Prosbectws-Israddedig-2021-Prifysgol-Abertawe

Prosbectws Israddedig 2021 Prifysgol Abertawe

DRWS I DDYFODOL DISGLAIR

ISRADDEDIG 2021

CROESO I

Y dyfarniad uchaf (Aur) am ragoriaeth addysgu ym mhrifysgolion y DU

Yn seiliedig ar 41,000+ o adolygiadau myfyrwyr a gasglwyd

(Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019) 0

BODDHAD MYFYRWYR UCHAF YN Y DU

DRWS I DDYFODOL DISGLAIR Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol uchelgeisiol sy’n enwog am ei henw da academaidd ac addysgu a chyfeillgarwch a’i chynwysoldeb. Sefydlwyd y Brifysgol ym 1920 fel lle o ragoriaeth academaidd i ategu cysylltiadau diwydiannol cyfoethog y rhanbarth, ers hynny, mae’r Prifysgol wedi mynd o nerth i nerth. Mae ein campysau glan-môr godidog a chymuned cyfeillgar yn gwneud Abertawe yn lleoliad dymunol i fyfyrwyr o bob cwr o’r byd, sy’n galluogi’r bobl sy’n ymuno â ni i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n eu paratoi ar gyfer gyrfaoedd llewyrchus a llwyddiannus.

5 UCHAF YN Y DU (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) 5 RHAGOLYGON GYRFA UCHAF YN Y DU (Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020)

Mae ein ffigurau’n siarad drostynt eu hunain gyda’n rhagolygon gyrfa ymhllith y 5 uchaf yn y DU*. Adlewyrchir ein cyfraddau boddhad myfyrwyr yn y ffaith ein bod wedi ennill y teitl Prifysgol y Flwyddyn WhatUni ac ymhlith y 10 uchaf yn y DU am foddhad myfyrwyr (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2019**). Mae gan y Brifysgol gysylltiadau amlddiwylliannol a rhyngwladol, ac rydym yn falch o’n traddodiad o gefnogi, hyrwyddo a chyfoethogi diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg. Mae ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac yma cei fanteisio ar gyfleoedd unigryw a chyffrous i astudio amrediad eang o bynciau yn yr iaith. Mae hwn yn amser cyffrous iawn i’r Brifysgol ac rydym yn dy groesawu i fod yn rhan ohono.

BODDHAD CWRS

(Gynghrair y Bobl a’r Blaned Prifysgol The Guardian 2019) 0 Y BRIFYSGOL WYRDDAF UCHAF YN Y DU 0 DINAS PRIFYSGOL RATAF (TotallyMoney.com 2019) UCHAF YN Y DU

*Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020 **Yn seiliedig ar restr o Brifysgolion y DU a gynhwysir yn The Times Canllaw Prifysgolion Da 2019

DIWRNODAU AGORED 2020

ARCHEBA LE AR DDIWRNOD AGORED: abertawe.ac.uk/diwrnodau-agored 4 EBRILL • 13 MEHEFIN • 17 HYDREF • 7 TACHWEDD

B

BYWYD ABERTAWE Cymera gipolwg ar ein 10 Gorau i Lasfyfyrwyr a ‘Dod i Adnabod Abertawe’

PAID Â BOD YN NERFUS Gweler ein gwybodaeth ar Undeb y Myfyrwyr a Chymorth a Lles

DEALL Y JARGON

Cymera gipolwg ar ein canllaw deall y jargon

04 06 08 10 12 14 16 20 22 24 26 30 32 35 39 40

PAM MAE YMCHWIL YN BWYSIG ABERTAWE A’R RHANBARTH PIGION GLASFYFYRWYR BARN EIN MYFYRWYR MAP CAMPWS PARC SINGLETON MAP CAMPWS Y BAE LLETY GYRFAOEDD, SGILIAU A CHYFLOGADWYEDD ASTUDIO A GWEITHIO DRAMOR ACADEMI HYWEL TEIFI ASTUDIO A CHYMDEITHASU DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG UNDEB Y MYFYRWYR

TUDALENNAU 30 + 40

TUDALEN 47

DEWISIADAU GYRFA Gwiria ein tudalennau ar Gyflogadwyedd a rhestr ‘gyrfaoedd y dyfodol’ ar bob un o’n tudalen cwrs TUDALEN 20

YN YSTYRIED TEITHIO DRAMOR YN YSTOD DY ASTUDIAETHAU? Cadwa lygad am y

TUDALEN 08

IECHYD A LLES Mae hyn yn bwysig inni, cymera gipolwg ar wasanaethau myfyrwyr

ATHRAWON AC YMGYNGHORWYR Mae manylion llawn y cwrs yn yr adran Cyrsiau, ac mae’r adran, ‘Sut i Wneud Cais’, yn rhoi gwybodaeth fanwl ar ein cynnig, gan gynnwys ein ‘cynnig gwarantedig’ ar gyfer lle

GWNEUD CAIS Gweler ein rhestr wirio hwylus a’n cyngor wrth ein Swyddfa Dderbyn ar wneud cais

CHWARAEON CYFLEUSTERAU CYNALIADWYEDD LLES A CHYMORTH MYFYRWYR RHAGLENNI BLWYDDYN SYLFAEN CYRSIAU GRID CYFEIRNODI CYRSIAU

symbol awyren drwy’r holl dudalennau cyrsiau

TUDALENNAU 148 + 151

YN POENI NA FYDDI DI’N BODLONI’R GOFYNION GRADDAU? Archwilia dy opsiynau; mae gennym amrywiaeth o raglenni Blwyddyn Sylfaen Integredig gydag amrywiaeth o gymwysterau derbyniol. Gweler ein tudalennau Sylfaen a chwilia am y symbol sylfaen ar bob tudalen cwrs

PAID Â DERBYN EIN GAIR NI AM HYN… Chwilia am yr hyn y mae gan fyfyrwyr ei ddweud am fyw ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe

42 48 134 145 146 148 152 153

TUDALEN 40

TEITHIO O GWMPAS

MYNEGAI FFIOEDD AC ARIANNU YMGEISIO NODIADAU MAP

TUDALEN 42

TUDALEN 10

Gwiria amseroedd teithio a chael gwybod mwy am ein bysus dydd a nos, a pha mor hawdd yw hi i fynd o gampws i gampws ac o’r campws i’r ddinas

RHEOLI DY ARIAN Dysga fwy am gostau byw nodweddiadol wrth fyw yn Abertawe a chael y wybodaeth lawn ar ffioedd, ariannu ac ysgoloriaethau

A HOFFET TI ASTUDIO DRWY GYFRWNG Y

GYMRAEG? Cadwa lygad am y symbolau swigen siarad wrth ymyl cyrsiau lle mae hyn ar gael

TUDALENNAU 12-14 + 153

TUDALENNAU 17 + 146

02

03

Mae gennym arbenigwyr o’r radd flaenaf sy’n rhagweithiol wrth ymgymryd ag ymchwil, drwy gydweithio byd-eang â busnesau a sefydliadau ym mhedwar ban byd. Nid yn unig mae’r ymchwil hon yn helpu i atgyfnerthu cyrsiau gyda gwybodaeth gynhwysol a pherthnasol, mae hefyd yn annog ein myfyrwyr i ddysgu i feddwl mewn ffyrdd beirniadol a gwreiddiol, gan chwilio am gwestiynau yn ogystal ag atebion. Mae llawer o’n hymchwilwyr yn addysgu ar gyrsiau yma hefyd, sy’n golygu y gelli di fod yn gweithio gydag arbenigwyr byd-eang ar flaen y gad yn eu meysydd. Wrth i ti barhau gyda dy astudiaethau, gelli di ymuno â’u timoedd ymchwil, gan helpu i newid y byd. Gelli helpu i newid y byd a goresgyn heriau byd-eang, drwy weithio gydag academyddion byd-enwog, defnyddio cyfleusterau ymchwil blaenllaw a chydweithio â busnesau ac academyddion byd-eang. 30 PRIFYSGOL YMCHWIL UCHAF YN Y DU (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 – 2021)

Rydym ni’n brwydro heriau byd-eang drwy ymchwil ryngddisgyblaethol, yn annog meddwl gwreiddiol a chydweithio cydweithredol. Mae ein hymchwil yn ein helpu i atal, brwydro a gwrthdroi heriau byd-eang, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl a diwydiant. Rydym yn: • Datblygu dur gwyrddach a glanach, ac yn troi plastigion yn hydrogen i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. • Helpu i wella iechyd y boblogaeth drwy ddatblygu micronodwyddion ac asesu lefelau diogelwch nonoddeunyddiau. • Gwneud yn siŵr na chaiff hanes ei anghofio drwy gadw henebion, ac yn • Annog tegwch, gan sicrhau diogelwch unigolion a chymunedau ledled y byd drwy ddylanwadu ar bolisi a mabwysiadu ymagwedd sy’n seiliedig ar bobl at dechnolegau digidol.

