewisiadau newydd at eich cais hyd at y dyddiad cau ym mis Ionawr – hyd yn oed ar ôl i chi gyflwyno. • Gallwch hefyd ychwanegu dewisiadau newydd drwy UCAS Extra ar sail un-allan un-i- mewn felly os nad ydych yn dal y cynnig rydych ei eisiau erbyn mis Chwefror, gallwch gyflwyno cais am rywbeth/rywle arall ar UCAS Track tan ddechrau mis Gorffennaf. Fel yr esbonia James Kerr, Rheolwr Derbyniadau Clinigol: Meddygaeth, sy’n gallu dewis pedwar cwrs Meddygaeth yn unig. Fe’i hadnabyddir yn gyffredin yn ‘5ed Dewis’, mae mwy a mwy o ymgeiswyr yn cyflwyno cais am gwrs amgen fel cwrs wrth gefn rhag ofn y byddant yn colli allan ar Feddygaeth ar adeg y cyfweliad. Mae ein Llwybrau at Feddygaeth yn cynyddu mewn poblogrwydd ar gyfer y 5ed Dewis gan eu bod yn cynnig cyfweliad gwarantedig ar gyfer ein cwrs Meddygaeth i Raddedigion, fel y gallwch ddod yn Feddyg o hyd.” “Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ymgeiswyr

En-suite

Menywod yn unig

Siarad Cymraeg

ABBIE THOMAS Graddedig Blwyddyn Sylfaen

“Doeddwn i ddim wedi astudio gwyddoniaeth ers astudio ar gyfer fy arholiadau TGAU. Rwy’ mor ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am roi ffydd ynof a rhoi’r cyfle i mi ddilyn fy mreuddwydion o fod yn feddyg. Mae’r holl staff yn anhygoel, yn gefnogol ac yn ysbrydoledig ac wedi creu blwyddyn sylfaen anhygoel a oedd yn cwmpasu popeth yr oedd ei angen arnaf ar gyfer y BSc.” ENILLYDD CYSTADLEUAETH YSGRIFENNU PHARMACOLOGY MATTERS CYMDEITHAS FFARMACOLEGOL PRYDAIN 2021WRITING COMPETITION

WiFi am ddim Golchdy 24/7

Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gael Opsiynau i gyd-fynd â’ch dewisiadau

â thiwtoriaid derbyn i weld a yw lleoedd yn debygol o fod ar gael.

20

abertawe.ac.uk/llety

DYMA

PWLS

RHIFYN LLES

LIBERTY STADIUM STADIWM SWANSEA.COM

M4 & CARDIFF M4 CAERDYDD

Abertawe

SWANSEA STATION GORSAF ABERTAWE

A483

SINGLETON PARK PARC SINGLETON

WIND STREET STRYD GWYNT

CITY CENTRE

YSBYTY SINGLETON

HOSPITAL

BAY CAMPUS CAMPWS Y BAE

SPORTS VILLAGE PENTREF CHWARAEON

MARINA Y MARINA

Mae ein dinas ger y mor â safle heb ei ail ger y traeth yn rhoi cyfle i chi wneud y gorau o’r arfordir wrth fwynhau bywyd prysur y ddinas ar yr un pryd.

SINGLETON PARK CAMPUS CAMPWS PARC SINGLETON

ABERTAWE YW: 4 awr o Fanceinion 3 awr o Birmingham a Llundain 2 awr o Gaerfaddon a Bryste 1 awr o Gaerdydd Mae meysydd awyr Caerdydd, Bryste a Heathrow yn hawdd eu cyrraedd o Abertawe hefyd!

MUMBLES Y MWMBWLS

GOWER PENINSULA PENRHYN G Ŵ YR

PENRHYN G Ŵ YR Gyda mwy na 19 milltir o arfordir prydferth i’w darganfod, gallwch dreulio eich amser yn heicio bryniau carreg calch Bae’r Tri Chlogwyn, yn syrffio ar rai o donnau gorau’r Deyrnas Unedig yn Llangynydd neu’n rhyfeddu at brydferthwch garw Bae Rhosili.

Y MWMBWLS Cymydog y Brifysgol yw pentref bach y Mwmblws ger y traeth; mae’n gartref i Bier Fictoria a Chastell Ystumllwynarth, siopau llawn steil a bwytai annibynnol, ynghyd â pharlyrau hufen iâ enwog Verdi’s a Joe’s.

