Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Cymerwch gip ar brosbectws ôl-raddedig digidol 2024 Prifysgol Abertawe, sy'n cynnwys gwybodaeth am astudio yn Abertawe, gwybodaeth lawn am gyrsiau a fideos gan fyfyrwyr am fywyd myfyrwyr.

PRIFYSGOL ABERTAWE ÔL-RADDEDIG 2024

CYLLID ÔL-RADDEDIG AR GAEL AR DRAWS YR HOLL FEYSYDD PWNC

CROESO I

Darganfydda fwy am Brifysgol Abertawe a’n rhaglenni Ôl-raddedig trwy gadw lle ar un o’n diwrnodau agored sydd ar ddod*. CADWA DY LE HEDDIW:

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

*edrycha ar ein gwefan i gael manylion llawn, dyddiadau a fformat y diwrnodau agored sydd ar ddod.

YN SAFLE 307 YN FYD-EANG O BRIFYSGOLION UCHAF Y BYD

(QS World University Rankings 2024)

YN Y DU 7

FED ÔL-RADDEDIG

(Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023)

(Safle Prifysgolion y DU www.universitycompare.com) 5 YN Y DU ED

SAFLE’R BRIFYSGOL YN SEILIEDIG AR 13,000+ O ADOLYGIADAU MYFYRWYR

12 YN Y DU PRIFYSGOL Y FLWYDDYN FED

(Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023)

86 % O’N HANSAWDD YMCHWIL YN

ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

YN Y DU

4 YDD 47 AIN

YN Y BYD

(Times Higher Education Impact Rankings 2023)

4 TH IN THE UK 47 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023) 4 TH IN THE UK 11 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023) 4 TH IN THE UK 47 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023)

01

CYNNWYS 06  DARGANFOD ABERTAWE 08  MAPIAU’R CAMPWS

12  YMCHWIL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE 16  GRADDAU ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR 18 GRADDAU YMCHWIL ÔL-RADDEDIG 22 DY GYMUNED YMCHWIL ÔL-RADDEDIG

26 ISRADDEDIG I ÔL-RADDEDIG 28 ARIANNU DY ASTUDIAETHAU 34 CYN-FYFYRWYR 36 BARN EIN MYFYRWYR 40 LLETY

gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Paul Boyle

44 GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD 46 ASTUDIO A GWEITHIO DRAMOR 48 MANTEISION ASTUDIO TRWY’R GYMRAEG

50  ACADEMI HYWEL TEIFI 52 UNDEB Y MYFYRWYR 54  CHWARAEON 61 CYNALIADWYEDD 62 LLES A CHYMORTH MYFYRWYR 64 DY GANLLAW I’R CYRSIAU 65 CYRSIAU A-Y

140 SUT I WNEUD CAIS 142 RHESTR WIRIO’R CAIS

02

gwelliannau digidol. Mae ein hymchwil yn gyson yn llywio

Rydym hefyd yn darparu amgylchedd cydweithredol a

polisïau sy’n effeithio ar Gymru a’r Gymraeg, gydag ymchwil i effaith y twf mewn ail gartrefi yng Nghymru ymhlith y diweddaraf i ddylanwadu ar gynlluniau ein llywodraeth. Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cydnabyddiaeth fyd-eang ar ôl cael ei gosod yn safle 307 yn gyffredinol, ymhlith yr 21% gorau yn y byd o brifysgolion, yn y QS World University Rankings diweddaraf yn 2024. Rydym yn y 7fed safle yn y DU (Ôl-raddedig) ac yn 12fed yn gyffredinol ar gyfer Prifysgol y Flwyddyn yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr What Uni 2023, y gwobrau prifysgol blynyddol mwyaf yn y DU, a bleidleisiwyd gan fyfyrwyr yn unig. Mae hyn yn dyst i’n hymrwymiad i ragoriaeth

chefnogol i ymchwilwyr ôl-raddedig wneud darganfyddiadau sy’n torri tir newydd. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2021), dyfarnwyd bod 91% o’n hamgylchedd ymchwil ac 86% o’n heffaith ymchwil yn arwain yn fyd-eang ac yn ardderchog yn rhyngwladol. Roedd fy rôl academaidd gyntaf fel darlithydd ifanc ym Mhrifysgol Abertawe a gallaf dystio’n bersonol am ansawdd yr addysg a arweinir gan ymchwil a’r cymorth y byddi di’n ei dderbyn yma. Gobeithiaf fod fy malchder yn ein Prifysgol yn glir ond paid â derbyn fy ngair i yn unig – cadwa le ar un o’n diwrnodau agored i gael rhagor o wybodaeth.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn falch o ddathlu cyfraniad sylweddol ein cymuned ôl-raddedig sy’n rhoi safbwynt newydd sy’n ysbrydoli ac yn cyfoethogi ein gwaith. Gobeithiwn y byddi dithau’n gweld llawer i dy ysbrydoli yn nhudalennau’r prosbectws hwn ac yn ystyried ymuno â’n cymuned ffyniannus fel myfyriwr ac ymchwilydd. Mae ymchwil ac arloesi wrth galon profiad Abertawe ac maent yn bwydo’n uniongyrchol i ansawdd ein haddysgu. Yn y prosbectws hwn, cyfeirir yn aml at effaith byd go iawn ein hymchwil, o wella gofal cleifion, i gyflymu’r trawsnewidiad i fyw heb gael effaith ar yr hinsawdd, ac yn rhoi pobl wrth wraidd

academaidd a sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad prifysgol eithriadol.

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ diwrnodagored

03

Siarad Abertawe? Nid dinas a phrifysgol yn unig yw Abertawe, mae'n ffordd o fyw. Rydym yn sôn am y bobl, y lleoedd, y bwyd, y profiadau a'r atgofion… Mae "Eiconau Abertawe" wedi cael eu dewis gan ein myfyrwyr o bob cwr o'r byd i ddisgrifio'r hyn sy'n gwneud Abertawe mor arbennig. O Varsity i Verdi's, Stryd y Gwynt i Fae Abertawe, mae’r cyfan gan Abertawe! Cadwa lygad allan am ein heiconau lliwgar ar y campws pan fyddi di'n ymweld, lle gelli di sganio codau QR i ymdrochi yng ngolygfeydd a synau Abertawe.

"GWEDDW CREFFT HEB EI DAWN"

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/siaradabertawe

LLETY SY'N LLONNI

TYWOD RHWNG EIN TRAED

TONNAU DIDERFYN

PENRHYN GŴYR

04

GWYRDD A GWYN AM BYTH

DERE I GEFNOGI'R ELYRCH!

M4 & CAERDYDD

SWANSEA.COM

GORSAF ABERTAWE

A483

PARC SINGLETON

STRYD Y GWYNT

CANOL Y DDINAS

YSBYTY

CAMPWS Y BAE

PENTREF CHWARAEON

STRYD Y GWYNT

WIND ST

MARINA

CAMPWS PARC SINGLETON

AI HON YW STRYD ENWOCA' CYMRU?

FAINT O'R GLOCH YW HI, MISTAR BAE?

JOE'S NEU VERDI'S HUFEN IÂ AMDANI

Y MWMBWLS

GOLEUO DY FFORDD ADREF

05

ABERTAWE

Dere i ddarganfod mannau cudd hudolus i dynnu lluniau gwefreiddiol, llwybrau cerdded arfordirol trawiadol, llwybrau beicio mynydd o safon fyd-eang a thraethau arobryn. Mae’r cyfan ar garreg ein drws.

Castell Pennard, Traeth y Tri Chlogwyn, Gŵyr, Abertawe

06

AR GARREG Y DRWS Ar Benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cwta 30 munud i ffwrdd yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gen ti dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu godi cynnyrch o Gymru ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas. Mae Siop Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas yn gyfleus ar gyfer llyfrau, cardiau, anrhegion a nwyddau Cymraeg. CARTREF I DYLAN THOMAS Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau. Er bod Abertawe yn gartref i Dylan Thomas, mae’n bwysig cofio am ein beirdd a llenorion Cymraeg sydd â chysylltiadau â’r ddinas a'r brifysgol. I enwi dim ond rhai, Grug Muse enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022 (categori barddoniaeth), y Prifardd Tudur Hallam sy’n Athro yn yr Adran Gymraeg, Kate Bosse-Griffiths yr Eifftolegydd ac awdures, ac wrth gwrs, Saunders Lewis y dramodydd ac ysgolhaig adnabyddus.