PRIFYSGOL YMCHWIL DDWYS

GWRANDO AR EIN PODLEDIADAU

DARGANFOD MWY:

abertawe.ac.uk/ymchwil

ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG

Rydym ymysg y 30 o brifysgolion gorau, ac mae 90% o’n hymchwil yn cael ei hystyried yn flaenllaw yn rhyngwladol neu’n rhagorol yn rhyngwladol ar gyfer yr effaith mae’n ei chael ar ein cymdeithas.

Lawrlwytha nawr abertawe.ac.uk/ymchwil/podlediadau

04

05

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau’n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5000 o arteffactau o’r Hen Aifft.

Y DDINAS A’R

CARTREF I DYLAN THOMAS Mae gan y ddinas ger y lli ei llais barddonol ei hun. Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli di ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau. Dwi wrth fy modd gyda marchnad dda ac wrth lwc, dwi’n byw yn Uplands sydd â marchnad fisol, lle mae tyfwyr, cynhyrchwyr, ffermwyr ac arlwywyr lleol yn gwerthu eu nwyddau. Mae hon yn farchnad fach hyfryd, felly os wyt yn dwlu ar fwyd a phethau tlws fel fi, mae’n werth ymweld â hi! Joanna Wolton, myfyriwr PhD sy’n ysgrifennu blog studentblogs.swan.ac.uk/cy

AR GARREG Y DRWS Ar benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 30 munud i ffwrdd yn unig yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gennyt dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. Y MWMBWLS Man geni Catherine Zeta Jones, mae pentref pert y Mwmbwls yn cynnig amrywiaeth gwych o siopau, caffis, bariau gwin, tafarnau a bwytai. Cer am dro a mwynhau hufen iâ yn un o’r parlyrau niferus ar hyd y promenâd, neu beth am alw yn un o’r bwytai a chaffis glan môr â golygfeydd dros Fae Abertawe ar Oyster Wharf. SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu fachu bargen ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas.

CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas! Mae gan Abertawe amrywiaeth enfawr o leoliadau cerddoriaeth ac mae nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn.

Bannau Brycheiniog, Cymru

06

07

PIGION

DAWNS YR HAF

Mae Dawns Haf Prifysgol Abertawe, sy’n debyg i ŵyl, yn cael ei chynnal ar y lawnt o flaen Abaty Singleton, ac mae’n noson fawr yng nghalendr y myfyrwyr. Mae’r digwyddiad yn denu perfformwyr proffil uchel yn rheolaidd – mae’r prif atyniadau yn y gorffennol wedi cynnwys Pendulum, Rudimental, Pixie Lott, Tim Minchin, Sub Focus a Florence and the Machine.

BLASU HUFEN IÂ

Os yw’r haul yn gwenu’n braf neu os yw’r tymheredd islaw sero, does dim gwahaniaeth, bydd bob amser ciw o bobl y tu allan i barlwr hufen iâ enwog Joe’s yn Abertawe.

Ymuna a chael bod yn rhan o rwydwaith astudio a chymdeithasu cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. YMUNA Â CHANGEN Y COLEG CYMRAEG

CYSTADLU YN YR EISTEDDFOD RHYNG-GOL

LAWRLWYTHA AP ARWAIN

Dere i gynrychioli Prifysgol Abertawe a chystadlu yn un o brif ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol myfyrwyr Cymru.

Yr ap sy’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnat am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, cefnogaeth ariannol i fyfyrwyr, a chyfleoedd i fyw a chymdeithasu trwy’r Gymraeg yn Abertawe.

Rydym yn falch o rannu ein dinas â’r tîm pencampwriaeth yng Nghymru, yr Elyrch arwrol. Ymuna yn y cyffro yn Stadiwm Liberty. PÊL-DROED Y BENCAMPWRIAETH

YMUNA Â’R GYMGYM A CHLWB CHWARAEON TAWE

VARSITY CYMRU

CER I’R TRAETH

Gwisga liwiau’r fyddin werdd a gwyn a bloeddia dy gefnogaeth i Abertawe yng Ngemau Prifysgolion Cymru, y digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru.

Ymuna â’r Gymdeithas Gymraeg er mwyn bod yn rhan o’r croliau, y nosweithiau cymdeithasol a’r tripiau blynyddol i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hefyd Glwb Rygbi a Phêl-rwyd Tawe.

Mae dros 50 o faeau a thraethau i’w dewis! Boed law neu hindda, rho gynnig ar syrffio neu geufadu, neu cer am dro i ddianc.

Mae’n bosib bod taith i Barc Trampolinio Limitless yn un o’r ffyrdd mwyaf difyr o wneud ymarfer corff. BOWNSIO LAN A LAWR!

08

09

@beth_carmel

BARN EIN

#ymlacio

#BywydPrifAbertawe

MYFYRWYR

#PrifAbertawe

Cei fwy o wybodaeth gan ein myfyrwyr presennol a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar gan eu bod wedi rhannu eu profiadau eu hunain a darparu argymhellion defnyddiol ynghylch byw ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Gwylia ein blogiau, a gwrando ar ein podlediadau myfyrwyr, dilyna ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael yr holl wybodaeth, boed yn; ymgartrefu yn y brifysgol i sut brofiad yw byw yn Abertawe.

@jadwigajagiellonska

@emilysuggett

Sut i wneud ffrindiau ym Mhrifysgol

#PrifAbertawe

@sylvermimi

DILYNA NI I GAEL Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AR ABERTAWE

Syrffio yng Ngŵyr

56

SGANIA I DDILYN:

@luanneguyenhuynh

@PR I FABERTAWE

@mdasssx

Radio 1s Biggest Weekend yn Abertawe!

@kmistry95

@jadwigajagiellonska

Gwranda ar beth sydd gan ein myfyrwyr i’w ddweud spoti.fi/2PDfDeu

@ahmetzenginmake

@ashleighblue_18_

Wythnos y Glasfyfyrwyr

#antur

Sgania i wrando:

Gwylia yma:

@hamishgmlawson

10

11

CAMPWS PARC SINGLETON

TRAETH SY’N YMESTYN DROS BUM MILLTIR, TAFLIAD CARREG O’R CAMPWS

BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws y Bae, 10 munud i ganol y ddinas TŶ FULTON Bar Undeb y Myfyrwyr / Clwb nos, archfarchnad, Banc Santander, llefydd bwyd (gan gynnwys fegan) UNDEB Y MYFYRWYR ACADEMI HYWEL TEIFI PENTREF CHWARAEON A PHWLL CENEDLAETHOL

CELFYDDYDAU A’R DYNIAETHAU GWYDDONIAETH GWYDDORAU DYNOL AC IECHYD MEDDYGAETH Y GYFRAITH A THROSEDDEG CANOLFAN TALIESIN A’R GANOLFAN EIFFTAIDD LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL PARC SINGLETON MY UNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian i ymholiadau cwrs

Y BRIFYSGOL WYRDDAF UCHAF Y DU (Gynghrair y Bobl a’r Blaned Prifysgol The Guardian 2019) 0

CYFLEUSTERAU ARALL:

• Caplaniaeth • Doctor/Deintydd

• Golchdy • Mosg

TA I TH RH I THWI R

abertawe.ac.uk/rhith-daith

12

13

aeroviews.co.uk

CAMPWS Y BAE

CWRT BWYD, THE CORE FFOWNDRI GYFRIFIADUROL (Cyfrifiadureg a Mathemateg) LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL Y BAE PEIRIANNEG Y COLEG Y NEUADD FAWR YR YSGOL REOLAETH UNDEB Y MYFYRWYR, Tafarn Tawe

BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws Parc Singleton, 10 munud i ganol y ddinas MY UNIHUB Cynnig gwybodaeth, ac arweiniaid ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian i ymholiadau cwrs

CYFLEUSTERAU ARALL: • Siop Goffi Coffeeopolis • Lle i addoli • Campfa a chyfleusterau chwaraeon

• Golchdy • Archfarchnad

LLEOLIAD GLAN MÔR

TA I TH RH I THWI R

abertawe.ac.uk/rhith-daith

14

15

DOES UNMAN YN DEBYG

COSTAU BYW NODWEDDIADOL

£89

TOCYN BWS MYFYRIWR Tocyn bws gyda theithio diderfyn £30 Y MIS PRYD O FWYD I DDAU (yn seiliedig ar brif gwrs & diod mewn bwyty lleol) CYFARTALEDD RHENT WYTHNOSOL 10 uchaf yn y DU am Ddinas Prifysgol Rataf (totallymoney.com 2019) CAMPWS I’R DDINAS Tacsi o Gampws Parc Singleton i ganol y ddinas £6 AELODAETH GYM Pentref Chwaraeon y Brifysgol £18.99 Y MIS £22

LLETYA Â SIARADWYR CYMRAEG ERAILL

Gall dechrau yn y brifysgol fod yn dipyn o gorwynt, a dyna pam ein bod ni eisiau i ti gael ychydig o dawelwch meddwl pan ddaw hi ar drefnu dy lety. Os wyt ti eisiau byw yn un o’n neuaddau cysurus ar y campws, yn y pentref myfyrwyr neu mewn un o’r tai preifat o dan reolaeth asiantaeth osod (SAS), mae ein Gwasanaethau Llety Myfyrwyr yma i sicrhau dy fod yn dewis y llety sy’n siwtio dy ofynion di orau.