CAMPWS SINGLETON Wedi’i lleoli ar gampws Singleton, mae’r Ysgol Feddygaeth mewn safle hwylus rhwng traeth Bae Abertawe a pharc gwyrdd Singleton, sy’n berffaith am bicnic amser cinio neu ddiwrnod ar y traeth dros y penwythnos.

UPLANDS Mae’r Uplands yn ardal boblogaidd ymhlith myfyrwyr ac yn gartref i farrau a bwytai trendi, y ffordd orau yng Nghymru o wella pen mawr (diolch i Uplands Diner am eich brecwast mawr, y “Mega Beast”!), siopau cyfleus a marchnad fisol Uplands, a rhai o’r golygfeydd gorau yn y ddinas.

Y MARINA Pan fydd y môr yn galw, does dim lle gwell. Dewch yma am bopeth gan gynnwys barrau i gael noson allan, Theatr Dylan Thomas, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a marchnad brysur unwaith y mis.

DARGANFOD Y DDINAS Yng nghanol dinas Abertawe, gallwch chi siopa yn y stryd fawr a’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru, bodloni eich awydd am ddiwylliant yn Oriel Gelf Glynn Vivian neu gael blas ar y gwahanol fwytai, barrau a thafarnau yn Stryd y Gwynt, stryd sy’n (ddrwg) enwog yn Abertawe.

22

23

GWEMINARAU Cychwyn Arni

WYDDECH CHI... Rydym yn cynnig cymorth pwrpasol i’n myfyrwyr rhyngwladol gyda digwyddiadau ac ysgoloriaethau

PWLS

SYLW AR

Fyfyrwyr Rhyngwladol

wedi’u dylunio i’ch helpu i gyflawni eich nodau gyrfa.

GWEMINARAU I FYFYRWYR RHYNGWLADOL

WRTH ASTUDIO YM MHRIFYSGOL ABERTAWE, BYDDWCH YN YMUNO Â SEFYDLIAD YMCHWIL O SAFON FYD-EANG SYDD AG UCHELGEISIAU MAWREDDOG. MAE EIN CAMPYSAU YN FYWIOG AC YN AMRYWIOL GYDA STAFF A MYFYRWYR O DROS 130 O WAHANOL WLEDYDD.

Dysgwch fwy am sut beth yw bod yn fyfyriwr rhyngwladol yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd gyda phopeth o’r awgrymiadau gorau ar baratoi eich cais i ganllawiau myfyrwyr o ystod eang o wledydd. DARLLENWCH FWY NEU COFRESTRWCH:

Ewch yn Fyd-eang

LOVELYN OBIAKOR MSc Iechyd Cyhoeddus a Hybu Iechyd o Nigeria

“Gweld plant ifanc yn marw o dwymyn uchel a menywod yn marw yn ystod y cyfnod esgor oedd profiadau mwyaf trawmatig fy mhlentyndod. Roeddwn i’n teimlo bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth am y peth, ni waeth beth a gymerodd. “Gan fy mod wedi cael fy magu mewn cymuned lle nad oedd merched yn cael eu hanfon i’r ysgol yn gyffredinol, roedd yn rhaid i mi herio’r status quo i gredu y gallwn astudio fferylliaeth ac un diwrnod helpu fy nghymuned fy hun a chymunedau anghysbell eraill. Rwy’n edrych ymlaen at gyflawni prosiectau a mentrau strategol hirdymor yn Nigeria sy’n hyrwyddo gofal iechyd ac addysg gynhwysol sydd o ansawdd da.” ENILLYDD YSGOLORIAETH EIRA FRANCIS DAVIES 2021, A DDYFERNIR YN FLYNYDDOL I UN MYFYRIWR BENYWAIDD RHAGOROL SY’N FRODOR O WLAD GYMWYS SY’N DATBLYGU, SY’N BYW YNO AC SY’N DILYN RHAGLEN MEISTR ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR MEWN IECHYD NEU WYDDORAU BYWYD.