Bannau Brycheiniog, Cymru

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau'n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft. CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas gan gynnwys y llu o gigiau Cymraeg ar draws y ddinas ac yn Nhŷ Tawe! Mae Abertawe yn cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae rhai enwau mawr wedi perfformio yn Arena Abertawe newydd sbon, ym Mharc Singleton a stadiwm Swansea.com gan gynnwys: Syr Elton John, The Kooks, Kaiser Chiefs, ac Anne-Marie.

07

SINGLETON CAMPWS PARC

TRAETH SY’N YMESTYN DROS BUM MILLTIR, TAFLIAD CARREG O’R CAMPWS

10 MUNUD AR Y BWS O GANOL Y DDINAS, 3.5KM

13 UCHAF YN Y DU

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

(2021/22)

(Cynghrair Prifysgol People & Planet 2022)

ACADEMI HYWEL TEIFI BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws y Bae, 10 munud i ganol y ddinas CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN A’R GANOLFAN EIFFTAIDD CYFADRAN Y DYNIAETHAU A’R GWYDDORAU CYMDEITHASOL

LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL PARC SINGLETON MYUNIHUB

Cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian, ymholiadau cwrs, i dai. PARC CHWARAEON BAE ABERTAWE

08

TAITH RHITHWIR

abertawe.ac.uk/rhith-daith

Y GYFADRAN MEDDYGAETH, GWYDDORAU IECHYD A BYWYD Y GYFADRAN PEIRIANNEG

CYFLEUSTERAU ERAILL: • Caplaniaeth • Doctor/Deintydd • Golchdy • Mosg

TŶ FULTON Sawl man gwerthu bwyd (gan gynnwys fegan), Greggs a Tortilla (bwyd Mecsicanaidd), a Harbwr Fulton - man cymdeithasol newydd sbon. Clwb nos, siopau, bar Undeb y Myfyrwyr, archfarchnad a siopau coffi. UNDEB Y MYFYRWYR Y GOLEUDY (lle tawel aml-ffydd, i ymlacio, neu gwrdd â ffrindiau)

A GWYDDONIAETH (BIOWYDDORAU, CEMEG, DAEARYDDIAETH, FFISEG)

09

CAMPWS Y BAE

LLEOLIAD GLAN MÔR

15 MUNUD AR Y BWS O GANOL Y DDINAS, 5KM

CYFADRAN Y DYNIAETHAU A’R GWYDDORAU CYMDEITHASOL

BWS 24AWR (yn ystod y tymor) Tua 20 munud i Gampws Parc Singleton, 15 munud i ganol y ddinas CAMPFA A CHYFLEUSTERAU CHWARAEON CUDDFAN GYMDEITHASOL ABERTAWE (Swansea Social Hideaway)

(YR YSGOL REOLAETH) LLETY MYFYRWYR LLYFRGELL Y BAE MYUNIHUB

Cynnig gwybodaeth ac arweiniad ar unrhyw agwedd ar fywyd myfyrwyr; o arian i ymholiadau cwrs, i dai

10

13 UCHAF YN Y DU

TAITH RHITHWIR

CYNGHRAIR PRIFYSGOL

abertawe.ac.uk/rhith-daith

(2021/22)

(Cynghrair Prifysgol People & Planet 2022)

Y NEUADD FAWR YR HAFAN (lle tawel aml-ffydd, i ymlacio, neu gwrdd â ffrindiau)

UNDEB Y MYFYRWYR Y COLEG Y GYFADRAN PEIRIANNEG A GWYDDONIAETH (Y FFOWNDRI GYFRIFIADOL – CYFRIFIADUREG A MATHEMATEG) Y GYFADRAN PEIRIANNEG A GWYDDONIAETH (PEIRIANNEG A GWYDDOR CHWARAEON AC YMARFER CORFF)

CYFLEUSTERAU ERAILL: • Archfarchnad • Golchdy • Siop goffi Coffeeopolis

11

O greu dur gwyrddach a glanach; troi plastig yn hydrogen; gwella iechyd y boblogaeth; gwarchod henebion hynafol i; herio a llunio polisi ynghylch tegwch a chydraddoldeb a sicrhau diogelwch unigolion a chymunedau ledled y byd, mae ein hymchwil yn helpu i atal gwrthdaro ac yn cynnig atebion i heriau byd-eang y byd modern. Gelli helpu i newid y byd a goresgyn heriau byd-eang ym Mhrifysgol Abertawe, drwy weithio gydag academyddion byd-enwog, lle ystyrir bod 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn arwain at gynhyrchu ymchwil sy’n arwain y byd a chyfleusterau ymchwil rhagorol yn rhyngwladol.

91 % O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

a darganfydda fwy am ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn ein cylchgrawn ymchwil pwrpasol: DARLLEN MOMENTWM abertawe.ac.uk/ymchwil/ cylchgrawn-momentwm

GWRANDO AR RAGLEN PODLEDIAD EMILY AR NEWID YN YR HINSAWDD

abertawe.ac.uk/ymchwil/cylchgrawn- momentwm

Dychmyga pe gallai technoleg greu coedwigoedd o goed dal carbon sy’n ymddolennu o amgylch safleoedd diwydiannol gan chwilio am Garbon Deuocsid (CO 2 ) fel Pac-Man newynog, gan fwydo’n awtotroffig ar yr elfen sy’n cyfrannu at y niwed i’r amgylchedd ledled y byd. Darllen erthygl Dr Emily Preedy yng nghylchgrawn Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe yma: ALGÂU: Y PEIRIANNAU LLOWCIO NWY GWYRDD EFFEITHLON

online.flippingbook.com/view/137196162/9

12

RYDYM YN DOD O HYD I

FFYRDD O GADW A DIOGELU’R BYD AR GYFER CENEDLAETHAU’R DYFODOL

YMCHWIL GYFFREDINOL 86 YN ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL ANSAWDD %

Rydym yn cydnabod yr heriau byd-eang yr ydym i gyd yn eu hwynebu. O gynnal prosiect adfer morwellt mwyaf y DU, i hedfan yn uchel gyda chondorau yn yr Ariannin gyda SLAM (Labordy Abertawe ar gyfer Symudiad Anifeiliaid); i wella dealltwriaeth o ymrannu mynyddoedd iâ yn Antarctica a chreu adeiladau sy’n harneisio ac yn storio eu hynni eu hunain. Mae’n cymuned academaidd angerddol yn gweithio i frwydro yn erbyn effeithiau’r argyfwng hinsawdd ar gyfer y dyfodol. abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ dyfodol-cynaliadwy

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

Mae ein hymchwil yn llywio polisïau iechyd byd-eang ac yn galluogi arloesi dyfeisiau, gwasanaethau a diagnosisau i hybu iechyd a lles da. A chan fod cyfleusterau a staff GIG Cymru mor agos, gall ein hymchwilwyr fanteisio i’r eithaf ar arbenigedd rhyngddisgyblaethol a chyfleusterau o’r radd flaenaf. Mae ein hymchwil yn ymchwil drosi, gan drosglwyddo syniadau a dealltwriaeth o’r fainc ymchwil, i erchwyn gwely cleifion ac yn ôl eto. Rydym yn arloesi ffyrdd newydd o drin ac atal afiechydon, gwrthdroi stigma, a lleihau pwysau ar y GIG.

RYDYM YN ARLOESI MEWN DIAGNOSIS IECHYD, GWEITHDREFNAU A DYFEISIAU

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ arloesi-ym-maes-iechyd

13

Mae ein hymchwil yn rhoi pobl wrth wraidd datblygiadau technolegol.