Mae’r Brifysgol yn awyddus i gefnogi’r gymuned gref o siaradwyr Cymraeg sy’n fyfyrwyr yma. O ganlyniad, rydym wedi adnabod dwy neuadd ar gyfer darparu cyfle i fyfyrwyr rannu llety â siaradwyr Cymraeg eraill, sef Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton ac Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae. Darperir llety en-suite ac hunanarlwyo gyda gofodau cymdeithasu yn y neuaddau hyn. BYW AR GAMPWS Mae byw mewn llety ar Gampws Parc Singleton neu Gampws y Bae yn dy roi yng nghanol bywyd prifysgol. Mae’r llety hunanarlwyo yn cynnwys ystafelloedd wedi’u dodrefnu’n llawn, ystafelloedd en-suite ac ystafelloedd safonol gyda chegin, a lle bwyta a rennir – y dewis perffaith i dy helpu i ymgartrefu’n gyflym ac yn rhwydd. BYW YN Y PENTREF MYFYRWYR* Cei llety pellach ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan sydd tua dwy filltir o Gampws Parc Singleton. Gelli ddewis llety hunanarlwyo mewn fflatiau neu dai i amrywiol feintiau. Os wyt ti’n dewis byw yn y Pentref, bydd gennyt ystafell dy hun ar gyfradd fforddiadwy sy’n cymharu’n ffafriol â llety’r sector preifat. Mae bywyd myfyriwr yn y Pentref yn gymdeithasol, cefnogol a gelli fanteisio ar: • Golchdy • Tocyn bws First Group Unibus am ddim am gytundebau 13 wythnos *Mae llety ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21 Gwiria ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: abertawe.ac.uk/llety

• Rhyngrwyd diwifr am ddim • Ceir rhwydwaith o fyfyrwyr, PWYNTIAU ALLWEDDOL ResNet, sy’n byw yn y preswylfeydd ac sy’n dy gynrychioli o’u gwirfodd • Mae’r ystafelloedd yn ystafelloedd sengl yn unig (ag eithrio fflatiau teuluol Tŷ Beck a nifer cyfyngedig o ystafelloedd â dau wely ar Gampws y Bae) • Golchdai 24/7 • Ystafelloedd wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr ag anghenion arbennig, gan gynnwys defnyddwyr cadeiriau olwyn – cysyllta â’r Swyddfa Anableddau am ragor o wybodaeth • En-suite ar gael

abertawe.ac.uk/llety Edrych tu mewn

16

17

CAMPWS Y BAE

PARC SINGLETON

LLETY

MATH O YSTAFELL RHENT WYTHNOSOL*

LLETY AR GYFER TEULUOEDD YN NH Ŷ BECK

Pentref Myfyrwyr Hendrefoelan

Safonol

£93

Banc

Mae gennym nifer o fflatiau teuluoedd yn ein presylfa dawel ddynodedig, T ŷ Beck, oddeutu milltir o’r campws yn ardal Uplands. Oherwydd tenantiaeth 51 wythnos, mae’r llety hwn yn addas ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig a rhyngwladol yn bennaf. DOD O HYD I’R LLETY PERFFAITH YN Y SECTOR PREIFAT Os byddai’n well gennyt fyw oddi ar y campws, mae yna gyflenwad da o dai a fflatiau sector preifat o safon yn Abertawe. Mae ein hasiantaeth gosod, Gwasanaethau Llety Myfyrwyr (SAS) yn rheoli 130 o dai yn ardaloedd Brynmill, Uplands, a Sgeti sy’n boblogaidd â myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt o fewn dwy filltir i’r campws a cyn ardaloedd St Thomas a Port Tennant yn agos at Gampws y Bae. Mae’r ardaloedd hyn hefyd yn agos i siopau lleol, bariau a chyfleusterau prydau parod. Mae modd chwilio ein cronfa ar-lein, Studentpad, i ddod o hyd i dai sydd ar gael yn yr ardal ac mae’n declyn gwerthfawr sy’n arbed ymdrech wrth chwilio am dai. saslettings.co.uk

Banc

En-suite Safonol** Safonol En-suite Fflat Teuluol

£130 – £158 £125 – £144 £108 – £113 £124 – £135 £172 – £210

Campws Parc Singleton

Tŷ Beck

Bar Coffi

Canolfan Iechyd

En-suite En-suite Premiwm

£148 £154 £182 (£91 y pen) £202 £256 (£128 y pen)

Cyfleusterau Chwaraeon

Canolfan y Celfyddydau Taliesin

Ystafell â dau wely Fflat un ystafell wely Fflat dwy ystafell wely

Campws y Bae

Mae gennym rai ardaloedd tawel a rhai sy’n ddi-alcohol hefyd

Cyfleusterau Chwaraeon

Diogelwch 24 awr

Os wyt ti’n siarad Cymraeg mae gennym lety penodol i siaradwyr Cymraeg fyw gyda’i gilydd yn Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae ac Aelwyd Penmaen ar Gampws Parc Singleton

Deintydd & Meddyg

Golchdy

Neuadd Fawr

Diogelwch 24 awr

PRYD Y DYLWN WNEUD CAIS AR GYFER LLETY?

DEWIS BLE I FYW YM MHRIFYSGOL ABERTAWE

Cyn gynted â phosibl! Os wyt wedi derbyn cynnig pendant i astudio gyda ni, cei ymgeisio am lety ym mis Chwefror – byddi di’n derbyn cyfarwyddiadau ar sut i ymgeisio ar-lein oddi wrth y brifysgol. Rydym yn dy gynghori i wneud cais yn gynnar, yn enwedig ar gyfer llety en-suite sy’n boblogaidd tu hwnt.

Golchdy

Neuadd Fwyd

Neuadd Fwyd

Siop Fach

abertawe.ac.uk/llety llety@abertawe.ac.uk +44 (0)1792 295101

Undeb y Myfyrwyr

Siop Fach

* Mae’r ffioedd yma ar gyfer sesiwn academaidd 2019/20. Mae’r raddfa ar gyfer mynediad 2021 gan gynnwys y preswylfeydd ar Gampws y Bae yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd. Cynghorwn i ti edrych ar ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf. ** Lle’n gymwys, mae prisiau llety safonol ar y Campws yn cynnwys costau wythnos o arlwyo.

Gwylia yma:

Undeb y Myfyrwyr

18

19

CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR

GYRFAOEDD, SGILIAU, CYFLOGADWYEDD AC ENTREPRENEURIAETH

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT Rho hwb i’th yrfa drwy dreulio

Ein nod yw helpu ein myfyrwyr i gyflawni’r gyrfaoedd maent yn eu haeddu. Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o leoliadau gwaith a chyngor gyrfaol trwy ei thîm gyrfaoedd a menter ymroddedig, yn ogystal â ffeiriau gyrfaoedd, gweithgareddau entrepreneuraidd a digwyddiadau rhwydweithio â chyn-fyfyrwyr rheolaidd, i’th helpu i ddechrau dy fusnes dy hun neu ddod o hyd i waith ar ddiwedd dy astudiaethau. CREU GRADDEDIGION CYFLOGADWY AC ENTREPRENEURAIDD Mae ein hanes hir o weithio’n agos gyda chyflogwyr yn sicrhau bod y radd y byddi di’n ei hastudio ym Mhrifysgol Abertawe’n rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn cyflogaeth neu hunangyflogaeth. Mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd ennill profiad a datblygu sgiliau yn y brifysgol yn rhoi mantais gystadleuol i ti. Gall ein tîm arobryn, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, dy helpu i archwilio syniadau am yrfa, llunio CV gwych, dod o hyd i waith rhan-amser, gwirfoddoli, dod o hyd i leoliad gwaith, paratoi ar gyfer cyfweliadau a sicrhau dy swydd gyntaf ar ôl graddio.