Nod Prifysgol Abertawe yw cynnig cyfle i’w holl fyfyrwyr israddedig astudio neu weithio dramor. Mae gennym bartneriaethau â mwy na 150 o brifysgolion ledled y byd, ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i dreulio blwyddyn, semester neu haf dramor.

MAANASY NADARAJAH Graddedig AMS

Drwy astudio, gweithio neu wirfoddoli dramor, byddwch chi’n sicrhau eich bod yn sefyll pen ac ysgwyddau uwchben y dorf, yn meithrin sgiliau newydd a rhwydwaith rhyngwladol gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol ar ôl graddio.

“Cymerais ran mewn interniaeth chwe wythnos yn yr haf yng Ngholeg Meddygaeth Baylor yn Nhecsas. Roeddwn i wir yn disgwyl nôl paneidiau o goffi neu gysgodi pobl heb gyfranogi go iawn. Ond roedd y realiti’n hollol wahanol: Ces i fy nhrin yn gyfartal a’m hannog i fynegi barn am unrhyw syniadau oedd gen i. Mae’r profiad wedi fy ngwneud yn llawer mwy hyderus wrth siarad ag eraill a chyflwyno fy syniadau.”

YUXI TAO BSc Seicoleg o Tseina

Mae cyflogwyr yn cydnabod bod treulio amser dramor yn: • Magu hyder, hunanymwybyddiaeth ac aeddfedrwydd

#SwanseaUniGlobal • Datblygu safbwynt byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Hwyluso eich gallu i addasu i amgylcheddau a heriau newydd • Gwella sgiliau cyfathrebu ac iaith • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy i helpu eich gyrfa yn y dyfodol

“Mae seicoleg wedi newid fy meddwl ac wedi rhoi dealltwriaeth fwy dwys a manwl gywir i mi o’m pobl, pethau ac amgylcheddau. Mae astudio ym Mhrifysgol Abertawe wedi rhoi amgylchedd dysgu amlddiwylliannol i mi, sy’n fy ngalluogi i astudio seicoleg o safbwynt diwylliannau eraill. “Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol

yn ystod eu hastudiaethau yn y DU. Er enghraifft, cymorth seicolegol, cymorth ariannol ar gyfer Covid-19, a llawer mwy. Mae’r ddinas yn hardd; mae’r bobl leol yn gyfeillgar; mae gan y brifysgol awyrgylch academaidd dwys ac mae’n cynnig ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth. Mae’n gyfeillgar iawn tuag at fyfyrwyr rhyngwladol Tsieineaidd yma ac rwy’n argymell i’m ffrindiau gartref i ymuno â’r brifysgol agored a chynhwysol hon.”

abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang

24

PWLS

WYDDECH CHI... Gallech gymryd y camau cyntaf tuag at yrfa fel arbenigwr blaenllaw gydag un o’n graddau MSci - gradd Meistr israddedig integredig am 4 blynedd mewn Gwyddor Bywyd.

6 PROSIECT

PAM DYLECH CHI

achub bywyd MAE’R PANDEMIG WEDI CAEL EFFAITH BARHAOL AR IECHYD A LLES, AC MAE ANGEN YMCHWIL AR FRYS I DDEALL YR EFFAITH LAWN AR WASANAETHAU GOFAL IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL.

ddod yn arbenigwr?

^

MAE DOD YN ARBENIGWR YN RHOI’R PWER I CHI GAEL EFFAITH GADARNHAOL A PHARHAOL AR FYWYDAU POBL AR RADDFA FYD-EANG, GAN GEFNOGI ARWEINWYR I WNEUD PENDERFYNIADAU GWYBODUS AR REDEG EIN GWASANAETHAU GOFAL IECHYD, RHEOLI ARGYFYNGAU IECHYD YN Y DYFODOL A SICRHAU BOD IECHYD Y CYHOEDD YN PARHAU I FOD YN BRIF FLAENORIAETH.