RYDYM YN RHOI POBL

Mae ein hymchwil yn cynnwys ffocws ar hygyrchedd ar gyfer defnyddwyr sydd â nam ar y synhwyrau; datblygu llwyfannau digidol i annog ymgysylltiad gwleidyddol; cadw plant

WRTH WRAIDD DATBLYGIADAU DIGIDOL

yn ddiogel ar-lein a brwydro yn erbyn camddefnydd o’r cyfryngau ar-lein.

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ dyfodol-digidol

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar lywodraethu amddiffyn busnesau bach canolig, hawliau dynol a chyfiawnder troseddol. Mae ein hymchwil yn cael ei hwyluso gan grwpiau ymchwil a chanolfannau fel y Ganolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau, y Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach Ryngwladol, yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a’r Grŵp Ymchwil Llywodraethu a Hawliau Dynol.

RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH I GYMDEITHAS, YN DIOGELU POBL, AC YN SICRHAU CYDRADDOLDEB

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ cyfiawnder-a-chydraddoldeb

Gan weithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn eu maes, gall ein hymchwilwyr wneud prosesau gweithgynhyrchu’n fwy effeithlon i wella cynhyrchiant, gan leihau gwastraff ac arbed ynni ac arian.

RYDYM YN HELPU DIWYDIANT I FOD YN FWY CYNALIADWY

Yn gartref i brosiectau fel ASTUTE sy’n galluogi lefelau uwch o arloesedd busnes ym maes gweithgynhyrchu a gyda chanolfannau rhagoriaeth byd-enwog fel Canolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadol, rydym yn helpu diwydiant i fod yn fwy cynaliadwy. abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ gweithgynhyrchu-clyfar

14

Rydym yn gweithio gyda chymunedau lleol a byd-eang i ddiogelu hanes, dylanwadu ar bolisi ac annog diwylliannau agored a meithringar. O ddiogelu safleoedd treftadaeth ddiwylliannol; i lywio a gwella polisi addysg; hyrwyddo dealltwriaeth well o rôl cyfryngau digidol mewn bywyd cyfoes, mae ein hymchwil yn mynd i’r afael â’r materion a’r problemau allweddol.

RYDYM YN DOD Â PHOBL AT EI GILYDD, YN DIOGELU

HANES, AC YN DYLANWADU AR BOLISI

abertawe.ac.uk/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/ diwylliant-cyfathrebu-a-threftadaeth

Mae ein hymchwil i ddur wedi arwain at ddatblygu dur ysgafnach, gwyrddach, mwy clyfar a phroses gynhyrchu lanach, gan helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae ein campws gwerth miliynau o bunnoedd, sy’n gartref i brosiectau fel SPECIFIC, ac yn agos at bartneriaid y diwydiant Tata Steel, wedi ein galluogi

RYDYM YN CREU ARLOESEDD

MEWN DUR A’R BROSES CREU DUR

i weithio ar draws disgyblaethau i greu a datblygu atebion posibl i’r argyfwng hinsawdd.

abertawe.ac.uk/ymchwil/ ein-huchafbwyntiau/arloesedd-dur

: GWRANDO AR EIN PODLEDIADAU ARCHWILIO PROBLEMAU BYD-EANG

Lawrlwytha nawr:  abertawe.ac.uk/ymchwil/podlediadau

15

A ADDYSGIR

Mae graddau ôl-raddedig a addysgir yn fwy heriol yn academaidd na rhaglenni israddedig. Mae angen mwy o ddysgu hunangyfeiriedig ac fe’u dyfernir i fyfyrwyr sy’n dangos dealltwriaeth estynedig o bwnc penodol. Caiff graddau meistr eu cyflawni drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir a gwaith cwrs wedi’i asesu, a disgwylir i fyfyrwyr gwblhau prosiect ymchwil neu draethawd hir manwl.

Mae graddau meistr a addysgir yn gweithredu fel arfer ar sail modiwlau, sy’n golygu bod myfyrwyr yn dilyn cyfres o fodiwlau a addysgir sy’n werth cyfanswm o 180 o gredydau. Gellir ennill 120 o gredydau o fodiwlau a addysgir, a 60 o gredydau o’r traethawd hir. Mae rhaglenni meistr a addysgir yn aml yn cynnwys cyrsiau sgiliau ymchwil a methodoleg a chyrsiau hyfforddi adrannol penodol, sy’n hanfodol i fyfyrwyr ar lefel meistr a’r rheini sy’n awyddus i barhau i astudio ar gyfer graddau uwch. Mae cyrsiau hyfforddi arbenigol ychwanegol hefyd ar gael yn

ystod y flwyddyn academaidd. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Diploma Ôl-raddedig, rhaid i fyfyrwyr anelu at 120 o gredydau, neu 60 o gredydau ar gyfer Tystysgrif Ôl-raddedig. (Mae rheoliadau penodol yn berthnasol – noder nad yw pob rhaglen yn cynnig y cymwysterau ymadael hyn.) DEWIS RHAGLEN Mae’r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o raddau ôl-raddedig a addysgir, gan gynnwys MA, MSc ac LLM. Gelli ddilyn cwrs ôl-raddedig yn yr un pwnc â dy radd israddedig neu, mewn llawer o achosion, mewn pwnc arall.

16

CYRSIAU TROSI Os wyt ti am newid cyfeiriad dy astudiaethau neu lwybr gyrfa nad yw’n gysylltiedig â dy radd israddedig, rydym ni’n cynnig cyfle i ti astudio cwrs trosi. Mae’r cyrsiau hyn yn caniatáu i raddedigion o unrhyw faes pwnc astudio cwrs meistr ôl-raddedig heb unrhyw gymwysterau perthnasol blaenorol. Mae gennym ddetholiad amrywiol o gyrsiau trosi ar gael ym maes cyllid, gwyddoniaeth, peirianneg, gwyddor iechyd, meddygaeth, y gyfraith, rheoli busnes a’r celfyddydau a’r dyniaethau. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Fel arfer, gellir astudio ar gyfer rhaglenni Meistr, Diplomâu Ôl-raddedig a Thystysgrifau Ôl-raddedig yn llawn amser neu’n rhan amser mewn amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Fe’th anogir i gysylltu â’r adran academaidd dan sylw cyn gwneud cais. Cadwa lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cwrs. ASESIAD DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG Mae gen ti hawl cyflwyno dy waith trwy gyfrwng y Gymraeg.

AI GRADD ÔL-RADDEDIG A ADDYSGIR YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Gwella dy ragolygon gyrfa • Meithrin sgiliau newydd ac arbenigol • Paratoi ar gyfer gradd ymchwil • Datblygu dy wybodaeth bwnc o dy radd gyntaf • Astudio pwnc newydd sbon

LLWYBR CARLAM I FYFYRWYR PRESENNOL PRIFYSGOL ABERTAWE

abertawe.ac.uk/ ol-raddedig/ sut-i-wneud-cais/ llwybr-carlam DARGANFYDDA FWY:

LLWYBR CARLAM Os wyt ti’n fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Abertawe, gelli di wneud cais i astudio ar gwrs Meistr cymwys drwy lwybr carlam. Dyma rai o’r manteision allweddol wrth wneud cais trwy Lwybr Carlam:

Nid oes rhaid i ti ddarparu dy drawsgrifiadau academaidd na ddatganiad personol Bydd dy gais yn cymryd blaenoriaeth Byddi di’n derbyn penderfyniad o fewn 48 oriau gweithio

17

ÔL-RADDEDIG

Mae graddau ymchwil yn rhaglenni academaidd heriol sy’n gofyn i ti astudio pwnc yn fanwl am gyfnod parhaus o amser. Drwy ddyfarnu doethuriaeth neu radd ymchwil arall, cydnabyddir ymrwymiad ymgeiswyr llwyddiannus, y sgiliau lefel uchel a feithrinwyd ganddynt, a’u gallu i gyflwyno gwaith ymchwil gwreiddiol sy’n datblygu dealltwriaeth o’r pwnc dan sylw.

Fel myfyriwr ymchwil, byddi di’n ymgymryd â rhywfaint o hyfforddiant mewn dulliau ymchwil cyn dechrau ar dy raglen ymchwil. Bydd gen ti oruchwylydd academaidd a fydd yn llywio ac yn cefnogi cyfeiriad dy waith ymchwil drwy gydol y cwrs gradd, a bydd cyd-oruchwylydd yn cynnig cymorth ychwanegol fel y bo angen.