Gyda’n tîm menter, gallwn hefyd dy helpu i ddatblygu dy ddawn arloesol ac entrepreneuraidd. Diolch i’n hystod o wasanaethau cymorth, gan gynnwys gweithdai, cystadlaethau, cynlluniau, mentora busnesau ochr yn ochr â phartneriaid corfforaethol gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant.

blwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’th radd. Mae llawer o’n rhaglenni gradd yn cynnwys cyfle i weithio am flwyddyn mewn diwydiant fel rhan o’r cwrs, gan ddarparu profiad gwerthfawr a chyfle i roi damcaniaeth ar waith a chael dy dalu ar yr un pryd. Mae hyn yn rhoi mantais i ti wrth ddechrau ar lwybr gyrfa ac mae’n edrych yn wych ar dy CV. Am fanylion llawn y rhaglenni sy’n cynnig blwyddyn mewn diwydiant, darllena dudalennau cyrsiau unigol. CYMORTH PWRPASOL • Gelli ennill credyd cydnabyddedig drwy Wobr Cyflogadwyedd Abertawe. Bydd yn rhoi cyfleoedd i ti ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, profiadau a phriodweddau i’th baratoi ar gyfer bywyd proffesiynol a gwella dy gyflogadwyedd ar ôl graddio • Mae bwrsariaethau Cyflogadwyedd yn helpu gyda chostau interniaethau, cyfweliadau a chyfleoedd cyflogadwyedd • Cyfleoedd cyflogaeth â thâl i fyfyrwyr drwy’r cynllun myfyrwyr llysgennad • I fyfyrwyr sy’n wynebu rhwystrau i waith, mae rhaglen profiad gwaith ar gael drwy raglen Go Wales

Easily Eco Mentergarwch Myfyrwyr Prifysgol Abertawe

DARGANFOD MWY:

Diolch i’r Tîm Menter am eu holl help rydych chi wedi’i roi i ni, ni allem fod wedi gwneud hynny hebddyn nhw! Mae eu digwyddiadau gwych wedi rhoi’r dewrder inni droi ein hangerdd yn fusnes. Rydym yn gyffrous i barhau â’n taith ymhellach gyda chymorth yr arian hadau. Prifysgol Abertawe a drefnir gan dîm Mentrau’r Brifysgol. Roedd Easily Eco yn un o saith busnes a ddewiswyd gan y panel o feirniaid o ddiwydiant i dderbyn cyllid cychwynnol. Derbyniwyd £1,250 ganddynt a wnaeth eu helpu i greu gwefan ac ehangu amrywiaeth eu cynnyrch. Mae ‘Easily Eco’ yn fenter gymdeithasol a ddechreuwyd gan fyfyrwyr sy’n cynnig amrywiaeth o gynnyrch nad ydynt yn niweidio’r amgylchedd ac sy’n canolbwyntio ar leihau defnydd plastig yn ein bywydau beunyddiol. Lansiwyd y grŵp cyfeillgar hwn gan dri myfyriwr o Brifysgol Abertawe, Joe Sevenoaks, Emily MacAulay a Rhiannon Barriball, sy’n frwdfrydig dros wella’r amgylchedd a’r byd rydym yn byw ynddo, a phenderfynon nhw gymryd rhan ym menter Her £100

a bertawe.ac.uk/ y-brifysgol/astudio/ cyflogadwyedd/ @SwanseaUniSea

#SeaYourFuture

LLEOLIADAU AC INTERNIAETHAU

Drwy ein Rhwydwaith Interniaeth â Thâl, rydym yn cysylltu cyflogwyr â myfyrwyr o bob disgyblaeth ar gyfer lleoliadau gwaith pedair wythnos ar lefel raddedig. Hysbysebir yr holl rolau ar ein Parth Cyflogaeth a bydd ein tîm ymroddedig yma yn dy gefnogi drwy broses y lleoliad gwaith. Mae lleoliadau gwaith ar gael drwy gydol y flwyddyn, mewn amrywiaeth enfawr o feysydd pwnc. Rydym hefyd yn cynnal Rhaglen Lleoliadau Prifysgolion Santander sy’n darparu profiad gwaith cyflogedig i fyfyrwyr a graddedigion diweddar, mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector lleol.

Found from website recreated PMS

(Tabl Cynghrair Prifysgolion The Guardian 2020) 5 RHAGOLYGON GYRFA UCHAF YN Y DU

easilyeco.co.uk/shop

20

21

PROFIADAU

BLWYDDYN DRAMOR Gall myfyrwyr sy’n dilyn cynllun gradd, sy’n cynnwys blwyddyn dramor, astudio mewn prifysgol partner i ni yn ystod y drydedd flwyddyn. Yn ogystal, mae yna opsiynau i dreulio’r flwyddyn yma yn cwblhau lleoliad gwaith rhyngwladol neu i weithio fel cynorthwyydd dysgu. Bydd rhai graddau’n cynnig yr opsiwn i drosglwyddo i amrywiad sy’n cynnwys blwyddyn dramor ar ôl i ti gofrestru. SEMESTER DRAMOR Mae rhai cyrsiau’n rhoi cyfle i ti dreulio semester dramor. Mae hyn fel arfer yn ystod ail flwyddyn gradd tair blynedd. Efallai y bydd rhaid i ti gyrraedd trothwy academaidd penodol er mwyn cymryd rhan mewn rhaglen semester neu flwyddyn dramor. Mae’r lleoliadau sydd ar gael a’r costau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen yn amrywio. Am ragor o wybodaeth cer i: abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang RHAGLENNI’R HAF Mae rhaglenni’r haf a byr yn ffordd wych i ti ennill profiad rhyngwladol gwerthfawr yn ogystal â dy radd. Gelli ddewis wrth raglenni interniaeth, gwirfoddoli, diwylliannol ac astudio mewn gwledydd yn cynnwys yn Tseina, Japan, Zambia, Fiji ac Ewrop. CYLLID Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu ar gael i gefnogi myfyrwyr sy’n dewis mynd dramor, fodd bynnag, gan y gallai’r rhain newid, cyfeiria at ein gwefan am y wybodaeth ddiweddaraf: abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd- eang/cyfleoedd-byd-eang/ cyllid-ac-ariannu

Treuliodd Piers flwyddyn ym Mhrifysgol Talaith Colorado, UDA, fel rhan o’i radd mewn Astudiaethau Americanaidd ac mae’n frwdfrydig am annog eraill i astudio dramor. Piers Ellison

Apeliodd CSU atai gan yr oedd ganddi amrywiaeth o ddosbarthiadau unigryw nad oeddwn i’n gallu dod o hyd iddynt yn unrhyw le arall. Ni allwn i fod wedi gallu gofyn am brofiad gwell. Roedd y flwyddyn dramor yn gymorth i mi wrth benderfynu ar bwnc ar gyfer fy nhraethawd yn y flwyddyn olaf a chefais groeso cynnes iawn gan bawb y cwrddais i â nhw.

Mae Hermione yn fyfyrwraig Biowyddorau. Cwblhaodd Hermione leoliadau gwaith ym Mecsico ac Awstralia. Mae hi’n bellach yn Ymgynghorydd Cyfoed Mynd Ymhellach. Hermione Sanderson

Mae Prifysgol Abertawe yn ceisio cynnig cyfle i bob myfyriwr israddedig ennill profiad rhyngwladol trwy ystod o ddewisiadau gan gynnwys blwyddyn dramor, semester dramor a rhaglenni haf. Trwy astudio, gweithio neu gwirfoddoli dramor, byddi di’n sicrhau dy fod yn sefyll allan, fe fyddi di’n datblygu sgiliau newydd a rhwydwaith rhyngwladol gwerthfawr wrth adeiladu rhwydwaith rhyngwladol o ffrindiau a chysylltiadau. Fe fyddi di’n gallu: • Meithrin hyder, datblygu hunanymwybyddiaeth ac aeddfedu • Datblygu persbectif byd-eang ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol • Hwyluso dy allu i addasu i amgylcheddau a heriau newydd • Gwella sgiliau ieithyddol a chyfathrebu • Datblygu sgiliau trosglwyddadwy i helpu dy yrfa

Roeddwn i’n gallu profi’r amgylcheddau mwyaf amrywiol a hardd, gan ymuno â mi mewn diwylliannau a theithio i gymaint o leoedd gwahanol. Mae wedi rhoi persbectif newydd i mi ar fywyd!