Archwiliwch ein Cyfres Podlediadau i gael gwybod mwy am sut mae ein hymchwil arloesol wedi bod yn cael effaith yn fyd-eang. YR ATHRO SHAREEN DOAK

Dyfarnodd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru gyllid hollbwysig i chwe phrosiect yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd Prifysgol Abertawe, sydd i gyd yn anelu at ddarparu mewnwelediadau achub bywyd i effaith y pandemig ar wasanaethau gofal iechyd a’i ddefnyddwyr yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n amrywio o Gymrodoriaethau Ymchwil Gofal Cymdeithasol , sy’n rhoi cymorth i unigolion talentog ddod yn ymchwilwyr annibynnol tra’n ymgymryd â phrosiectau ymchwil o ansawdd uchel sydd o fudd i ofal cymdeithasol yng Nghymru, i Grantiau Ymchwil Iechyd , sy’n cefnogi prosiectau ymchwil o ansawdd uchel sy’n amlwg yn berthnasol i anghenion iechyd a lles, trefniadaeth neu ddarpariaeth gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Gallai canfyddiadau o’r prosiectau ymchwil hollbwysig hyn wneud gwelliannau mawr i iechyd, gofal a lles rhai o aelodau’r gymdeithas sydd fwyaf agored i niwed ac effaith, a helpu i wella polisïau a gwasanaethau darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru, y DU a thu hwnt.

O RAN MATERION IECHYD CYHOEDDUS, PWY Y MAE’R CYHOEDD YN YMDDIRIED YNDDO MEWN GWIRIONEDD? Astudiodd tîm ymchwil dan arweiniad Prifysgol Colorado Boulder, gyda chefnogaeth cydweithwyr o’r Unol Daleithiau, Sweden, Israel, Awstria, yr Eidal, Singapôr a’r DU, farn wleidyddol cyfranogwyr, ochr yn ochr â’u barn ar bolisïau Covid-19. Gofynnwyd i’r 13,000 o gyfranogwyr, o 7 gwlad ledled y byd, am eu barn wleidyddol, yna i rannu eu cefnogaeth ar gyfer dau bolisi Covid-19, un ar gyfer mesurau iechyd cyhoeddus, a’r llall yn cefnogi adferiad economaidd. Fel yr esbonia Dr Gabriela Jiga- Boy o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, a oedd yn rhan o’r tîm: Rydym yn dilyn esiampl ein harweinwyr (neu garfannau pleidiol elît) oherwydd bod dyletswydd arnom i wneud hynny. Ond mae carfannau pleidiol yn aml yn creu rhwystrau i’r gwaith o fynd i’r afael â bygythiadau cyffredin megis Covid-19. Maent yn polareiddio barn y cyhoedd drwy eu geiriau, eu gweithredoedd neu eu presenoldeb yn unig.

Drwy gydol pandemig Covid-19 mae pobl ledled y byd wedi bod yn disgwyl i’n harweinwyr wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer ein hiechyd, ein diogelwch a’n lles. Yn ei dro, mae arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau wedi bod yn edrych ar arbenigwyr

Nanowenwynig - mae yn y pethau bach

1.

Effaith COVID-19 ar gydraddoldeb iechyd a marwolaethau ymhlith pobl ag epilepsi yng Nghymru Pennu’r arferion gofal cymdeithasol ataliol gorau yng nghyd-destun pobl hyn sy’n derbyn gofal a chymorth gartref a’r rhai sy’n byw gyda Dementia Effaith economaidd iechyd COVID-19 ar ofal a chymorth i bobl dros 65 oed Sunproofed: Gwerthusiad dulliau cymysg o bolisïau ^

ym meysydd meddygaeth a gwyddoniaeth i helpu i lywio

2.

polisïau i arafu ymlediad Covid-19 a chadw cynifer o bobl â phosibl yn ddiogel rhag y feirws marwol. Fodd bynnag, mae polisïau fel gwisgo mygydau, cyfyngiadau symud cymunedol a mandadau brechu wedi cael eu polareiddio fwyfwy gan bleidiau gwleidyddol, gyda gwleidyddion, arweinwyr y byd a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cefnogi neu’n gwrthwynebu mesurau iechyd a diogelwch y cyhoedd yn unol â barn eu plaid wleidyddol, yn aml yn groes i gyngor arbenigwyr a gefnogir yn wyddonol.