18

DEWIS PWNC YMCHWIL Mae graddau ymchwil, yn enwedig ar lefel MPhil a PhD, yn wahanol iawn i raglenni israddedig a rhaglenni meistr a addysgir gan nad oes rhestr ddiffiniedig o gyrsiau i ddewis o’u plith. Gellir astudio graddau MPhil a PhD ar unrhyw bwnc academaidd, ar yr amod bod gan y gyfadran rwyt yn gwneud cais iddi yr arbenigedd i lywio a goruchwylio dy astudiaethau. Hyd yn oed os wyt wedi meddwl am gynnig ymchwil mwy datblygedig, rydym yn argymell y dylet gysylltu â’r Tiwtor Derbyn perthnasol er mwyn cael cyngor.

Caiff darpar ymgeiswyr eu paru â darpar oruchwylwyr ar gam cynnar o’r broses. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau’r canlynol:

• Dy fod yn cael y cyngor a’r arweiniad sydd eu hangen arnat i benderfynu p’un ai gradd ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yw’r dewis cywir i ti. • Bod y goruchwylydd yn

• Dy fod yn symud yn ddidrafferth i grŵp ymchwil priodol (lle y bo’n berthnasol). • Dy fod yn cwblhau dy waith ymchwil ac yn ei ysgrifennu o fewn y terfyn amser gofynnol.

frwdfrydig ynghylch y pwnc ac wedi’i gymell ganddo.

91 % O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021)

19

PA RADD YMCHWIL? Mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o raddau ymchwil, gan gynnwys: PhD: Mae myfyrwyr PhD yn ymgymryd â gwaith ymchwil wedi’i oruchwylio dros gyfnod rhwng tair a phedair blynedd yn llawn amser neu rhwng chwech a saith mlynedd yn rhan amser. Wedyn, caiff y gwaith ymchwil ei gyflwyno ar ffurf thesis heb fod yn fwy na 100,000 o eiriau. Rhaid i’r thesis ddangos gallu’r myfyriwr

mwyn symud ymlaen i astudiaethau academaidd uwch, PhD fel arfer. Cyflawnir MRes drwy gyfuniad o fodiwlau a addysgir (gwerth 60 o gredydau) a thesis ymchwil sy’n cyflwyno canlyniad prosiect ymchwil sylweddol (gwerth 120 o gredydau). DBA: Mae’r Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Rheoli (DBA) fel arfer yn rhaglen pedair blynedd ar sail ran amser sy’n cynnwys chwe modiwl a thesis. Mae pob modiwl wedi’i strwythuro ar sail bloc addysgu dwys dros dri diwrnod yn ogystal ag amrywiaeth o gymorth ar-lein gan y timau addysgu a’r goruchwylwyr doethurol. (Am wybodbaeth am y cwrs - gweler tudalen 123). EdD: Mae’r cwrs gradd Doethuriaeth Broffesiynol mewn Addysg (EdD) yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrin â materion ym maes addysg mewn ffordd broffesiynol a beirniadol ar lefel ddoethurol. (Am wybodaeth am y cwrs – gweler tudalen 65). EngD: Mae’r Ddoethuriaeth Peirianneg yn arfogi graddedigion â’r sgiliau a’r profiad i fod yn arweinwyr diwydiant ac academaidd ac mae wedi’i chefnogi gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC). Mae’r rhaglen ymchwil ddoethurol pedair blynedd o hyd yn cynnwys prosiect ymchwil a arweinir gan ddiwydiant wedi’i hategu gan fodiwlau sgiliau technegol, ymchwil a phroffesiynol sy’n cael eu hasesu drwy gyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau. Mae ‘Peirianwyr Ymchwil’ yn gwneud eu hymchwil mewn cydweithrediad â phartner

AI GRADD YMCHWIL YW’R DEWIS PRIODOL I MI? Ie, os wyt am wneud y canlynol: • Dilyn gyrfa yn y byd academaidd neu ymchwil • Archwilio pwnc unigol yn fanwl • Meithrin sgiliau ymchwil helaeth ac arbenigol • Gwella dy ragolygon gyrfa CYFLEOEDD • Mae interniaethau a chyfleoedd lleoliad gwaith ar gael i hybu dy sgiliau cyflogadwyedd ac ymchwil. • Rolau cynorthwyydd addysgu â thâl ar gael yn gweithio o dan arweinwyr modiwl, i gyfrannu at gyflwyno profiadau dysgu o ansawdd uchel. • Datblygu sgiliau addysgu ac ehangu dy wybodaeth am addysgu mewn Addysg Uwch. • Gwella dy sgiliau cyflogadwyedd

i ymdrin â’r cynnig ymchwil gwreiddiol a dylai wneud

cyfraniad penodol a sylweddol at y pwnc. Defnyddir y flwyddyn gofrestru gyntaf ar gyfer PhD fel cyfnod prawf swyddogol, a chaiff

yr ymgeisydd ei asesu gan yr adran cyn y gall barhau â’r gwaith ymchwil.

MPhil: Gellir ei gwblhau drwy astudio am gyfnod rhwng dwy a thair blynedd yn llawn amser (rhwng pedair a phum mlynedd yn rhan amser). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno thesis hyd at 60,000 o eiriau a chânt eu hasesu ar ffurf arholiad llafar (viva). Yn amodol ar ofynion academaidd, gall fod cyfleoedd i fyfyrwyr uwchraddio o’r radd MPhil i PhD yn ystod eu hastudiaethau. MA/MSc drwy Ymchwil: Fel arfer, un flwyddyn yn llawn amser, rhwng dwy a thair blynedd yn rhan amser. Prosiect ymchwil unigol yw’r prosiect hwn a gaiff ei ysgrifennu i greu thesis o 30,000 o eiriau. MRes: Nod MRes (Meistr Ymchwil) yw darparu hyfforddiant perthnasol er mwyn meithrin y wybodaeth, y technegau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa broffesiynol, neu er

a pharatoi ar gyfer rolau academaidd yn y dyfodol.

OES GEN TI UNRHYW GWESTIYNAU? Mae’r Swyddfa Derbyn Ôl-raddedig yn hapus i dy gynghori ynghylch a yw dy gymwysterau’n addas ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffet eu hastudio. Am ragor o wybodaeth anfona e-bost at: • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosiectau allgymorth ac ysbrydoli disgyblion ysgol gyda dy ymchwil dy hun.

pgadmissions@ abertawe.ac.uk

20

diwydiannol a Phrifysgol Abertawe a chaiff y prosiect ei ysgrifennu ar ffurf thesis uchafswm o 100,000 gair a’i asesu drwy arholiad llafar (viva voce). MD: Yn ogystal â’r PhD, mae’r Ysgol Feddygaeth yn cynnig gradd ôl-raddedig Doethur mewn Meddygaeth (MD) drwy waith ymchwil wedi’i oruchwylio o fewn grwpiau ymchwil unigol. DProf: Pedair blynedd yn llawn amser, chwe blynedd yn rhan amser fel arfer. Mae Doethuriaeth Broffesiynol yn radd ymchwil wedi’i strwythuro o amgylch maes arfer proffesiynol penodol. Byddi di’n dilyn rhaglen astudio o dan gyfarwyddyd, gan gynnwys cyfnodau o ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol cymeradwy, ynghyd â rhaglen ymchwil. Mae’r trefniadau asesu yn cynnwys thesis o 80,000 o eiriau.

Mae’r radd yn sicrhau bod proffesiwn a gweithle’r ymgeisydd yn rhyng-gysylltu drwy’r rhaglen gyfan, er mwyn sicrhau bod y gwaith ymchwil a gynhelir yn berthnasol i’w ymarfer a’i weithle. A ALLAF ASTUDIO’N RHAN AMSER? Mae astudio’n rhan amser yn bosib i fyfyrwyr y DU a rhyngwladol*, ond anogwn i ti gysylltu â’r adran academaidd dan sylw i ofyn cyn cyflwyno cais. Cadwa lygad am y symbol RhA ar ein tudalennau cwrs. *Edrych ar ein gwefan i ddarllen yr amodau. DYFARNIAD RHAGORIAETH YMCHWIL ADNODDAU DYNOL Mae Prifysgol Abertawe yn falch o ddal Dyfarniad Rhagoriaeth Ymchwil AD y Comisiwn Ewropeaidd mewn cydnabyddiaeth o’n hymrwymiad i gefnogi datblygiad gyrfa staff ymchwil.