Mae Emily yn fyfyrwraig Rheoli Busnes a dreuliodd pedair wythnos yn ystod yr haf yn gwirfoddoli yn Fiji. Emily Weaver

abertawe.ac.uk/mynd-yn-fyd-eang

Gwirfoddoli yn Fiji yw un o brofiadau gorau fy mywyd. Roedd yn werthfawr mewn cynifer o ffyrdd ac nid oedd yn rhywbeth roeddwn i erioed wedi ystyried ei wneud o’r blaen. Bues i’n byw gyda theulu o Fiji ac yn gwirfoddoli mewn ysgolion. Roedd gweithio gyda’r plant yn wych ac mae ffordd o fyw Fiji a’r bobl yna yn rhywbeth na fyddaf byth yn eu hanghofio.

swanseauniglobal

22

23

ACADEMI

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i’th gefnogi i wneud hynny trwy gydol dy amser gyda ni. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti adael yr ysgol neu’r coleg nid yn unig yn rhoi mantais i ti yn dy astudiaethau ond hefyd yn rhoi mantais i ti o ran dy gyflogadwyedd. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae cyfleoedd i ti astudio cymaint ag y gelli o fewn dy bwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, neu i fanteisio ar ambell fodiwl neu ddarlith, ac fe gei gefnogaeth ac anogaeth lawn. Mae hawl gen ti gyflwyno dy waith cwrs ac i sefyll dy arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os wyt ti wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Gweler ein Grid Cyfeirnodi Cyrsiau ar dudalennau 134-144 i ddarganfod beth sydd ar gael fesul pwnc. GWOBR ACADEMI HYWEL Mae Gwobr Academi Hywel Teifi yn gwobrwyo myfyrwyr sy'n cyfrannu at fywyd a gweithgareddau diwylliannol ac academaidd Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’r wobr yn cydnabod rôl, cyfraniad a llwyddiannau sy’n ymwneud â chefnogi, hyrwyddo a dathlu’r cyd-destun Cymraeg a Chymreig. Bydd y Wobr yn cael ei chofnodi ar dy dystysgrif gradd.

Megan Fflur Colbourne, Swyddog Materion Cymraeg, Undeb y Myfyrwyr

Lawrlwytha ap Arwain er mwyn derbyn y diweddaraf am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, ynghŷd â gwybodaeth am y gefnogaeth ariannol gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cei wybodaeth hefyd am y cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg tra’n astudio yma.

Fy mhrif rôl fel Swyddog Materion Cymraeg yw cynrychioli’r gymuned Gymraeg o fewn y Brifysgol. O ddydd i ddydd rwyf yn sicrhau bod llais y myfyrwyr yn cael ei glywed o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Ystyriaf fy hun fel prif gyswllt y myfyrwyr mewn perthynas â materion Cymraeg a gallant ddod ataf gydag unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau am eu profiadau yn y Brifysgol. Dwi am ymdrechu i sicrhau bod bywyd myfyrwyr Cymraeg yn y Brifysgol yn llawn hwyl a bod yna ddigon o gyfleoedd Cymraeg ar gael iddynt, a’u bod yn derbyn yr un statws â phob myfyriwr arall.

abertawe.ac.uk/academi-hywel-teifi

Am fanylion pellach, e-bostia astudio@abertawe.ac.uk

AcademiHywelTeifi

@AcademiHTeifi AcademiHTeifi AcademiHywelTeifi

24

25

ASTUDIO A CHYMDEITHASU DRWY GYFRWNG

CANGEN PRIFYSGOL ABERTAWE, COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL Mae Cangen y Coleg yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth wrth i ti astudio a chymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Gangen yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys digwyddiadau croeso i las fyfyrwyr, digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr Cymraeg, a fforymau trafod i roi llais i fyfyrwyr ar eu haddysg a’u profiad addysgol. Mae’r Gangen hefyd yn hwyluso dy gyfle i ymgeisio am y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a chyfleoedd profiad gwaith mewn amgylchfyd gwaith iaith Gymraeg. abertawe.ac.uk/cangen-abertawe Y GYMDEITHAS GYMRAEG Mae'r GymGym yn rhoi cyfleon amrywiol i ti gymdeithasu â siaradwyr Cymraeg eraill mewn amgylchedd anffurfiol. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn cwrdd yn rheolaidd gan drefnu llu o weithgareddau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg gan gynnwys tripiau rygbi, gigs, a crôls, Eisteddfodau Rhyng-gol a llawer mwy. Mae’r Gymdeithas Gymraeg yn gweithio’n glos gyda Changen Abertawe o'r Coleg Cymraeg gan hefyd gefnogi Clwb Rygbi Tawe a Phêl Rwyd Tawe.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig nifer o gyfleoedd i ti astudio a chymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg a chei dy annog i wneud hynny. Cefnogir myfyrwyr sy’n astudio trwy’r Gymraeg gan Academi Hywel Teifi. Mae ein data TEF* dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dangos bod myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn gyflawnwyr uchel o ran cyflogadwyedd. Mae gan Academi Hywel Teifi a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ysgoloriaethau i fyfyrwyr sy’n dewis astudio rhan o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg. YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU CYFRWNG CYMRAEG Mae cynllun Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau cyfrwng Cymraeg Academi Hywel Teifi yn gynllun sy’n agored i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dewis dod i Brifysgol Abertawe ac sydd yn ystyried neu yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg lle bo cyfle, yn hytrach na thrwy’r Saesneg.

Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66% o’u cwrs (80 credyd y flwyddyn) trwy’r Gymraeg PRIF YSGOLORIAETH £3,000 CADWA LYGAD AM Y SYMBOL AR BOB UN O’N TUDALENNAU CWRS Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 33% o’u cwrs (40 credyd y flwyddyn) trwy’r Gymraeg YSGOLORIAETH CYMHELLIANT £1,500 Ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio 100% o’u cwrs trwy’r Gymraeg YSGOLORIAETH WILLIAM SALESBURY £5,000

COLEG CYMRAEG

Am fanylion pellach, e-bostia astudio@abertawe.ac.uk

* Canlyniadau TEF Prifysgol Abertawe 2017 a 2018

26

MAE GEN

Mae gen ti hawl gyfreithiol i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol.

FYFYRWYR CYMRAEG LLETY PENODOL I

Aelwyd Penmaen ar Gampws Singleton Aelwyd Emlyn ar Gampws y Bae

yn y Gymraeg FFURFLENNI

LLYTHYRAU yn y Gymraeg

CYFRWNG CYMRAEG ADDYSG A PHROFIAD

ar draws ystod o bynciau

yn y Gymraeg CYFARFODYDD

CYFLWYNO GWAITH YSGRIFENEDIG yn y Gymraeg

113 % YN ASTUDIO DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Ers 2011

yn y Gymraeg TYSTYSGRIFAU

yn y Gymraeg CAIS AM GYMORTH ARIANNOL

YSGOLHEIGION RHAGOROL

LLYFRYN CROESO yn y Gymraeg

Rhai o brif ysgolheigion Cymru â bri rhyngwladol yn dysgu yma trwy gyfrwng y Gymraeg

sy’n siarad Cymraeg TIWTOR PERSONOL

GWASANAETH CWNSELA

LLEOLIADAU GWAITH

yn y Gymraeg

Sy’n agor drysau wedi i ti raddio

28

29

MAE UNDEB ABERTAWE YN CYNNIG: • Dros 150 o gymdeithasau a dros 50+ o glybiau chwaraeon • Union Collective, platfform i helpu myfyrwyr gydag arian ac adnoddau i gymryd eu syniadau busnes ar lawr gwlad • Cyfle i weithio ar gyfer y papur newydd myfyrwyr, gorsaf deledu a gorsaf radio • Canolfan Gynghori a Chymorth yn helpu gyda phopeth o landlordiaid i anghyfodau academaidd • Meithrinfa ar y campws sy’n hyblyg o gwmpas darlithoedd myfyrwyr • Llais i fyfyrwyr yn y Brifysgol, gan sicrhau bod barn myfyrwyr yn cael ei glywed ar bob lefel