YR ATHRO RONAN LYONS

Daeth yr ymchwil i’r casgliad, er bod cyfranogwyr yn fwy tebygol o gefnogi polisïau a oedd yn gysylltiedig â’u plaid wleidyddol, fod yr holl gyfranogwyr, beth bynnag eu barn wleidyddol, yn cefnogi polisïau a gynigiwyd gan arbenigwyr a chynghreiriau dwybleidiol. Daeth Dr Jiga-Boy i’r casgliad: Mae ein canlyniadau’n dangos pwysigrwydd sicrhau bod arbenigwyr yn amhleidiol, er mwyn diogelu ffydd y cyhoedd ynddynt. Ateb yw tynnu’r gwleidyddion allan o’r cyfathrebu a rhoi’r arbenigwyr ar y blaendir i helpu i osgoi materion sy’n cael eu polareiddio Darganfyddwch fwy am

Ymateb i Covid-19 gan ddefnyddio Data Mawr

3.

4.

DR CLAIRE WILLIAMS

diogelwch rhag yr haul mewn ysgolion cynradd yng Nghymru

Epidemig Tawel: Niwed i’r Ymennydd

5.

Effaith rhoi’r gorau i sgrinio am glefyd y llygaid diabetig ar bobl â diabetes yn ystod pandemig COVID-19

6.

Mapio mannau oer gwasanaethau yn sgîl cyfyngiadau symud COVID-19

Gwrandewch a thanysgrifiwch i’r gyfres yn: abertawe.ac.uk/podlediadau

y rhain, a llawer mwy o ganfyddiadau, ar ein tudalennau ymchwil:

26

CREU EFFAITH...

PWLS

RHIFYN LLES

BIO-ARGRAFFU 3D

KATIE EVANS Myfyriwr BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lleoliad Gwaith SPIN

gyda celloedd dynol

“Yn ystod fy astudiaethau, cymerais ran mewn interniaeth â thâl drwy raglen SPIN y Brifysgol. Fel rhan o hyn, datblygais a chyflwynais ddigwyddiad gyrfaoedd i helpu myfyrwyr eraill i archwilio cyfleoedd tebyg a’u cefnogi i ddechrau meddwl am ennill profiad, cyflwyno cais am waith gwirfoddol neu waith â chyflog, a hyd yn oed sut i ddechrau eu busnes neu eu menter gymdeithasol eu hunain. Mae’r profiad wedi fy helpu i adeiladu fy rhwydwaith fy hun yn barod ar gyfer pan fydda i’n graddio.”

MAE GAN UN O BOB 100 O BOBL YN Y DU WAHANIAETH SYLWEDDOL YN YR WYNEB A GALL HYN GAEL EFFAITH DDOFN AR IECHYD MEDDWL. MAE EIN HYMCHWIL ARLOESOL GWERTH £2.5M I FIOARGRAFFU 3D GAN DDEFNYDDIO CELLOEDD DYNOL AR FIN NEWID BYWYDAU POBL LEDLED Y BYD.

iechyd corfforol a meddyliol sydd ei angen ar gyfer adferiad cychwynnol a byw bywyd llawn wedi hynny. Ym mis Mawrth 2022, ymwelodd Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex, noddwr y Sefydliad Scar Free, â’r rhaglen ymchwil ailadeiladu wynebau sy’n arwain y byd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd yr Ysgol Feddygaeth, gan gwrdd â llysgenhadon a chleifion a allai elwa ar yr astudiaethau arloesol. Mae Ei Huchelder Brenhinol Iarlles Wessex yn cwrdd â chleifion yn Abertawe i helpu i dorri’r stigma o greithio

Mae rhaglen ymchwil o’r radd flaenaf i chwyldroi gallu llawfeddygon i ailadeiladu cartilag trwyn a chlustiau mewn cleifion y mae gwahaniaeth wyneb yn effeithio arnynt wedi’i lansio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Wedi’i ariannu gan Sefydliad Scar Free, yr unig elusen ymchwil feddygol sy’n canolbwyntio’n gyfan gwbl ar greithio, ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, bydd y rhaglen tair blynedd yn cael effaith fyd-eang, gan hyrwyddo nid yn unig bioargraffu 3D o gartilag ond hefyd archwilio sut mae creithiau wyneb yn effeithio ar iechyd meddwl drwy ddadansoddi data o garfan fwyaf y byd o bobl sy’n byw gyda chreithiau wyneb. Esbonia’r Athro Syr Bruce Keogh, o Sefydliad Scar Free: Mae rhoi’r gallu i lawfeddygon yn y dyfodol ail-greu wynebau pobl gan ddefnyddio eu celloedd eu hunain heb fod angen creithiau pellach yn chwyldroadol. Bydd y rhaglen arloesol yn datblygu bioargraffu 3D gan ddefnyddio celloedd stem/hynafiad sy’n benodol i gartilag dynol a nanoseliwlos (sy’n deillio o blanhigion) fel bio-inc ar gyfer ailadeiladu’r wyneb. Bydd y prosiect yn cynnwys astudiaethau gwyddonol i bennu’r cyfuniad delfrydol o gelloedd i dyfu cartilag newydd a fydd yn arwain at dreialon clinigol dynol ar gyfer ailadeiladu’r wyneb.