Rydym ni’n cydnabod y rôl hanfodol y mae staff ymchwil yn ei chwarae yn ein hymchwil sy’n rhagorol yn rhyngwladol ac yn arwain yn fyd-eang. Mae llwyddiant ein staff ymchwil yn sylfaen i’n huchelgais a fydd yn sbarduno ansawdd ymchwil, yn creu amgylchedd addas er mwyn i ymchwil ffynnu, gan sicrhau y caiff effaith ein hymchwil ei chynyddu i’r eithaf. I’r diben hwn, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd a diwylliant sy’n

wirioneddol gefnogol, lle gall ymchwilwyr ffynnu yn broffesiynol ac yn bersonol.

21

DY GYMUNED YMCHWIL

Mae Abertawe’n gartref i gymuned ymchwil ffyniannus sy’n cyfuno ymchwil o safon fyd-eang ag ethos croesawgar, cynhwysol a chydweithredol ynghyd â phwyslais ar ymchwil sy’n cynnig buddion go iawn i’n byd. Mae ein swyddfa ymchwil ôl-raddedig yn cydlynu gweithgareddau ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol a chymorth ar draws y Brifysgol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posib drwy ddarparu mynediad at gyfleoedd cyllid a datblygu, darparu hyfforddiant ac adnoddau i dy gefnogi i ddatblygu dy sgiliau proffesiynol a dy sgiliau ymchwil a thrwy gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr.

DY GEFNOGI I DDATBLYGU Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan dy gefnogi i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhinweddau er mwyn rhagori yn dy ymchwil a dy yrfa yn y dyfodol. FFRAMWAITH HYFFORDDIANT Mae ein fframwaith hyfforddiant, sy’n cynnwys deg thema wahanol, wedi’i gynllunio i gefnogi dy ddatblygiad fel ymchwilydd a dy ddatblygiad proffesiynol ar bob cam yn ystod dy ymgeisyddiaeth.

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/ymchwil/ gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ ymchwil-ol-raddedig

22

Y DEG THEMA HYFFORDDIANT:

• Addysgu ac Arddangos • Arweinyddiaeth a Gweithio gydag Eraill • Cyflwyno ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd • Cynllunio Gyrfa a Chynnydd • Diogelwch, Uniondeb a Moeseg

• Dulliau Ymchwil • Effaith a Masnacheiddio • Gwytnwch, Datrys

Problemau ac Effeithiolrwydd Personol • Rheoli Gwybodaeth a Data • Ysgrifennu Academaidd

Mae pob thema yn cynnwys gweithdai, adnoddau a chyfleoedd ar lefelau gwahanol, yn unol â cham dy ymgeisyddiaeth neu lefel dy brofiad: Ymgysylltu: Cyflwyno myfyrwyr sydd newydd ddechrau eu hymgeisyddiaeth i’r offer angenrheidiol i sicrhau bod eu taith ymchwil yn dechrau yn y ffordd orau bosib. Archwilio: Datblygu sgiliau i’r rhai sydd yng nghanol eu hymgeisyddiaeth, gan gyflwyno technegau ac offer ymchwil newydd, archwilio effaith ymchwil a’u cefnogi i ymgysylltu â’r gymuned ymchwil ehangach. Ehangu: Cefnogi myfyrwyr sy’n agos at ddiwedd

eu gradd ymchwil i gwblhau eu hymchwil a chynllunio am eu dyfodol, boed yn y byd academaidd neu ar lwybr arall.

23

PRIFYSGOL ABERTAWE EIN DATHLIAD BLYNYDDOL O GYMUNED YMCHWIL ÔL-RADDEDIG ABERTAWE MEDDWL AM YRFAOEDD, CIPOLWG AR YMCHWIL, GWEITHDAI YSGRIFENNU, YMCHWILWYR ÔL-RADDEDIG YN TRAFOD ADDYSGU, ARDDANGOSFEYDD YMCHWIL RYNGDDISGYBLAETHOL, YMCHWILWYR ENTREPRENEURAIDD • CYSTADLEUAETH POSTER YMCHWIL ÔL-RADDEDIG • • CYSTADLEUAETH THESIS TAIR MUNUD • • SEREMONI WOBRWYO YMCHWIL ÔL-RADDEDIG •

Cyllid Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd ymchwil ôl-raddedig wedi’u hariannu’n llawn i fyfyrwyr sydd

Rhaglen Sgiliau a Datblygiad Mae ein rhaglen datblygiad yn cynnwys amrywiaeth o elfennau, o hyfforddiant ffurfiol, i weithdai gydag arbenigwyr allanol, i gyfleoedd ymdrochi sy’n rhoi cyfle i ti roi dy sgiliau ar waith a myfyrio arnynt. Mae’r tîm ôl-raddedig yn gweithio’n agos gyda thimau arbenigol ar draws y brifysgol i ddarparu cymorth a gweithgareddau lles a gyrfaoedd sydd wedi’u teilwra i anghenion ymchwil ôl-raddedig. Hefyd, gall ymchwilwyr ôl-raddedig fanteisio ar gymorth pwrpasol i unigolion o bob rhan o’r sefydliad ar amrywiaeth o agweddau: gan gynnwys ymchwil, sicrhau grantiau a chyllid, a chyflogadwyedd.

Cymuned Ymchwil Mae’r Brifysgol yn gartref i

gymuned amrywiol a chroesawgar o ymchwilwyr ôl-raddedig lle mae digwyddiadau rheolaidd sy’n cynnwys y brifysgol gyfan yn cynnig cyfle i rwydweithio a meithrin cysylltiadau y tu allan i dy arbenigedd. Bydd ymchwilwyr ôl-raddedig hefyd yn ymuno â staff wrth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth flynyddol, Ymchwil fel Celf, lle byddi’n cyfleu dy ymchwil mewn un llun a disgrifiad 150 o eiriau, gan ddarparu cyfrwng i esbonio pwysigrwydd dy ymchwil a helpu i ennyn diddordeb eraill mewn ymchwil.

am astudio am PhD, MPhil, MRes neu radd Meistr drwy Ymchwil mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau.

DARGANFYDDA FWY:

 abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/ysgoloriaethau- ymchwil-

24

Ysgoloriaethau a gwobrau rhagoriaeth ymchwil Fel rhan o ymrwymiad Abertawe i gefnogi’r dalent ymchwil gorau rydym yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn ar draws disgyblaethau trwy ein rhaglenni blaenllaw: Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe (SURES) ac Ysgoloriaethau Ymchwil Partner Strategol Prifysgol Abertawe (SUSPRS). Mae’r ddwy ysgoloriaeth yn cynnig nifer o leoedd PhD wedi’u hariannu’n llawn i ymchwilwyr sydd am ddatblygu eu syniadau, ochr yn ochr â darparu goruchwyliaeth ragorol a rhoi’r sgiliau i ymchwilwyr doethurol gwblhau eu traethawd ymchwil o fewn tair blynedd. Fel rhan o’n portffolio rhagoriaeth, rydym yn cydnabod ac yn dathlu cyrhaeddiad academaidd drwy wobrau James Callaghan, sy’n darparu cyllid i alluogi myfyrwyr ymchwil yn Abertawe i ddatblygu eu hymchwil.