UNDEB Y

DAWNS YR HAF UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL ABERTAWE

GEFNOGI

Mae ein tîm yn cynnal ymgyrchoedd trwy gydol y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth o faterion, neu fentrau hynod bwysig i’th gefnogi ti! Dyma ychydig yn unig: Cymorth Astudio: gwasanaethau am ddim i’th helpu i ymdopi â chyfnodau astudio dwys (gan gynnwys ymweliad gan g ŵ n bach cudd gan ein ffrindiau yn Achub Milgwn Cymru) Rho Rywbeth Diangen: Ar ddiwedd pob blwyddyn, rydyn ni’n mynd â’th eitemau diangen fel nad ydyn yn mynd i safleoedd tirlenwi a’u cynnig i fyfyrwyr newydd ym mis Medi. Potiau, sosbenni, seigiau, gallwn ni helpu! BloodyHell: Er mwyn helpu curo tlodi misglwyf, rydym wedi sicrhau bod eitemau misglwyf ar gael yn rhwydd i bob myfyriwr yn ein toiledau a’n derbynfeydd Gelli ddilyn y tîm ar Instagram @susuofficers i ddarganfod beth arall maen nhw’n ei wneud!

swanseaunisu

swanseaunion

swanseaunion

Grace Hannaford Llywydd Undeb Myfyrwyr 2019 - 2020

Mae gennym gynrychiolwyr colegau a phynciau hefyd – dyma’r myfyrwyr sy’n gweithio gyda’r Brifysgol i ymdrin â phroblemau sydd gan fyfyrwyr ar eu cwrs. Rydym hefyd yn gyfrifol am y siopau a barrau ar y campws – JC’s, Tafarn Tawe, Rebound, Root, Root Zero, Costcutter a Fulton Outfitters. Mae’r holl arian sy’n cael ei wario yn y lleoliadau hyn yn mynd yn syth yn ôl i brofiad y myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn trefnu Pythefnos y Glas, Dawns yr Haf, Varsity, a llu o ddigwyddiadau gwych eraill i ti eu mwynhau!

Rydym ni yma i wneud dy amser ym Mhrifysgol Abertawe y gorau y gall fod. Rydym yn ethol chwe swyddog amser llawn sy’n cynrychioli myfyrwyr ym mhopeth sy’n ymwneud â’r brifysgol.

30

31

YN OGYSTAL Â’N LLEOLIAD ARFORDIROL RHAGOROL, MAE ABERTAWE’N CYNNIG RHAI O’R CHWARAEON GORAU MEWN UNRHYW BRIFYSGOL YM MHRYDAIN

YSGOLORIAETHAU CHWARAEON

CHWARAEON

Rydym yn falch ein bod wedi meithrin rhai o’r doniau chwaraeon o’r radd flaenaf yma ym Mhrifysgol Abertawe ac ymfalchïwn yn yr ysgoloriaethau chwaraeon rydym yn eu cynnig. Rydym yn chwilio am fyfyrwyr sydd wedi dangos gallu neilltuol yn eu camp ac sydd wedi cynnig: £5 , 500 YSGOLORIAETH CHWARAEON Amodau a thelerau’n berthnasol

Yma yn Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a ffyrdd actif o fyw. Mae gennym gyfleoedd chwaraeon sy’n addas i bob un o’n myfyrwyr, o’r athletwyr elît/ rhyngwladol i’r rhai sy’n dechrau o’r dechrau, mae rhywbeth at ddant pawb.

RHAGLEN CAMPWS ACTIF AC IACH Yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21, byddwn yn cynnig ystod newydd a gwych o weithgareddau i fyfyrwyr a hoffai ddod yn fwy actif, a chymryd rhan mewn rhywfaint o ymarfer corff. Felly os wyt yn dechrau arni, mae gennym weithgareddau a chyrsiau cymdeithasol llawn hwyl sy’n addas i ti, megis ein cynghreiriau cymdeithasol hynod boblogaidd er enghraifft. CYFLEUSTERAU Mae Abertawe’n gartref i ddau o’r cyfleusterau chwaraeon blaenllaw yng Nghymru, gan gynnwys y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol (ISV), a Maes Hyfforddi Fairwood sy’n ganolfan hyfforddi i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae gan y ddau gampws gyfleusterau iechyd a ffitrwydd ardderchog, gan gynnwys offer a dosbarthiadau o’r radd flaenaf. Mae’r Brifysgol hefyd yn cynnig cyfleuster cryfder a chyflyru o’r radd flaenaf (Y Sied) sydd ar gael i athletwyr elît. Mae ein hystod eang o gyfleusterau chwaraeon i fyfyrwyr yn cynnwys: • Cyrtiau tenis • Caeau chwarae • Trac a chae athletau • Pafiliwn chwaraeon • Caeau astroturf • Ardal gemau amlddefnydd â llifoleuadau a chwrt pêl-fasged hanner maint • Gwasanaeth llogi beiciau a llwybrau rhedeg Defnyddiodd Crysau Duon Seland Newydd ein Pentref Chwaraeon Rhyngwladol i hyfforddi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015, ac mae ein pwll cenedlaethol 50m wedi’i ddefnyddio fel canolfan hyfforddi i ddau dîm Paralympaidd rhyngwladol. A thithau’n fyfyriwr, cei ddefnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf hyn.

abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

abertawe.ac.uk/y-brifysgol/ chwaraeon

Llewod Prydain ac Iwerddon, chwaraewr Cymru a’r Gweilch a chyn-fyfyriwr y Gyfraith, Abertawe Alun Wyn Jones

O ganlyniad i’r Ysgoloriaeth Chwaraeon yn y brifysgol, ces i gyfle i ddilyn dau lwybr gyrfaol ar yr un pryd. Mae gen i atgofion melys o’m hamser ym Mhrifysgol Abertawe, yn enwedig ennill Gêm y Prifysgolion. Dwi’n gwybod na fydd gyrfa mewn chwaraeon yn para am byth, felly dwi’n fodlon ystyried dychwelyd i wella fy nghymwysterau yn y dyfodol.

32

33

RHAGLEN PERFFORMIAD UCHEL Mae ein Rhaglen Perfformiad Uchel yn cynnig cymorth i athletwyr elît mewn ystod o gampau gwahanol. Cyflawnir pob rhaglen ar y cyd â chlwb chwaraeon proffesiynol neu gorff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer partner chwaraeon. Ar hyn o bryd mae ein rhaglen yn cefnogi chwe champ ac mae’n tyfu bob blwyddyn. Mae pob camp yn derbyn hyfforddiant perfformiad uchel, gwasanaethau ym maes y gwyddorau chwaraeon, rheoli ffordd o fyw athletwyr, ffisiotherapi a chymorth cryfder a chyflyru. Ar hyn o bryd, dyma’r chwaraeon: Rygbi dynion a menywod, pêl-droed dynion, nofio, hoci dynion a menywod, pêl-rwyd, a thenis bwrdd. Mae’r Brifysgol yn cynnig Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS) i athletwyr dawnus iawn a phecyn cymorth gwerth hyd at £5,500 a allai gynnwys; hyfforddiant cryfder a chyflyru, ffisiotherapi, cymorth seicolegol a chyngor maethol – a darperir pob un ohonynt gan ymarferwyr cymwys. Ceir nifer o becynnau ysgoloriaeth, i gael rhagor o wybodaeth: abertawe.ac.uk/ysgoloriaethau

CHWARAEON CYSTADLEUOL Ni yw’r Brifysgol sy’n gwella gyflymaf yn nhablau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain (BUCS) ac rydym yn yr 18fed safle ar hyn o bryd yn nhabl 2018-19. Yn ystod 2018-19, gwnaethon ni ennill ein nifer uchaf o bwyntiau yng nghynghrair Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain, ac adeiladu ar hyn ymhellach yn 2019-20 oherwydd bod ein perfformiadau’n gwella ac mae nifer o dimau’n tyfu. Ceir ystod eang o gyfleoedd i ti gynrychioli’r Brifysgol yn gystadleuol yng ngemau Chwaraeon Prifysgolion a Cholegau Prydain a chystadlaethau domestig allweddol oherwydd cei ymaelodi â dros 50 o glybiau chwaraeon. Mae ein clybiau’n cynnig ystod o sesiynau hyfforddi a arweinir gan hyfforddwyr i roi’r cyfle i ti gyflawni dy nodau o ran chwaraeon.