MAE RHWYDWAITH INTERNIAETH Â THÂL ABERTAWE (SPIN) YN CYSYLLTU MYFYRWYR ABERTAWE Â CHYFLOGWYR AR DRAWS POB SECTOR AR GYFER INTERNIAETHAU 4 WYTHNOS AR LEFEL GRADDEDIGION DRWY GYDOL Y FLWYDDYN. YN CAEL EI GYNNIG AR SAIL AMSER LLAWN YN YSTOD Y GWYLIAU AC YN RHAN-AMSER YN YSTOD Y TYMOR, CEFNOGIR POB INTERNIAETH GAN EIN HARBENIGWYR CYFLOGADWYEDD I SICRHAU BOD Y BUSNES A’R MYFYRIWR YN CAEL Y GORAU O’R PROFIAD.

Meddwl am y dyfodol?

Mae’r ymchwil yn cael ei harwain gan yr Athro Iain Whitaker, Cadeirydd Llawfeddygaeth Blastig yn yr Ysgol Feddygaeth, sydd hefyd yn bennaeth ar grwp ymchwil llawfeddygaeth blastig mwyaf y DU, yn rhan o’r tîm yng Nghanolfan Llosgiadau a Llawfeddygaeth Blastig Cymru yn Ysbyty Treforys ac Arweinydd Arbenigol Llawfeddygol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Ychwanega: ^ dadansoddi’n feirniadol lwybrau cleifion ym maes rheoli canser y croen ac yn defnyddio technolegau arloesol fel deallusrwydd artiffisial i chwyldroi’r llwybrau cleifion hyn. Mae’r cydweithrediad ymchwil arloesol hwn yn pontio bylchau ar draws disgyblaethau i fynd i’r afael â’r heriau a brofir gan y rhai sydd â chreithiau wyneb, gan ddod â llawfeddygon ac ymchwilwyr iechyd meddwl at ei gilydd o dan yr un to i fynd i’r afael â’r gofal Ochr yn ochr â’r ymchwil i beirianneg meinweoedd a bioargraffu 3D, rydym yn

Gallwch feithrin eich gyrfa, eich sgiliau, eich cyflogadwyedd a’ch entrepreneuriaeth gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe. Rydym yn helpu ein myfyrwyr i gael y gyrfaoedd maen nhw’n eu haeddu. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o brofiadau gwaith â thâl a chyngor ar yrfaoedd drwy ei thîm cyflogadwyedd a mentergarwch penodol. • Ffeiriau Gyrfaoedd • Gweithgareddau entrepreneuraidd • Rhwydweithio i gyn-fyfyrwyr • Lleoliadau gwaith • Cymorth i’ch helpu i ddechrau eich busnes eich hun ar ddiwedd eich astudiaethau abertawe.ac.uk/cyflogadwyedd

Roedd Prif Lysgennad Sefydliad Scar Free, Cyn-filwr gwrthdaro’r Falklands, Simon Weston, yn cadw cwmni i Iarlles Wessex. Dywedodd Mr Weston, sydd â chreithiau dros 85-90 y cant o’i gorff ar ôl i fom daro ei long yng ngwrthdaro’r Falklands: Mae’r cyfle i ailadeiladu hyder pobl sydd ag anffurfiadau i’r wyneb a’r corff yn aruthrol. Ni allwch newid yr hyn sy’n digwydd i bobl ond drwy’r ymchwil a’r datblygiad hwn gallwch newid eu dyfodol.

28

29

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28-29 Page 30-31 Page 32-33 Page 34-35 Page 36

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook flipbook maker