Partneriaethau a chanolfannau hyfforddiant doethurol

Trwy gydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill a phartneriaid mewn diwydiant, rydym yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr arloesol mewn disgyblaethau sy’n rhoi pwyslais ar y dyfodol, o ddeallusrwydd artiffisial a gweithgynhyrchu deunyddiau, i’r gwyddorau cymdeithasol a pholisi. Fel un o sefydliadau ymchwil mwyaf blaenllaw’r byd, rydym yn rhan o nifer o fentrau doethurol nodedig a ariennir gan UKRI sy’n dod ag ymchwilwyr ynghyd ac yn cefnogi ein myfyrwyr doethurol i ddod yn ymchwilwyr blaenllaw’r dyfodol, mewn amgylchedd cefnogol sy’n cynnig cyfleoedd datblygu ychwanegol, megis gweithio neu astudio dramor

a lleoliadau gwaith gyda phartneriaid diwydiannol.

25

Mae rhai o’n myfyrwyr presennol yn rhannu eu profiadau o drosi o astudiaethau israddedig i ôl-raddedig isod:

ISRADDEDIG I

Mae llawer iawn o’r pedair mil o’n cymuned ôl-raddedig yn gyn-fyfyrwyr israddedig a wnaeth fwynhau eu hamser yn Abertawe cymaint, gwnaethant benderfynu aros! Mae llawer o fanteision i aros gyda ni yn Abertawe i astudio dy radd ôl-raddedig. 1. Byddi di eisoes yn gyfarwydd â’r Brifysgol, ei champysau a’r ardaloedd o amgylch. 2. G an y byddi di eisoes wedi astudio gyda ni, byddi di’n gwybod am y lleoedd gorau i fyw, astudio, bwyta neu ymlacio! 3. Byddi di’n dal i allu cael mynediad at ystod eang o wasanaethau a gynigir gan adrannau megis Academi Cyflogadwyedd Abertawe, Academi Hywel Teifi, Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd a MyUniHub. 4. Mae nifer o gyfleoedd i ti astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel ôl-raddedig gan roi mantais sylweddol i ti yn ariannol ac o ran dy gyflogadwyedd. Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i ti astudio yn yr iaith ar lefel israddedig yn gam naturiol ymlaen i ti ac mae digon o gefnogaeth ar gael i dy alluogi i ddychwelyd at astudio yn y Gymraeg os na wnest ti hynny dros y blynyddoedd diwethaf. 5. Efallai dy fod eisoes yn adnabod sawl cyn-fyfyriwr ôl-raddedig, ac efallai y byddi di’n gallu parhau i fyw gyda’r bobl rwyt wedi rhannu fflat â nhw. 6. M ae ystod o gyrsiau trosi Abertawe yn dy alluogi i astudio ar gyfer dy radd ôl-raddedig mewn maes pwnc newydd sbon. 7. O s wyt yn dewis astudio’r un maes pwnc, gelli barhau i adeiladu ar dy berthynas waith gyda darlithwyr a mentoriaid academaidd, gan ddatblygu dy wybodaeth arbenigol. 8. Fel myfyriwr presennol yn Abertawe, byddi di’n cwblhau ffurflen gais fyrrach ar gyfer dy gwrs meistr dewisedig* trwy Lwybr Carlam.

CHLOE THOMAS TAR Uwchradd gyda SAC, TGCh/ Cyfrifiadureg “Fe wnes i fy nghwrs israddedig mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe ac wedyn dechreuais i fy nghwrs TAR yn arbenigo mewn TGCh/Cyfrifiadureg. Rwyf hefyd wedi cael profiad yn addysgu mathemateg. Bydd hyn yn rhan o fy rôl yn fy swydd ym mis Medi. Mae Prifysgol Abertawe yn le arbennig i astudio a’r darlithwyr yn arbenigwyr angerddol sy’n gyfeillgar ac yn dy annog i gyrraedd dy lawn botensial. Roedd y lefel o gymorth gefais i cyn hyd yn oed dechrau’r cwrs yn swyddogol yn wych. Mae’r tîm Addysg yn arbenigwyr yn y maes ac yn wirioneddol eisiau helpu’r myfyrwyr i fod yr athrawon gorau posib. Maen nhw’n ffocysu ar fyfyrio ar dy sgiliau ac yn cynnig diwrnodau ymarfer a theori sy’n edrych ar elfen benodol o addysgu. Mae cydymdeimlad a pharch rhwng y tîm a’r myfyriwr ac mae’n teimlo fel teulu. Gan fy mod i’n gwneud y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg rwy’n gymwys ar gyfer y grant iaith athrawon yfory. Mae hyn yn cefnogi athrawon sydd eisiau addysgu mewn ysgolion Cymraeg. Grant arall rwy’n gymwys i’w dderbyn yw Grant Cymhelliant gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cefnogi athrawon sy’n astudio pynciau lle mae prinder fel Cyfrifiadureg. “

* Mae cyfyngiadau cwrs yn berthnasol

26

DR HYWEL EVANS Cyn-fyfyriwr PhD a MPhys Ffiseg “Gorffennais fy ngradd meistr Ffiseg (MPhys) a phenderfynais aros yn Abertawe ar gyfer PhD yn gweithio mewn labordy gwrthfater. Llwyddais i gael ysgoloriaeth ymchwil o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe i ariannu fy astudiaethau. Mwynheais allu trafod fy ngwaith gyda rhwydwaith o fyfyrwyr ac academyddion trwy gyfrwng y Gymraeg, a dysgu am ymchwil eraill. Bues i hefyd yn gweithio fel Arddangoswr Ôl-raddedig ar gyfer profiad addysgu ac arian ychwanegol. Mae bod yn ymchwilydd ôl-raddedig yn debyg i fod mewn swydd, ac felly roedd angen mwy o ymrwymiad amser na gyda fy astudiaethau cynt, ond mae’n baratoad da ar gyfer swydd lawn amser. Dysgais i lawer o sgiliau ymarferol, yn ogystal â chyflwyno i arbenigwyr mewn cynadleddau ledled y byd (Belffast, Dundee, Genefa a Belgrade). Mae hyn wedi gwella fy ngallu ac wedi helpu fi i

ALPHA EVANS PhD – Diwylliant, Iaith a Gweithrediadau Cyfreithiol: Abertawe a’r Cyffiniau, 1870-1914. Un o’r prif resymau pam gwnes i ddewis dilyn cwrs ôl-raddedig oedd oherwydd yn ystod blwyddyn olaf fy nghwrs israddedig, doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod yn barod i adael addysg eto. Yn ogystal, er fy mod wedi mwynhau gwneud darllen ac ymchwil ychwanegol ar gyfer asesiadau drwy gydol fy nghwrs israddedig, mwynheais y modiwl traethawd estynedig yn y 3edd flwyddyn mas draw. O ganlyniad i hyn, roeddwn yn gwybod mai ymchwil ôl-raddedig oedd yr hyn roeddwn eisiau ei wneud nesaf, a hynny er mwyn datblygu fy sgiliau ymchwil ymhellach a chael y cyfle i ymchwilio’n ddyfnach i faes rwy’n ymddiddori ynddo a gwneud cyfraniad gwreiddiol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, i’r maes hwnnw. Heb os, roedd y profiad anhygoel cefais fel myfyrwraig israddedig ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyfrannu at fy mhenderfyniad i aros yn Abertawe ar gyfer fy nghwrs ôl-raddedig. Derbyniais gyfleoedd a chefnogaeth cyfrwng Cymraeg arbennig drwy gydol fy nghwrs israddedig, ac roeddwn yn gwybod y byddai hynny’n parhau drwy gydol fy nghwrs ôl-raddedig. Er nad wyf yn hollol sicr o ran pa fath o yrfa rydw i eisiau ei dilyn, rwyf yn ystyried gyrfa academaidd ac felly bydd medru cyfathrebu ac ysgrifennu’n hyderus yn y Gymraeg yn golygu y bydd modd cyfrannu a chynyddu’r ymchwil cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn y maes.

lwyddo mewn cyfweliadau swydd. Roedd gan Brifysgol Abertawe yr holl

adnoddau yr oeddwn eu hangen i lwyddo’n academaidd, ac mae wedi’i lleoli mor agos at barciau a thraethau gwych – doeddwn i ddim eisiau astudio unrhyw le arall!”