CHWARAEON

VARSITY Gemau’r Prifysgolion yw’r digwyddiad mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, tu ôl i’r gêm rhwng Rhydychen a Chaergrawnt. Yn ystod Gemau’r Prifysgolion, mae Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau gwahanol, o bêl-fasged, rhwyfo, golff a hoci i gleddyfaeth, sboncen a Ffrisbi Eithafol. Gwylia uchafbwyntiau Gemau’r Prifysgolion y llynedd fan hyn: welshvarsity.com

Sgania i wylio:

VARSITY: ABERTAWE VS CAERDYDD

34

35

COLEG

36

37

GWNEUD CYNALIADWYEDD YN RHAN HANFODOL O

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth eang o gynefinoedd i’w mwynhau, o draethau i goetir a pharciau, ac rydym yn angerddol am ddatblygu cynaliadwy er lles ein cymuned leol, y DU a’r byd ehangach. Fel myfyriwr, bydd digon o gyfleoedd i ti gyfrannu at gadwraeth ymarferol. Gelli wirfoddoli i helpu i gadw’r ardaloedd hyn yn arbennig drwy gymryd rhan yn ein sesiynau rheolaidd i lanhau’r traethau, ein partïon gwaith a monitro bywyd gwyllt. Yn ogystal â helpu’r amgylchedd, byddi yn dysgu sgiliau newydd ac yn cwrdd â ffrindiau newydd ar yr un pryd. Y WOBR CYNALIADWYEDD P’un a oes gennyt ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles, neu unrhyw beth yn y canol, bydd gennym rywbeth i ti! Y Wobr Cynaliadwyedd yw ein rhaglen unigryw i ymgysylltu â myfyrwyr. Gall myfyrwyr o unrhyw bwnc, mewn unrhyw flwyddyn o’u gradd, weithio tuag at y wobr hon yn ystod eu hamser gyda ni ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cwblhau’r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academydd ac yn dysgu ystod eang o sgiliau i ti. Y BRIFYSGOL WYRDDAF UCHAF Y DU (Gynghrair y Bobl a’r Blaned Prifysgol The Guardian 2019) 0 abertawe.ac.uk/y-brifysgol/cynaliadwyedd

Plastigau, gan gynnwys poteli plastig untro, yw’r math o sbwriel

a ddarganfyddir amlaf ar draethau’r DU ac nid oes rhaid i ti edrych yn bell i’w canfod yn sbwriel ein trefi a’n mannau gwyrdd hefyd. Mae Prifysgol Abertawe yn

MYFYRWYR

brifysgol gynaliadwy flaenllaw ac rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi Refill gyda’n partneriaid yn Abertawe Plastig Am Ddim ac Undeb Myfyrwyr. Mae Swyddogion Undeb Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansio’r ymgyrch; bellach, mae gennym o leiaf 30 o orsafoedd Adnewyddu ar draws ein campysau Bae a Pharc Singleton i’r gymuned gyfan eu defnyddio. Teifion Maddocks Swyddog Cynaliadwyedd a Lles Prifysgol Abertawe

38

39

RYDYM YMA

YMGARTREFU

Dwi’n cofio’r misoedd cyntaf yn y Brifysgol fel y cyfnod mwyaf anodd i ymdopi ag ef. Ar ben bod yn sâl a gweld eisiau cysur cartref, roeddwn i’n eithaf swil ac yn teimlo nad oeddwn i’n gallu ffurfio cysylltiad â’r myfyrwyr eraill yn fy fflat a oedd i gyd eisiau mynd mas a joio drwy’r amser. Dwi’n gwybod bod myfyrwyr eraill yn profi, neu maen nhw wedi profi, teimladau tebyg yn y brifysgol, ond mae’n bwysig gwybod a deall nad ti yw’r unig un a does dim rhaid i ti ddelio â phethau ar dy ben dy hun. Weithiau, gall y brifysgol deimlo’n lle unig, ond gall pobl sy’n dy dderbyn ac yn becso am dy les helpu i leddfu’r teimladau hyn o unigrwydd. Mae’n bwysig sylweddoli hefyd, os wyt ti’n rhy sâl, nad oes rhaid i ti ddyfalbarhau a’th wneud dy hun yn waeth (a theimlo nad oes unrhyw ateb) – gelli wneud cais am absenoldeb neu amgylchiadau esgusodol. Mae’r brifysgol yn cynnig llawer o wasanaethau i helpu myfyrwyr a allai fod mewn anawsterau, o gwnsela, gwasanaethau lles ar y campws a chymorth bugeiliol gan staff. Does dim cywilydd mewn defnyddio’r gwasanaethau hyn na chydnabod a chyfaddef nad wyt yn mwynhau dy amser yn y brifysgol (er y gall hyn fod yn anodd).

Mae dy les yn bwysig i ni. Er mwyn mwynhau a chyfoethogi dy brofiad ym Mhrifysgol Abertawe, gelli gael gafael ar gyngor diduedd am ddim ac ystod o wasanaethau cymorth mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a chyfrinachol.

Gelli fanteisio ar amrywiaeth o wasanaethau cymorth myfyrwyr yn ystod dy amser yn y brifysgol. Yn ogystal â’th helpu i ymgartrefu yn ystod yr wythnosau cyntaf, gallant wneud dy holl amser yma ym Mhrifysgol Abertawe mor ddi-straen a hwylus â phosib.

HYB Y MYFYRWYR SUT GA L LWN DY HE L PU ?

DARGANFOD MWY:

Mae Hyb y Myfyrwyr yma i wneud bywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe mor hawdd â phosib. Rydym yn cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr. Felly, os hoffet gael cymorth i gofrestru neu dalu dy ffioedd yn bersonol, os oes angen cyngor ar dai arnat, cymorth gyda chyllid myfyrwyr neu gymorth i reoli dy lwyth gwaith, Hyb y Myfyrwyr yw’r lle i fynd!

abertawe.ac.uk/astudio/adran-gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

LLESIANT BYWYDCAMPWS

ANABLEDDAU BYWYDCAMPWS Yn sicrhau’r un profiad i’r holl fyfyrwyr. Mae Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe yn wasanaeth trawsgrifio arbenigol sy’n darparu adnoddau dysgu hygyrch i’w hargraffu ar gyfer myfyrwyr anabl.

Mae gofal deintyddol y Brifysgol yn cynnig ystod lawn o driniaethau’r GIG a phreifat i fyfyrwyr. Lleolir Meddygfeydd Deintydd a Meddygon ar y campws.

LLES BYWYDCAMPWS

ARIAN (BYWYDCAMPWS) Mae’r tîm hwn bob amser wrth law i’th helpu i wneud y gorau o’th arian a chadw llygad ar dy gyllideb.  Gwiria ein rhestr wirio arian cyn cyrraedd:  abertawe.ac.uk/ arian-bywydcampws

Amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy’n hybu ac yn edrych ar ôl lles myfyrwyr, gan gynnwys gwasanaeth cymorth iechyd meddwl.

Joanna Wolton Myfyriwr PhD

40

41

CYFRIFEG A CHYLLID / RHEOLAETH BUSNES / ECONOMEG CAMPWS Y BAE

BLWYDDYN SYLFAEN

CEMEG CAMPWS PARC SINGLETON Safon Uwch neu gyfwerth: CCD gan gynnwys Safon UG/ Safon Uwch Cemeg a Mathemateg neu TGAU gradd B Mae'r Flwyddyn Sylfaen Integredig hon yn addas os nad oes gennyt y cymwysterau angenrheidiol i ddechrau'r cwrs tair blynedd yn uniongyrchol

BIOWYDDORAU CAMPWS PARC SINGLETON Safon Uwch neu gyfwerth: CCD gan gynnwys Bioleg TGAU: Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf

Safon Uwch neu gyfwerth: Caiff pob cais ei ystyried yn unigol. Amrywiol os na chredi dy fod yn bodloni ein gofynion mynediad safonol, cysyllta â ni i drafod dy gymwysterau ar gyfer mynediad i'r Flwyddyn Sylfaen TGAU: Saesneg a Mathemateg gradd C o leiaf Gofynion mynediad nodweddiadol: Nid oes angen cymhwyster Safon Uwch mewn Busnes, Economeg, Mathemateg na Chyfrifeg a Chyllid. Nid ydym yn ystyried Astudiaethau Cyffredinol Mae'r Flwyddyn Sylfaen Integredig yn llwybr gwych i ennill y wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen arnat cyn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 yn yr Ysgol Reolaeth. Mae cwrs y flwyddyn sylfaen integredig ei hun yn cyfuno theori â defnydd ymarferol, ac amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol a fydd yn dy alluogi i addasu dy radd er mwyn cyflawni dy nodau gyrfaol. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Busnes, Economeg, Egwyddorion TGCh, Globaleiddio, Ystadegau DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Cyfrifeg • Cyfrifeg a Chyllid • Cyllid • Rheolaeth Busnes (gydag arbenigedd dewisol mewn: Cyllid, Dadansoddeg Busnes, E-Fusnes, Entrepreneuriaeth, Gweithrediadau a Chyflenwi, Marchnata, Rheolaeth Adnoddau Dynol, Ymgynghoriaeth Rheoli a Thwristiaeth) • Economeg

BETH YW BLWYDDYN SYLFAEN? Os nad oes gennyt y gofynion mynediad angenrheidiol sydd eu hangen arnat i gael dy dderbyn i flwyddyn gyntaf gradd, efallai y byddwn yn cynnig lle i ti ar gwrs gradd sydd â blwyddyn sylfaen integredig. Ystyr hyn yw y byddi’n astudio am bedair blynedd yn hytrach na thair.

PA SGILIAU ERAILL Y GALLAF EU DYSGU YN YSTOD FY MLWYDDYN SYLFAEN? Yn dibynnu ar dy bwnc, fe alli di fireinio sgiliau eraill y gallai fod eu hangen arnat. Er enghraifft, os wyt am astudio Ffiseg, ond dy arholiad Mathemateg Safon Uwch a'th siomodd, mae'r flwyddyn sylfaen yn rhoi cyfle gwych i ti ddatblygu dy sgiliau Mathemateg at y safon. Byddi hefyd yn dod Yn ystod dy flwyddyn gyntaf, byddi’n gallu gwella dy sgiliau a gwella dy ddealltwriaeth o'r pwnc. Byddi yna'n mynd yn syth i mewn i'r prif gwrs gradd. Pan fyddi di’n graddio, bydd fel petait wedi graddio o'r cwrs gradd tair blynedd a bydd dy gymhwyster yn radd Baglor, e.e. BSc (Anrh) neu BA (Anrh).

A FYDD ASTUDIO BLWYDDYN SYLFAEN YN GOLYGU FY MOD Y TU ÔL I FYFYRWYR ERAILL?

Ddim o gwbl – mae llawer o'n myfyrwyr sydd wedi astudio blwyddyn sylfaen yn perfformio'n well na myfyrwyr sy'n dechrau ar flwyddyn gyntaf y brif radd. Mae llawer ohonynt yn mynd ymlaen i gael graddau dosbarth cyntaf, maen nhw'n llysgenhadon gwych ar gyfer y Brifysgol ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn eu hadran. Graddiodd Nathan Pine sy'n gyn-fyfyriwr yn yr adran Ffiseg gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, a chanlyniad terfynol anhygoel o 92%. Rhestrwyd Nathan hefyd yn gydawdur ar bapur ymchwil ochr yn ochr â'i diwtor a myfyriwr PhD. Ddim yn ffôl ar gyfer myfyriwr israddedig! DYWEDODD NATHAN: Ni wireddais fy mhotensial llawn yn y chweched dosbarth felly yn ystod fy mlwyddyn sylfaen a’r flwyddyn gyntaf yn Abertawe, sylweddolais mai fy astudiaethau oedd fy mhrif flaenoriaeth, a llwyddais i gael marciau uwch ac uwch. Rhoddodd hyn agwedd gadarnhaol i mi at fy ngwaith pan es i ymlaen i’r ail a’r drydedd flwyddyn, gan adael i mi ennill canran uchel iawn yn gyson ar draws amrywiaeth o fodiwlau.

Mae llwybr gradd strwythuredig a hyblyg yn golygu bod gennyt gyfle i astudio dramor am flwyddyn neu weithio mewn diwydiant am flwyddyn - naill ai'n lleol, yn genedlaethol neu dramor. Mae'r cwricwlwm Cemeg yn Abertawe yn cael ei lywio gan anghenion diwydiant modern ac mae'n cael ei ddiweddaru'n gyson. Mae hyn yn sicrhau y caiff deunydd perthnasol sy'n gymwys i'r byd ehangach ei addysgu i ti bob amser. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Adweithiau a Chynhyrchion, Cemeg Elfennol, Dulliau Dadansoddi a Chanfod, Mathemateg Sylfaenol i Gemegwyr, Ffiseg, Cemeg, Synthesis a Dadansoddi DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Cemeg

Mae'r flwyddyn sylfaen integredig yn rhoi cyfle i feithrin dealltwriaeth wyddonol a rhifiadol sy'n hanfodol i gwblhau gradd mewn Bioleg yn llwyddiannus. Mae'r radd hon yn rhoi’r hyblygrwydd i archwilio bywyd naturiol waeth beth fo dy ddiddordebau. FEL ARFER MAE’R MEYSYDD SY’N CAEL EU HASTUDIO’N CYNNWYS: Bioleg Folecwlaidd a Biocemeg, Bioleg Sylfaen, Sgiliau Ymchwil ar gyfer Biolegwyr, Technegau mewn Ecoleg: cyflwyniad DILYNIANT I’R RHAGLENNI GRADD BSc ANRHYDEDD SENGL CANLYNOL*: • Bioleg • Bioleg y Môr • S ŵ oleg

yn fwy hyderus yn dy allu dy hun. PA GYMWYSTERAU SYDD EU HANGEN ARNAF I WNEUD CAIS?

Rydym yn ystyried ceisiadau ar sail eu rhinweddau eu hunain, felly gall cynigion amrywio, ond rydym yn gwarantu † y byddwn yn rhoi cynnig i ti. Gallai hyn fod ar ffurf cynnig nodweddiadol o raddau. Rhestrir y cynnig nodweddiadol ar y tudalennau pwnc yn y prosbectws hwn fel tair Safon Uwch, ond rydym yn hapus i dderbyn ystod o gymwysterau eraill. Felly, gwiria’r tudalennau cyrsiau unigol ar ein gwefan i gael meini prawf mwy manwl a phenodol i'r pwnc: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau

• Biowyddorau • Cemeg • Cyfrifeg a Chyllid • Cyfrifiadureg MEYSYDD PWNC BLWYDDYN SYLFAEN IINTEGREDIG • Daearyddiaeth • Economeg • Ffiseg

• Gwyddoniaeth • Gwyddorau Meddygol Cymhwysol • Mathemateg

• Peirianneg • Rheolaeth Busnes • Y Dyniaethau

• Economeg a Busnes • Economeg a Chyllid

Am fanylion llawn y cwrs a chodau UCAS unigol gweler y rhestr o gyrsiau A-Z ar: abertawe.ac.uk/israddedig/cyrsiau a darganfydda’r radd a restrir ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ *Mae cwblhau’r flwyddyn sylfaen yn darparu dilyniant i’r rhaglenni gradd a restrwyd

†  Nid yw cynigion amodol a warentir yn berthnasol i gyrsiau proffesiynol, ac mae'r gweithdrefnau dewis arferol yn gymwys. Gellir dod o hyd i fanylion llawn am ein Polisi Cynnig Gwarantedig ar abertawe/israddedig/gwneud-cais/cynigion-wedi-gwarantu

42

43

Page 1 Page 2-3 Page 4-5 Page 6-7 Page 8-9 Page 10-11 Page 12-13 Page 14-15 Page 16-17 Page 18-19 Page 20-21 Page 22-23 Page 24-25 Page 26-27 Page 28-29 Page 30-31 Page 32-33 Page 34-35 Page 36-37 Page 38-39 Page 40-41 Page 42-43 Page 44-45 Page 46-47 Page 48-49 Page 50-51 Page 52-53 Page 54-55 Page 56-57 Page 58-59 Page 60-61 Page 62-63 Page 64-65 Page 66-67 Page 68-69 Page 70-71 Page 72-73 Page 74-75 Page 76-77 Page 78-79 Page 80-81 Page 82-83 Page 84-85 Page 86-87 Page 88-89 Page 90-91 Page 92-93 Page 94-95 Page 96-97 Page 98-99 Page 100-101 Page 102-103 Page 104-105 Page 106-107 Page 108-109 Page 110-111 Page 112-113 Page 114-115 Page 116-117 Page 118-119 Page 120-121 Page 122-123 Page 124-125 Page 126-127 Page 128-129 Page 130-131 Page 132-133 Page 134-135 Page 136-137 Page 138-139 Page 140-141 Page 142-143 Page 144-145 Page 146-147 Page 148-149 Page 150-151 Page 152-153 Page 154-155 Page 156

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook - Online magazine maker