27

CANLLAW AMGEN I GYLLID ÔL-RADDEDIG

Adnodd a ysgrifennwyd gan ddau fyfyriwr ôl-raddedig sydd wedi ennill dros £45,000 rhyngddynt drwy 55 dyfarniad gan elusennau gwahanol. Mae The Alternative Guide to Postgraduate Funding yn cynnwys cronfa ddata enfawr o gyfleoedd, arweiniad ac offer o ran cyllid i dy helpu i baratoi cais llwyddiannus am grant. Mae Abertawe wedi talu am drwydded er mwyn iti allu cyrchu’r Canllaw.

DY ASTUDIAETHAU Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wobrwyo rhagoriaeth academaidd ac anacademaidd ac rydym yn cynnig amrywiaeth eang o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i helpu tuag at gostau astudio. Mae bwrsariaethau ar sail incwm ar gael hefyd, ynghyd â chyllid tuag at astudio mewn gwlad arall os rwyt yn dewis gwneud hynny fel rhan o dy raglen gradd. Am wybodaeth bellach, i wirio a wyt yn bodloni’r meini prawf cymhwyso neu i wneud cais, gweler:

E-bostia alternative.funding.guide@ abertawe.ac.uk a byddwn yn anfon e-bost atat gyda chyfarwyddiadau i gyrchu’r Canllaw.

ALTERNATIVE FUNDING GUIDE

abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ffioedd-ac-ariannu

28

YSGOLORIAETHAU PHD* A ARIENNIR YN LLAWN

YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CHWARAEON* £2,000

(Ar gael i fyfyrwyr meistr a addysgir yn unig) YSGOLORIAETH RHAGORIAETH CERDDOROL* £1,000

Gweler amodau a thelerau ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ysgoloriaethau

*Mae’r cyfleoedd ariannu ac ysgoloriaeth ar gael ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi cofrestru yn unig.

29

FFIOEDD A

Rydym yn ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol mewn addysg ôl-raddedig. Yn 2022/23 roedd dros £12 miliwn mewn ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i astudio cyrsiau ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein hysgoloriaethau meistr ar gael ar draws yr holl gyfadrannau ac ysgolion academaidd, ac yn cael eu hysbysebu trwy gydol y flwyddyn, gan gynnig cyllid i fyfyrwyr y DU a Rhyngwladol.

FFIOEDD DYSGU Caiff ffioedd dysgu eu pennu yn ôl dy flwyddyn astudio, y math o gwrs rwyt yn ymgymryd ag ef a dy wlad breswyl. Gofynnir i ti dalu dy ffioedd, neu ddangos tystiolaeth o nawdd, cyn cofrestru neu yn ystod y broses gofrestru. Gelli ddod o hyd i fanylion am ffioedd dysgu pob cwrs ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig Mae ffioedd dysgu yn destun codiadau blynyddol a chyhoeddir y cyfraddau newydd ar ein gwefan cyn gynted ag y byddant ar gael. Os hoffet gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd sy’n daladwy ar gyfer dy raglen benodol, cysyllta â’r Swyddfa Cyllid Myfyrwyr ar: +44 (0)1792 602700 studentfinance@abertawe.ac.uk Edrych ar ein tudalen we Ffioedd a Chyllid cyn gwneud cais i astudio yn Abertawe.  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu Sylwer bod angen talu ‘ffi fainc’ o £1,000 yn ogystal â’r ffi ddysgu ar gyfer y rhaglen MRes yn y Biowyddorau.

CYLLID Mae sawl ffordd i ariannu dy astudiaethau ôl-raddedig bellach. Yn ogystal â’r ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau y mae Prifysgol Abertawe yn eu darparu, gall ôl-raddedigion gael arian gan amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, cynghorau ymchwil, diwydiant ac elusennau. Mae llawer o fyfyrwyr ôl-raddedig yn ariannu eu hastudiaethau drwy ‘portffolio ariannu’, gan gasglu arian o amrywiaeth o ffynonellau. Mae enghreifftiau o’r mathau o arian sydd ar gael yn cynnwys: BENTHYCIADAU I ÔL-RADDEDIGION Mae cyllid ôl-raddedig y llywodraeth ar gael i bob myfyriwr sy’n byw yn y DU a’r UE sy’n astudio cyrsiau lefel meistr a PhD mewn prifysgol yn y DU. Mae’r dull o gymhwyso a’r swm y gelli ei dderbyn yn dibynnu ar dy wlad breswyl. Gelli ddod o hyd i’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ffioedd-ac-ariannu/ benthyciadau-ol-raddedig

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU MEISTR PRIFYSGOL ABERTAWE Rydym yn hysbysebu ystod o ysgoloriaethau a bwrsariaethau meistr trwy gydol y flwyddyn academaidd. Bydd yr holl gyfleoedd yn cael eu rhestru ar y wefan ganlynol, ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ Gellir dod o hyd i ysgoloriaethau ymchwil yn Abertawe drwy ddilyn y ddolen isod. (Noder y caiff y dudalen hon o’r wefan ei diweddaru drwy gydol y flwyddyn.)  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau/ysgoloriaethau- ymchwil-/ Caiff manylion ynghylch sut i gyflwyno cais am ysgoloriaeth eu rhestru ar bob hysbyseb unigol. ysgoloriaethau/meistr-a-addysgir YSGOLORIAETHAU’R RHAGLEN YMCHWIL

30

YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU‘R CYFADRANNAU

Mae llawer o’n cyfadrannau academaidd hefyd yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau ychwanegol ar gyfer rhaglenni a addysgir a rhaglenni ymchwil. Caiff ysgoloriaethau a bwrsariaethau eu cynnig drwy gydol y flwyddyn a byddwn yn eu hysbysebu ar ein gwefan. Gelli sicrhau dy fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod am y cyfleoedd ariannu a gynigir gennym drwy edrych ar: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau ELUSENNAU, SEFYDLIADAU AC YMDDIRIEDOLAETHAU Mae nifer fawr o elusennau, sefydliadau ac ymddiriedolaethau yn dyfarnu arian i gefnogi astudiaethau ôl-raddedig. Gellir cael manylion yn The Grants Register (a gyhoeddir gan Palgrave Macmillan) a The Directory of Grant Making Trusts (a gyhoeddir gan y Sefydliad o Newid Cymdeithasol), y dylai’r ddau ohonynt fod ar gael o wasanaeth gyrfaoedd dy brifysgol a dy lyfrgell leol.

31

Cyngor Arian wrth ein tîm Bywyd Campws

ENNILL TRA BYDDI DI’N DYSGU Mae digon o swyddi rhan

CYNORTHWYO UNIGOLION SY’N GADAEL GOFAL Rydym yn gweinyddu ac yn darparu’r Pecyn Cynorthwyo i Bobl sy’n Gadael Gofal, sef amrywiaeth gynhwysfawr o fesurau er mwyn helpu pobl sy’n gadael gofal i ymgartrefu ac i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau. Gall myfyrwyr ôl-raddedig cymwys dderbyn bwrsariaeth Gadael Gofal ôl-raddedig sy’n daliad untro y cwrs.

GWOBR CYFLE PRIFYSGOL ABERTAWE Bwriad y gronfa galedi yw cefnogi myfyrwyr trwy unrhyw amgylchiadau ariannol annisgwyl neu anodd tra byddant yn y Brifysgol. Bydd pob cais yn cael ei ystyried a’i asesu ar sail unigol, gyda’r cyfrinachedd llymaf gan ein cynghorwyr arbenigol. Am fwy o wybodaeth, cer i:  abertawe.ac.uk/arian- bywydcampws

amser ar gael yn Abertawe a’r ardal leol, ac mae gan Academi Cyflogadwyedd Abertawe wybodaeth am amrywiaeth eang o gyfleoedd ar gyfer gwaith dros dro a gwaith rhan amser, yn ogystal â lleoliadau haf ac

interniaethau. Am ragor o wybodaeth, gweler:

 myuni.abertawe.ac.uk/ gyrfaoedd/parth-cyflogaeth

CYNGOR A CHYMORTH ARIANNOL Mae’r Tîm Arian @BywydCampws yn cynnig arweiniad ar bob agwedd ar gyllid myfyrwyr, gan gynnwys:

• Grantiau, benthyciadau, bwrsariaethau a budd-daliadau lles • Dy helpu i reoli dy arian • Gwobr Cyfle • Cynorthwyo unigolion sy’n gadael gofal

• Dy helpu i lunio cyllideb realistig • Cyngor ar ddyledion +44 (0)1792 606699

m oney.campuslife @abertawe.ac.uk

32

COSTAU BYW NODWEDDIADOL:

£145

CYFARTALEDD RHENT WYTHNOSOL

Yn seiliedig ar werth rhentu cyfartalog: varbes.com/rental-market/ swansea-rental-market/

PRIS PRYD O FWYD AR GYFARTALEDD £14

Yn seiliedig ar brif gwrs mewn bwyty lleol: numbeo.com/cost-of-living/in/Swansea

TOCYN BWS ÔL-RADDEDIG 52 WYTHNOS

£34 Y MIS

Tocyn bws gyda theithio diderfyn

£10

CAMPWS I'R DDINAS

Tacsi o Gampws Parc Singleton i ganol y ddinas

AELODAETH Â'R GAMPFA

Parc Chwaraeon Bae Abertawe £15 Y MIS

33

YMUNA Â’N

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn coleddu’r ymdeimlad o berthyn sy’n dod yn sgil bod yn rhan o’n cymuned ôl-raddedig fywiog. Mae ein graddedigion yn dyst i hyn, wrth iddynt ymuno â’r rhengoedd o filoedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud eu marc ar y byd gan ddefnyddio’r sgiliau a’r profiadau a enillwyd yn Abertawe. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yng nghyflawniadau ein graddedigion, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, ac yn arloeswyr ymchwil sy’n torri tir newydd. Ymuna â ni heddiw a dod yn aelod gwerthfawr o’n cymuned ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

ANDREW TEILO, MA Cymraeg. Dosbarth 2021. ACTOR abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr

“Penderfynais astudio am radd Meistr oherwydd roeddwn am ymestyn fy hun! Roeddwn hefyd am ‘gymhwyso’, rywfodd, yn y Gymraeg, neu, yn y man lleiaf, ddefnyddio’r Gymraeg fel cerbyd i’m hastudiaethau. Yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, roeddwn yn rhy oriog fel disgybl ysgol i benderfynu ar lwybr bywyd i mi fy hun, ac yn fuan wedyn cymerai fy mywyd proffesiynol fy holl egni, a hynny am nifer fawr o flynyddoedd. Er hynny, ro’n i’n ymwybodol iawn ar hyd yr amser fy mod wedi ‘gadael rhywbeth ar ei ôl’; gadael hefyd i ryw gyfle amhenodol ddianc trwy’m dwylo, fy mod heb wireddu rhyw ‘botensial’. Yn fras, ymgais i unioni hynny oedd fy mhenderfyniad i geisio gradd MA i mi fy hun.”

34

ANEIRIN KARADOG, PhD Cymraeg. Dosbarth 2020. BARDD. DARLLEDWR. PERFFORMIWR. IEITHYDD. a bertawe.ac.uk/astudio/ein-storiau-myfyrwyr/aneirin-karadog.php

“Roedd y cyfle i fynd yn ôl i’r byd academaidd yn un apelgar iawn ac yn gyfle i ail ddarganfod lot amdanaf i fy hun. Ar ôl 11 mlynedd o fod yn y byd gwaith penderfynais astudio am ddoethuriaeth. Ar ôl gweithio fel ymchwilydd yn y byd teledu, roedd ymchwil yn ei natur o ddiddordeb i fi. Roedd cael ymchwilio’n ddyfnach

ac ailddysgu technegau academaidd yn agor nifer o gyfleoedd i mi. Fy nghyngor i ddarpar-fyfyrwyr yw does dim anfanteision i astudio gradd ôl-raddedig. Os nad wyt ti’n siŵr o’r hyn rwyt eisiau ei wneud, gall hyn dy helpu i finiogi dy drywydd gyrfa a sianelu dy egni i elfen a maes penodol.”

KATE MCMURDO , Ymarfer Cyfreithiol LLM a Drafftio Uwch. Dosbarth 2019. YMGYRCH HAWLIAU ANABLEDD, GWEITHREDWRAIG ADDYSG, GORUCHWYLIAETH. a bertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/dyniaethau-ar-gwyddorau- cymdeithasol/kate-mcmurdo

“Os oeddwn i am newid pethau a herio’r system mewn gwirionedd, sylweddolais i fod angen i mi ddeall y gyfraith a bod yn rhan o’r newid roeddwn i eisiau ei weld. Taswn i’n hyfforddi i fod yn

fargyfreithiwr, roeddwn i’n meddwl efallai y gallwn i eirioli dros deuluoedd sy’n wynebu anghyfiawnder a gwahaniaethu.

DR WAFA ALI, Peirianneg Gemegol PhD. Dosbarth 2020. CYDYMAITH YMCHWIL ÔL-DDOETHUROL YM MHRIFYSGOL TEXAS A&M  abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr/gwyddoniaeth-a- pheirianneg/dr-wafa-ali

“Roedd fy mywyd yn Abertawe’n brofiad gwych ac roeddwn i’n benderfynol o fanteisio i’r eithaf arno. Gwnaeth Abertawe fy annog i fod yn gryf yn academaidd ac i ddod yn berson gwell. Dysgais i roi cyflwyniadau a sgyrsiau a chwrddais i ag arbenigwyr o wahanol gefndiroedd a roddodd hwb i’m gallu i arwain.”

abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/ proffiliau-cyn-fyfyrwyr GWELER MWY O STORÏAU CYN-FYFYRWYR AR EIN GWEFAN:

35

BARN EIN

prifabertawe

prifabertawe

Cei fwy o wybodaeth gan ein myfyrwyr presennol a rhai sydd wedi graddio’n ddiweddar gan eu bod wedi rhannu eu profiadau eu hunain a darparu argymhellion defnyddiol ynghylch byw ac astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Gwylia ein fideos myfyrwyr, gwranda ar ein podlediadau a dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael awgrymiadau defnyddiol ar bopeth o: bywyd ar ôl dy radd israddedig, i’r ‘Thesis Tair Munud’, a sut beth yw byw yn Abertawe.

EDRYCH AM BRIFYSGOL ABERTAWE AR TIKTOK: Gwylia Fideos TikTok Diweddaraf Prifysgol Abertawe.

prifabertawe

Thesis Tair Munud

Corau Prifysgol Abertawe

Aelwyd yr Elyrch

Beiciau Santander

36

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28 Page 29 Page 30 Page 31 Page 32 Page 33 Page 34 Page 35 Page 36 Page 37 Page 38 Page 39 Page 40 Page 41 Page 42 Page 43 Page 44 Page 45 Page 46 Page 47 Page 48 Page 49 Page 50 Page 51 Page 52 Page 53 Page 54 Page 55 Page 56 Page 57 Page 58 Page 59 Page 60 Page 61 Page 62 Page 63 Page 64 Page 65 Page 66 Page 67 Page 68 Page 69 Page 70 Page 71 Page 72 Page 73 Page 74 Page 75 Page 76 Page 77 Page 78 Page 79 Page 80 Page 81 Page 82 Page 83 Page 84 Page 85 Page 86 Page 87 Page 88 Page 89 Page 90 Page 91 Page 92 Page 93 Page 94 Page 95 Page 96 Page 97 Page 98 Page 99 Page 100 Page 101 Page 102 Page 103 Page 104 Page 105 Page 106 Page 107 Page 108 Page 109 Page 110 Page 111 Page 112 Page 113 Page 114 Page 115 Page 116 Page 117 Page 118 Page 119 Page 120 Page 121 Page 122 Page 123 Page 124 Page 125 Page 126 Page 127 Page 128 Page 129 Page 130 Page 131 Page 132 Page 133 Page 134 Page 135 Page 136 Page 137 Page 138 Page 139 Page 140 Page 141 Page 142 Page 143 Page 144 Page 145 Page 146 Page 147 Page 148 Page 149 Page 150 Page 151 Page 152

Made with FlippingBook - Online magazine maker